Y Gyfraith a Throseddeg (LLB)
- Côd UCAS: M190
- Derbyniad nesaf: Medi 2021
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Blwyddyn Mynediad
Pam astudio’r cwrs hwn
Tra bo’r Gyfraith yn archwilio'r system o reolau a ddefnyddir gan wlad neu wladwriaeth i reoleiddio ei thrigolion, mae Troseddeg yn canolbwyntio ar droseddoleiddio, erledigaeth, ac ymatebion cymdeithasol i drosedd ac anhrefn. Mae hyn yn gwneud y ddau bwnc yn bâr delfrydol i'w astudio gyda’i gilydd fel rhan o raglen gydanrhydedd.
Mae’r rhaglen radd hon yn gyfle i astudio'r Gyfraith a Throseddeg yng nghyd-destun rhyngddisgyblaethol gwyddorau cymdeithasol.
Cewch eich trwytho yng Nghyfraith Cymru a Lloegr drwy astudio’r modiwlau sylfaen (sy’n cynnwys cam academaidd yr hyfforddiant sy'n angenrheidiol ar hyn o bryd i ddod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr). Yn ogystal â hynny byddwch yn astudio trosedd, cyfiawnder a rheolaeth fel gwyddonydd cymdeithasol cyn cymhwyso eich sgiliau ymchwil newydd i faterion a dadleuon yn y byd go iawn.
Troseddeg yw’r maes astudio sy’n canolbwyntio ar droseddoli, erledigaeth, a’r ymatebion cymdeithasol i droseddu ac anhrefn. Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o safbwyntiau gwyddorau cymdeithasol, ac yn cynnig y cyfle i chi archwilio dulliau cymdeithasegol, seicolegol a gwleidyddol o ymdrin â throseddu a ffyrdd o’i reoli.
Nodweddion nodedig
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu eich cyflogadwyedd, gydag ein Hymgynghorydd Gyrfaoedd pwrpasol wrth law ddau ddiwrnod yr wythnos yn adeilad y Gyfraith. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol, rhai sy’n unigryw i Brifysgol Caerdydd, sydd yn rhoi mantais gystadleuol i’n myfyrwyr.
Cynlluniau Pro Bono
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi'r cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau.
Dau o’n cynlluniau mwyaf sefydledig yw ein Prosiect Dieuog (y cyntaf yn y DU i wrthdroi dyfarniad o euogrwydd gan y Llys Apêl) a’n Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG sy’n unigryw i Gaerdydd.
Mae’r ddwy fenter wedi ennill neu wedi cael lle ar restr fer dyfarniadau cenedlaethol o fri ac wedi rhoi cymorth i grwpiau bregus ac aelodau o’r gymuned sy’n cael trafferth cael mynediad i gymorth cyfreithiol. Gallwch hefyd wneud cais am le ar ein cynllun gydag Undeb Rygbi Cymru, lle’r ydym yn cynghori clybiau rygbi amatur ar faterion cyfreithiol.
Mae’r broses ymgeisio ar gyfer pob un o'n cynlluniau yn wahanol ac ni allwn warantu y bydd myfyrwyr yn sicrhau lle ar y cynllun o'u dewis, nac ar unrhyw un o'n cynlluniau. Mae ein portffolio yn cael ei adolygu'n rheolaidd ac mae’r hyn rydym yn ei gynnig yn gallu newid.
Ymryson (Mooting)
Caiff ein myfyrwyr eu hannog i gystadlu mewn cystadlaethau ymryson blynyddol. Mae'r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i chi gyflwyno materion cyfreithiol gerbron barnwr, yn erbyn cwnsler sy’n gwrthwynebu.
Mae ymryson yn sgil wych i allu ychwanegu at eich CV ac mae’n rhoi profiad gwerthfawr o siarad yn gyhoeddus mewn lleoliad ffurfiol.
Cystadleuaeth cyfweld â chleientiaid
Anogir ein myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth cyfweld cleientiaid flynyddol, gyda Syr Geoffrey Bindman QC yn Llywydd arni.
Byddwch yn meithrin profiad cyfweld a chwnsela mewn lleoliad ffug a byddwch yn cael eich asesu yn erbyn meini prawf asesu penodol sy’n cynnwys sgiliau rhyngbersonol a’ch gallu i ddelio gyda phroblemau cyfreithiol.
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
- Y cyfle i ddysgu gan droseddegwyr blaenllaw sydd â chysylltiadau cryf â’r heddlu, y sector prawf a charchardai, yn ogystal ag awdurdodau lleol, a sefydliadau Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig
- Y cyfle i chi ddysgu mewn Ysgol a gyrhaeddodd y 3ydd safle yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd ymchwil mewn cymdeithaseg a’r 5ed safle o ran addysg yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF)
- Ymwneud staff sy’n weithredol ym myd ymchwil â’r addysgu
- Y pwyslais ar ddysgu’n annibynnol mewn amgylchedd a arweinir gan ymchwil
- Yr amrywiaeth o fodiwlau sydd ar gael mewn Ysgol amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol
- Y cyfle i astudio dramor
Achrediadau

Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Cynhelir ein graddau gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag enw da o ran dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws y byd.
Gofynion mynediad
AAB-ABB
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL.
Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.
Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.
GCSE
Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.
PTE Academic
O leiaf 62 yn gyffredinol gydag o leiaf 62 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 54 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.
Trinity ISE II/III
II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B / 6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Os hoffech chi symud ymlaen naill ai i'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu'r Cwrs Hyfforddi Bar ar ôl i chi raddio, rydym yn eich annog i ddarllen gofynion addasrwydd i ymarfer y corff proffesiynol perthnasol yn gyntaf i sicrhau y byddech chi'n gymwys i gofrestru gyda nhw. :
- Llawlyfr y Bwrdd Safonau Bar
- Cyfnod hyfforddiant cydnabyddedig yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Ffioedd Dysgu (2021/22) | Blaendal |
---|---|
£9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU, bydd ffioedd dysgu ar gyfer 2021/22 yn unol â'r ffioedd a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Ffioedd Dysgu (2021/22) | Blaendal |
---|---|
£17,450 | Dim |
Gwybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
You should be prepared to invest in some key text books and to cover the costs of basic printing and photocopying. You may also want to buy copies of other books, either because they are particularly important for your course or because you find them particularly interesting.
If you have a laptop computer you will have the option of purchasing software at discounted prices.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
What the student should provide:
You do not need any specific equipment to study on this programme. Access to a laptop computer would be advantageous as many readings are available electronically and most assessments are prepared using standard word processing software.
What the University will provide:
Networked computers with appropriate file space and all necessary software. Access to essential and background reading for each module plus a wide range of journals and other online resources. All course documents will be available online (via the VLE) and hard copies of essential documents will be provided if requested.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae’r dosbarthiad gradd terfynol a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.
Yn ystod eich gradd, byddwch yn gallu astudio modiwlau Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol sy'n ffurfio'r Radd Cymhwyso yn y Gyfraith.
Mae modiwlau a gynigir gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn galluogi myfyrwyr i archwilio dulliau cymdeithasegol, seicolegol a gwleidyddol o astudio troseddeg.
Mae'r blynyddoedd academaidd yn cynnwys dau semester. Mae'n ofynnol i chi astudio modiwlau sy'n werth 120 o gredydau yn ystod pob blwyddyn astudio.
Yn eich ail flwyddyn, bydd gennych y cyfle i wneud cais am leoliad gwaith a fydd yn weithredol yn y drydedd flwyddyn o’ch gradd LLB yn y Gyfraith. Mae’r lleoliadau llawn amser sy’n talu cyflog ar agor i chi drwy broses ymgeisio cystadleuol sy’n anelu at ail greu’r prosesau recriwtio y byddwch chi’n dod ar eu traws wedi i chi raddio o’r Brifysgol. Yn ystod eich lleoliad, byddwch yn ymarfer y gyfraith fel cynorthwyydd cyfreithiol ac yn perfformio rolau ar lefel graddedig. Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol ymarferydd sy’n cynnwys rheoli achos, ymchwil cyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol fel rheoli amser, gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol. Bydd y lleoliadau yng Nghaerdydd ac yn cyfrannu at 10% o’r dosbarth o radd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021
Blwyddyn un
Byddwch yn astudio pedwar modiwl 20 credyd gorfodol yn y Gyfraith a dau fodiwl 20 credyd gorfodol mewn Troseddeg yn y flwyddyn gyntaf, fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer dwy flynedd nesaf eich rhaglen gradd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Contract [20] | CL4201 | 20 credydau |
Criminal [20] | CL4202 | 20 credydau |
Legal Foundations [20] | CL4203 | 20 credydau |
Public Law [20] | CL4204 | 20 credydau |
Key Ideas in Social Science | SI0281 | 20 credydau |
Foundations of Contemporary Criminology | SI0284 | 20 credydau |
Key Ideas In Social Science | SI0422 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch yn astudio am 120 o gredydau gyda’i gilydd, gydag 80 ohonyn nhw’n cael eu dewis o'r rhestr o fodiwlau dewisol y gyfraith sydd ar gael. Cymerir y modiwlau sy’n weddill o'r rhestr o ddewisiadau troseddeg.
Bydd eich tiwtor personol yn eich helpu chi i ddewis modiwlau a fydd yn gweddu orau ar gyfer llwybr penodol gyda’ch dewisiadau gyrfa yn y dyfodol mewn cof.
Mae’r rhestr hon yn cael ei hadolygu’n flynyddol yng ngoleuni ffactorau fel y galw gan fyfyrwyr, arbenigedd staff a galw myfyrwyr a newidiadau yn y cyd-destun cyfreithiol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Offending and Victimisation | SI0201 | 20 credydau |
Responses to Crime | SI0202 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Land Law [20] | CL5201 | 20 credydau |
Tort [20] | CL5202 | 20 credydau |
Discrimination and Law [20] | CL5205 | 20 credydau |
Cyfraith Tir [20] | CL5221 | 20 credydau |
CAMWEDD [20] | CL5222 | 20 credydau |
Datganoli yng Nghymru | CL5224 | 20 credydau |
French Law I | CL5255 | 20 credydau |
French Law II | CL5256 | 20 credydau |
Land Law [30] | CL5301 | 30 credydau |
Tort [30] | CL5302 | 30 credydau |
Discrimination and Law [30] | CL5305 | 30 credydau |
Evidence | CL5306 | 30 credydau |
Sociology of Law | CL5312 | 30 credydau |
Media Law [30] | CL5318 | 30 credydau |
Cyfraith Tir [30] | CL5321 | 30 credydau |
CAMWEDD [30] | CL5322 | 30 credydau |
Datganoli yng Nghymru [30] | CL5324 | 30 credydau |
Miscarriages of Justice: The Cardiff Innocence Project | CL5328 | 30 credydau |
Human Rights Law | CL6308 | 30 credydau |
Commercial Law | CL6313 | 30 credydau |
Environmental Law and Justice | CL6327 | 30 credydau |
Global Problems and Legal Theory | CL6328 | 30 credydau |
Blwyddyn tri
Yn ystod blwyddyn tri, dewisir 80 o gredydau o fodiwlau'r gyfraith a dewisir y credydau sy'n weddill o'r dewisiadau Troseddeg.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.
Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Blwyddyn 1
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
23%
Astudio annibynnol dan arweiniad
77%
Lleoliadau
0%
Blwyddyn 2
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
22%
Astudio annibynnol dan arweiniad
78%
Lleoliadau
0%
Blwyddyn 3
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
22%
Astudio annibynnol dan arweiniad
78%
Lleoliadau
0%
Sut y caf fy nghefnogi?
Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Blwyddyn 1
Arholiadau ysgrifenedig
86%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
14%
Blwyddyn 2
Arholiadau ysgrifenedig
73%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
27%
Blwyddyn 3
Arholiadau ysgrifenedig
80%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
20%
Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?
Mae gradd yn y gyfraith yn datblygu eich gallu i drefnu ffeithiau a syniadau mewn ffordd systematig, nodi gwybodaeth berthnasol a gwerthuso'r rhain i lunio cyngor ar gyfer cleient neu ddadl gyfreithiol.
Byddwch hefyd yn:
- gwella eich gallu i ddadlau mewn modd gwrthrychol, rhesymegol, proffesiynol, gan roi ystyriaeth briodol i awdurdod a dulliau dyfynnu derbyniol
- datblygu eich gallu i ymgymryd â dysgu annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol
- gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm, gan gyfrannu’n adeiladol ac yn ddibynadwy
- datblygu eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- dysgu sut i ddefnyddio ffynonellau electronig penodol i’r pwnc, cronfeydd data a’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir i gasglu tystiolaeth ac i ymchwilio i gwestiynau cyfreithiol. mynd i’r afael â materion cymhleth yn hyderus
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
- gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
- dangos ymrwymiad i ddysgu a datblygu’n barhaus.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Yn 2015/16, dywedodd 97% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Fe wnaeth y myfyrwyr wnaeth ddewis gweithio yn syth wedi graddio ennill swyddi fel trafodwyr, paragyfreithwyr, trinwyr ailforgeisio a chyfreithwyr gyda chwmnïau fel Cyfreithwyr Hugh James, Admiral Law, Eversheds LLP a Gwasanaethau’r Gyfraith a Risg GIG Cymru.
Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd yn y proffesiwn cyfreithiol. Bob blwyddyn mae nifer o raddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau mor amrywiol â chyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Yn 2015/16, dywedodd 96% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae rhoi damcaniaeth ar waith yn ymarferol, a darparu profiad o'r byd gwaith yn agweddau pwysig ar baratoi ein graddedigion at fywyd y tu allan i fyd addysg.
Rydyn ni’n annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i'r Brifysgol o'r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio.
Lleoliadau
In your second year you will have the opportunity to apply for a work placement which will be carried out in the third year of your LLB Law degree. The full-time, salaried placements will be open to you via a competitive application process which aims to replicate the graduate recruitment processes you will encounter after leaving university. During your placement, you will undertake legal practice as paralegals, and will be performing graduate level roles. You will develop both key practitioner skills such as case management, legal research and legal writing in addition to generic employability skills such as time management, team working and commercial awareness. Placements will be located in Cardiff and will count for 10% of degree classification.