Ewch i’r prif gynnwys

Hanes ac Economeg (BA)

  • Côd UCAS: VL11
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Ancient History

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae BA Hanes ac Economeg (Cydanrhydedd) yn gyfle i fyfyrwyr astudio'r gorffennol ochr yn ochr â'r cyfle i ddeall dadansoddiadau economaidd yn drylwyr. 

Mae'r modiwlau Hanes yn cwmpasu’r cyfnod o gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig hyd at heddiw. Mae cydbwysedd rhwng modiwlau sy’n cwmpasu cyfnodau hanesyddol penodol a modiwlau thematig sy’n archwilio pynciau cymdeithasol a diwylliannol eang, fel rhyfela, rhywedd, crefydd, celf, meddygaeth a gwyddoniaeth. 

Mae’r rhan o'r radd sy'n dilyn Hanes yn anelu at ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol myfyrwyr ynghylch strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymdeithasau’r gorffennol, a meithrin sgiliau deallusol fel y gallu i asesu tystiolaeth yn feirniadol, gwerthuso gwahanol ddehongliadau o’r dystiolaeth, llunio dadleuon ar sail tystiolaeth, a mynegi barn yn gadarn ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Mae'r rhan o'r radd sy'n dilyn Economeg yn cynnig dealltwriaeth o theori economaidd i fyfyrwyr, yn enwedig nodweddion strwythur a rheoli mentrau busnes modern.  Amcan y rhaglen yw addysgu am brif nodweddion economi diwydiannol y DU a'r datblygiadau allweddol mewn busnes. 

Byddwch yn ystyried polisi busnes y llywodraeth a pholisïau busnes rhyngwladol gan nodi eu goblygiadau ar ddatblygiad marchnadoedd a chwmnïau. Cewch hefyd eich cyflwyno i feysydd y tu hwnt i economeg ynghyd â'r cyfle i ddilyn modiwlau mewn arian busnes, y farchnad ac elfennau eraill o reoli.

Nodweddion nodedig

Mae’r radd yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen ar fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’r Economeg neu Hanes ar lefel ôl-raddedig, ynghyd ag amrywiaeth werthfawr o sgiliau deallusol a throsglwyddadwy i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd i broffesiynau eraill.

Maes pwnc: Economeg

  • academic-schoolYsgol Busnes Caerdydd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd

Gofynion mynediad

AAB-ABB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried BTECs mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddolwr perthnasol.

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B / 6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Fel sy'n arferol â pholisi derbyn Prifysgol Caerdydd.  Mae'n bosibl y cyfwelir ymgeiswyr sy'n dychwelyd i addysg mewn modd nad yw'n arferol, megis trwy gwrs Mynediad.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU, bydd ffioedd dysgu ar gyfer 2021/22 yn unol â'r ffioedd a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £18,450 Dim
Blwyddyn dau £18,450 Dim
Blwyddyn tri £18,450 Dim

Gwybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae’r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2021. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2021 i ddangos y newidiadau.

Mae hon yn rhaglen radd tair blynedd sy'n cynnwys modiwlau craidd sy'n darparu sgiliau a hyfforddiant hanfodol, yn ogystal ag amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol i fyfyrwyr ddewis o’u plith er mwyn teilwra eu gradd i gwrdd â'u diddordebau.  Byddwch chi’n astudio ar gyfer cyfanswm o 120 credyd bob blwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Ym Mlwyddyn 1, byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau Economeg a 60 credyd o fodiwlau Hanes.

Caiff cyfran helaeth o'r modiwlau sy'n rhan o'r rhaglen radd ei haddysgu gan adran Economeg yr Ysgol Busnes, ond mae'n bosibl y bydd cyfle i astudio modiwlau a addysgir mewn adrannau eraill o'r Ysgol Busnes.

Mae’r holl fyfyrwyr Hanes blwyddyn gyntaf yn cymryd ‘Ymarfer Hanes’ sy’n eich cyflwyno i fframweithiau gwahanol sy’n sail i ymchwil hanesyddol a’r nifer o ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra’n darparu hyfforddiant yn y sgiliau angenrheidiol i arfer hanes ar lefel israddedig.

Blwyddyn dau

Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau Economeg a 60 credyd o fodiwlau Hanes.

Byddwch yn dysgu i feddwl yn annibynnol, asesu cryfderau a gwendidau corff o dystiolaeth hanesyddol i chi eich hun, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau yn glir. Bydd ein staff academaidd cyfeillgar wrth law i’ch arwain ac i  ddarparu adborth llawn ac adeiladol drwy gydol eich astudiaethau.

Bydd y modiwlau Economeg yn rhoi sylfaen cadarn i fyfyrwyr o ran theori, cysyniadau, egwyddorion a thechnegau ym meysydd creiddiol y pwnc: Macro-economeg, Micro-economeg a dadansoddi meintiol. Amcan hyn yw rhoi gwybodaeth sylfaenol dda i fyfyrwyr ynghylch sut mae economi'r DU yn gweithio, a'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Macroeconomic TheoryBS254920 credydau
Microeconomic TheoryBS255020 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
British EconomyBS254720 credydau
Money Banking and FinanceBS255120 credydau
Economics of the EUBS255820 credydau
Managerial EconomicsBS256020 credydau
Introductory EconometricsBS257020 credydau
State, Business and the British Economy in the Twentieth CenturyBS257220 credydau
Digital Games and the Practice of HistoryHS160230 credydau
Making Modern AfricaHS160330 credydau
Modern France, 1789 to the presentHS160530 credydau
Approaches to HistoryHS170130 credydau
Exploring Historical DebateHS170230 credydau
Entangled Histories: Wales and the wider World, 1714 - 1858HS170330 credydau
War, Peace and Diplomacy, c.900-c.1250HS170730 credydau
Reformation and Revolution: Stuart Britain, 1603-1714HS172130 credydau
Blood and Honour: the Viking Age in the WestHS172330 credydau
The British Civil Wars and Revolution, c.1638-1649HS174230 credydau
A Great Leap Forward China Transformed, 1840-presentHS175230 credydau
Europe between the two World WarsHS175330 credydau
From King Coal to Cool Cymru: Society and Culture in Wales, 1939-2000HS175630 credydau
"An Empire for Liberty": Race, Space and Power in the United States, 1775-1898HS176030 credydau
Urban Visions, Rural Dreams: City and Country in Britain and the United States, 1850-2000HS176430 credydau
India and The Raj, 1857-1947HS176530 credydau
The Search for an Asian Modern: Japanese History from 1800 to the Post-War EraHS176830 credydau
Belonging in early modern Europe: identity, community and cultureHS176930 credydau
Martyrs and Collaborators: Catholicism behind the Iron CurtainHS177230 credydau
Europe, East and West, 1945-1995HS177530 credydau
The Soviet Century: Russia and the Soviet Union, 1905-1991HS177630 credydau
A global history of riversHS179430 credydau

Blwyddyn tri

Ym Mlwyddyn 3, byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau Economeg a 60 credyd o fodiwlau Hanes.

Rydym yn cynnig ystod eang o agweddau Economeg i wahanol raddau yn y flwyddyn olaf, ynghyd â chyfle i arbenigo. Bydd gan rai modiwlau elfennau meintiol iddynt, tra bo eraill yn fathemategol o ran eu natur.

Os dymunwch, gallwch ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o'ch dewis chi yn y naill ddisgyblaeth neu’r llall.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Business ApplicationsBS354720 credydau
EconometricsBS355120 credydau
Financial EconomicsBS355420 credydau
International FinanceBS355520 credydau
International Economic HistoryBS355620 credydau
Labour EconomicsBS355820 credydau
Modern Business EnterpriseBS356120 credydau
Macroeconomic AnalysisBS356520 credydau
Microeconomic AnalysisBS356620 credydau
International TradeBS356820 credydau
Applied Macroeconomics and FinanceBS357020 credydau
Economics of BankingBS357120 credydau
Industrial EconomicsBS357220 credydau
Economic Statistics in Theory and PracticeBS357820 credydau
Development EconomicsBS359520 credydau
DissertationHS180130 credydau
Ridicule, Republics, Revolutions: The (Awkward) Enlightenment in EnglandHS180230 credydau
The World of the Anglo-Saxons, c.500-c.1087HS180330 credydau
Kingship: Image and Power, c.1000-1399HS181330 credydau
City Lives: Urban Culture and Society, c.1550-1750HS182630 credydau
Deviants, Rebels and Witches in Early Modern Britain and IrelandHS182830 credydau
Germany's New Order in Europe, 1933-1945HS183230 credydau
Conflict, Coercion and Mass Mobilisation in Republican China 1911-1945HS183830 credydau
Fascism and Anti-Fascism in FranceHS184830 credydau
Race, Sex and Empire: Britain and India, 1765-1929HS185530 credydau
Cymru, y Mudiad Diwygio a Chwyldro Ffrengig 1789HS185730 credydau
Glimpses of the Unfamiliar: Travellers to Japan from 1860 to the Post-War EraHS185830 credydau
Remembering the Holocaust in Germany: Coming to Terms with the Past?HS186430 credydau
Class, Protest and Politics: South Wales, 1918-39HS186830 credydau
Health and Medicine in Early Modern BritainHS187530 credydau
Violence and Ideology in Inter-War Soviet RussiaHS188330 credydau
Czechoslovakia: The View from Central EuropeHS188430 credydau
Europe and the Revolutionary Tradition in the Long Nineteenth CenturyHS188730 credydau
Slavery and Slave Life in North America, 1619-1865HS189030 credydau
The Dangerous City? Urban Society and Culture, 1800-1914HS189630 credydau
The Arts in War and Peace: Culture and Politics in Britain, c.1930-1960HS189730 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Addysgu Iaith Cymraeg

Mae'r rhan o'r radd sy'n dilyn Hanes yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer dysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amodol ar argaeledd staff, mae’r addysgu trwy gyfrwng yn y Gymraeg mewn seminarau ar gael mewn rhai neu’r cyfan o’r prif gyrsiau craidd, a chynigir o leiaf un dewis iaith Gymraeg ym mlynyddoedd dau a thri. Mae goruchwyliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ar gyfer traethodau hir (Archwilio Dadleuon Hanesyddol) a thraethodau estynedig, a gall myfyrwyr ddewis ysgrifennu’r cyfan neu ran o’ch gwaith a asesir a’ch arholiadau yn Gymraeg.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

25%

Astudio annibynnol dan arweiniad

75%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

19%

Astudio annibynnol dan arweiniad

81%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

20%

Astudio annibynnol dan arweiniad

80%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Pennir Tiwtor Personol ar gyfer pob myfyriwr mewn Hanes ac Economeg y gallent drafod eu cynnydd academaidd a'u datblygiad personol.  Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwch yn derbyn adborth drwy waith ysgrifenedig ffurfiannol, trafodaeth seminar, adborth ysgrifenedig ar draethodau, tiwtorialau traethawd, a sesiynau goruchwylio Archwilio Dadl hanesyddol a Traethawd Hir (sy’n cynnwys adborth ysgrifenedig a llafar ar lyfryddiaethau, cynlluniau ymchwil, a phenodau drafft).

Cyflwynir adborth ichi'n gyson mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Caiff gwaith cwrs ei farcio, a chewch adborth ysgrifenedig arno. Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

67%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

33%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

70%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

30%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

73%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

28%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau academaidd ac ymarferol, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd mwy cyffredinol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cyfathrebu a chyflwyno gwybodaeth, dadleuon a syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig (yn unigol ac fel rhan o dîm);
  • gan ddefnyddio TGCh a phecynnau meddalwedd sylfaenol;
  • dod o hyd i wybodaeth rifol berthnasol, ei dehongli a'i chyflwyno – i gefnogi sail adroddiadau prosiect ac achosion busnes;
  • dangos a gwella eich sgiliau rhyngbersonol i'r grŵp/tîmweithio'n fwy effeithiol;
  • sut i gydnabod, cofnodi a chyfathrebu eich sgiliau a'ch gwybodaeth i gwblhau amcanion personol/gyrfaol;
  • sut i reoli eich dysgu a'ch perfformiad (gan gynnwys rheoli amser);
  • dangos ymrwymiad i ddysgu a datblygu’n barhaus.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Credwn mewn rhoi’r cyfleoedd gorau i raddedigion ddod o hyd i gyflogaeth. Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd i helpu myfyrwyr nodi eu sgiliau a’u priodoleddau, ac mae gennym ni ein Swyddog cyflogadwyedd a Lleoliadau’r Gweithle mewnol yn yr Ysgol. Mae rhai o'n graddedigion yn mynd i broffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd academaidd. Mae'r rhan fwyaf, fodd bynnag, yn cystadlu'n llwyddiannus iawn mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill.

Ysgol Busnes Caerdydd

Mae'r rhaglen radd Busnes yn cynnig ystod eang o sgiliau a gaiff eu cymeradwyo gan lawer o gyflogwyr yn sector breifat a'r sector gyhoeddus. Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Yn ogystal â Gwasanaeth Gyrfaoedd anolog y Brifysgol, mae ein myfyrwyr yn elwa o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Lleoliadau ar y campws sy'n eu helpu i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd gwaith a chael mynediad at hyfforddiant, canllawiau a chyngor sy'n benodol i'r diwydiant busnes.

Lleoliadau

Mae'r ddwy Ysgol yn gweld budd mewn cael Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sy'n cefnogi myfyrwyr â chyfleoedd profiad gwaith a chyngor ar yrfaoedd yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 28% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth