Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth a Hanes (BA)

  • Côd UCAS: VV15
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r BA mewn Hanes ac Athroniaeth yn anelu at ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth feirniadol o strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol cymdeithasau yn y gorffennol a meithrin eich sgiliau deallusol a beirniadol.

Mae pob Ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i hategu gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.

Mae Hanes yng Nghaerdydd yn cwmpasu’r cyfnod o gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig hyd at heddiw. Mae cydbwysedd rhwng modiwlau sy’n cwmpasu cyfnodau hanesyddol penodol a modiwlau thematig sy’n archwilio pynciau cymdeithasol a diwylliannol eang, fel rhyfela, rhywedd, crefydd, celf, meddygaeth a gwyddoniaeth.

Mae dwy agwedd gysylltiedig ar y cwrs athroniaeth yng Nghaerdydd sy'n ei wneud yn nodedig ymysg prifysgolion Grŵp Russell. Un yw bod yna bwyslais cryf ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg ymhlith y modiwlau a gynigir. Y llall yw bod ein gwaith ymchwil a’n haddysgu yn cael ei ledaenu’n gyfartal ar draws arddulliau 'dadansoddol' a 'Chyfandirol' athroniaeth y Gorllewin, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth lawn o'r ddau gyda'r posibilrwydd o wneud dewis gwybodus i arbenigo mewn un dull neu'r llall.

Mae’r radd yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen ar fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’r naill astudiaeth neu’r llall ar lefel ôl-raddedig, ynghyd ag amrywiaeth werthfawr o sgiliau deallusol a throsglwyddadwy i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd i broffesiynau eraill.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:

  • pwyslais gref ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg
  • sylw cyfartal i arddulliau ‘dadansoddol’ a ‘Chyfandirol’ Athroniaeth Orllewinol
  • Mae Hanes yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Rydym yn chwilfrydig am brofiadau bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd a diwylliannau, ac eisiau deall ein gorffennol yn well er mwyn goleuo ein presennol a gwella ein dyfodol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4470
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Wedi ein pweru gan ymchwil arloesol, rydym yn dathlu chwilfrydedd, yn ymgysylltu mewn trafodaethau gwybodus a dadansoddi beirniadol ac yn eich annog i feddwl yn greadigol - ar draws a thu hwnt i'n disgyblaethau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4243
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol.

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.



Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae’r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2021. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2021 i ddangos y newidiadau.

Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am dair blynedd gyda dau semester y flwyddyn, wedi eu rhannu rhwng y ddau bwnc. Ceir 120 o gredydau bob blwyddyn. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Hanes a 60 credyd Athroniaeth.

Mae'r modiwlau athroniaeth gorfodol yn canolbwyntio ar natur y meddwl a chyflwyno cysyniadau, damcaniaethau, dadleuon a dulliau canolog damcaniaeth foesol a gwleidyddol cyfoes.

Mae dewis o fodiwlau Hanes.

Blwyddyn dau

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Hanes a 60 credyd Athroniaeth. Mae gennych chi’r cyfle i lunio gradd sy'n addas i chi, gan ddewis o blith amrywiaeth fawr o fodiwlau dewisol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Digital Games and the Practice of HistoryHS160230 credydau
Making Modern AfricaHS160330 credydau
Modern France, 1789 to the presentHS160530 credydau
Approaches to HistoryHS170130 credydau
Exploring Historical DebateHS170230 credydau
Entangled Histories: Wales and the wider World, 1714 - 1858HS170330 credydau
War, Peace and Diplomacy, c.900-c.1250HS170730 credydau
Reformation and Revolution: Stuart Britain, 1603-1714HS172130 credydau
Blood and Honour: the Viking Age in the WestHS172330 credydau
The British Civil Wars and Revolution, c.1638-1649HS174230 credydau
A Great Leap Forward China Transformed, 1840-presentHS175230 credydau
Europe between the two World WarsHS175330 credydau
From King Coal to Cool Cymru: Society and Culture in Wales, 1939-2000HS175630 credydau
"An Empire for Liberty": Race, Space and Power in the United States, 1775-1898HS176030 credydau
Urban Visions, Rural Dreams: City and Country in Britain and the United States, 1850-2000HS176430 credydau
India and The Raj, 1857-1947HS176530 credydau
The Search for an Asian Modern: Japanese History from 1800 to the Post-War EraHS176830 credydau
Belonging in early modern Europe: identity, community and cultureHS176930 credydau
Martyrs and Collaborators: Catholicism behind the Iron CurtainHS177230 credydau
Europe, East and West, 1945-1995HS177530 credydau
The Soviet Century: Russia and the Soviet Union, 1905-1991HS177630 credydau
A global history of riversHS179430 credydau
Philosophy of MindSE431320 credydau
Philosophy of Contemporary PoliticsSE436320 credydau
MetaphysicsSE436420 credydau
French ExistentialismSE436920 credydau
Contemporary Ethical TheorySE438820 credydau
EpistemologySE439820 credydau
Credoau'r CymrySE440020 credydau
Ancient PhilosophySE440520 credydau
What to Believe in the Age of the InternetSE440720 credydau
Philosophy of FeminismSE441820 credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio’r Gymdeithas GyfalafolSE442320 credydau
AestheticsSE442420 credydau

Blwyddyn tri

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Hanes a 60 credyd Athroniaeth.

Os dymunwch, gallwch ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o'ch dewis chi yn y naill ddisgyblaeth neu’r llall. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ganolbwyntio eich diddordebau ar faes neu gyfnod penodol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
DissertationHS180130 credydau
Ridicule, Republics, Revolutions: The (Awkward) Enlightenment in EnglandHS180230 credydau
The World of the Anglo-Saxons, c.500-c.1087HS180330 credydau
Kingship: Image and Power, c.1000-1399HS181330 credydau
City Lives: Urban Culture and Society, c.1550-1750HS182630 credydau
Deviants, Rebels and Witches in Early Modern Britain and IrelandHS182830 credydau
Germany's New Order in Europe, 1933-1945HS183230 credydau
Conflict, Coercion and Mass Mobilisation in Republican China 1911-1945HS183830 credydau
Fascism and Anti-Fascism in FranceHS184830 credydau
Race, Sex and Empire: Britain and India, 1765-1929HS185530 credydau
Cymru, y Mudiad Diwygio a Chwyldro Ffrengig 1789HS185730 credydau
Glimpses of the Unfamiliar: Travellers to Japan from 1860 to the Post-War EraHS185830 credydau
Remembering the Holocaust in Germany: Coming to Terms with the Past?HS186430 credydau
Class, Protest and Politics: South Wales, 1918-39HS186830 credydau
Health and Medicine in Early Modern BritainHS187530 credydau
Violence and Ideology in Inter-War Soviet RussiaHS188330 credydau
Czechoslovakia: The View from Central EuropeHS188430 credydau
Europe and the Revolutionary Tradition in the Long Nineteenth CenturyHS188730 credydau
Slavery and Slave Life in North America, 1619-1865HS189030 credydau
The Dangerous City? Urban Society and Culture, 1800-1914HS189630 credydau
The Arts in War and Peace: Culture and Politics in Britain, c.1930-1960HS189730 credydau
MetaethicsSE436720 credydau
The Problem of ConsciousnessSE437920 credydau
Dissertation in PhilosophySE438520 credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 credydau
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruSE439620 credydau
Cognition and TechnologySE441020 credydau
The Social ImaginationSE441220 credydau
Modern German PhilosophySE441320 credydau
Athroniaeth CrefyddSE441720 credydau
Belief & IrrationalitySE441920 credydau
Desires, Emotions and HappinessSE442020 credydau
Ethics of KnowingSE442220 credydau
Beauty & EthicsSE442520 credydau
Moral ResponsibilitySE442620 credydau
International Study Abroad (60 credits) AutumnSE625160 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill amrywiaeth o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Mae Hanes yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg Yn amodol ar argaeledd staff, mae’r addysgu trwy gyfrwng yn y Gymraeg mewn seminarau ar gael mewn rhai neu’r cyfan o’r prif gyrsiau craidd, a chynigir o leiaf un dewis iaith Gymraeg ym mlynyddoedd dau a thri.

Mae goruchwyliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ar gyfer traethodau hir (Archwilio Dadleuon Hanesyddol) a thraethodau estynedig, a gallwch ddewis ysgrifennu’r cyfan neu ran o’ch gwaith a asesir a’ch arholiadau yn Gymraeg.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

20%

Astudio annibynnol dan arweiniad

80%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

18%

Astudio annibynnol dan arweiniad

82%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

18%

Astudio annibynnol dan arweiniad

82%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

45%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

55%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

42%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

55%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

42%

Arholiadau ymarferol

7%

Gwaith cwrs

52%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:

  • ddeall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

YSGOL SAESNEG, CYFATHREBU AC ATHRONIAETH

Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae gan raddedigion Athroniaeth sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.

YR YSGOL HANES, ARCHAEOLEG A CHREFYDD

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i adnabod eu sgiliau a'u priodoleddau. Mae graddedigion Hanes yn dod o hyd i waith mewn amrywiaeth eang o gyflogaeth broffesiynol gysylltiedig a heb fod yn gysylltiedig. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, ac mae rhai wedi dod yn haneswyr o fri rhyngwladol.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth