Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg a Newyddiaduraeth (BA)

  • Côd UCAS: PQ55
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Welsh students

Pam astudio’r cwrs hwn

Trwy’r rhaglen hon, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa, boed ym myd newyddiaduraeth a’r cyfryngau neu thu hwnt.

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Nod cyffredinol Newyddiaduraeth yw arfogi myfyrwyr i ddod yn ddinasyddion gwybodus mewn cymdeithas sy’n orlawn o gyfryngau. Mae’n dechrau gyda'r rhagdybiaeth fod angen i ni ddeall y rôl ganolog a chwaraeir gan y cyfryngau a’r diwydiannau diwylliannol er mwyn deall cymdeithas fodern. Byddwch yn gallu cymryd rhai modiwlau ymarferol, ond mae pwyslais y radd yn academaidd a dadansoddol.

Nodweddion nodedig

  • Modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith.
  • Ystod o fodiwlau craidd a dewisol cyffrous sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.
  • Modiwlau newyddiaduraeth mor amrywiol â Yr Ystafell Newyddion, Y Senedd, Y Straeon a’r Spin.
  • Pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa.
  • Pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol.
  • Profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’ngweithio ar brosiectau a meysydd ymchwil amrywiol ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil.
  • Cyfle i fod yn rhan o gymuned agos a chyfeillgar, gyda staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad iaith, cymdeithas a hunaniaeth yng Nghymru gyfoes drwy addysgu ac ymchwil o'r safon uchaf.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4041
  • MarkerCaerdydd, CF10 1FS

Gofynion mynediad

BBB-BBC. Disgwylir i ymgeiswyr fod â Chymraeg ysgrifenedig o safon briodol (mae astudio pynciau Safon Uwch drwy gyfrwng y Gymraeg, neu gymhwyster Safon Uwch neu UG mewn Cymraeg [iaith gyntaf] yn arwydd o hyn).

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol a gradd B mewn Iaith Gyntaf Gymraeg Safon Uwch.

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL. Rhaid bod gennych hefyd gymhwyster Iaith Gyntaf Gymraeg sy'n cyfateb i radd B ar Safon Uwch.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.


Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Gradd tair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio cyfanswm o 120 credyd - 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Newyddiaduraeth.

CYMRAEG

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un ar ddatblygu sgiliau allweddol gan gynnwys rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd ym meysydd iaith, diwylliant a llenyddiaeth.

NEWYDDIADURAETH

Mae tri modiwl craidd Newyddiaduraeth yn rhoi sylfaen o ran fframweithiau cysyniadol a damcaniaethol ar gyfer astudio'r cyfryngau a diwylliant. Mae’r pwyslais ar hanes sefydliadau cyfryngol ac astudiaethau cyfryngau, dulliau o ymdrin â dadansoddi testun a'r cyfryngau yn y sector cyhoeddus, yn ogystal â’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i astudio Newyddiaduraeth ar lefel uchel.

Newyddiaduraeth ar lefel uchel.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau
History of Mass Communication and CultureMC111020 credydau
Cymru: Y Senedd, Y Straeon a'r SpinMC111720 credydau
Understanding Journalism StudiesMC157820 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Newyddiaduraeth.

CYMRAEG

Byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un gydag elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, gan gynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol (gall profiad yn y maes darlledu neu newyddiaduraeth fod yn bosibl).

Mae modiwlau blwyddyn dau a blwyddyn tri yn cynnig cyfle ichi ddatblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol fydd yn berthnasol ar gyfer ystod o yrfaoedd neu astudiaethau ôl-raddedig.

NEWYDDIADURAETH

Byddwch chi’n cymryd un modiwl craidd 20 credyd sy’n esbonio ymchwil y cyfryngau (ac sy’n cynnig sylfaen ar gyfer prosiectau datblygedig) ynghyd â chyflwyno myfyrwyr i rai o'r damcaniaethau allweddol a'r gwaith dadansoddi sy'n ganolog i astudiaethau diwylliannol ac astudiaethau newyddiaduraeth. Byddwch chi’n cymryd dau fodiwl dewisol, a fydd efallai yn eich cyflwyno i feysydd megis astudiaethau cynulleidfa, hysbysebu a moeseg astudiaethau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Yr Ystafell Newyddion 1MC261720 credydau
Yr Ystafell Newyddion 2MC261820 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Llenyddiaeth PlantCY231020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY236020 credydau
Bywydau LlênCY242520 credydau
TafodieithegCY245020 credydau
SosioieithyddiaethCY253020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY266520 credydau
Media and GenderMC210720 credydau
Media, Power and SocietyMC211620 credydau
Mediation of Political ViolenceMC260720 credydau
Birth and Death and Marriage in the Media: Researching the "Personal" in "Cultural Context"MC262120 credydau
Film and Cultural TheoryMC262220 credydau
Critical Issues in Television ProductionMC262420 credydau
Managing Media CommunicationsMC262520 credydau
Celebrity CultureMC262720 credydau
Fashion Futures: Technology, Innovation and SocietyMC262920 credydau
Internet GovernanceMC263020 credydau
Media, Globalisation and CultureMC263120 credydau
Public Relations and Political CommunicationMC263220 credydau
Employability: Knowledge, Skills & ExperienceMC263420 credydau
Body / ImageMC263620 credydau
Branding and IdentityMC264320 credydau
War, Politics and Propaganda IIMC354920 credydau
Doing Media Research: Approaches and MethodsMC355120 credydau
Media Law Year 2MC360020 credydau
Media and DemocracyMC360320 credydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Newyddiaduraeth.

CYMRAEG

Ym mlwyddyn tri y, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau (20 credyd) neu 9,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.

NEWYDDIADURAETH

Byddwch yn gallu dewis astudio traethawd hir neu brosiect unigol 40 credyd opsiynol. Gall hyn gynnwys Cymraeg a Newyddiaduraeth, neu fod yn seiliedig ar un yn unig o'r meysydd pwnc.

Bydd yr holl fodiwlau ar y lefel hon yn cynnwys cynnal ymchwil annibynnol ac yn defnyddio syniadau damcaniaethol a dulliau gwaith ymarferol a/neu ddadansoddol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Llenyddiaeth PlantCY331020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY336020 credydau
Bywydau LlênCY342520 credydau
TafodieithegCY345020 credydau
SosioieithyddiaethCY353020 credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY366520 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 credydau
DissertationMC310340 credydau
Media LawMC321320 credydau
Mediating ChildhoodMC358520 credydau
The Making and Shaping of NewsMC358920 credydau
Spin Unspun: Public Relations and The News MediaMC359620 credydau
The Creative and Cultural IndustriesMC360820 credydau
Sport and the MediaMC361220 credydau
Communicating CausesMC361620 credydau
Understanding Media BusinessMC361920 credydau
Reporting Conflict and the Civil SphereMC362420 credydau
Palu am y GwirMC362520 credydau
Stori Pwy? Cyfathrebu CymruMC362620 credydau
Reporting the WorldMC362820 credydau
Media, Money and MarketsMC363020 credydau
The Cultural Politics of Contemporary HollywoodMC363220 credydau
Popular Music, Media, & CultureMC363320 credydau
Understanding Digital Society through Black MirrorMC363420 credydau
A Century of War PhotojournalismMC363520 credydau
Immersive MediaMC363620 credydau
Marketing, Branding and Promotional Cultures in TelevisionMC363720 credydau
(Me) me, Myself and I:The Power and Politics of Digital Remix Culture and Online InequalitiesMC364220 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith. Addysgir pob modiwl yn Ysgol y Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol ar arholiadau yn dilyn cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol y Gymraeg

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig.

Yn 2016/17, roedd 91% o raddedigion yr Ysgol mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol

Yn 2016/17, dywedodd 96% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn symud ymlaen i’n graddau meistr newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu ôl-raddedig, ac yna i swyddi amrywiol yn y cyfryngau.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Reporter
  • Journalist
  • Teacher
  • Editor

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 83% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth