Ewch i’r prif gynnwys

Biocemeg (MBiochem)

  • Côd UCAS: 386N
  • Derbyniad nesaf: Medi 2021
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae ein cwrs gradd integredig Meistr mewn Biocemeg ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn ymchwil neu sy'n gobeithio cael gyrfa ym maes gwyddoniaeth. Mae'r cwrs gradd pedair blynedd hwn yn galluogi myfyrwyr i archwilio ffiniau presennol ein gwybodaeth yn eu dewis nhw o faes, ac yn gyfle iddynt hyfforddi mewn uwch-dechnegau ymchwil.

Astudiaeth o systemau biolegol a sut maen nhw’n gweithredu ar lefel moleciwlaidd yw biocemeg, ac mae hefyd yn cynnwys bioleg celloedd a bioleg ddatblygiadol. Mae'n bwnc sydd â hanes cyfoethog o ddarganfyddiadau gwyddonol, o ensymoleg a llwybrau metabolaidd i ganfod genynnau a strwythur DNA. Heddiw mae’r pwnc yn rhoi sylw i feysydd newydd pwysig, megis genomeg, systemau a bioleg synthetig ac mae’n ganolog i bob agwedd ar fioleg.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am y rôl allweddol y mae gwyddorau biocemeg a biomoleciwlaidd yn cyfrannu at ddatblygiadau yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys meddygaeth a biotechnoleg. Cewch hyfforddiant ymarferol helaeth mewn technegau labordy ac (yn dibynnu ar ddewis modiwl ac argaeledd) ymchwil maes, yn ogystal â phrofiad ymarferol o sgiliau trosglwyddadwy eang ym maes cyfrifiadura, ystadegau, dadansoddi data a chyflwyno.

Mae’r rhaglen yn cyfuno dealltwriaeth wyddonol gyda datblygiad sgiliau academaidd (arfarnu beirniadol, gwerthuso a dadansoddi data) ynghyd â datblygiad sgiliau ymarferol, cyflwyno ac ysgrifenedig mewn cyd-destun gwyddonol. Yn y pen draw, nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sy'n llysgenhadon cyflogadwy, gwybodus, amryddawn a brwdfrydig ar gyfer gwyddoniaeth.

Bydd y wybodaeth a’r sgiliau y byddwch chi’n eu datblygu yn ystod eich gradd Biocemeg yn eich gwneud yn gyflogadwy mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd ym mhob maes yn y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau moleciwlaidd, gan gynnwys y diwydiannau fferyllol, ymchwil, cyhoeddi ac addysgu. Bydd y sgiliau dadansoddol a’r sgiliau eraill y byddwch chi’n eu meithrin ar y cwrs hefyd yn sylfaen wych ar gyfer llawer o lwybrau gyrfaol eraill y tu allan i wyddoniaeth. Fel arall, efallai y byddwch am barhau â’ch astudiaethau gyda gradd uwch.

Nodweddion nodedig

Mae gan ein graddau gysylltiad agos â diddordebau ymchwil y staff sy’n eu haddysgu, gan eich caniatáu i brofi cyffro dysgu mewn amgylchedd ymchwil gweithredol. Rydym yn denu llawer iawn o arian ymchwil allanol a bydd hynny’n caniatáu ichi wneud defnydd o’r offer, y technegau a'r cyfleusterau diweddaraf yn eich gwaith prosiect. Mae'r Ysgol hefyd yn cynnal Gorsaf Maes yn Borneo gyda staff yno'n barhaus. Yn ogystal, mae'n arwain Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, gan ganiatáu mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi cyffrous.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig lefel uchel o hyblygrwydd gyda dewis y myfyrwyr wrth ei wraidd. Chi sydd i ddewis beth fydd trywydd eich profiad academaidd. Gallwch ddewis arbenigo mewn maes penodol neu barhau ag amrywiaeth eang o ddysgu gan astudio’r ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n sail i lawer o lwyddiant yr Ysgol.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Biowyddorau

Rydym yn darparu amgylchedd addysgu ysgogol gyda chyfleusterau modern trawiadol, yr offer diweddaraf a staff o'r radd flaenaf.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4296
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Gofynion mynediad

AAA-AAB. Rhaid cynnwys Bioleg (neu Fioleg Ddynol) neu Gemeg. Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.  

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, Gwyddoniaeth Fforensig, neu Reoli Anifeiliaid.

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.


Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2021/22)

Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.

Costau ychwanegol

Mae'r holl gyrsiau maes sy'n digwydd dramor yn golygu costau ychwanegol – yn bennaf ar gyfer llety a theithio’r myfyrwyr. Rydym yn ymdrechu i gadw'r rhain cyn lleied â phosibl, er enghraifft rydym yn cadw ein Gorsaf Maes a’n staff ein hunain yn Borneo, ac nid yw’r costau hyn yn cael eu hadfer o ffioedd i fyfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnig rhai cyrsiau maes ardderchog yng Nghymru nad ydynt yn arwain at gostau ychwanegol.

Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer agweddau eraill ar hyfforddiant, er y gallai rhai gwasanaethau (fel myfyrwyr yn argraffu yn ôl y galw) godi ffi.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.

Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs MBiochem hwn yn un amser llawn dros gyfnod o bedair blynedd academaidd (pum mlynedd gan gynnwys yr opsiwn o gael Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol), ac enillir 120 credydau bob blwyddyn. Mae'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd, gyda'r tri modiwl 40 credyd yn cael eu haddysgu yn yr ail flwyddyn. Yn y drydedd flwyddyn, mae’r prosiect ymchwil yn cario 30 o gredydau ac yn cael ei wneud ochr yn ochr â thri modiwl 30 credyd. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn astudio dau fodiwl 20 credyd ac yn cynnal prosiect ymchwil gwerth 80 o gredydau.

Mae modiwlau blwyddyn un yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial ategol sy’n darparu gwybodaeth ddamcaniaethol gefndir yn ogystal â dosbarthiadau ymarferol. Mae ein cynlluniau gradd amrywiol yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin, sy’n rhoi sylw i’r holl agweddau ar fiowyddoniaeth ac mae ganddo’r fantais o gynnig hyblygrwydd o ran eich dewis gradd. Mae dosbarthiadau’n rhoi sgiliau TG biolegwyr i fyfyrwyr a dealltwriaeth o ddadansoddi data yn ystadegol, a defnyddir gwaith cwrs i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.

Yn yr ail flwyddyn, cynigir modiwlau ar draws ystod eang o bynciau. Ym mhob achos, mae sesiynau ymarferol labordy helaeth yn helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a’r gallu i werthuso data arbrofol yn feirniadol. Defnyddir aseiniadau a osodwyd a deunydd darllen i hyrwyddo dysgu hunangyfeiriedig a dadansoddi llenyddiaeth ymchwil sylfaenol.

Yn y drydedd flwyddyn, mae angen astudio'n llawer mwy annibynnol, ac mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr baratoi adroddiad cynhwysfawr sy’n seiliedig ar ymchwil (labordy, llenyddiaeth, addysgeg, neu ymrwymiad gwyddonol). Rydym yn ymdrechu i gynnig dewis mor eang â phosibl i’ch caniatáu i deilwra eich gradd i’ch nodau astudio.

Bydd y modiwlau a addysgir yn y flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar uwch-dechnegau ymchwil, sgiliau chwilio llenyddiaeth a dadansoddi, trafod a gwerthuso'n feirniadol mewn grwpiau, ynghyd â chynllunio gwaith arbrofol. Bydd modiwl y prosiect ymchwil yn gofyn i chi ymgolli'n llwyr mewn gwaith ymchwil mewn labordy am gyfnod o 6 mis.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2021/22. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2021

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn flwyddyn gyffredin, sy’n cwmpasu pob agwedd ar y biowyddorau. Bwriad hyn yw adlewyrchu’r ffaith fod ymchwil biowyddoniaeth yn gynyddol yn faes amlddisgyblaethol.

Bydd y flwyddyn gyntaf gyffredin yn trwytho myfyrwyr yn y pynciau hanfodol, gan gynnwys modiwl Cemeg Biolegol sy’n cyflwyno pynciau ar ryngwyneb cemeg/bioleg ac archwilio technegau dadansoddi modern. Mae elfennau Biocemegol y cwrs yn y flwyddyn gyntaf yn cynnwys pynciau fel strwythur a swyddogaeth proteinau (gan gynnwys ensymau), strwythur a dyblygu DNA, trefniant a mynegiant genynnau, technegau trin geneteg, biocemeg carbohydrad a lipidau, ac agweddau allweddol ar fetaboledd.

Cyflwynir y maes llafur modiwlaidd, modern drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, cyflwyniadau a dosbarthiadau ymarferol a gynhelir mewn labordai mawr, gyda chyfleusterau da. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg biolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu medrau gwyddonol ymarferol ac academaidd. Efallai y bydd modiwlau’n gorgyffwrdd ag astudiaethau Safon Uwch ar y cychwyn, ond buan iawn y byddant yn datblygu o ran dyfnder a chwmpas.

Mae system y flwyddyn gyntaf gyffredin yn cynnig mantais fawr o ran rhoi hyblygrwydd mewn perthynas â dewis gradd i chi. Nod y dull hwn yw eich gwneud yn agored i holl feysydd y biowyddorau, fel eich bod yn gallu gweithredu’n well yn y disgyblaethau biowyddoniaeth sy’n fwyfwy rhyngddisgyblaethol. Mae strwythur cyffredin y flwyddyn gyntaf yn eich caniatáu i ehangu ffocws eich pynciau yn yr ail flwyddyn, os byddwch yn dymuno, neu barhau i ganolbwyntio ar un ddisgyblaeth benodol.

Blwyddyn dau

Bydd eich ail flwyddyn yn rhoi mwy o bwyslais ar sail arbrofol biocemeg a meysydd perthnasol yn y gwyddorau biomoleciwlaidd fel bioleg foleciwlaidd, bioleg celloedd a bioleg ddatblygiadol. Byddwch yn ymgymryd ag ymarferion sy’n ymdrin â thechnegau ymchwil modern fel trin a dadansoddi DNA ailgyfunol, biocemeg proteinau a lipidau a microbioleg, gyda phwyslais cryf ar ddadansoddi a dehongli data.

Byddwch hefyd yn adeiladu ar eich gwybodaeth o flwyddyn un i ddatblygu sylfaen gadarn ym meysydd mwy datblygedig swyddogaeth genynnau, geneteg foleciwlaidd, biocemeg proteinau, metabolaeth, bioleg celloedd, datblygiad, esblygiad a signalau celloedd.

Bydd hyn yn sicrhau fod gennych y sgiliau a’r ymwybyddiaeth hanfodol o ran technegau allweddol am ba bynnag agwedd ar fiocemeg fydd eich maes arbenigedd o ddewis, ym mlwyddyn olaf y cwrs ac yn eich gyrfa ddilynol.

Yn yr ail flwyddyn, mae gennych ddewis o dri o hyd at 12 modiwl sydd ar gael, gan roi cyfanswm o 120 Credyd.

Yn ystod yr ail flwyddyn, gallwch hefyd newid i radd Meistr pum mlynedd gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol, a gaiff ei chymryd ar ôl yr ail flwyddyn, yn amodol ar gael gafael ar leoliad hyfforddiant priodol.

Blwyddyn tri

Yn y drydedd flwyddyn, bydd pwyslais cryf ar ddysgu annibynnol a gallwch ymchwilio i feysydd sy’n bwysig ar hyn o bryd ym maes biocemeg megis bioleg synthetig a strwythur proteinau, peirianneg enetig, bioleg bôn-gelloedd a pheirianneg meinweoedd. Bydd eich sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu ymhellach yn ystod eich prosiect sy’n eich caniatáu i ymchwilio i bwnc yn llawer mwy manwl.

Bydd sesiynau tiwtorial a seminarau ymchwil ar agweddau ehangach ar y pwnc, gan gynnwys eu cymwysiadau meddygol a diwydiannol, yn estyn cwmpas eich dysgu.

Yn ogystal â phrosiect ymchwil 30 credyd, byddwch yn cwblhau tri modiwl 30 credyd. Mae'r modiwlau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys bioleg synthetig a llunio protein, bioleg celloedd uwch, biowybodeg a genomeg swyddogaethol, a genynnau a genomau.

Blwyddyn pedwar

Mae blwyddyn olaf y cwrs Meistr yn cynnwys prosiect ymchwil weithredol estynedig mewn labordy, a hyfforddiant pellach mewn uwch-dechnegau ymchwil ynghyd â modiwl astudiaethau uwch. Bydd eich prosiect yn un newydd ac annibynnol a gynhelir mewn labordy ymchwil, ac mae'n bosibl y bydd y canlyniadau'n ddigon clodwiw i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddoniaeth, cyfrannu i gyhoeddiad neu sbarduno crynswth newydd o waith ymchwil o ganlyniad. Byddwch yn cael hyfforddiant a chefnogaeth â'ch prosiect gan ymchwilwyr, a bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i ymchwilio ymarferol gwyddonol. Bydd y fath arbenigedd a gwybodaeth mewn meysydd yr ydym wedi eu datblygu hyd y flwyddyn yn cyfrannu i wneud graddedigion yn gyflogadwy tu hwnt yn y sector ymchwil a'r sector masnachol biowyddoniaeth fel ei gilydd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae Ysgol y Biowyddorau yn cynnig profiad addysgol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn seiliedig ar ragoriaeth academaidd. Yn anad dim, mae’r profiad addysgol yn cael ei lywio a’i arwain gan ymchwil flaenllaw, ac mae myfyrwyr a chyrff proffesiynol yn ei ganmol i'r cymylau. Rydym yn ceisio cefnogi pob dysgwr mewn diwylliant dysgu cynhwysol.

Ar y cwrs Biocemeg, byddwch yn caffael gwybodaeth graidd a dealltwriaeth drwy gyfrwng darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol, seminarau ymchwil, gweithdai a sesiynau tiwtorial. Byddwch yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth ar lefel uwch drwy astudio annibynnol, gwaith grŵp a gwaith prosiect.

Disgwylir i fyfyrwyr gynnal astudiaeth annibynnol a disgwylir mwy o annibyniaeth o ran dysgu wrth i'r cwrs fynd rhagddo.

Gall fod elfennau dethol o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae myfyrwyr hefyd yn gallu gofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer cymorth academaidd a chymorth bugeiliol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob aelod o’r staff academaidd yn Ysgol y Biowyddorau yn ymchwilwyr profiadol yn eu priod feysydd ac maen nhw’n angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda myfyrwyr.

Bydd y rhyngweithio sylfaenol â staff academaidd yn digwydd yn ystod darlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (sesiynau tiwtorial). Bydd myfyrwyr hefyd yn cael tiwtor personol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol a chyngor academaidd drwy gydol y cwrs.

Gellir cysylltu â staff darlithio mewn perthynas â sesiynau addysgu neu drwy ebost, ac maen nhw’n gweithredu polisi ‘drws agored’ ar gyfer myfyrwyr ag ymholiadau penodol am ddeunydd cwrs, neu system ar gyfer cadw lle ar gyfer cyfarfod. Hefyd, mae gan bob cynllun gradd gydlynydd cynllun gradd sy'n gallu rhoi cyngor ar faterion academaidd. Mae gan bob blwyddyn astudio gydlynydd blwyddyn a all roi cyngor ar faterion gweinyddol sy'n ymwneud â’r cwrs astudio. Hefyd, mae Swyddfa Israddedig hwylus gyda gweinyddwyr cyfeillgar a phrofiadol a all ateb y rhan fwyaf o ymholiadau gweinyddol hefyd.

Adborth
Bydd adborth ar eich astudiaeth, eich gwaith a’ch cynnydd ar sawl ffurf, o sylwadau ysgrifenedig ffurfiol ar eich gwaith a gyflwynwyd i sgyrsiau mwy anffurfiol a chyngor yn ystod dosbarthiadau a sesiynau ymarferol, neu gan eich Tiwtor Personol. Drwy gydol y cwrs, byddwn yn rhoi adborth manwl ar yr holl waith cwrs a asesir. Fel arfer, darperir hyn ar-lein drwy system 'Grademark', sy'n eich galluogi i weld eich adborth yn gyfleus trwy ddyfais tabled neu gyfrifiadur. Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich cynnydd academaidd a’ch datblygiad personol gyda'ch Tiwtor Personol, a thrafod papurau arholiad traethawd er mwyn gwella eich perfformiad. Yn ystod y prosiect ymchwil a gwaith ymarferol, cewch adborth ychwanegol yn rheolaidd gan y staff academaidd sy’n eich goruchwylio.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
  • casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
  • meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
  • gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
  • cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
  • perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
  • rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau;
  • trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
  • cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
  • trafod materion cyfredol ynghylch ymchwil, astudiaethau a/neu drafodaethau, gan ddatblygu beirniadaeth ystyrlon;
  • cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
  • pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
  • integreiddio syniadau a chysyniadau i ragfynegi, ffurfio a gwerthuso damcaniaethau newydd;
  • cynnal amrywiaeth o sgiliau ymarferol labordy a sgiliau maes mewn modd cywir a chyson;
  • integreiddio arsylwadau empeiraidd â theori, gan roi gwybodaeth o'r labordy ar waith yn y maes;
  • cymhwyso technegau ymchwil cyfoes i ddatrys problemau biolegol;
  • dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth).

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae ein gradd Meistr ar gyfer ymchwilwyr brwd a'r rheiny sy'n gobeithio cael gyrfa mewn gwyddoniaeth. Mae'r cymwyseddau a ddatblygir gydol y cwrs yn gweddu'n berffaith i yrfaoedd uchel mewn meysydd sy'n gysylltiedig ag ymchwil (e.e. astudio ar gyfer PhD neu weithio mewn diwydiant).

Mae gan ein graddedigion hefyd lefelau uchel o gymhwysedd mewn llu o sgiliau trosglwyddadwy sy’n ddeniadol i amrywiaeth mawr o gyflogwyr ym meysydd mwy cyffredinol diwydiant, masnach, gwasanaethau cyhoeddus, gweinyddu a rheoli. Yn olaf, gall gradd mewn Biocemeg fod yn gam at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio, gwyddoniaeth filfeddygol neu gyfrifydda.

Lleoliadau

Nid yw'r cwrs pedair blynedd hwn yn cynnwys unrhyw leoliadau gwaith ffurfiol. Fodd bynnag, rydym yn annog myfyrwyr yn gryf i ymgymryd â lleoliadau gwaith anffurfiol yn ystod gwyliau'r haf er mwyn gwella'u cyflogadwyedd. Mae'r Ysgol yn gallu eich helpu i ddod o hyd i leoliadau gwaith drwy Gynghorydd Cyflogadwyedd yr Ysgol.

Gwaith maes

Mae gwaith maes yn bosibl fel rhan o rai modiwlau, gan gynnwys profiad gwaith maes estynedig fel rhan o’n modiwl cadwraeth ac ecoleg yn yr ail flwyddyn.

Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau maes arbenigol, yn seiliedig ar gyrsiau sy’n cael eu rhedeg mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae ein hystod o gyrsiau maes fel arfer yn cynnwys Bioamrywiaeth Fforest Law (Borneo), Ecoleg Morol Trofannol (Tobago a Borneo), Ecoleg Morydol (Aber Hafren), Ecoleg Afon (Caerdydd), ac Ecoleg Llawr y Goedwig (Caerdydd). Mae pob un o'r cyrsiau maes hyn yn cynnwys prosiect ymchwil annibynnol, sydd yn aml yn cynnwys ymddygiad neu ecoleg anifeiliaid.

Gan ddibynnu ar ddewisiadau modiwl, argaeledd a chyfyngiadau amserlennu, efallai y bydd myfyrwyr Biocemeg yn cael yr opsiwn o gymryd un o’n cyrsiau maes.

Ar adegau, gall cyrsiau maes gael eu heffeithio gan gyfyngiadau teithio, argaeledd staff neu rifau.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth