Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth a Chyfathrebu (BA)

  • Côd UCAS: 0N3D
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Ar lefel ymarferol, byddwch yn cynhyrchu portffolios (gan gynnwys portffolios digidol), yn ymarfer sgiliau ysgrifennu newyddiadurol ar draws nifer o lwyfannau, gan gynnwys ar-lein, darlledu, print a chylchgronau, cynnig syniadau ar gyfer cynhyrchion a busnesau golygyddol newydd, a defnyddio amrywiaeth o feddalwedd i gynhyrchu allbynnau graffig, blogiau, apiau, ac ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Er y gallwch gymryd nifer o fodiwlau ymarferol, ar yr academaidd a’r dadansoddol y mae pwyslais y radd. Gallwch ddilyn llwybr clir ar newyddiaduraeth a chyfathrebu drwy gydol y tair blynedd o astudio. Pen draw hynny fydd llunio traethawd hir ar newyddiaduraeth.

Rhan hanfodol o’r cwrs yw y byddwch yn datblygu’r gallu i ymchwilio, ysgrifennu a beirniadu eich prosiectau ysgrifenedig eich hun yn unol â’r safonau academaidd uchaf, ac yn defnyddio technoleg gwybodaeth fodern i ymchwilio a chyflwyno. Byddwch yn datblygu eich gallu i weithio’n annibynnol ac mewn grwpiau.

Yn olaf, byddwch yn datblygu ac yn mireinio’ch ymwybyddiaeth o’r grymoedd ymarferol ac economaidd sy’n ffrâm i’r cyfryngau a’r diwydiannau diwylliannol a chreadigol ar y cwrs. Ar ôl cwblhau’r radd, byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i weithio mewn unrhyw faes lle y bydd gofyn arfer sgiliau cyfathrebu.

Er bod newyddiaduraeth a chyfathrebu yn enwedig yn gynnyrch ein hamgylchedd cyfathrebu helaeth a chynyddol, mae’r cwrs hefyd yn elwa ar ein profiad addysgu ac ymchwilio i newyddiaduraeth ac astudiaethau'r cyfryngau o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol.

Er bod y cwrs hwn yn heriol ac yn academaidd ei natur, NID yw'n darparu hyfforddiant galwedigaethol newyddiaduraeth.

Nodweddion nodedig

  • Cymdeithas Newyddiaduraeth lewyrchus a chanolfan cyfryngau i fyfyrwyr
  • gellir astudio seminarau blwyddyn un drwy gyfrwng y Gymraeg
  • mynediad at gynlluniau Erasmus ac Astudio Dramor
  • wythnosau gyrfaoedd a gweithdai i sicrhau eich bod chi’n barod ar gyfer 'byd gwaith'

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4041
  • MarkerCaerdydd, CF10 1FS

Gofynion mynediad

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC ym mhynciau'r Celfyddydau, y Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol.

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 7.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.0 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 100 yn gyffredinol, gydag o leiaf 20 ym mhob is-sgil.

PTE Academic

O leiaf 70 yn gyffredinol gydag o leiaf 54 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

III: o leiaf Teilyngdod ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B / 6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.



Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Nid oes proses gyfweld, a bydd deiliaid cynigion yn cael gwahoddiad i ddiwrnodau ymweld i ymgeiswyr ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae’r radd BA mewn Newyddiaduraeth a Chyfathrebu yn gwrs modiwlaidd tair-blynedd, llawn amser. Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau’n cynnwys 12 wythnos o addysgu, a neilltuir gweddill y semester i arholiadau a mathau eraill o asesu, ynghyd â’r prosesau sy’n ymwneud â marcio a byrddau arholi. 

Caiff pob myfyriwr Cymraeg gyfle i gynnal eu seminarau blwyddyn gyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Addysgir chwe modiwl 20 credyd craidd gan ddefnyddio fformat darlith/seminar yn bennaf. Bydd syniadau a dulliau yn cael eu cyflwyno i chi yn y darlithoedd ac wedyn byddwch yn cynnal gwaith mwy cymhwysol a gwaith tîm yn seminarau.

Blwyddyn dau

Byddwch yn astudio dau fodiwl craidd, un ym mhob semester a phedwar modiwl dewisol, sy’n cael eu haddysgu yn bennaf gan ddefnyddio fformat darlith/seminar, er y bydd y tasgau a ddatblygir mewn seminarau yn fwy uchelgeisiol.

Bydd disgwyl i chi ddatblygu protocolau ymchwil, ar eich pen eich hun ac mewn grwpiau, a dechrau arbrofi gyda a dylunio gweithdrefnau methodolegol (fel dulliau arolygu, ethnograffeg, a dadansoddi cynnwys a sgyrsiau).

Erbyn diwedd blwyddyn dau, bydd gennych chi’r sgiliau sydd eu hangen i ysgrifennu traethawd hir ym mlwyddyn tri.

Blwyddyn tri

Bydd blwyddyn tri yn cynnwys traethawd hir dewisol, un modiwl craidd a dewis o fodiwlau dewisol a fydd yn eich galluogi i arbenigo yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi. Er y bydd nifer o’r rhain ar ffurf darlith/gweithdy, bydd yr amrywiaeth o ddulliau dysgu yn fwy amrywiol ac yn cynnwys aseiniadau mwy cymhleth a heriol.

Byddwch yn cynnal ymchwil annibynnol ac yn defnyddio syniadau damcaniaethol a dulliau gwaith ymarferol a/neu ddadansoddol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae ein haddysgu yn aml yn cael ei arwain a’i lywio gan ein gwaith ymchwil. Cewch eich addysgu mewn amgylchedd cefnogol a bydd tiwtor personol sy’n aelod o staff academaidd yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn gallu rhoi cyngor ar amrywiaeth eang o faterion.

Bydd arferion dysgu a chynhyrchu cyfryngau newydd ac aml-gyfrwng pe baech chi’n dewis rhai o’r modiwlau newyddiaduraeth a chyfryngau mwy ymarferol.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

20%

Astudio annibynnol dan arweiniad

80%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

22%

Astudio annibynnol dan arweiniad

78%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

0%

Astudio annibynnol dan arweiniad

0%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch tiwtor personol.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

23%

Arholiadau ymarferol

5%

Gwaith cwrs

72%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

8%

Arholiadau ymarferol

10%

Gwaith cwrs

83%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

0%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

0%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:

  • ddarllen, dadansoddi a chyfosod testunau academaidd cymhleth
  • dadansoddi testunau cyfryngau gwahanol, gan gynnwys geiriau, delweddau a sain
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
  • gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • cynnal gwahanol fathau o ymchwil annibynnol ar gyfer traethodau, prosiectau, cynyrchiadau creadigol neu draethodau hir
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 93% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn symud ymlaen i’n graddau meistr newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu ôl-raddedig, ac yna i swyddi amrywiol yn y cyfryngau.

Ymhlith enghreifftiau diweddar o swyddi lefel mynediad mae: awdur cynnwys, gweithredwr cyfryngau digidol, cynghorydd polisi cyfryngau cymdeithasol, intern ymchwil, intern golygyddol, gohebydd, gweithredwr/cynorthwyydd cysylltiadau cyhoeddus, intern polisi, gweithredwr ymgyrchoedd, cynorthwyydd addysgu a rheolwr prosiect hefyd.

Ar ôl mynd yn eu blaenau o swyddi lefel mynediad mae ein cyn-fyfyrwyr bellach yn cynnal nifer o rolau cyfryngau a gweinyddu fel: newyddiadurwr cynhyrchu (Telegraph Media Group), golygydd cylchgrawn (The Independent), uwch swyddog y wasg (Guardian News & Media), cynhyrchydd ffilmiau (See Saw Films) a rheolwr ymgyrchoedd digidol a chymunedol (Ruder Finn).

Gyrfaoedd graddedigion

  • Content Author
  • Digital Media Exectutive
  • Reporter

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth