Ewch i’r prif gynnwys

Y Gymraeg (BA) Rhan-amser

Blwyddyn Mynediad


Mae ein BA yn y Gymraeg yn rhaglen radd sy’n berthnasol i’r Gymru gyfoes ac sy’n cael ei dysgu gan un o’r ysgolion academaidd mwyaf blaenllaw o’i math.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Welsh students

Trosolwg y cwrs

Nod y rhaglen hon yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant. Bydd gan ein graddedigion hefyd lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Wrth inni anelu at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 mae mwy o angen nag erioed am raddedigion sydd â’r fath ddealltwriaeth a sgiliau. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol hefyd yn hynod ddeniadol i gyflogwyr, sy’n golygu bod cyfle unigryw gennych i sicrhau gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol ac economaidd y Gymru gyfoes.

Dyma gwrs tair blynedd ag iddo ddau lwybr, un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf, ac un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith. Yn y flwyddyn gyntaf bydd y carfanau hyn yn cael eu haddysgu ar wahân gan mwyaf cyn dod ynghyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r modiwlau yn ystod blwyddyn dau. Yn y flwyddyn olaf, addysgir pawb gyda'i gilydd.

Bydd ystod o fodiwlau craidd a dewisol ym maes iaith, llenyddiaeth, diwylliant a threftadaeth ar gael ichi yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu alwedigaethol.  Cewch gyfle i fynd ar brofiad gwaith ym Mlwyddyn 2 er mwyn datblygu eich hyder a’ch sgiliau proffesiynol, ac ym Mlwyddyn 3 bydd cyfle i ymgymryd â thraethawd neu brosiect ymchwil ar bwnc o’ch dewis chi ym maes y Gymraeg.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:

  • y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
  • modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
  • ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
  • y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
  • y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
  • y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
  • y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn

Cyflwyno cais ar gyfer 2019 neu 2020

Côd UCASMynediad uniongyrchol
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd6 blwyddyn
Modd (astudio)Rhan-amser
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer mae 30 lle ar gael yn yr Ysgol.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae’r Ysgol yn derbyn tua 100 o geisiadau.

Gofynion mynediad

BBC, yn cynnwys Cymraeg (iaith gyntaf). Nid oes gofynion penodol o ran pynciau eraill, ond rhaid i’r graddau Safon Uwch gynnwys o leiaf dau bwnc academaidd traddodiadol. BBB, yn cynnwys Cymraeg (ail iaith). Nid oes gofynion penodol o ran pynciau eraill, ond rhaid i’r graddau Safon Uwch gynnwys o leiaf dau bwnc academaidd traddodiadol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Pasio’r Diploma Uwch gyda B yn y craidd, yn ogystal â graddau BC yn Safon Uwch, gan gynnwys B yn y Gymraeg (iaith gyntaf). Pasio’r Diploma Uwch gyda B yn y craidd, yn ogystal â graddau BB yn Safon Uwch, gan gynnwys Cymraeg (ail iaith).

30 pwynt gan gynnwys o leiaf 5 mewn Cymraeg ar y Lefel Uwch.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol y Gymraeg.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd croeso i geisiadau gan rai sy’n cynnwys cymwysterau amgen. Gallwch weld meini prawf derbyn myfyrwyr ar gyfer y rhaglen radd hon ar-lein. Gall ymgeiswyr sydd heb astudio Cymraeg Safon Uwch fod yn gymwys os bydd eu Cymraeg o safon gyfatebol. Cysylltwch â’r Ysgol i drafod.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£3,500Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£8,725Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Nodwedd ddeniadol o’n cwrs yw ei hyblygrwydd- gallwch arbenigo mewn astudiaethau llenyddol, canoloesol a/neu fodern, neu gallwch chi astudio cyfuniad o fodiwlau yn adlewyrchu eich diddordebau academaidd eich hun a’ch anghenion galwedigaethol.

Bydd myfyrwyr amser llawn yn cwblhau 360 credyd dros gyfnod o 3 blynedd, fel arfer drwy astudio 120 credyd ymhob blwyddyn. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn medru ennill credydau dros gyfnod o hyd at 8 mlynedd. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r hyn sy'n cyfateb i Blwyddyn ar sail amser llawn. Byddant wedyn yn astudio rhwng 40 ac 80 credyd bob blwyddyn. Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau’n werth 20 credyd.

Cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol (cymraeg@caerdydd.ac.uk) er mwyn trafod y dewisiadau sydd ar gael. Ewch i fanylion y cwrs gradd B.A. Cymraeg amser llawn am wybodaeth gyffredinol am gynnwys y radd.

Nodwch mai gradd ran-amser yw hon ac nid cwrs allanol. Mae myfyrwyr rhan-amser yn dilyn yr un dewisiadau modiwlau ac amserlen â’u cymheiriaid amser llawn. Mae myfyrwyr amser-llawn a rhan-amser yn cael eu dysgu yn yr un dosbarthiadau. Yr unig wahaniaeth rhwng astudio’n llawn amser a rhan-amser yw hyd y cwrs.  

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Mae myfyrwyr rhan-amser fel arfer yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r cam nesaf o'r rhaglen, gan ddilyn 60 credyd y flwyddyn. Cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol (cymraeg@caerdydd.ac.uk) er mwyn trafod yr opsiynau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau llafarCY150020 credydau
Defnyddio'r GymraegCY150120 credydau
Y Gymraeg HeddiwCY150820 credydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau
Herio'r Traddodiad LlenyddolCY160320 credydau
Mapio'r CymryCY175220 credydau
Ysgrifennu Creadigol a PhroffesiynolCY175320 credydau

Blwyddyn dau

Mae myfyrwyr rhan-amser fel arfer yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r cam nesaf o'r rhaglen, gan ddilyn 60 credyd y flwyddyn. Cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol (cymraeg@caerdydd.ac.uk) er mwyn trafod yr opsiynau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau llafarCY150020 credydau
Defnyddio'r GymraegCY150120 credydau
Y Gymraeg HeddiwCY150820 credydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau
Herio'r Traddodiad LlenyddolCY160320 credydau
Mapio'r CymryCY175220 credydau
Ysgrifennu Creadigol a PhroffesiynolCY175320 credydau

Blwyddyn tri

Mae myfyrwyr rhan-amser fel arfer yn cymryd dwy flynedd i gwblhau'r cam nesaf o'r rhaglen, gan ddilyn 60 credyd y flwyddyn. Cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol (cymraeg@caerdydd.ac.uk) er mwyn trafod yr opsiynau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau Academaidd UwchCY221020 credydau

Blwyddyn pedwar

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau Academaidd UwchCY221020 credydau

Blwyddyn pump

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 credydau

Blwyddyn chwech

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd megis gweithio mewn tîm, ymchwilio yn annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Ond mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn arbennig yn achos y llwybr ail-iaith).

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio o dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu.

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a chanolfannau llyfrgelloedd ac adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth unigol ar arholiadau yn dilyn cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.

Sut caf fy asesu?

Mae ein cyrsiau wedi eu cynllunio’n ofalus i sicrhau eich bod yn profi ystod o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs, arholiadau/profion dosbarth ysgrifenedig, traethodau hir, portffolios, adroddiadau ysgrifenedig, ac arholiadau llafar.

Mae’r Ysgol yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ddarparu adborth i fyfyrwyr, gan gynnwys adborth ar lafar ar dasgiau ym mlwyddyn un; adborth mewn seminarau grŵp a gweithdai, gwersi unigol a sesiynau tiwtorial un i un ym mlynyddoedd dau a thri, yn ogystal â sylwadau ysgrifenedig ar asesiadau.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun 

Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch chi’n gallu:

  • dangos sgiliau deallusol sy’n golygu bod modd darllen yn fanwl, disgrifio, dadansoddi a chynhyrchu gwahanol fathau o destunau (gan gynnwys cynhyrchu testunau yn y maes ysgrifennu creadigol yn achos rhai myfyrwyr)
  • dadansoddi rôl greiddiol iaith wrth greu ystyr a grym effeithiol ar iaith
  • gwerthfawrogi sut mae rhagdybiaethau diwylliannol yn effeithio o greu safbwynt
  • gwerthuso testunau, cysyniadau a damcaniaethau perthnasol ym maes Cymraeg a’u trafod gan ddefnyddio iaith addas
  • dangos dealltwriaeth o amrywiaeth o destunau o wahanol gyfnodau hanesyddol a genres
  • dangos dealltwriaeth o sefyllfa a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y gweithle modern
  • Gweithredu y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau rydych wedi datblygu
  • Yn y gweithle, drwy ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith a gwerthuso’r profiad yn feirniadol.
  • drwy gwblhau traethawd neu brosiect estynedig sydd yn gynnyrch astudiaeth annibynnol o dan arweiniad tiwtor, gan ddangos perthnasedd y gwaith mewn cysylltiad i gam nesaf eich gyrfa.
  • defnyddio sgiliau rhifiadol sylfaenol wrth werthuso data yng nghyswllt yr iaith Gymraeg
  • defnyddio technoleg gwybodaeth i gyflwyno a dadansoddi deunyddiau mewn modd effeithiol, caboledig, gan gynnwys defnyddio meddalwedd i gywiro a gwella iaith
  • cynhyrchu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig o safon uchel
  • Defnyddio cofrestrau ysgrifenedig arall, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn cyd-destunau gwahanol, gan gynnwys y gweithle
  • Dangos dealltwriaeth o ddatblygiad yr Iaith Gymraeg dros y canrifoedd, o safbwynt ieithyddol a chymdeithasol, a dealltwriaeth o ddulliau cyfoes penodol o’i hadferiad a’i hyrwyddiad.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig yma yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall.

Yn 2013/14, adroddodd 100% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio.

Swyddi

  • Cyfryngau
  • Gwasanaeth Sifil
  • Addysg
  • Gwleidyddiaeth
  • Gweinyddiaeth

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Gwanwyn 2020

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

Gwneud cais ar gyfer 2018 neu 2019