Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg a Gwleidyddiaeth (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

book

Cewch brofiad o wleidyddiaeth ar waith

Dewiswch fodiwl a addysgir ar y cyd â San Steffan, sy'n cynnwys addysgu gan glercod Tŷ'r Cyffredin ac ymweliadau astudio.

people

Cysylltiadau â sefydliadau gwleidyddol

Manteisiwch ar gysylltiadau â senedd San Steffan, Senedd Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.

structure

Cysylltiadau’r Brifddinas

Lleoliad delfrydol gyda chysylltiadau â sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol, treftadaeth a chyfryngau i'ch helpu ar eich ffordd.

people

Cymuned lewyrchus

Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.

academic-school

Cyfleoedd am leoliad gwaith

yddwch yn meithrin sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy amrywiaeth o gyfleoedd i ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid eraill.

Drwy gyfuno Cymraeg a Gwleidyddiaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd posibl. Efallai byddwch yn gweld bod astudio gradd gydanrhydedd yn eich symbylu ac yn rhoi boddhad i chi, wrth i chi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml, ceir materion a safbwyntiau ategol sy’n cysylltu’r pynciau, p’un a ydynt yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil ddiweddar.

Mae’r cwrs Cymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei gyflwyno gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth academaidd ac ymarferol drylwyr o’r Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ysgrifenedig a llafar yn y Gymraeg, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Drwy ein rhaglen Gwleidyddiaeth, cewch archwilio sut mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu a gwerthuso syniadau gwleidyddol megis pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd, ac mae’n cynnwys cysylltiadau rhyngwladol hefyd.

Mae’r modiwlau’n amrywio, gan roi cyfle i chi archwilio'r modd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio ym Mhrydain a thu hwnt, yn ogystal ag ymchwilio i'r modd y mae polisi cyhoeddus yn cael ei lunio. Mae llwybrau gwaith eraill yn trafod cyfiawnder, democratiaeth, hawliau dynol a chysylltiadau rhyngwladol, gan ddarparu dealltwriaeth eang i chi o wleidyddiaeth sydd wedi’i theilwra i’ch anghenion penodol chi.

Nod y radd hon yw ceisio rhoi dealltwriaeth ardderchog o wleidyddiaeth a llywodraeth i chi, gan roi i chi hefyd y sgiliau deallusol a chyfathrebu cysylltiedig a fydd o werth p'un a fyddwch yn gweithio i’r llywodraeth neu yn y sectorau preifat neu wirfoddol.

Maes pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Maes pwnc: Cymraeg

  • academic-schoolYsgol y Gymraeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

BBB-BBC. Rhaid i'r rhain gynnwys gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i chi hefyd feddu ar gymhwyster Cymraeg sy'n cyfateb i radd B ar lefel Safon Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol a gradd B mewn Cymraeg Safon Uwch Iaith Gyntaf neu Ail Iaith.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd tair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch yn cymryd 120 o gredydau gyda’i gilydd, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 credyd yn Gymraeg a 60 credyd mewn Gwleidyddiaeth.

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un ar ddatblygu sgiliau allweddol (ieithyddol, dadansoddol, creadigol ac o ran cyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Ar gyfer y llwybr ail iaith y modiwlau craidd yw:

  • Sgiliau iaith
  • Sgiliau Astudio Llenyddiaeth
  • Yr Iaith Gymraeg heddiw

Mae blwyddyn un mewn Gwleidyddiaeth yn flwyddyn sylfaen i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac yn rhoi trosolwg i chi o ddau bwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach. Byddwch yn dilyn ein modiwlau craidd sylfaen er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer eich astudiaethau ym mlynyddoedd dau a thri.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau Astudio LlenyddiaethCY151320 Credydau
Sgiliau IaithCY151520 Credydau
Y Gymraeg HeddiwCY151620 Credydau
Iaith ac YstyrCY160020 Credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 Credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 Credydau
Y Da, Drwg a'r Gwleidyddol: Y Da, y Drwg a'r GwleidyddolPL919320 Credydau
Cyflwyniad i Wyddoniaeth WleidyddolPL919420 Credydau
Cyflwyniad i Gysylltiadau RhyngwladolPL919520 Credydau
Cyflwyniad i Feddwl GwleidyddolPL919620 Credydau
Cyflwyniad i GlobaleiddioPL919720 Credydau
Cyflwyniad i Integreiddio EwropeaiddPL919820 Credydau
Cyflwyniad i'r LlywodraethPL919920 Credydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Gwleidyddiaeth.

Ym mlwyddyn dau’r Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth a gafwyd ym mlwyddyn un. Ym mlwyddyn dau, mae elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn feunyddiol.

Ochr yn ochr â’r elfennau craidd hyn, mae’r cwrs Cymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, fel cynllunio iaith, sgriptio a chyfieithu.

Byddwch hefyd yn astudio modiwlau dewisol o’n hystod o ddewisiadau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cymraeg ProffesiynolCY221520 Credydau
Myrddin a MerlinCY235020 Credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY241020 Credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY261020 Credydau
Tu Hwnt i'r TudalenCY270220 Credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY281020 Credydau
Caffael IaithCY291020 Credydau
Rhyw, Rhyw a MarwolaethPL922020 Credydau
Cysylltiadau Rhyngwladol y Rhyfel OerPL922120 Credydau
Technolegau Digidol a Gwleidyddiaeth Fyd-eangPL922320 Credydau
Llywodraethu Byd-eangPL922420 Credydau
Gwleidyddiaeth yr UEPL922520 Credydau
O ysbïo i Gwrthderfysgaeth: Cudd-wybodaeth mewn Gwleidyddiaeth GyfoesPL922920 Credydau
Gwleidyddiaeth fodern CymruPL923320 Credydau
Meddwl Gwleidyddol Modern: Machiavelli to MillPL923420 Credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio'r Gymdeithas GyfalafolPL923820 Credydau
Mae'r Barbariaid yn Dod!: Damcaniaethau Gwleidyddol Traws-ddiwylliannolPL924020 Credydau
Syniadau ac ideoleg mewn Gwleidyddiaeth PrydainPL924120 Credydau
Anifeiliaid, Aer, ac Ardaloedd y tu hwnt i awdurdodaeth genedlaethol - Gwleidyddiaeth Cyfundrefnau Amgylcheddol Byd-eangPL924220 Credydau
Personoliaeth, rhagfarn a pholareiddio: Seicoleg WleidyddolPL924420 Credydau
Agweddau Beirniadol at Wleidyddiaeth y Dwyrain CanolPL924520 Credydau
Gwleidyddiaeth Ffiniau: Gwrthdaro a Chydweithrediad yn Ewrop FodernPL924620 Credydau
Chwyldroi'r Gorchymyn Gwleidyddol: Damcaniaeth Gymdeithasol Prydain yn y ddeunawfed ganrifPL924920 Credydau
Gwneud ymchwil gwleidyddolPL925120 Credydau
Gwleidyddiaeth Hinsawdd (In)ActionPL925220 Credydau
Credoau'r CymryPL928620 Credydau
Gwleidyddiaeth Prydain ers 1945PL928720 Credydau
Diogelwch Rhyngwladol: Cysyniadau a MaterionPL928820 Credydau
Cyfiawnder a Gwleidyddiaeth: Theori Wleidyddol GyfoesPL929120 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL929220 Credydau
Cyfraith ryngwladol mewn byd sy'n newidPL929920 Credydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Gwleidyddiaeth.

Ar y cwrs Cymraeg, rhaid dewis un o'r modiwlau canlynol:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Mae gennych ddewis o draethawd neu brosiect 5,000 gair (20 credyd) neu 9,000 gair (40 credyd), i’w gwblhau o dan arweiniad aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu ddarparu arddangosfa effeithiol amdanoch i gyflogwyr posibl. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.

Byddwch chi’n astudio 60 credyd mewn modiwlau Gwleidyddiaeth dewisol ym mlwyddyn tri, gan gynnwys yr opsiwn o ysgrifennu traethawd hir.  Mae ein modiwl traethawd hir yn y flwyddyn olaf yn rhoi’r dewis i chi ysgrifennu traethawd hir ac ymgysylltu’n ddyfnach â maes y testun a ddewisir, yn ogystal ag ymestyn eich sgiliau ymchwil a dadansoddi.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Myrddin a MerlinCY335020 Credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY341020 Credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY361020 Credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 Credydau
Tu Hwnt i'r TudalenCY370220 Credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 Credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY381020 Credydau
Blas ar YmchwilCY390020 Credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 Credydau
Caffael IaithCY391020 Credydau
Hanes Meddwl mewn Cysylltiadau RhyngwladolPL931120 Credydau
Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Oes NiwclearPL932020 Credydau
Bomiau, Bwledi a Ballot-flychau: Gwrthdaro Gogledd Iwerddon, 1969 i 1998PL932420 Credydau
Economi wleidyddol: Rhesymoldeb mewn Byd Afresymol?PL932520 Credydau
Diwylliant Poblogaidd a Gwleidyddiaeth y BydPL932820 Credydau
Rhyfel a ChymdeithasPL933120 Credydau
Gwleidyddiaeth Trais a LladdPL933520 Credydau
Cyfiawnder, Cyfreithlondeb a Chyfraith RyngwladolPL933620 Credydau
Gwleidyddiaeth America LadinPL933720 Credydau
Rhyw, Cyffuriau a Pholisi CyhoeddusPL933820 Credydau
Gwleidyddiaeth mewn Ymarfer: Modiwl Lleoliad GwaithPL934020 Credydau
Be the Change: Llywodraethu heb y WladwriaethPL934620 Credydau
Gwleidyddiaeth a Llywodraethu BrexitPL934720 Credydau
Cynrychioli DatblyguPL934820 Credydau
Gwleidyddiaeth Populism yn EwropPL935020 Credydau
Llywodraethu Iechyd Cyhoeddus Byd-eang: Pandemigau Firaol, a'r 'epidemig' cyffuriau byd-eangPL935320 Credydau
Gwrthdaro, cystadlu a chynghreiriau yn y "Dwyrain Canol Newydd"PL935420 Credydau
Cysylltiadau Eingl-Americanaidd ac Amddiffyn y Rhyfel OerPL935720 Credydau
Tsieina yn y BydPL935820 Credydau
Strategaeth mewn Theori ac YmarferPL935920 Credydau
Economi Wleidyddol Cymru: O Lo i Covid-19PL936120 Credydau
Economi Wleidyddol Cymru: o 'Oes y glo' i 'Oes y clo'PL936220 Credydau
Argyfwng ac Ymrwymiad mewn Meddwl Gwleidyddol ModernPL936320 Credydau
Diwedd y byd fel yr ydym yn ei adnabodPL936420 Credydau
Ar ôl y Gorllewin: IR 2.0PL936520 Credydau
Dirty Hands: Problemau Moeseg GwleidyddolPL936620 Credydau
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yr Unol DaleithiauPL937420 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL937720 Credydau
Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder: Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruPL937820 Credydau
Modiwl Astudiaethau SeneddolPL938020 Credydau
Traethawd Hir Cysylltiadau RhyngwladolPL938520 Credydau
Traethawd Hir GwleidyddiaethPL938620 Credydau
Etholiadau yn y Deyrnas UnedigPL938720 Credydau
Sefydliad Rhyngwladol Byd-eang mewn Gwleidyddiaeth y BydPL939120 Credydau
Personoliaeth a GrymPL939220 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hun. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn enwedig ar gyfer y myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr ail iaith).

Addysgir pob modiwl yn Ysgol y Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae seminarau wedi’u haddysgu yn y Gymraeg ar gael mewn modiwlau ym mhob un o Flynyddoedd 1, 2 a 3. Gall myfyrwyr ddewis ysgrifennu’r cyfan neu rywfaint o’u gwaith a asesir ac arholiadau yn y Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • deall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • mireinio sgiliau ieithyddol a gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes yr Eidal a gwledydd lle siaredir Eidaleg
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
  • gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn gallu bod yn gymhwyster hynod werthfawr ar gyfer rolau sy’n gofyn am siaradwyr dwyieithog. Mae llawer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd megis y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg ar bob lefel.

Mae gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn gronfa recriwtio uchel ei pharch ar gyfer amrywiaeth o gyflogwyr yn y sector, a bu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yr Adran Addysg, Cyngor Dinas Rhydychen, Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig ac ystod o bleidiau gwleidyddol i gyd yn recriwtio myfyrwyr o’r flwyddyn raddio ddiwethaf.

Mae’r radd hefyd o ddiddordeb i gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda graddedigion yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddi i reolwyr yn Ernst & Young, Enterprise Rent a Car, Zurich Insurance a King Worldwide.

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn feunyddiol. Mae'r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 78% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.