Athroniaeth (BA) Rhan-amser
Blwyddyn Mynediad
Fel myfyriwr yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yng Nghaerdydd byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr arweiniol mewn Athroniaeth.

Trosolwg y cwrs
Sut dylem fyw ein bywydau? Beth ddylem ni ei gredu? Sut dylem fynd ati i geisio ateb y cwestiynau hyn? Sut gallwn ni hyd yn oed feddwl amdanynt? Mae athroniaeth yn ymchwilio i'r materion dwys hyn ac yn ymdrin â chwestiwn byd-eang o bwys heddiw.
Gan mai dyma’r ddisgyblaeth academaidd hynaf, mae Athroniaeth wedi datblygu ystod drawiadol o gysyniadau a thechnegau ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau cymhleth. Yn ein gradd, rydym yn eich arfogi i ddadansoddi ac adeiladu cadwyni cymhleth o resymu drosoch eich hun, gan ddatblygu a mireinio eich sgiliau meddwl i ystyried posau athronyddol ddoe a heddiw.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn meithrin amgylchedd cyfeillgar, personol a chefnogol, gan roi pwyslais cryf ar gyfarfodydd un-i-un ar bwyntiau allweddol ym mhob semester. Yn ogystal, mae pob aelod o'n staff academaidd ar gael am ddwy awr bob wythnos yn ystod y tymor i chi gael galw heibio a sgwrsio am eich modiwlau neu am athroniaeth yn fwy cyffredinol..
Gan edrych tuag allan i'n cymuned ehangach, rydym yn archwilio materion mawr ein hoes yn ein cyfres o seminarau ymchwil wythnosol a'n digwyddiadau athroniaeth gyhoeddus rheolaidd yng nghanol y ddinas, a gynhyrchir mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Athronyddol Brenhinol. Rydym yn annog ein myfyrwyr israddedig yn dwymgalon i gymryd rhan yn y digwyddiadau hyn drwy gydol y flwyddyn.
Nodweddion nodedig
Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:
- pwyslais gref ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg
- sylw cyfartal i arddulliau ‘dadansoddol’ a ‘Chyfandirol’ Athroniaeth Orllewinol
Cyflwyno cais ar gyfer 2019 neu 2020
Côd UCAS | Mynediad uniongyrchol |
---|---|
Derbyniad nesaf | Medi 2020 |
Hyd | 6 blwyddyn |
Modd (astudio) | Rhan-amser |
Lleoedd sydd ar gael fel arfer | Fel arfer, mae 350 lle ar gael yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. |
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arfer | Mae’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn derbyn tua 1450 o geisiadau. |
Cysylltu
Gofynion mynediad
ABB (Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol).
Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd
Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gradd A yn y craidd, yn ogystal â graddau AB yn Safon Uwch.
34 o bwyntiau gan gynnwys 6,5,5, ym mhynciau Lefel Uwch.
Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Astudiaethau Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Bydd croeso i geisiadau gan rai sy’n cynnig cymwysterau eraill. Gallwch weld meini prawf derbyn a dethol ar gyfer y rhaglen radd ar-lein.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£3,500 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£8,850 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Strwythur y cwrs
Dyma’r fersiwn rhan amser o’r cwrs BA amser llawn mewn Athroniaeth. Gallwch astudio’r cwrs dros gyfnod o chwe blynedd yn hytrach na’r tair blynedd arferol amser llawn. Mae myfyrwyr fel arfer yn astudio 60 o gredydau bob blwyddyn (yn wahanol i fyfyrwyr amser llawn sy’n astudio 120 o gredydau y flwyddyn.)
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020
Blwyddyn un
Yn y flwyddyn gyntaf daw 60 credyd o fodiwlau craidd ac yna byddwch yn cael dewis eang o fodiwlau dewisol.
Mae'r tri modiwl craidd (gorfodol) yn rhoi sylfaen gynhwysfawr mewn athroniaeth, heb ailadrodd yr hyn y bydd rhai myfyrwyr wedi ei astudio’n barod.
Mae myfyrwyr rhan amser fel arfer yn cymryd dwy flynedd i gwblhau y rhan hon o’r rhaglen, gan ddilyn 60 o gredydau y flwyddyn. Cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol encap@caerdydd.ac.uk) er mwyn trafod y dewisiadau sydd ar gael.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Mind, Thought and Reality | SE4101 | 20 credydau |
Moral and Political Philosophy | SE4103 | 20 credydau |
Four Great Works in Philosophy | SE4104 | 20 credydau |
Darllen Athroniaeth | SE4105 | 20 credydau |
Y Da, Drwg a'r Gwleidyddol | SE4106 | 20 credydau |
Critical Thinking | SE4107 | 20 credydau |
Debates in the History of Philosophy | SE4108 | 20 credydau |
Philosophy Through Fiction and Film | SE4110 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
Mae blwyddyn dau wedi ei chynllunio i adeiladu ar sylfaen blwyddyn un drwy fodiwlau mwy penodol sy'n darparu sylfaen fwy cadarn mewn meysydd penodol. Nid oes modiwlau gorfodol.
Fe'ch anogir i ddilyn diddordebau rydych chi wedi eu datblygu yn y flwyddyn gyntaf, ond hefyd ystyried beth fyddech chi'n hoffi ei astudio yn y flwyddyn ganlynol.
Mae myfyrwyr rhan amser fel arfer yn cymryd dwy flynedd i gwblhau y rhan hon o’r rhaglen, gan ddilyn 60 o gredydau y flwyddyn. Cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol encap@caerdydd.ac.uk) er mwyn trafod y dewisiadau sydd ar gael.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Mind, Thought and Reality | SE4101 | 20 credydau |
Moral and Political Philosophy | SE4103 | 20 credydau |
Four Great Works in Philosophy | SE4104 | 20 credydau |
Darllen Athroniaeth | SE4105 | 20 credydau |
Y Da, Drwg a'r Gwleidyddol | SE4106 | 20 credydau |
Critical Thinking | SE4107 | 20 credydau |
Debates in the History of Philosophy | SE4108 | 20 credydau |
Philosophy Through Fiction and Film | SE4110 | 20 credydau |
Blwyddyn tri
Blwyddyn tri yw ein blwyddyn dan arweiniad ymchwil, lle mae’r modiwlau'n adlewyrchu gweithgareddau ymchwil presennol y staff sy'n eu dysgu, gan adeiladu ar y themâu a astudiwyd ym mlwyddyn dau.
Byddwch yn darllen ac yn meddwl am yr union destunau y mae arweinydd y modiwl yn meddwl ac yn ysgrifennu amdanyn nhw ar hyn o bryd.
Mae cyfle hefyd i wneud gwaith ymchwil annibynnol yn y modiwl traethawd hir.
Mae myfyrwyr rhan amser fel arfer yn cymryd dwy flynedd i gwblhau y rhan hon o’r rhaglen, gan ddilyn 60 o gredydau y flwyddyn. Cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol encap@caerdydd.ac.uk) er mwyn trafod y dewisiadau sydd ar gael.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Philosophy of Science | SE4312 | 20 credydau |
Metaphysics | SE4364 | 20 credydau |
Contemporary Ethical Theory | SE4388 | 20 credydau |
Epistemology | SE4398 | 20 credydau |
Credoau'r Cymry | SE4400 | 20 credydau |
Ancient Philosophy | SE4405 | 20 credydau |
Philosophy of Feminism | SE4418 | 20 credydau |
Philosophy of Psychology | SE4421 | 20 credydau |
Damcaniaethu a Dadfeilio’r Gymdeithas Gyfalafol | SE4423 | 20 credydau |
ENCAP Employability Module | SE6255 | 20 credydau |
Blwyddyn pedwar
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Philosophy of Science | SE4312 | 20 credydau |
Metaphysics | SE4364 | 20 credydau |
Contemporary Ethical Theory | SE4388 | 20 credydau |
Epistemology | SE4398 | 20 credydau |
Credoau'r Cymry | SE4400 | 20 credydau |
Ancient Philosophy | SE4405 | 20 credydau |
Philosophy of Feminism | SE4418 | 20 credydau |
Philosophy of Psychology | SE4421 | 20 credydau |
Damcaniaethu a Dadfeilio’r Gymdeithas Gyfalafol | SE4423 | 20 credydau |
Blwyddyn pump
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Metaethics | SE4367 | 20 credydau |
Moral Psychology | SE4372 | 20 credydau |
The Problem of Consciousness | SE4379 | 20 credydau |
Dissertation in Philosophy | SE4385 | 20 credydau |
Cyfiawnder Byd-eang | SE4394 | 20 credydau |
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng Nghymru | SE4396 | 20 credydau |
Cognition and Technology | SE4410 | 20 credydau |
Animal Minds | SE4411 | 20 credydau |
Modern German Philosophy | SE4413 | 20 credydau |
Athroniaeth Crefydd | SE4417 | 20 credydau |
Belief & Irrationality | SE4419 | 20 credydau |
Desires, Emotions and Happiness | SE4420 | 20 credydau |
Ethics of Knowing | SE4422 | 20 credydau |
Blwyddyn chwech
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Metaethics | SE4367 | 20 credydau |
Moral Psychology | SE4372 | 20 credydau |
The Problem of Consciousness | SE4379 | 20 credydau |
Dissertation in Philosophy | SE4385 | 20 credydau |
Cyfiawnder Byd-eang | SE4394 | 20 credydau |
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng Nghymru | SE4396 | 20 credydau |
Cognition and Technology | SE4410 | 20 credydau |
Animal Minds | SE4411 | 20 credydau |
Modern German Philosophy | SE4413 | 20 credydau |
Athroniaeth Crefydd | SE4417 | 20 credydau |
Belief & Irrationality | SE4419 | 20 credydau |
Desires, Emotions and Happiness | SE4420 | 20 credydau |
Ethics of Knowing | SE4422 | 20 credydau |
Dysgu ac asesu
Sut caf fy addysgu?
Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.
Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.
Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.
Sut caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.
Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.
Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.
Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:
- ddeall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
- gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Rhagolygon gyrfa
YSGOL SAESNEG, CYFATHREBU AC ATHRONIAETH
Yn 2013/14, adroddodd 91% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio.
Mae gan raddedigion Athroniaeth sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.
Diwrnod agored nesaf i israddedigion