Cymraeg ac Eidaleg (BA)
Blwyddyn Mynediad
Yn y cynllun gradd hwn, caiff myfyrwyr y cyfle i astudio iaith Ewropeaidd cynyddol boblogaidd a'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant,

Trosolwg y cwrs
Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod astudio gradd gydanrhydedd yn brofiad gwerth chweil gan eu bod yn gallu gweld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Trwy gyfuno'r Gymraeg ac Eidaleg, byddwch yn dysgu cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth y gellir eu defnyddio mewn sawl maes. Bydd y rhain hefyd o les yn y byd gwaith byd-eang ac yn helpu agor y drysau i amrywiaeth o yrfaoedd posibl.
CYMRAEG
Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.
Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.
EIDALEG
Ers y cyfnod Rhufeinig, mae cyfraniad yr Eidal i ddiwylliant y byd wedi bod yn aruthrol fel y mae'n amlwg i unrhyw un sy'n ymweld â’r wlad, hyd yn oed am gyfnod byr. Ond nid yw’r Eidal yn wlad o bwysigrwydd diwylliannol eithriadol yn unig. Mae’r Eidal hefyd yn bartner gwleidyddol sylweddol yn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn rym blaenllaw mewn meysydd fel peirianneg a phensaernïaeth. Dyma gartref y diwydiannau dylunio a ffasiwn.
Mae Eidaleg ym Mhrifysgol Caerdydd yn eich galluogi chi i astudio, dadansoddi a gwerthuso datblygiadau cyfredol ar draws y byd sy'n siarad Eidaleg, yn ogystal â diwylliannau a gwerthoedd y gorffennol. Wedi ichi astudio Eidaleg, byddwch chi’n barod i fanteisio ar y cyfleoedd eang sy’n agored i raddedigion yr iaith heddiw
Byddwch yn datblygu sgiliau iaith lefel uchel gyda'r nod o gyflawni cymwyseddau yn agos at safon frodorol ynghyd â gwybodaeth fanwl am agweddau ar ddiwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a’r gymdeithas yn yr Eidal. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn yr Eidal, yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau iaith.
Rydym yn cynnig Eidaleg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu, a chan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau clyweledol. Yn eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.
Mae'n bwysig cofio nad yw astudio ieithoedd yn golygu astudio’r iaith a dim arall. Mae'n golygu edrych ar sawl agwedd ar y wlad a'i diwylliant, ei strwythurau cymdeithasol a’i sefydliadau, ei gwleidyddiaeth, ei hanes, ei llenyddiaeth a'i sinema. Drwy astudio meysydd o'r fath rydych chi’n gallu cael dealltwriaeth well o ddiwylliant Eidalaidd a sut mae wedi esblygu dros y canrifoedd, gan ddatblygu i fod yr hyn ydyw heddiw.
Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar.
Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i gefnogi gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych hyfedredd iaith lefel uchel yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol o lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cymreig ac Eidaleg.
Nodweddion nodedig
CYMRAEG
Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:
- y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
- modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
- ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
- y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
- y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
- y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
- y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
EIDALEG
Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:
- modiwlau craidd sy’n gwarantu sylfaen gadarn i bawb, ond wedyn yn caniatáu, gyda chyngor gan eich tiwtor personol, ichi fireinio rhaglen a fydd fwyaf addas ar gyfer eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfaol
- llwybr at y radd hon i ddechreuwyr nad oes ganddynt Eidaleg Safon Uwch
- y cyfle i dreulio blwyddyn yn astudio neu’n gweithio yn yr Eidal
Côd UCAS | QR53 |
---|---|
Derbyniad nesaf | Medi 2020 |
Hyd | 4 blwyddyn |
Modd (astudio) | Amser llawn |
Lleoedd sydd ar gael fel arfer | Fel arfer mae 30 lle ar gael yn Ysgol y Gymraeg. |
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arfer | MaeYsgol y Gymraeg yn derbyn tua 100 o geisiadau |
-
66a Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS
-
Adeilad John Percival
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU
Cysylltu
Gofynion mynediad
BBB - BBC gan gynnwys gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf. Sylwer, nid ydym yn derbyn Cymraeg Ail Iaith, Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.
Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd
Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
DM mewn BTEC ym mhynciau ynghylch Y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ogystal â gradd B yn Gymraeg Iaith Gyntaf ar Safon Uwch.
Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch yn ogystal â chymhwyster Iaith Gymraeg.
Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gymraeg.
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
TGAU Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gradd C neu 4 neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfatebol.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£9,000 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£17,450 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Strwythur y cwrs
Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am bedair blynedd gyda dau semester y flwyddyn. Ceir 120 o gredydau bob blwyddyn. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd. Treulir y drydedd flwyddyn dramor.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020
Blwyddyn un
Byddwch chi’n astudio ar gyfer cyfanswm o 120 credyd.
Yn y Gymraeg, mae dau lwybr yn y flwyddyn gyntaf, un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf, ac un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith. Bydd myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf yn astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Eidaleg, tra bydd myfyrwyr ail iaith yn astudio 80 credyd yn y Gymraeg a 40 credyd Eidaleg.
CYMRAEG
Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un y Gymraeg ar ddatblygu sgiliau allweddol (rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith er mwyn datblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.
Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:
- Iaith ac Ystyr
- Awdur, Testun a Darllenydd
- Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes
EIDALEG
Ym mlwyddyn un Eidaleg byddwch yn adeiladu ar sgiliau ieithyddol craidd ac yn cael eich cyflwyno i ddiwylliant, llenyddiaeth, gwareiddiad a gwleidyddiaeth yr Eidal. Mae dau lwybr ar gael: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Eidaleg a llwybr i ddechreuwyr i fyfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl o’r Eidaleg.
Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.
I ddarparu sylfaen ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol, byddwch hefyd yn astudio modiwlau penodol ar hanes a diwylliant yr Eidal fodern yn ogystal â gwleidyddiaeth, economeg a’r gymdeithas yn yr Eidal.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Introduction to Italian Studies in a Transnational Context | ML8179 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Advanced Italian Language (Year 1) | ML8188 | 40 credydau |
Beginners Italian Language Year 1 | ML8189 | 40 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Iaith ac Ystyr | CY1600 | 20 credydau |
Awdur, Testun a Darllenydd | CY1601 | 20 credydau |
Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes | CY1602 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Eidaleg.
CYMRAEG
Ym mlwyddyn dau y Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.
Yn ogystal â’r elfennau craidd hyn, mae’r cwrs Cymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn pedwar yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, megis cynllunio ieithyddol, sgriptio a chyfieithu.
EIDALEG
O ran Eidaleg byddwch yn cael hyfforddiant penodol ar ddadansoddi cysyniadau, damcaniaethau a dulliau yn feirniadol. Mae elfennau iaith blwyddyn dau Eidaleg yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer y flwyddyn dramor. Mae hyn yn cael ei ategu gan amrywiaeth o fodiwlau dewisol, er mwyn cydweddu â’r pynciau sy'n ymwneud â'r Eidal yn benodol. Bydd y rhain fel arfer yn cynnwys modiwlau ar ffilm, llenyddiaeth gymharol a hanes diwylliannol, yn ogystal â theori ac ymarfer cyfieithu.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Yr Iaith ar Waith | CY2205 | 20 credydau |
Whose ‘culture’ is it anyway? Identity, Power and Memory in C20th Italy | ML8283 | 30 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ex-Beginners Language Year 2 Italian | ML8280 | 30 credydau |
Ex-Advanced Language Year 2 Italian | ML8281 | 30 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | CY2105 | 20 credydau |
Rhyddiaith Ddiweddar | CY2410 | 20 credydau |
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith | CY2610 | 20 credydau |
Sgriptio | CY2700 | 20 credydau |
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990 | CY2810 | 20 credydau |
Caffael Iaith | CY2910 | 20 credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Treulir blwyddyn tri yn yr Eidal. Mae eich dewisiadau yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gan weithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy Gynllun y Cyngor Prydeinig, neu weithio i sefydliad neu gwmni Eidalaidd. Beth bynnag eich dewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.
Os byddwch yn dewis astudio, rydym ni wedi sefydlu cysylltiadau academaidd â phrifysgolion ym Milan, Pavia, Parma, Pisa, Ferona, Trento, Fenis, Fflorens a Catania.
Gall Lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y Cyngor Prydeinig fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er na fyddwch ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad gyrchfan. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo iddi gynnig arweiniad ichi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.
Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Eidaleg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle ichi siarad Eidaleg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.
Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddiant/gwaith yn Ewrop yn gymwys i wneud cais am grant Erasmus.
Mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych ichi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.
Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd cydlynydd blwyddyn dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei gael ar bethau.
Mae myfyrwyr y flwyddyn derfynol fel arfer yn barod iawn i helpu gyda’n sesiynau briffio blwyddyn dramor rheolaidd, ac maent wedi cyfrannu at ein ‘modiwl blwyddyn dramor’ helaeth ar Dysgu Canolog sy’n rhoi cyngor wedi ei dargedu at fyfyrwyr drwy gydol eich blwyddyn dramor.
Mae astudio neu weithio dramor yn ffordd wych i baratoi ar gyfer eich blwyddyn olaf ac yn rhoi lefel o hunan-hyder ac aeddfedrwydd i chi sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sandwich Year Project (Autumn Semester) | ML1240 | 60 credydau |
Sandwich Year Project (Spring Semester) | ML1241 | 60 credydau |
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad (Italian, Spring) | ML8091 | 60 credydau |
Intercalary Semester Abroad: Semester Work Placement Abroad (Italian, Spring) | ML8094 | 60 credydau |
Intercalary Semester Abroad: Semester Work Placement Abroad (Italian) | ML8097 | 60 credydau |
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad (Italian) | ML8099 | 60 credydau |
Blwyddyn pedwar
Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Eidaleg.
CYMRAEG
Ym mlwyddyn pedwar y Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:
- Blas ar Ymchwil
- Ymchwilio Estynedig
Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau (20 credyd) neu 9,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.
EIDALEG
Nid ydym ni’n gwahaniaethu mwyach rhwng dechreuwyr a myfyrwyr Eidaleg uwch yn y flwyddyn derfynol, a bydd pob myfyriwr Eidaleg yn astudio’r un modiwlau iaith. Byddwch yn mireinio eich sgiliau ieithyddol o ran mynegiant a chyfieithu, ac yn arbenigo yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi drwy ddewis modiwlau arbenigol.
Mae ein modiwl traethawd hir yn y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle ichi ysgrifennu traethawd hir ac ymgysylltu’n ddyfnach â maes y testun a ddewisir, yn ogystal ag ymestyn eich sgiliau ymchwil a dadansoddi.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
High-Level Proficiency in Italian Language | ML8366 | 30 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | CY3105 | 20 credydau |
Rhyddiaith Ddiweddar | CY3410 | 20 credydau |
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith | CY3610 | 20 credydau |
Yr Ystafell Ddosbarth | CY3660 | 20 credydau |
Sgriptio | CY3700 | 20 credydau |
Cyfieithu Proffesiynol | CY3705 | 20 credydau |
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990 | CY3810 | 20 credydau |
Blas ar Ymchwil | CY3900 | 20 credydau |
Ymchwilio Estynedig | CY3905 | 40 credydau |
Caffael Iaith | CY3910 | 20 credydau |
Culture, Political Protest & Dissent in the 1960s | ML1360 | 30 credydau |
European Cinema: Thinking the Real of Fiction | ML1362 | 30 credydau |
Student Teaching Module | ML1363 | 30 credydau |
Final Year Dissertation - Italian (in Italian) | ML8362 | 30 credydau |
Final Year Dissertation - Italian (in English/Welsh) | ML8363 | 30 credydau |
Italian Women's Writing | ML8364 | 30 credydau |
Dysgu ac asesu
Sut caf fy addysgu?
Rydym ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.
Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn arbennig yn achos y llwybr ail-iaith).
Mae dosbarthiadau Ieithoedd Modern yn cael eu dysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Caiff y sgiliau cyfathrebu hanfodol hyn eu hymarfer a’u datblygu drwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig. Mae ein dulliau dysgu yn eich caniatáu i weithio gydag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Deunyddiau sy’n cynnwys llyfrau testun, fideos, ffilmiau, nofelau ffeiliau sain a gwefannau a gefnogir gan adnoddau ar-lein sy’n cydfynd gyda gweithgareddau dosbarth ac yn hyrwyddo ac yn galluogi dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn cynnwys amrywiaeth o’r llenyddol a’r hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfredol, yn darparu mewnwelediad eang i iaith a diwylliant.
Addysgir pob modiwl yn Ysgol y Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut y caf fy nghefnogi?
Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.
Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth cyson i chi ynglŷn â’ch gwaith. Cyflwynir ef mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol am waith ysgrifenedig ac adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau. Bydd modd i chi drafod eich perfformiad cyffredinol gyda’ch tiwtor personol hefyd.
Sut caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.
Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.
Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.
Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:
- ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
- gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
- cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
- mireinio sgiliau ieithyddol a gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes Cymru
- mireinio sgiliau ieithyddol a gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes yr Eidal a gwledydd lle siaredir Eidaleg
- cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
- gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
YSGOL Y GYMRAEG
Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig.
Yn 2016/17, dywedodd 91% o raddedigion Ysgol y Gymraeg oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
YR YSGOL IEITHOEDD MODERN
Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio yn y gobaith o gael swydd. O'r rhai sy'n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dechrau gweithio'n syth ar ôl eu hastudiaethau.
Mae dewisiadau cyflogaeth yn cynnwys rolau cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a darllenwyr proflenni, ac maent yn defnyddio'u hieithoedd wrth eu gwaith mewn sefydliadau fel Bearmach Ltd, y Cyngor Prydeinig, Global Response ac Inter Global.
Lleoliadau
Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.
Treulir blwyddyn tri dramor, mewn gwlad lle siaredir Eidaleg.
Astudio yn Gymraeg
Mae hyd at 56% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.
Diwrnod agored nesaf i israddedigion