Ewch i’r prif gynnwys

Y Gyfraith a’r Gymraeg (LLB)

  • Côd UCAS: MQ15
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae rhaglen LLB y Gyfraith a'r Gymraeg yn heriol ac yn gyffrous ac yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y gyfraith ac amrywiaeth eang o broffesiynau. Yn ogystal â'r modiwlau sylfaen sy'n cynnwys y cam hyfforddi academaidd sydd ei angen er mwyn dod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, y cyfeirir ato fel 'Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith', rydym yn cynnig amrywiaeth eang o feysydd astudio dewisol sy'n cwmpasu pynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes. Mae’r rhaglen yn cael ei haddysgu ar y cyd gan ysgolion y Gymraeg, a’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth, gan roi cyfle i chi astudio’n fanwl yn naill ddisgyblaeth a’r llall.

Mae ein gradd yn eich galluogi chi i gwblhau cyfnodau academaidd hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr ac i symud ymlaen yn syth at y cyfnodau hyfforddi galwedigaethol ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr: y Cwrs Hyfforddiant Bar Proffesiynol neu'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol. Ni yw’r unig Brifysgol yng Ngrŵp Russell i gynnig y ddau gwrs hyn, sydd yn golygu bod gennych y dewis i aros gyda ni yng Nghaerdydd i gwblhau eich addysg gyfreithiol gyfan. Yn rheolaidd, mae’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol wedi cael sgôr uchaf yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr / Cymdeithas y Gyfraith. 

Mae datganoli Llywodraeth Cymru a chyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg wedi golygu bod y gallu i siarad a deall Cymraeg at lefel uchel yn ddeniadol i gyflogwyr. Mae astudio yng Nghaerdydd yn gyfle i elwa ar ymchwil sy’n berthnasol i’r gymdeithas sy'n cyfrannu at ddatblygiad y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.

Nodweddion nodedig

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu eich cyflogadwyedd, gydag ein Hymgynghorydd Gyrfaoedd pwrpasol wrth law ddau ddiwrnod yr wythnos yn adeilad y Gyfraith. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol, rhai sy’n unigryw i Brifysgol Caerdydd, sydd yn rhoi mantais gystadleuol i’n myfyrwyr.

Cynlluniau Pro Bono*

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi'r cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau.

Dau o’n cynlluniau mwyaf sefydledig yw ein Prosiect Dieuog (y cyntaf yn y DU i wrthdroi dyfarniad o euogrwydd gan y Llys Apêl) a’n Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG sy’n unigryw i Gaerdydd.

Mae’r ddwy fenter wedi ennill neu wedi cael lle ar restr fer dyfarniadau cenedlaethol o fri ac wedi rhoi cymorth i grwpiau bregus ac aelodau o’r gymuned sy’n cael trafferth cael mynediad at gymorth cyfreithiol. Gallwch hefyd wneud cais am le ar ein cynllun gydag Undeb Rygbi Cymru, lle’r ydym yn cynghori clybiau rygbi amatur ar faterion cyfreithiol.

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer pob un o'n cynlluniau yn wahanol ac ni allwn warantu y bydd myfyrwyr yn sicrhau lle ar y cynllun o'u dewis, nac ar unrhyw un o'n cynlluniau. Mae ein portffolio yn cael ei adolygu'n rheolaidd ac mae’r hyn rydym yn ei gynnig yn gallu newid.

Ymryson (Mooting)

Caiff ein myfyrwyr eu hannog i gystadlu mewn cystadlaethau ymryson blynyddol. Mae'r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i chi gyflwyno materion cyfreithiol gerbron barnwr, yn erbyn cwnsler sy’n gwrthwynebu.

Mae ymryson yn sgil wych i chi ei hychwanegu at eich CV ac mae’n rhoi profiad gwerthfawr o siarad yn gyhoeddus mewn lleoliad ffurfiol.

Cystadleuaeth cyfweld â chleientiaid

Anogir ein myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth cyfweld cleientiaid flynyddol, gyda Syr Geoffrey Bindman QC yn Llywydd arni.

Byddwch yn meithrin profiad cyfweld a chwnsela mewn lleoliad ffug a byddwch yn cael eich asesu yn erbyn meini prawf asesu penodol sy’n cynnwys sgiliau rhyngbersonol a’ch gallu i ddelio gyda phroblemau cyfreithiol.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6106
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Ysgol y Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad iaith, cymdeithas a hunaniaeth yng Nghymru gyfoes drwy addysgu ac ymchwil o'r safon uchaf.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

AAB-ABB. Rhaid cynnwys Iaith Gyntaf Gymraeg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd B mewn Iaith Gyntaf Gymraeg Safon Uwch.

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys cymhwyster Iaith Gyntaf Gymraeg sy'n cyfateb i radd B ar Safon Uwch.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 62 yn gyffredinol gydag o leiaf 62 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 54 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B / 6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

 

Os hoffech chi symud ymlaen naill ai i'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu'r Cwrs Hyfforddi Bar ar ôl i chi raddio, rydym yn eich annog i ddarllen gofynion addasrwydd i ymarfer y corff proffesiynol perthnasol yn gyntaf i sicrhau y byddech chi'n gymwys i gofrestru gyda nhw. :

- Llawlyfr y Bwrdd Safonau Bar

- Cyfnod hyfforddiant cydnabyddedig yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr



Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Ym mhob blwyddyn o’r cwrs, byddwch yn cymryd modiwlau sy’n werth hyd at 120 o gredydau.

Ym mlwyddyn un byddwch yn astudio pedwar modiwl gorfodol 20 credyd yn y gyfraith a dau fodiwl gorfodol 20 credyd yn y Gymraeg. Nid yw’r rhain yn cyfrif at ddosbarth terfynol y radd. 

Yn ystod blynyddoedd dau a thri ceir nifer fechan o fodiwlau gorfodol, gan gynnwys traethawd hir yn y Gymraeg ar bwnc cyfreithiol ym mlwyddyn tri, ond mae’r rhan fwyaf yn cael eu dewis o'r amrywiaeth o ddewisiadau yn y gyfraith a'r Gymraeg. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi ddilyn eich diddordebau personol. Mae modd astudio’r holl bynciau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig.

Mae lefel y cymhwyster gradd a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.

Yn eich ail flwyddyn, bydd gennych y cyfle i wneud cais am leoliad gwaith a fydd yn weithredol yn y drydedd flwyddyn o’ch gradd LLB yn y Gyfraith. Mae’r lleoliadau llawn amser sy’n talu cyflog ar agor i chi drwy broses ymgeisio cystadleuol sy’n anelu at ail greu’r prosesau recriwtio y byddwch chi’n dod ar eu traws wedi i chi raddio o’r Brifysgol. Yn ystod eich lleoliad, byddwch yn ymarfer y gyfraith fel cynorthwyydd cyfreithiol ac yn perfformio rolau ar lefel graddedig.  Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol ymarferydd sy’n cynnwys rheoli achos, ymchwil cyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol fel rheoli amser, gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol. Bydd y lleoliadau yng Nghaerdydd ac yn cyfrannu at 10% o’r dosbarth o radd. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio pedwar modiwl 20 credyd gorfodol yn y Gyfraith a dau fodiwl 20 credyd gorfodol yn y Gymraeg yn y flwyddyn gyntaf, fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer dwy flynedd nesaf eich rhaglen gradd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Contract [20]CL420120 credydau
Criminal [20]CL420220 credydau
Legal Foundations [20]CL420320 credydau
Public Law [20]CL420420 credydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn dewis 80 credyd o fodiwlau’r Gyfraith sydd ar gael. Mae’r rhestr hon yn cael ei hadolygu’n flynyddol yng ngoleuni ffactorau fel y galw gan fyfyrwyr, arbenigedd staff a galw myfyrwyr a newidiadau yn y cyd-destun cyfreithiol.

Yna rydych chi’n dewis y modiwlau sy'n weddill o blith y rhestr o ddewisiadau ar gyfer y Gymraeg.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Land Law [20]CL520120 credydau
Tort [20]CL520220 credydau
Discrimination and Law [20]CL520520 credydau
CAMWEDD [20]CL522220 credydau
Datganoli yng NghymruCL522420 credydau
Land Law [30]CL530130 credydau
Tort [30]CL530230 credydau
Cyfraith Tir [30]CL532130 credydau
CAMWEDD [30]CL532230 credydau
Datganoli yng Nghymru [30]CL532430 credydau
Llenyddiaeth PlantCY231020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY236020 credydau
Bywydau LlênCY242520 credydau
TafodieithegCY245020 credydau
SosioieithyddiaethCY253020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY266520 credydau

Blwyddyn tri

Yn ystod blwyddyn tri, dewisir rhwng 60 ac 80 o gredydau o fodiwlau'r Gyfraith a dewisir y 40-60 o gredydau sy'n weddill o'r dewisiadau Cymraeg.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Law of the European Union [20]CL620120 credydau
Company Law [20]CL620420 credydau
Dissertation (Cymraeg)CL621420 credydau
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd [20]CL622120 credydau
Healthcare, Ethics and LawCL623020 credydau
Equity and TrustsCL623120 credydau
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau [20]CL623220 credydau
Law of the European Union [30]CL630130 credydau
Company Law [30]CL630430 credydau
Family LawCL630730 credydau
Human Rights LawCL630830 credydau
Commercial LawCL631330 credydau
Traethawd Hir [30]CL631430 credydau
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd [30]CL632130 credydau
Environmental Law and JusticeCL632730 credydau
Global Problems and Legal TheoryCL632830 credydau
Healthcare, Ethics and Law [30]CL633030 credydau
Equity and Trusts [30]CL633130 credydau
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau [30]CL633230 credydau
Intellectual Property Law: Copyright, Patents and Trade MarksCL633830 credydau
Llenyddiaeth PlantCY331020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY336020 credydau
Bywydau LlênCY342520 credydau
TafodieithegCY345020 credydau
SosioieithyddiaethCY353020 credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY366520 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a seminarau yn bennaf, er y bydd eich modiwlau Cymraeg hefyd yn cynnig cyfle i ymuno â gweithdai a dosbarthiadau iaith.

Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf ond yn gyffredinol yn darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol. Bydd gennych hefyd fynediad at fersiynau clywedol o ddarlithoedd y Gyfraith hefyd.

Mewn tiwtorialau byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau penodol, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy grynhoi dyfarniad neu erthygl benodol i'r grŵp.

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, cyfreithiol a deallusol trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys datrys problemau cyfreithiol, trafodaethau mewn grwpiau bach, dadlau, ymrysonfeydd, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig.  Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm. 

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

20%

Astudio annibynnol dan arweiniad

80%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

17%

Astudio annibynnol dan arweiniad

81%

Lleoliadau

2%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

16%

Astudio annibynnol dan arweiniad

83%

Lleoliadau

1%

Sut y caf fy nghefnogi?

Cewch diwtoriaid personol a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs a’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Byddan nhw hefyd yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf os ydych chi’n profi unrhyw anawsterau.

Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn yr Ysgol ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith ar gael.

Mae amrywiaeth o staff ar gael i gynnig cymorth pellach, gan gynnwys tiwtor cefnogaeth academaidd, cyd-gysylltydd cynllun pro-bono a llyfrgellwyr arbenigol y gyfraith. Mae aelod o staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau fod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau.

Mae’r holl fodiwlau’n defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol; Dysgu Canolog (Learning Central). Yma gallwch chi ymuno â fforymau trafod a dod o hyd i ddeunydd cwrs yn cynnwys recordiau o ddarlithoedd, dolenni at ddeunyddiau cysylltiedig, profion amlddewis, hen bapurau arholiad ac enghreifftiau o waith cyn-fyfyrwyr.

Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

75%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

22%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

70%

Arholiadau ymarferol

5%

Gwaith cwrs

25%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

69%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

31%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Mae gradd yn y gyfraith yn datblygu eich gallu i drefnu ffeithiau a syniadau mewn ffordd systematig, nodi gwybodaeth berthnasol a gwerthuso'r rhain i lunio cyngor ar gyfer cleient neu ddadl gyfreithiol.

Byddwch hefyd yn:

  •  gwella eich gallu i ddadlau mewn modd gwrthrychol, rhesymegol a phroffesiynol, gan roi ystyriaeth briodol i awdurdod a dulliau dyfynnu derbyniol
  • datblygu eich gallu i ymgymryd â dysgu annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol
  • gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm, gan gyfrannu’n adeiladol ac yn ddibynadwy
  • datblygu eich sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • dysgu sut i ddefnyddio ffynonellau electronig penodol i’r pwnc, cronfeydd data a’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir i gasglu tystiolaeth ac i ymchwilio i gwestiynau cyfreithiol.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Y Gyfraith

Yn 2015/16, dywedodd 97% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Fe wnaeth y myfyrwyr wnaeth ddewis gweithio yn syth ar ôl graddio gael swyddi fel trafodwyr, paragyfreithwyr, trinwyr ailforgeisio a chyfreithwyr gyda chwmnïau fel Cyfreithwyr Hugh James, Admiral Law, Eversheds LLP a Gwasanaethau’r Gyfraith a Risg GIG Cymru.

Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd yn y proffesiwn cyfreithiol. Bob blwyddyn mae nifer o raddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau mor amrywiol â chyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.

Ysgol y Gymraeg

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster gwerthfawr ar gyfer swyddi sydd yn gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, y llywodraeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth, ac addysg ar bob lefel.

Yn 2015/16, dywedodd 100% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 100% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth