Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg (BA)
- Côd UCAS: QQ53
- Derbyniad nesaf: Medi 2021
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Blwyddyn Mynediad
Pam astudio’r cwrs hwn
Drwy gyfuno’r Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Mae’r radd gydanrhydedd yn cynnig y cyfle i ddilyn cwrs astudio ar lefel uwch, gan rannu eich modiwlau rhwng y Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg.
Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.
Mae’r cwricwlwm Llenyddiaeth Saesneg yn cynnig mynediad at holl rychwant llenyddiaeth Saesneg, o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid hyd at yr unfed ganrif ar hugain. Ond ni chyfyngir y cwricwlwm i’r gair printiedig - gan fod y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celfyddyd, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd yn cyffroi’n chwilfrydedd, ac mae’n haddysgu ni’n adlewyrchu’r diddordebau hynny. Er nad yw’r cwrs Llenyddiaeth Saesneg yn cynnwys unrhyw fodiwlau gorfodol, byddwch yn ennill profiad o ystod eang o destunau llenyddol, cyfnodau, mudiadau a genres.
Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ddulliau academaidd.
Nodweddion nodedig
Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:
- y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
- modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
- ystod o fodiwlau craidd a dewisol mewn Llenyddiaeth Saesneg ac sy’n astudio’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
- y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
- y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
- y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
- y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
- cwrs sy’n cynnig traddodiad cryf ym maes ysgrifennu creadigol ac fe addysgir y maes gan awduron sy’n gwneud eu marc ar ddiwylliant cyfoes.
- cwrs a gydnabyddir am ddarllen yng ngoleuni damcaniaethau a sicrhau bod deialog rhwng testunau o bob cyfnod a materion cyfoes o ran rhywedd, hunaniaeth, rhywioldeb, cenedligrwydd, hil, y corff, yr amgylchedd a thechnoleg ddigidol.

Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad iaith, cymdeithas a hunaniaeth yng Nghymru gyfoes drwy addysgu ac ymchwil o'r safon uchaf.
Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Wedi ein pweru gan ymchwil arloesol, rydym yn dathlu chwilfrydedd, yn ymgysylltu mewn trafodaethau gwybodus a dadansoddi beirniadol ac yn eich annog i feddwl yn greadigol - ar draws a thu hwnt i'n disgyblaethau.
Gofynion mynediad
ABB-BBB. Rhaid cynnwys Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg, ac Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
D mewn BTEC ym mhynciau'r Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol, gradd B mewn Iaith Gyntaf neu Ail Iaith Gymraeg Safon Uwch, a gradd B mewn Ysgrifennu Creadigol Safon Uwch, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.
32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn HL Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg. Rhaid bod gennych hefyd gymhwyster Iaith Gymraeg sy'n cyfateb i radd B ar Safon Uwch.
Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.
Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr o'r DU
Ffioedd Dysgu (2021/22) | Blaendal |
---|---|
£9,000 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU, bydd ffioedd dysgu ar gyfer 2021/22 yn unol â'r ffioedd a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)
Ffioedd Dysgu (2021/22) | Blaendal |
---|---|
£17,450 | Dim |
Gwybodaeth am ein ffioedd dysgu
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng y pynciau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021
Blwyddyn un
Byddwch chi’n astudio ar gyfer cyfanswm o 120 credyd - 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg.
Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un y Gymraeg ar ddatblygu sgiliau allweddol (rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith er mwyn datblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.
Fel arfer yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg Safon Uwch fel ail iaith yn dilyn y llwybr ail iaith, ond byddwn yn ystyried eich sgiliau ieithyddol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, cyn penderfynu pa lwybr y byddwch chi’n ei ddilyn.
Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:
- Iaith ac Ystyr
- Awdur, Testun a Darllenydd
- Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
Ar gyfer y llwybr ail iaith y modiwlau craidd yw:
- Sgiliau Llafar
- Defnyddio’r Gymraeg
- Astudio Llenyddiaeth
- Y Gymraeg Heddiw
Blwyddyn sylfaen yw blwyddyn un Llenyddiaeth Saesneg ac fe’i cynlluniwyd i roi ichi’r sgiliau i astudio ar lefel uwch a chael trosolwg o’r pwnc. Bydd yn eich galluogi i wneud dewisiadau deallus o blith modiwlau blynyddoedd dau a thri.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Critical Reading and Critical Writing | SE2146 | 20 credydau |
Ways of Reading | SE2148 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sgiliau llafar | CY1500 | 20 credydau |
Defnyddio'r Gymraeg | CY1501 | 20 credydau |
Y Gymraeg Heddiw | CY1508 | 20 credydau |
Astudio Testunau Llenyddol | CY1512 | 20 credydau |
Iaith ac Ystyr | CY1600 | 20 credydau |
Awdur, Testun a Darllenydd | CY1601 | 20 credydau |
Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes | CY1602 | 20 credydau |
Drama: Stage and Page | SE2139 | 20 credydau |
Star-cross'd Lovers: the Politics of Desire | SE2140 | 20 credydau |
Transforming Visions: Text and Image | SE2142 | 20 credydau |
Creative Reading | SE2144 | 20 credydau |
Creative Writing | SE2145 | 20 credydau |
Transgressive Bodies in Medieval Literature | SE2147 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg.
Ym mlwyddyn dau y Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.
Yn ogystal â’r elfennau craidd hyn, mae cwrs y Gymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, megis cynllunio ieithyddol, sgriptio a chyfieithu.
Nid oes modiwlau gorfodol ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg yn yr ail flwyddyn. Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau sy’n seiliedig ar gyfnod, genre neu thema, a byddwch chi’n darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.
Gallai'r rhain gynnwys modiwlau fel Shakespeare a Drama’r Dadeni, y Nofel yn yr Oes Ramantaidd, Ffuglen a Barddoniaeth o Gymru, yn ogystal â Ffyrdd o Ddarllen, De America mewn Llenyddiaeth a Ffilm neu Ysgrifennu Creadigol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Yr Iaith ar Waith | CY2205 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sgiliau Academaidd Uwch | CY2210 | 20 credydau |
Llenyddiaeth Plant | CY2310 | 20 credydau |
Ysgrifennu Creadigol | CY2360 | 20 credydau |
Bywydau Llên | CY2425 | 20 credydau |
Tafodieitheg | CY2450 | 20 credydau |
Sosioieithyddiaeth | CY2530 | 20 credydau |
Treftadaeth a Thwristiaeth | CY2665 | 20 credydau |
Style and Genre | SE1416 | 20 credydau |
Medieval Arthurian Literature | SE2295 | 20 credydau |
Modernist Fictions | SE2445 | 20 credydau |
Children's Literature: Form and Function | SE2447 | 20 credydau |
Introduction to Romantic Poetry | SE2450 | 20 credydau |
African-American Literature | SE2451 | 20 credydau |
Imaginary Journeys: More to Huxley | SE2457 | 20 credydau |
Modernism and the City | SE2463 | 20 credydau |
Gothic Fiction: The Romantic Age | SE2468 | 20 credydau |
Romanticism, Politics, Aesthetics | SE2469 | 20 credydau |
Literature and Science | SE2471 | 20 credydau |
Seventeenth and Eighteenth Century Women Writers | SE2476 | 20 credydau |
Shakespeare's Tragedies and Histories | SE2477 | 20 credydau |
Girls | SE2482 | 20 credydau |
Object Women in Literature and Film | SE2494 | 20 credydau |
Renaissance Poetry, Prose and Drama: The Principal Genres, Issues and Authors | SE2497 | 20 credydau |
Decadent Men, 1890s-1910s: Wilde to Forster | SE2498 | 20 credydau |
Scandal and Outrage: Controversial Literature of the Twentieth and Twenty-First Centuries | SE2613 | 20 credydau |
Chaucer's Gender Politics: Chivalry, Sex and Subversion in the Canterbury Tales | SE2618 | 20 credydau |
Experimental Early Modern Drama | SE2620 | 20 credydau |
Philosophy and Literature | SE2623 | 20 credydau |
Jane Austen in Context | SE2625 | 20 credydau |
Blwyddyn tri
Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg.
Ym mlwyddyn tri y Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:
- Blas ar Ymchwil
- Ymchwilio Estynedig
Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau (20 credyd) neu 9,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.
Erbyn y drydedd flwyddyn byddwch wedi cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genre a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn dadansoddi cyd-destunau a thestunau ynghyd â’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Felly byddwch mewn sefyllfa ardderchog i ddewis rhwng amrywiaeth mwy arbenigol o fodiwlau Llenyddiaeth Saesneg sy'n ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod o ran awduron a thestunau cyfarwydd ac efallai rai anghyfarwydd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Llenyddiaeth Plant | CY3310 | 20 credydau |
Ysgrifennu Creadigol | CY3360 | 20 credydau |
Bywydau Llên | CY3425 | 20 credydau |
Tafodieitheg | CY3450 | 20 credydau |
Sosioieithyddiaeth | CY3530 | 20 credydau |
Yr Ystafell Ddosbarth | CY3660 | 20 credydau |
Treftadaeth a Thwristiaeth | CY3665 | 20 credydau |
Cyfieithu Proffesiynol | CY3705 | 20 credydau |
Blas ar Ymchwil | CY3900 | 20 credydau |
Ymchwilio Estynedig | CY3905 | 40 credydau |
The Graphic Memoir | SE1409 | 20 credydau |
Dialect in Literature and Film | SE1413 | 20 credydau |
Dissertation | SE2524 | 20 credydau |
Hitchcock | SE2544 | 20 credydau |
Modern Drama: Page, Stage, Screen | SE2551 | 20 credydau |
Gender and Monstrosity: Late/Neo Victorian | SE2564 | 20 credydau |
Utopia: Suffrage to Cyberpunk | SE2581 | 20 credydau |
Second-generation Romantic Poets | SE2582 | 20 credydau |
Bluestockings, Britannia, Unsexed Females: Women in Public Life, 1770-1800 | SE2588 | 20 credydau |
Gothic Fiction: The Victorians | SE2589 | 20 credydau |
Postcolonial Theory | SE2593 | 20 credydau |
Visions of Past and Future in Children's Literature | SE2595 | 20 credydau |
Island Stories: Literatures of the North Atlantic | SE2598 | 20 credydau |
Medieval Romance: Monsters and Magic | SE2599 | 20 credydau |
American Poetry after Modernism | SE2606 | 20 credydau |
The American Short Story | SE2609 | 20 credydau |
Apocalypse Then and Now | SE2611 | 20 credydau |
Criminal Shakespeare | SE2612 | 20 credydau |
Writing Nature from Romanticism to the Present | SE2614 | 20 credydau |
Representing Race in Contemporary America | SE2616 | 20 credydau |
Love, Death and Marriage in Renaissance Drama | SE2622 | 20 credydau |
Activist Poetry: Protest, Dissent, Resistance | SE2627 | 20 credydau |
Contemporary British Political Drama | SE2628 | 20 credydau |
Visions of the Future: Climate Change & Fiction | SE2630 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Rydym ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.
Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn arbennig yn achos y llwybr ail-iaith).
Blwyddyn 1
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
27%
Astudio annibynnol dan arweiniad
73%
Lleoliadau
0%
Blwyddyn 2
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
0%
Astudio annibynnol dan arweiniad
0%
Lleoliadau
0%
Blwyddyn 3
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
0%
Astudio annibynnol dan arweiniad
0%
Lleoliadau
0%
Sut y caf fy nghefnogi?
Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.
Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol ar arholiadau yn dilyn cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.
Blwyddyn 1
Arholiadau ysgrifenedig
25%
Arholiadau ymarferol
8%
Gwaith cwrs
67%
Blwyddyn 2
Arholiadau ysgrifenedig
0%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
0%
Blwyddyn 3
Arholiadau ysgrifenedig
0%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
0%
Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:
- ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
- gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
- cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
- cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
- gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Rydym yn darparu profiad academaidd hynod foddhaol i’n myfyrwyr er mwyn cynorthwyo eu datblygiad fel dinasyddion sy’n meddwl yn feirniadol ac sy’n ymwybodol yn ddiwylliannol. Y mae eu sgiliau dadansoddol uchel, eu pwerau mynegiant a’u hunanddibyniaeth flaengar yn eu gwneud yn hynod o ddeniadol i gyflogwyr.
Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig.
Mae gan raddedigion Llenyddiaeth Saesneg sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.
Yn 2016/17, dywedodd 91% o raddedigion Ysgol y Gymraeg oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio, a dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Lleoliadau
Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.