Ewch i’r prif gynnwys

Y Cyfryngau a Chyfathrebu (BA)

  • Côd UCAS: 3M7D
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Drwy eich astudiaethau byddwch yn datblygu dealltwriaeth o seiliau hanesyddol a diwylliannol astudio’r cyfryngau a’r diwydiannau diwylliannol a rolau’r rheiny yn y gymdeithas fodern.

Cewch eich cyfarwyddo ynghylch sut mae mynediad cyfranogol at safleoedd canolog diwylliant a chyfathrebu cyhoeddus wedi ei ddosbarthu ar hyd echelinau rhaniadau cymdeithasol fel anabledd, dosbarth, ethnigrwydd, rhywedd, cenedligrwydd a rhywioldeb.

Mae sgiliau meddwl beirniadol a dadansoddol yn cael eu datblygu mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys astudio diwylliannau poblogaidd. Mae’r cwrs yn ymgysylltu mewn ffordd feirniadol â meddylwyr o bwys, dadleuon a pharadeimau deallusol sydd o bwys yn y maes, ac yn eu defnyddio’n gynhyrchiol.

Gallwch ddilyn llwybr clir mewn diwylliant a chyfathrebu drwy gydol y tair blynedd o astudio. Pen draw hynny fydd llunio traethawd hir ar astudiaethau diwylliannol.

Er bod y Cyfryngau a Chyfathrebu yn enwedig yn gynnyrch ein hamgylchedd cyfathrebu helaeth a chynyddol, mae’r cwrs hefyd yn elwa ar ein profiad addysgu ac ymchwilio i newyddiaduraeth ac astudiaethau'r cyfryngau o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol.

Er bod y cwrs hwn yn heriol ac yn academaidd ei natur, NID yw'n darparu hyfforddiant galwedigaethol newyddiaduraeth.

Nodweddion nodedig

  • mae modiwlau’r cyfryngau mor amrywiol â Rheoli Cyfryngau Cyfathrebu, Gwleidyddiaeth Rhyfel a Phropaganda ac Achosion Cyfathrebu
  • mynediad at gynlluniau Erasmus ac Astudio Dramor
  • wythnosau gyrfaoedd a gweithdai i sicrhau eich bod chi’n barod ar gyfer 'byd gwaith'
  • gellir dilyn seminarau blwyddyn un drwy gyfrwng y Gymraeg a chynigir un modiwl blwyddyn tri yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.

Gofynion mynediad

ABB - BBB. Ni fydd angen i chi ennill y graddau hyn mewn unrhyw bynciau penodol, ond nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.  

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM ym mhob un o’r Celfyddydau, Gwyddoniaeth, y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

Mwy o wybodaeth am feini prawf derbyn ein Hysgolion, y cynllun gwarantu cynnig, newidiadau i raglenni a chyfieithu eich dogfennau.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 7.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.0 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 100 yn gyffredinol, gydag o leiaf 20 ym mhob is-sgil.

PTE Academic

O leiaf 70 yn gyffredinol gydag o leiaf 54 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

III: o leiaf Teilyngdod ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Y broses ddethol neu gyfweld

Nid oes proses gyfweld, a bydd deiliaid cynigion yn cael gwahoddiad i ddiwrnodau ymweld i ymgeiswyr ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae’r radd BA yn y Cyfryngau a Chyfathrebu yn gwrs modiwlaidd tair-blynedd, llawn amser. Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau’n cynnwys 12 wythnos o addysgu, a neilltuir gweddill y semester i arholiadau a mathau eraill o asesu, ynghyd â’r prosesau sy’n ymwneud â marcio a byrddau arholi. 

Caiff pob myfyriwr Cymraeg gyfle i gynnal eu seminarau blwyddyn gyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Addysgir chwe modiwl 20 credyd craidd gan ddefnyddio fformat darlith/seminar yn bennaf. Bydd syniadau a dulliau yn cael eu cyflwyno i chi mewn darlithoedd a byddwch yn cynnal gwaith mwy cymhwysol a gwaith tîm yn seminarau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
History of Mass Communication and CultureMC111020 credydau
RepresentationsMC111420 credydau
Media ScholarshipMC111520 credydau
An Introduction to Media AudiencesMC111820 credydau
Advertising and the Consumer SocietyMC111920 credydau
Understanding Journalism StudiesMC157820 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn cael eich addysgu drwy ddefnyddio fformat darlith/seminar yn bennaf, er y bydd y tasgau a ddatblygir mewn seminarau yn fwy uchelgeisiol. Bydd disgwyl i chi ddatblygu protocolau ymchwil, ar eich pen eich hun ac mewn grwpiau, a dechrau arbrofi gyda a dylunio gweithdrefnau methodolegol (fel dulliau arolygu, ethnograffeg, a dadansoddi cynnwys a sgyrsiau).

Erbyn diwedd blwyddyn dau, bydd gennych chi’r sgiliau sydd eu hangen i ysgrifennu traethawd hir ym mlwyddyn tri.

Blwyddyn tri

Bydd blwyddyn tri yn cynnwys traethawd hir dewisol, un modiwl craidd a dewis o fodiwlau dewisol a fydd yn eich galluogi i arbenigo yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi. Er y bydd nifer o’r rhain ar ffurf darlith/gweithdy, bydd yr amrywiaeth o ddulliau dysgu yn fwy amrywiol ac yn cynnwys aseiniadau mwy cymhleth a heriol.

Byddwch yn cynnal ymchwil annibynnol ac yn defnyddio syniadau damcaniaethol a dulliau gwaith ymarferol a/neu ddadansoddol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae ein haddysgu yn aml yn cael ei arwain a’i lywio gan ein gwaith ymchwil. Cewch eich addysgu mewn amgylchedd cefnogol a bydd tiwtor personol sy’n aelod o staff academaidd yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn gallu rhoi cyngor ar amrywiaeth eang o faterion.

Bydd arferion dysgu a chynhyrchu cyfryngau newydd ac aml-gyfrwng pe baech chi’n dewis rhai o’r modiwlau newyddiaduraeth a chyfryngau mwy ymarferol.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

20%

Astudio annibynnol dan arweiniad

80%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

19%

Astudio annibynnol dan arweiniad

81%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

0%

Astudio annibynnol dan arweiniad

0%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch tiwtor personol.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

23%

Arholiadau ymarferol

5%

Gwaith cwrs

72%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

8%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

92%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

0%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

0%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:

  • ddarllen, dadansoddi a chyfosod testunau academaidd cymhleth
  • dadansoddi testunau cyfryngau gwahanol, gan gynnwys geiriau, delweddau a sain
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
  • gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • cynnal gwahanol fathau o ymchwil annibynnol ar gyfer traethodau, prosiectau, cynyrchiadau creadigol neu draethodau hir
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 93% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn symud ymlaen i’n graddau meistr newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu ôl-raddedig, ac yna i swyddi amrywiol yn y cyfryngau.

Ymhlith enghreifftiau diweddar o swyddi lefel mynediad mae: awdur cynnwys, gweithredwr cyfryngau digidol, cynghorydd polisi cyfryngau cymdeithasol, intern ymchwil, intern golygyddol, gohebydd, gweithredwr/cynorthwyydd cysylltiadau cyhoeddus, intern polisi, gweithredwr ymgyrchoedd, cynorthwyydd addysgu a rheolwr prosiect hefyd.

Ar ôl mynd yn eu blaenau o swyddi lefel mynediad mae ein cyn-fyfyrwyr bellach yn cynnal nifer o rolau cyfryngau a gweinyddu fel: newyddiadurwr cynhyrchu (Telegraph Media Group), golygydd cylchgrawn (The Independent), uwch swyddog y wasg (Guardian News & Media), cynhyrchydd ffilmiau (See Saw Films) a rheolwr ymgyrchoedd digidol a chymunedol (Ruder Finn).

Gyrfaoedd graddedigion

  • Content Author
  • Digital Media Executive
  • Reporter

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth