Ewch i’r prif gynnwys

Y Gyfraith a Ffrangeg (LLB)

  • Côd UCAS: RM11
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae rhaglen LLB y Gyfraith a Ffrangeg yn heriol ac yn gyffrous ac yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y gyfraith ac amrywiaeth eang o broffesiynau.

Mae arferion cyfreithiol yn digwydd fwyfwy ar y llwyfan byd-eang, a nod rhaglenni LLB Caerdydd yn y gyfraith ac ieithoedd yw cynhyrchu cyfreithwyr sydd nid yn unig yn gwbl gymwys yng nghyfraith Cymru a Lloegr, ond hefyd yn rhugl yn yr iaith a ddewisir ac yn gyfarwydd â diwylliant cyffredinol, sefydliadau gwleidyddol a system gyfreithiol gwlad arall. Addysgir rhaglen y Gyfraith a Ffrangeg mewn cydweithrediad â’r Ysgol Ieithoedd Modern.

Yn ogystal â'r modiwlau sylfaen sy'n cynnwys y cam hyfforddi academaidd sydd ei angen er mwyn dod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, y cyfeirir ato fel 'Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith', rydym yn cynnig amrywiaeth eang o feysydd astudio dewisol sy'n cwmpasu pynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes.

Mae ein gradd yn eich galluogi chi i gwblhau cyfnodau academaidd hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr ac i symud ymlaen yn syth at y cyfnodau hyfforddi galwedigaethol ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr: y Cwrs Hyfforddiant Bar Proffesiynol neu'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol.

Ni yw’r unig Brifysgol yng Ngrŵp Russell i gynnig y ddau gwrs hyn, sydd yn golygu bod gennych yr opsiwn i aros gyda ni yng Nghaerdydd i gwblhau eich addysg gyfreithiol gyfan. Yn rheolaidd, mae’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol wedi cael sgôr uchaf yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr / Cymdeithas y Gyfraith.  

Nodweddion nodedig

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu eich cyflogadwyedd, gydag ein Hymgynghorydd Gyrfaoedd pwrpasol wrth law ddau ddiwrnod yr wythnos yn adeilad y Gyfraith. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol, rhai sy’n unigryw i Brifysgol Caerdydd, sydd yn rhoi mantais gystadleuol i’n myfyrwyr.

Cynlluniau Pro Bono

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi'r cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau.

Dau o’n cynlluniau mwyaf sefydledig yw ein Prosiect Dieuog (y cyntaf yn y DU i wrthdroi dyfarniad o euogrwydd gan y Llys Apêl) a’n Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG sy’n unigryw i Gaerdydd.

Mae’r ddwy fenter wedi ennill neu wedi cael lle ar restr fer dyfarniadau cenedlaethol o fri ac wedi rhoi cymorth i grwpiau bregus ac aelodau o’r gymuned sy’n cael trafferth cael mynediad i gymorth cyfreithiol. Gallwch hefyd wneud cais am le ar ein cynllun gydag Undeb Rygbi Cymru, lle’r ydym yn cynghori clybiau rygbi amatur ar faterion cyfreithiol.

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer pob un o'n cynlluniau yn wahanol ac ni allwn warantu y bydd myfyrwyr yn sicrhau lle ar y cynllun o'u dewis, nac ar unrhyw un o'n cynlluniau. Mae ein portffolio yn cael ei adolygu'n rheolaidd ac mae’r hyn rydym yn ei gynnig yn gallu newid.

Ymryson (Mooting)

Caiff ein myfyrwyr eu hannog i gystadlu mewn cystadlaethau ymryson blynyddol. Mae'r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i chi gyflwyno materion cyfreithiol gerbron barnwr, yn erbyn cwnsler sy’n gwrthwynebu.

Mae ymryson yn sgil wych i allu ychwanegu at eich CV ac mae’n rhoi profiad gwerthfawr o siarad yn gyhoeddus mewn lleoliad ffurfiol.

Cystadleuaeth cyfweld â chleientiaid

Anogir ein myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth cyfweld cleientiaid flynyddol, gyda Syr Geoffrey Bindman QC yn Llywydd arni.

Byddwch yn meithrin profiad cyfweld a chwnsela mewn lleoliad ffug a byddwch yn cael eich asesu yn erbyn meini prawf asesu penodol sy’n cynnwys sgiliau rhyngbersonol a’ch gallu i ddelio gyda phroblemau cyfreithiol.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

Yr Ysgol Ieithoedd Modern

Un o ysgolion iethioedd modern fwyaf dynamig y Deyrnas Unedig. Rydym yn ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid er mwyn hyrwyddo manteision amlieithrwydd.

Gofynion mynediad

AAB - ABB yn cynnwys Ffrangeg Safon Uwch ac un pwnc perthnasol arall os cymerir pob cymhwyster o fewn 3 blynedd. Mae rhestr lawn o'r pynciau hyn ar gael ar wefan y Brifysgol http://www.cardiff.ac.uk/study/undergraduate/applying/admissions-criteria/school-of-law-and-politics/law . Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol. Caiff ceisiadau eu hystyried fesul achos.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Gradd DD yn BTEC yn ogystal a gradd B yn Ffrangeg Safon Uwch.

Gwobr Fagloriaeth Ryngwladol gyda 35-33 pwynt gan gynnwys 6 mewn Lefel Uwch Ffrangeg NEU 666 mewn 3 pwnc Lefel Uwch gan gynnwys Ffrangeg.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

Mwy o wybodaeth am feini prawf derbyn ein Hysgolion, y cynllun gwarantu cynnig, newidiadau i raglenni a chyfieithu eich dogfennau.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 62 yn gyffredinol gydag o leiaf 62 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 54 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Many students choose to invest in personal copies of unabridged bilingual dictionaries and reference grammars. While copies of most course materials are available in the library, many students opt to acquire personal copies of set texts.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen LLB y Gyfraith a Ffrangeg yn radd anrhydedd lawn amser dros gyfnod o bedair blynedd. Mae blynyddoedd academaidd yn cynnwys dau semester ac mae'n ofynnol i chi astudio modiwlau sy'n werth 120 o gredydau yn ystod pob blwyddyn astudio.

Byddwch yn cael eich trwytho’n drylwyr yng nghyfraith Lloegr a Cymru a chyfraith Ffrainc. 

Yn yr ysgol Ieithoedd Modern, byddwch yn ymgymryd ag astudiaethau Ffrangeg sy'n cynnwys modiwlau iaith gorfodol sy'n cynnwys hyfforddiant hyfedredd mewn darllen, siarad ac ysgrifennu Ffrangeg, a modiwlau dewisol sy’n canolbwyntio ar astudio diwylliant, hanes a llenyddiaeth.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio pedwar modiwl 20 credyd gorfodol yn y Gyfraith ac un modiwl 40 credyd gorfodol Ffrangeg yn y flwyddyn gyntaf, fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer y tair blynedd nesaf eich rhaglen gradd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Contract [20]CL420120 credydau
Criminal [20]CL420220 credydau
Legal Foundations [20]CL420320 credydau
Public Law [20]CL420420 credydau
Advanced French Language Year 1ML618840 credydau

Blwyddyn dau

Mae'n ofynnol i chi astudio modiwlau sy’n cyrraedd cyfanswm o 120 o gredydau.

Yn yr ail flwyddyn, bydd 80 credyd yn cael eu dewis o fodiwlau gorfodol y Gyfraith, gyda’r modiwlau sy’n weddill yn cael eu cymryd o blith y modiwlau Ffrangeg.

Adolygir rhestrau modiwlau bob blwyddyn yng ngoleuni ffactorau fel adnoddau staff a’r galw ymysg y myfyrwyr.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
French Law ICL525520 credydau
French Law IICL525620 credydau
Ex-Advanced Language Year 2 FrenchML628130 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Land Law [20]CL520120 credydau
Tort [20]CL520220 credydau
Cyfraith Tir [20]CL522120 credydau
CAMWEDD [20]CL522220 credydau
Land Law [30]CL530130 credydau
Tort [30]CL530230 credydau
Cyfraith Tir [30]CL532130 credydau
CAMWEDD [30]CL532230 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Nodwedd allweddol yn rhaglen y Gyfraith a Ffrangeg yw'r flwyddyn dramor sy'n digwydd ym mlwyddyn tri. Treulir y flwyddyn honno mewn cyfadran y gyfraith yn un o brifysgolion Ffrainc (ar hyn o bryd Amiens, Nantes, Poitiers, Rennes a Toulouse). Yn ystod y cyfnod hwnnw byddwch yn datblygu eich sgiliau ieithyddol a chyfreithiol cenedlaethol ac yn manteisio'n llawn ar fuddiannau astudio mewn amgylchedd Prifysgol dramor. Mae yna hefyd gyfle i ennill trwydded (gradd yn y gyfraith Ffrangeg)

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
French Year AbroadCL5121120 credydau
French Year Abroad Bi LicenceCL5122120 credydau
French Year Abroad LicenceCL5124120 credydau

Blwyddyn pedwar

Byddwch yn astudio rhwng 60 ac 80 credyd mewn modiwlau’r Gyfraith (40 i 80 os byddwch chi’n dewis peidio â mynd am Radd Cymhwyso yn y Gyfraith) ac un modiwl gorfodol 20 credyd Ffrangeg. Bydd gweddill y credydau yn cael eu dewis o blith y modiwlau dewisol Ffrangeg.

Adolygir rhestrau modiwlau bob blwyddyn yng ngoleuni ffactorau fel adnoddau staff a’r galw ymysg y myfyrwyr.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
High-Level Proficiency in French LanguageML636630 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Law of the European Union [20]CL620120 credydau
Company Law [20]CL620420 credydau
Dissertation [20]CL620520 credydau
Dissertation (Cymraeg)CL621420 credydau
Legal History [20]CL622020 credydau
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd [20]CL622120 credydau
Healthcare, Ethics and LawCL623020 credydau
Equity and TrustsCL623120 credydau
Ecwiti ac Ymddiriedolaethau [20]CL623220 credydau
Law of the European Union [30]CL630130 credydau
Company Law [30]CL630430 credydau
Dissertation [30]CL630530 credydau
Family LawCL630730 credydau
Human Rights LawCL630830 credydau
Intellectual PropertyCL630930 credydau
Commercial LawCL631330 credydau
Traethawd Hir [30]CL631430 credydau
Legal History [30]CL632030 credydau
Sports LawCL632430 credydau
Environmental Law and JusticeCL632730 credydau
Global Problems and Legal TheoryCL632830 credydau
Law and LiteratureCL632930 credydau
Healthcare, Ethics and Law [30]CL633030 credydau
Equity and Trusts [30]CL633130 credydau
Law in the CommunityCL633430 credydau
Law & Governance in Practice: Work Placement Module [30]CL633630 credydau
Culture, Political Protest & Dissent in the 1960sML136030 credydau
European Cinema: Thinking the Real of FictionML136230 credydau
Student Teaching ModuleML136330 credydau
Multimedia Adaptation: Film, Television & RadioML636330 credydau
Conflict, Consensus & The French Labour MovementML636430 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorial a seminarau yn bennaf, er y bydd eich modiwlau Ffrangeg hefyd yn cynnig y cyfle i ymuno â gweithdai a dosbarthiadau iaith.

Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf ond yn gyffredinol yn darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol. Byddwch hefyd yb cael mynediad i ddarlithoedd y Gyfraith cofnodeding.

Mewn tiwtorialau byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau penodol, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy grynhoi dyfarniad neu erthygl benodol i'r grŵp.

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, cyfreithiol a deallusol trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys datrys problemau cyfreithiol, trafodaethau mewn grwpiau bach, dadlau, ymrysonfeydd, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig.  Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

19%

Astudio annibynnol dan arweiniad

81%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

28%

Astudio annibynnol dan arweiniad

72%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

0%

Astudio annibynnol dan arweiniad

0%

Lleoliadau

100%

Blwyddyn 4

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

20%

Astudio annibynnol dan arweiniad

80%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

 

Cewch diwtoriaid personol a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs a’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Byddan nhw hefyd yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf os ydych chi’n profi unrhyw anawsterau.

Cyflwynir Rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith ar gael.

Mae amrywiaeth o staff ar gael i gynnig cymorth pellach, gan gynnwys tiwtor cefnogaeth academaidd, cyd-gysylltydd cynllun pro-bono a llyfrgellwyr arbenigol y gyfraith. Mae aelod o staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau fod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau.

Mae’r holl fodiwlau’n defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol; Dysgu Canolog (Learning Central). Yma gallwch chi ymuno â fforymau trafod a dod o hyd i ddeunydd cwrs yn cynnwys recordiau o ddarlithoedd, dolenni at ddeunyddiau cysylltiedig, profion amlddewis, hen bapurau arholiad ac enghreifftiau o waith cyn-fyfyrwyr.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

78%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

18%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

58%

Arholiadau ymarferol

8%

Gwaith cwrs

34%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

0%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

100%

Blwyddyn 4

Arholiadau ysgrifenedig

90%

Arholiadau ymarferol

5%

Gwaith cwrs

5%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Mae gradd yn y gyfraith yn datblygu eich gallu i drefnu ffeithiau a syniadau mewn ffordd systematig, nodi gwybodaeth berthnasol a gwerthuso'r rhain i lunio cyngor ar gyfer cleient neu ddadl gyfreithiol.

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • ddeall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg a Ffrangeg
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Y Gyfraith

Yn 2015/16, dywedodd 97% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Fe wnaeth y myfyrwyr wnaeth ddewis gweithio yn syth wedi graddio ennill swyddi fel trafodwyr, paragyfreithwyr, trinwyr ailforgeisio a chyfreithwyr gyda chwmnïau fel Cyfreithwyr Hugh James, Admiral Law, Eversheds LLP a Gwasanaethau’r Gyfraith a Risg GIG Cymru.

Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd yn y proffesiwn cyfreithiol. Bob blwyddyn mae nifer o raddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau mor amrywiol â chyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.

Yr Ysgol Ieithoedd Modern

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.

O’r rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau MA yr Ysgol mewn Astudiaethau Ewropeaidd neu mewn Cyfieithu neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl graddio, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa ragorol mewn diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.

Lleoliadau

All students in their third year must complete an academic placement abroad. This is spent in the law faculty of a university in France (currently Amiens, Nantes, Rennes or Toulouse) during which time you will build upon your linguistic and national legal skills and take full advantage of the benefits of studying in a foreign university environment. There is also the opportunity to earn a Licence (French law degree).

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 67% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth