Ewch i’r prif gynnwys

Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae athronwyr yn ymchwilio i natur realiti gan ymresymu'n rhesymegol yn hytrach na defnyddio dulliau empirig. Felly, mae'n rhan annatod o astudio Gwleidyddiaeth.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Politics and International Relations student

Trosolwg y cwrs

Mae cyfuno Athroniaeth â Gwleidyddiaeth yn gwella’ch gallu i archwilio a phrofi’r credoau a’r gwerthoedd sylfaenol sydd wrth wraidd ein syniadau am wleidyddiaeth, ac mae’n rhoi i chi’r cyfarpar deallusol soffistigedig ar gyfer gwneud hynny.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar fodiwlau craidd. Yn eich ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf, gallwch ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol.

Mae gwleidyddiaeth fel maes astudio yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o lywodraethau, llywodraethu a chymdeithasau. Mae gwleidyddiaeth yn ganolog i'n bywydau bob dydd. Mae'n archwilio pobl a phŵer ac yn cynnwys drama a digwyddiadau o arwyddocâd mawr heddiw ac yn hanesyddol. Ystyriwch y frwydr etholiadol rhwng y Chwith a’r Dde, gemau pŵer y Rhyfel Oer, a menter fawr integreiddio Ewropeaidd.

Mae astudio ar gyfer gradd mewn gwleidyddiaeth yn golygu ymchwilio i sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio ac mae’n archwilio sut mae seneddau a llywodraethau yn gweithredu, gan ganiatáu i chi hefyd werthuso syniadau gwleidyddol fel pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd.

Mae Athroniaeth yng Nghaerdydd yn ymdrin â holl ystod yr ystyriaethau athronyddol, gyda phwyslais arbennig ar foeseg ac estheteg. Mae'r modiwlau yn ymdrin ag arddulliau dadansoddol a Chyfandirol athroniaeth y Gorllewin, sy'n anarferol yn y Deyrnas Unedig. 

Nodweddion nodedig

  • Byddwch yn cael eich addysgu gan ysgolheigion, llawer ohonynt yn arbenigwyr byd yn eu maes.
  • Cysylltiadau academaidd dihafal â Chynulliad Cenedlaethol Cymru trwy Ganolfan Llywodraethiant Cymru a pherthynas hir-sefydledig â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol fel Senedd San Steffan, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.
  • Pwyslais cryf ar foeseg, gwleidyddiaeth ac athroniaeth y meddwl
Côd UCASLV25
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd3 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
  1. Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  2. Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

    Adeilad y Gyfraith

    Rhodfa'r Amgueddfa

    Caerdydd

    CF10 3AX

Gofynion mynediad

ABB-BBB. Ni fydd angen i chi ennill y graddau hyn mewn unrhyw bynciau penodol, ond nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na Meddwl yn Feirniadol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 34-32 pwynt gan gynnwys 665 -655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Astudiaethau Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 62 yn gyffredinol gydag o leiaf 62 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 54 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

TGAU Saesneg Iaith Gradd B neu 6 neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfatebol.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£17,450Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd yr Ysgol yn cyflenwi unrhyw gyfarpar sydd ei angen.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Byddwch yn cwblhau nifer gyfartal o gredydau mewn modiwlau Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth bob blwyddyn, gan ganiatáu i chi deilwra’ch gradd i adlewyrchu eich diddordebau penodol. 

Blwyddyn ragarweiniol yw’r flwyddyn gyntaf, a bydd dosbarth eich gradd yn cael ei seilio ar ganlyniadau Blynyddoedd 2 a 3.  Nodwedd arbennig yw'r opsiwn o gael ysgrifennu traethawd hir yn eich blwyddyn olaf. Mae hyn yn uchel ei barch ymhlith cyflogwyr oherwydd mae'n dangos y gallwch chi ymgymryd ag ymchwil gwreiddiol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Mae'r flwyddyn gyntaf yn pontio’n raddol i astudio athroniaeth a gwleidyddiaeth ar lefel gradd ac mae’n cynnig cyfarwyddyd ar y sgiliau, y technegau a’r dadleuon y byddwch yn eu defnyddio.

Byddwch yn astudio 60 credyd mewn Gwleidyddiaeth a 60 credyd mewn Athroniaeth yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio.

Blwyddyn dau

Byddwch yn cwblhau 60 credyd mewn modiwlau Athroniaeth dewisol a 60 credyd mewn modiwlau Gwleidyddiaeth dewisol

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Gender, Sex and DeathPL922020 credydau
International Relations of the Cold WarPL922120 credydau
Colonialism, GPE and DevelopmentPL922220 credydau
Digital Technologies and Global PoliticsPL922320 credydau
Global GovernancePL922420 credydau
EU PoliticsPL922520 credydau
From Espionage to Counter-Terrorism: Intelligence in Contemporary PoliticsPL922920 credydau
The Power and Politics of Research MethodsPL923020 credydau
Critical War and Military Studies: an IntroductionPL923120 credydau
Comparative European PoliticsPL923220 credydau
Modern Welsh PoliticsPL923320 credydau
Modern Political Thought: Machiavelli to MillPL923420 credydau
The History of Realist Political Thought in International RelationsPL923520 credydau
Local to Global Sustainable DevelopmentPL923620 credydau
Political Theories Across the Globe: Methods and Issues in Cross-cultural ThinkingPL923720 credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio’r Gymdeithas GyfalafolPL923820 credydau
Credoau'r CymryPL928620 credydau
British Politics since 1945PL928720 credydau
International Security: Concepts and IssuesPL928820 credydau
Justice and Politics: Contemporary Political TheoryPL929120 credydau
Global JusticePL929220 credydau
International Law in a Changing WorldPL929920 credydau
Philosophy of ScienceSE431220 credydau
MetaphysicsSE436420 credydau
French ExistentialismSE436920 credydau
Modern Moral PhilosophySE437320 credydau
Contemporary Ethical TheorySE438820 credydau
EpistemologySE439820 credydau
Credoau'r CymrySE440020 credydau
Ancient PhilosophySE440520 credydau
Philosophy of FeminismSE441820 credydau
Philosophy of PsychologySE442120 credydau
AestheticsSE442420 credydau
ENCAP Employability ModuleSE625520 credydau

Blwyddyn tri

Byddwch yn cwblhau 60 credyd mewn modiwlau Athroniaeth dewisol a 60 credyd mewn modiwlau Gwleidyddiaeth dewisol

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
International Politics in the Nuclear AgePL932020 credydau
Africa in International Thought and Practice: Colonialism, Anticolonialism, PostcolonialismPL932120 credydau
Global Environmental PoliticsPL932220 credydau
Bombs, Bullets and Ballot-boxes: the Northern Ireland Conflict, 1969 to 1998PL932420 credydau
Political Economy: Rationality in an Irrational World?PL932520 credydau
Popular Culture and World PoliticsPL932820 credydau
China in the WorldPL933020 credydau
Cybersecurity: Diplomacy and Digital Rights in Global PoliticsPL933220 credydau
A History of British IntelligencePL933320 credydau
The Politics of Violence and KillingPL933520 credydau
Justice, Legitimacy and International LawPL933620 credydau
Latin American PoliticsPL933720 credydau
Sex, Drugs and Public PolicyPL933820 credydau
Visual Global PoliticsPL933920 credydau
Politics in Practice: Work Placement ModulePL934020 credydau
The Soul and the City: Plato's Political PhilosophyPL934120 credydau
Crisis and Commitment in 20th Century Political ThoughtPL934320 credydau
Science, Knowledge, PoliticsPL934420 credydau
The Many Faces of Thomas HobbesPL934520 credydau
Be the Change: Governing without the StatePL934620 credydau
US Government and PoliticsPL937420 credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL937720 credydau
Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder: Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruPL937820 credydau
Parliamentary Studies ModulePL938020 credydau
International Relations DissertationPL938520 credydau
Politics DissertationPL938620 credydau
Elections in the UKPL938720 credydau
Global International Organisation in World PoliticsPL939120 credydau
Personality and PowerPL939220 credydau
MetaethicsSE436720 credydau
Moral PsychologySE437220 credydau
The Problem of ConsciousnessSE437920 credydau
Dissertation in PhilosophySE438520 credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 credydau
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruSE439620 credydau
Cognition and TechnologySE441020 credydau
Animal MindsSE441120 credydau
The Social ImaginationSE441220 credydau
Modern German PhilosophySE441320 credydau
Athroniaeth CrefyddSE441720 credydau
Belief & IrrationalitySE441920 credydau
Desires, Emotions and HappinessSE442020 credydau
Ethics of KnowingSE442220 credydau
Beauty & EthicsSE442520 credydau
Moral ResponsibilitySE442620 credydau
International Study Abroad (60 credits) AutumnSE625160 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Mae Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae seminarau wedi’u haddysgu yn y Gymraeg ar gael mewn modiwlau ym mhob un o Flynyddoedd 1, 2 a 3.  Gall myfyrwyr ddewis ysgrifennu’r cyfan neu rywfaint o’u gwaith a asesir ac arholiadau yn y Gymraeg.  

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

19%

Astudio annibynnol dan arweiniad

82%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

17%

Astudio annibynnol dan arweiniad

83%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

20%

Astudio annibynnol dan arweiniad

80%

Lleoliadau ments

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Dulliau asesu (2017/18 data)

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

58%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

42%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

50%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

50%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

45%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

55%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • ddeall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun 

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Rhagolygon gyrfa

Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae graddedigion Athroniaeth yn enwog am eu sgiliau dadansoddol pendant a'u gallu i adeiladu a chyfathrebu dadleuon clir. Bydd astudio Athroniaeth yn datblygu’ch gallu i ganfod y rhesymau dros honiadau pobl, dod o hyd i dybiaethau gwaelodol y rhesymau hynny, asesu’r rhesymau a’r tybiaethau’n feirniadol, a chyfleu hynny i gyd yn glir ac yn effeithiol.

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Yn 2015/16, dywedodd 97% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae Gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd yn gronfa recriwtio uchel ei pharch ar gyfer amrywiaeth o gyflogwyr yn y sector, a bu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yr Adran Addysg, Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig ac ystod o bleidiau gwleidyddol i gyd yn recriwtio myfyrwyr o’r flwyddyn raddio ddiwethaf.

Y tu allan i'r sector gwleidyddol, mae'r radd o ddiddordeb i gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda graddedigion yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddi ar gyfer bod yn rheolwyr yn EY, Enterprise Rent A Car, Zurich Insurance a King Worldwide.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Gwanwyn 2020

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais