Ewch i’r prif gynnwys

Hanes ac Almaeneg (BA)

  • Côd UCAS: VR12
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Ancient History

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod yr Ysgol Ieithoedd Modern a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yw datblygu ac addysgu eu myfyrwyr i fod yn 'ddinasyddion byd-eang'.  Drwy gyfuno Almaengeg a Hanes, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith ac astudiaethau pellach, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol i weithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa

Mae ein rhaglenni Hanes yn rhoi cipolwg i chi ar brosesau newid o’r byd hynafol i’r cyfnod modern. Efallai byddwch yn astudio hanes cymdeithasau mewn rhannau amrywiol o'r byd, gan gynnwys India, Tsieina, yr Almaen, Rwsia, Prydain a Chymru.

Byddwch yn dysgu i feddwl yn annibynnol, asesu cryfderau a gwendidau corff o dystiolaeth hanesyddol dros eich hun, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau yn glir. Bydd ein staff academaidd cyfeillgar wrth law i’ch arwain ac i ddarparu adborth llawn ac adeiladol drwy gydol eich astudiaethau.

Mae'r Almaen yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Almaeneg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol y gymuned Ewropeaidd, ac mae’n iaith diwylliant a diplomyddiaeth ar lefel fyd-eang o hyd.

Yn ogystal â datblygu sgiliau lefel uchel o ran Almaeneg, cewch gyfle i ddatblygu dealltwriaeth ryngddiwylliannol drylwyr sy'n cwmpasu gwybodaeth benodol am ddiwylliant yr Almaen. Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu lefel uchel a sgiliau meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.

Rydym yn cynnig Almaeneg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yr Almaen yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad lle siaredir Almaeneg. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, fydd yn ysgogi menter a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. 

Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol. 

Fel myfyriwr cyd-anrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau ategol sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar. Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yr Almaen.   

Nodweddion nodedig

  • Addysgu dan arweiniad ymchwil, sy’n eich galluogi i ymgysylltu â syniadau newydd sy’n helpu i lunio dyfodol astudiaethau Hanes ac Almaeneg.
  • Addysgu iaith o ansawdd uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol.
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich gwaith dysgu iaith a throchi mewn diwylliant Almaenig.
  • Cwricwlwm â bwa dysgu clir, sy'n defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf ac sy'n cynnig dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant Almaenig
  • Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau
  • Y dewis o leoliad gwaith lle gellir ennill credydau
  • Y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai’n astudio neu’n gweithio yn yr Almaen neu mewn gwlad lle siaredir Almaeneg
  • Amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau yn hyrwyddo dysgu iaith a datblygu eich sgiliau a'ch proffil.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Ieithoedd Modern

Un o ysgolion iethioedd modern fwyaf dynamig y Deyrnas Unedig. Rydym yn ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid er mwyn hyrwyddo manteision amlieithrwydd.

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Rydym yn chwilfrydig am brofiadau bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd a diwylliannau, ac eisiau deall ein gorffennol yn well er mwyn goleuo ein presennol a gwella ein dyfodol.

Gofynion mynediad

ABB-BBB. Mae Hanes Safon Uwch yn ddymunol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Graddau DDM-DMM mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol. Unrhyw bwnc BTEC arall os caiff ei gyfuno â Safon Uwch. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.

Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

Mwy o wybodaeth am feini prawf derbyn ein Hysgolion, y cynllun gwarantu cynnig, newidiadau i raglenni a chyfieithu eich dogfennau.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Y broses ddethol neu gyfweld

Each candidate’s profile is considered as a complete picture, taking into account your interest in and suitability for the degree, as shown in your personal statement and referee’s report, as well as achieved and predicted grades. Your ability to present an argument, evidence of intellectual curiosity and your enthusiasm for and commitment to studying will also be assessed.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae BA mewn Hanes ac Almaeneg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau iaith a hanes ar lefel uchel i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob blwyddyn o’r rhaglen byddwch yn astudio 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 o gredydau mewn Hanes a 60 o gredydau mewn Almaeneg. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yn yr Almaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Almaeneg.

 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac yn rhoi trosolwg i chi o ddau bwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach. Byddwch yn cymryd cyfanswm o 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 o gredydau mewn Hanes a 60 o gredydau mewn Almaeneg.

Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â chymhwyster Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Almaeneg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am Almaeneg. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch. Mae’r holl fyfyrwyr Hanes blwyddyn gyntaf yn cymryd ‘Ymarfer Hanes’ sy’n eich cyflwyno i fframweithiau gwahanol sy’n sail i ymchwil hanesyddol a’r nifer o ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra’n darparu hyfforddiant yn y sgiliau angenrheidiol i arfer hanes ar lefel israddedig. Addysgir y modiwl drwy amrywiaeth o astudiaethau achos o wahanol gyfnodau, o ysgrifau am fywyd canoloesol hyd at yr Almaen dan arweinyddiaeth y Natsïaid ac yna hanes o fewn y cyfryngau heddiw.

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith, sy'n cyflwyno datblygiad yr Almaen fel cenedl i chi, gan archwilio ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Bydd y modiwl yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Mae’r holl fyfyrwyr Hanes blwyddyn gyntaf yn astudio’r un model craidd sy’n cyflwyno fframweithiau gwahanol i chi sy’n sail i ymchwil hanesyddol a’r nifer o ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra’n darparu hyfforddiant yn y sgiliau angenrheidiol i arfer hanes ar lefel israddedig.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn astudio am 60 o gredydau mewn modiwlau Hanes dewisol a 60 o gredydau mewn Almaeneg.

Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi ar gyfer eich blwyddyn dramor. Yn ogystal ag iaith, byddwch yn astudio 30 o gredydau yn edrych ar yr Almaen mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio’n fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cultures in Context (German)ML728230 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir eich trydedd flwyddyn yn yr Almaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Almaeneg. Bydd y flwyddyn dramor yn eich galluogi i fireinio eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Almaenig a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.

Bydd eich dewisiadau’n cynnwys:

  • astudio yn un o'n prifysgolion partner;
  • gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy gynllun y British Council, neu
  • gweithio i sefydliad neu gwmni Almaenig.

Os byddwch yn dewis yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd yn yr Almaen, er enghraifft Berlin, Hamburg, München a Köln.

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y British Council fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r British Council yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Almaeneg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Almaeneg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol. Y mae hefyd yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 o gredydau iaith a 30 o gredydau mewn modiwlau Almaeneg dewisol, yn ychwanegol at 60 o gredydau mewn modiwlau Hanes dewisol. Byddwch yn cael cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau yr ydych wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr y naill Ysgol neu'r llall, a hynny drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae ein modiwl traethawd hir yn y flwyddyn olaf yn rhoi’r dewis i chi ysgrifennu traethawd hir ac ymgysylltu’n ddyfnach â maes y testun a ddewisir, yn ogystal ag ymestyn eich sgiliau ymchwil a dadansoddi.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
High-Level Proficiency in German LanguageML736630 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
DissertationHS180130 credydau
The World of the Anglo-Saxons, c.500-c.1087HS180330 credydau
Sexuality and the Social Order in Medieval EuropeHS180430 credydau
The Military Orders, 1100-1320HS180530 credydau
Kingship: Image and Power, c.1000-1399HS181330 credydau
Deviants, Rebels and Witches in Early Modern Britain and IrelandHS182830 credydau
From Bismarck to Goebbels: Biography and Modern German History, 1870-1945HS182930 credydau
Germany's New Order in Europe, 1933-1945HS183230 credydau
Conflict, Coercion and Mass Mobilisation in Republican China 1911-1945HS183830 credydau
Fascism and Anti-Fascism in FranceHS184830 credydau
Race, Sex and Empire: Britain and India, 1765-1929HS185530 credydau
Wales, the English reform movement and the French Revolution of 1789HS185630 credydau
Glimpses of the Unfamiliar: Travellers to Japan from 1860 to the Post-War EraHS185830 credydau
Socialism, Society and Politics in Britain, 1880-1918HS186030 credydau
Remembering the Holocaust in Germany: Coming to Terms with the Past?HS186430 credydau
Class, Protest and Politics: South Wales, 1918-39HS186830 credydau
Health and Medicine in Early Modern BritainHS187530 credydau
Violence and Ideology in Inter-War Soviet RussiaHS188330 credydau
Czechoslovakia: The View from Central EuropeHS188430 credydau
From Hernando de Soto to the Seven Years' War: Accommodation, Violence and Networks in Native American HistoryHS188930 credydau
The Dangerous City? Urban Society and Culture, 1800-1914HS189630 credydau
The Arts in War and Peace: Culture and Politics in Britain, c.1930-1960HS189730 credydau
Final Year Dissertation - German (in English/Welsh)ML735930 credydau
Final Year Dissertation - German (in German)ML736130 credydau
Screening the City: Berlin on FilmML736230 credydau
The German Idea of HistoryML736330 credydau
The War Against the Jews: Antisemitism, the Holocaust, and Jewish ExperienceRT030830 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach, gweithdai dogfennau a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.

 

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

22%

Astudio annibynnol dan arweiniad

78%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

32%

Astudio annibynnol dan arweiniad

68%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

0%

Astudio annibynnol dan arweiniad

0%

Lleoliadau

100%

Blwyddyn 4

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

31%

Astudio annibynnol dan arweiniad

69%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA mewn Hanes ac Almaeneg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddan nhw ar gael i gyfarfod â myfyrwyr i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer (un o bob Ysgol), a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn eich annog i feddwl am y modd y gallwch adeiladu ar eich cyflawniadau a gwneud cynnydd pellach. Gall eich tiwtor personol hefyd eich cyfeirio at gymorth priodol os ydych yn cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl yr ydych yn ei chael ar bethau.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor. 

Drwy wefan Dysgu Canolog (amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol), byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer. 

Mae gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sydd yn eich cefnogi chi gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau. 

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Rhoddir adborth ar eich gwaith yn aml ac mewn amrywiaeth eang o fformatau, a’i fwriad yw eich helpu chi i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysg, yn ogystal â rhoi arwyddion o sut y gallech wella eich perfformiad mewn arholiadau a gwaith cwrs.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl y cyfnod arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

45%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

52%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

52%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

45%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

0%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

100%

Blwyddyn 4

Arholiadau ysgrifenedig

48%

Arholiadau ymarferol

9%

Gwaith cwrs

44%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
  • Y gallu i esbonio a chymhwyso cysyniadau fel cyfnodoli, hanes cenedlaethol a dulliau cymharol.
  • Y gallu i ddod i gasgliadau am arferion hanesyddol drwy ddefnyddio astudiaethau achos sy'n ymwneud â meysydd penodol o ddadl hanesyddol.
  • Y gallu i wneud cysylltiadau rhwng amrywiaeth o ddeunyddiau ffynhonnell wreiddiol gwahanol, a chysyniadau hanesyddiaeth damcaniaethol a drafodwyd.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes yr Almaen a gwledydd lle siaredir Almaeneg
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg ac Almaeneg.
  • Y gallu i nodi a dehongli amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol.
  • Y gallu i lunio dadansoddiadau a dadleuon yn glir ac yn gryno, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn effeithiol, ac yna eu cyflwyno.
  • Y gallu i nodi cryfderau, gwendidau a phroblemau, neu nodi dehongliadau hanesyddol/hanesiaeth amgen o themâu allweddol.
  • Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau i gychwyn ac ymgymryd â dadansoddiadau o wybodaeth.
  • Y gallu i feddwl yn feirniadol a herio rhagdybiaethau.
  • Y gallu i lunio a chyfiawnhau dadleuon a chasgliadau a chyflwyno tystiolaeth ategol briodol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Y gallu i nodi cryfderau, gwendidau, problemau a/neu nodweddion dehongliadau hanesyddol/hanesiaeth amgen.
  • Y gallu i wahaniaethu rhwng hanes poblogaidd a hanes proffesiynol.
  • Y gallu i egluro prosesau hanesyddol.
  • Sgiliau dadansoddi hanes.
  • Gwybodaeth am themâu eang a datblygiadau a ystyriwyd yn ystod y cwrs drwy astudiaeth achos o ddigwyddiad.
  • Sgiliau rheoli amser a'r gallu i drefnu dulliau astudio a llwyth gwaith yn annibynnol.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Amlygu sgiliau wrth weithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Dadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Arddangos sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Arddangos sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Y gallu i nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol Ieithoedd Modern

Yn 2015-16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod  mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl graddio, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa ragorol mewn diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i adnabod eu sgiliau a'u priodoleddau. Mae graddedigion Hanes yn dod o hyd i waith mewn amrywiaeth eang o gyflogaeth broffesiynol gysylltiedig a heb fod yn gysylltiedig. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, a rhai wedi dod yn haneswyr rhyngwladol honedig.

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

Mae'r ddwy ysgol yn cynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith am gredydau.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 28% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth