Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae Astudiaethau Crefyddol a Chymraeg BA (Cyd-anrhydedd) yn rhoi’r cyfle i astudio crefydd, sydd wedi bod yn rhan o fywyd dynol ers dechrau dynoliaeth, yn ogystal â'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Welsh students

Trosolwg y cwrs

Drwy gyfuno’r Gymraeg ac Astudiaethau Crefyddol, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Gall astudio gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml ceir materion a safbwyntiau sy’n cysylltu’r meysydd astudio, boed y rheiny’n ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil diweddar.

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae crefydd yn rhan o brofiad y ddynolryw o’i dechreuadau hyd heddiw. Drwy grefydd y mae’r rhan fwyaf o ddiwylliannau wedi ceisio mynegi eu dealltwriaeth o bwrpas bywyd, a chrefydd yw sylfaen ymddygiad personol a chymdeithasol pobl. Fel myfyriwr Astudiaethau Crefyddol, byddwch yn cael y cyfle i ymchwilio i’ch hanes a’ch diwylliant crefyddol eich hun a phobloedd eraill, ynghyd â rhai o gwestiynau sylfaenol bodolaeth.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:

  • y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
  • modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
  • ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
  • y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
  • y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
  • y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
  • y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
  • y cyfle i ymchwilio i grefyddau mewn perthynas â’r amrywiaeth eang o faterion hanesyddol, damcaniaethol a chymdeithasol, a
  • y cyfle i ymchwilio i ystod o ddulliau methodolegol astudiaethau crefyddol, gan gynnwys hermeniwteg destunol, astudio iaith, damcaniaethau rhywedd, astudiaethau gwrthdaro, anthropoleg ddiwylliannol a damcaniaethol
  • y cyfle i ddysgu ieithoedd sy’n eich galluogi i astudio rhai testunau crefyddol yn eu ffurf wreiddiol, er enghraifft Testament Newydd Groeg a Sanskrit.
Côd UCASQV56
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd3 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer, mae 30 lle ar gael yn Ysgol y Gymraeg. Mae 320 lle ar gael yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae Ysgol y Gymraeg yn derbyn tua 100 o geisiadau. Mae’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn derbyn tua 1800 o geisiadau.
  1. Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  2. School of Welsh

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  3. Llyfrgell Cerddoriaeth

    Adain y Llyfrgell

    Neuadd Aberdâr

    Heol Corbett

    Caerdydd

    CF10 3UP

  4. Llyfrgell Pensaernïaeth

    Adeilad Bute

    Rhodfa'r Brenin Edward VII

    Caerdydd

    CF10 3NB

  5. Labordy Llunio Digidol

    Adeilad Bute

    Rhodfa'r Brenin Edward VII

    Caerdydd

    CF10 3NB

  6. Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol

    Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol

    Rhodfa Colum

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3EU

Gofynion mynediad

ABB - BBB gan gynnwys gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol    

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DM - derbynnir pynciau ynghylch Y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ogystal â gradd ddisgwyliedig safon B yn Gymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith ar Safon Uwch.

Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch yn ogystal â chymhwyster Iaith Gymraeg.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ac Ysgol y Gymraeg.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith arnoch ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Gradd tair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio ar gyfer cyfanswm o 120 credyd.

Yn y Gymraeg, mae dau lwybr yn y flwyddyn gyntaf, un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf, ac un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith. Bydd myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf yn astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Astudiaethau Crefyddol, tra bydd myfyrwyr ail iaith yn astudio 80 credyd yn y Gymraeg a 40 credyd Astudiaethau Crefyddol.

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un y Gymraeg ar ddatblygu sgiliau allweddol (rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith er mwyn datblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.

Fel arfer yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg Safon Uwch fel ail iaith yn dilyn y llwybr ail iaith, ond byddwn yn ystyried eich sgiliau ieithyddol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, cyn penderfynu pa lwybr y byddwch chi’n ei ddilyn.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Ar gyfer y llwybr ail iaith y modiwlau craidd yw:

  • Sgiliau Llafar
  • Defnyddio’r Gymraeg
  • Astudio Llenyddiaeth
  • Y Gymraeg Heddiw

Ym mlwyddyn gyntaf Astudiaethau Crefyddol, fe'ch anogir i gaffael gwybodaeth eang am hanes yr Eglwys Gristnogol a meddwl diwinyddol Cristnogol, yn ogystal â nifer o grefyddau'r byd megis Hindŵaeth, Bwdhaeth, Iddewiaeth ac Islam.

Byddwch yn datblygu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer astudio crefydd a diwinyddiaeth yn academaidd, gan gynnwys cyflwyniad i ieithoedd megis Sanskrit, Arabeg, Hebraeg neu Destament Newydd Groeg er mwyn gallu astudio testunau crefyddol yn eu hieithoedd gwreiddiol. Bydd eich modiwlau yn y flwyddyn gyntaf yn eich caniatáu i astudio crefydd drwy destunau, barddoniaeth, celf, ffilm, bywgraffiadau, gwaith maes a drama.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
The Origins and Legacies of Religion in the Modern WorldRT010120 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau llafarCY150020 credydau
Defnyddio'r GymraegCY150120 credydau
Y Gymraeg HeddiwCY150820 credydau
Astudio Testunau LlenyddolCY151220 credydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau
A World Full of GodsHS000120 credydau
Projecting the Past: Film, Media and HeritageHS000220 credydau
Themes and Issues in the Study of ReligionRT010220 credydau
Introduction to a Scriptural Language 1RT010320 credydau
Introduction to a Scriptural Language 2RT010420 credydau
Introduction to the BibleRT010520 credydau
The Story of ChristianityRT010620 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Astudiaethau Crefyddol.

Ym mlwyddyn dau y Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.

Yn ogystal â’r elfennau craidd hyn, mae’r cwrs Cymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, megis cynllunio ieithyddol, sgriptio a chyfieithu.

Bydd ail flwyddyn Astudiaethau Crefyddol yn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu gwybodaeth fwy datblygedig o ddiwinyddiaeth a hanes Cristnogol a phynciau cysylltiedig, gan adeiladu ar fodiwlau rhagarweiniol a gymerwyd yn y flwyddyn gyntaf. Byddwch yn cymryd modiwlau wedi'u cynllunio i ddatblygu eich ymwybyddiaeth o rôl crefydd o ran siapio pryderon deallusol, diwylliannol a moesegol cymdeithasau cyfoes, ynghyd â datblygu gwybodaeth fwy datblygedig o amrywiaeth o draddodiadau crefyddol, megis Islam yn y byd cyfoes, Iddewiaeth hynafol a modern neu fywyd y Bwdha

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dafydd ap GwilymCY210520 credydau
Sgiliau Academaidd UwchCY221020 credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY241020 credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY261020 credydau
SgriptioCY270020 credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY281020 credydau
Caffael IaithCY291020 credydau
Now and Next: From Academia to Employment (20 Credits)HS000420 credydau
What is ReligionRT020120 credydau
Independent Study or Critical TranslationRT020220 credydau
Exploring Christian DoctrineRT020320 credydau
Christian EthicsRT020420 credydau
The Hebrew Bible: Stories, Suffering and JusticeRT020520 credydau
Buddhism: The First Thousand YearsRT020820 credydau
Intermediate Scriptual LanguageRT021120 credydau
Elementary Language for the Study of ReligionRT021220 credydau
Further Elementary Language for the Study of ReligionRT021320 credydau
Emotions, Symbols and Rituals: Introducing the Anthropology of Religion through FilmRT021420 credydau
Foundational EthicsRT021520 credydau
From Jesus to the New Jerusalem: New Testament StudiesRT021620 credydau
History and Religion of Ancient IsraelRT230120 credydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Astudiaethau Crefyddol.

Ym mlwyddyn tri y Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau (20 credyd) neu 9,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.

Bydd eich trydedd flwyddyn mewn Astudiaethau Crefyddol yn caniatáu ichi ddyfnhau eich dealltwriaeth o bynciau a themâu megis rhywedd a rhywioldeb neu safbwyntiau Islamaidd gydag amrywiaeth o fodiwlau arbenigol. Byddwch yn meithrin sgiliau mewn ymchwil ansoddol a meintiol i grefydd(au) mewn cymdeithasau modern, ac yn cael y cyfle i ysgrifennu traethawd ymchwil.

Byddwch hefyd yn adeiladu ar eich gwybodaeth o iaith grefyddol y bu i chi ei meithrin yn ystod blynyddoedd un a dau a datblygu cyfieithiadau lefel uchel a sgiliau dadansoddi testun ar draws amrywiaeth o fodiwlau iaith.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dafydd ap GwilymCY310520 credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY341020 credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY361020 credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
SgriptioCY370020 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY381020 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 credydau
Caffael IaithCY391020 credydau
Dissertation or Critical TranslationRT030130 credydau
The War of the Worlds: An Introduction to the MahabharataRT030430 credydau
The Life and Legacy of Dietrich BonhoefferRT030530 credydau
Exploring GnosticismRT030630 credydau
Islam in the Contemporary WorldRT030730 credydau
The War Against the Jews: Antisemitism, the Holocaust, and Jewish ExperienceRT030830 credydau
Advanced Scriptural LanguageRT030930 credydau
Religion and the News: Conflict and ContextRT031030 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Rydym ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn arbennig yn achos y llwybr ail-iaith).

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol ar arholiadau yn dilyn cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 100% o raddedigion Ysgol y Gymraeg oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig.

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Rydym ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i nodi eu sgiliau a’u priodoleddau, ac mae gennym Swyddog cyflogadwyedd a Lleoliadau’r Gweithle mewnol. Mae nifer o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i broffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o’u harbenigedd academaidd fel gweithio mewn archifau neu amgueddfeydd, ond mae eraill yn cystadlu yn llwyddiannus iawn mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill.

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Mae gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sydd yn cefnogi myfyrwyr gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 56% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Sadwrn 26 Hydref

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais