Athroniaeth ac Economeg (BA)
Blwyddyn Mynediad
Bydd y radd cydanrhydedd mewn Athroniaeth ac Economeg yn rhoi'r cyfle i chi arbenigo mewn dau bwnc gradd prifysgol.

Trosolwg y cwrs
Mae'r radd BA mewn Athroniaeth ac Economeg yn anelu at ddatblygu eich dealltwriaeth o ddadansoddiad economaidd a phroblemau economaidd mewn cysylltiad ag amrywiaeth ehangach o faterion cymdeithasol a gwleidyddol, gan feithrin eich sgiliau deallusol a beirniadol yr un pryd.
Mae pob Ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i hategu gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.
Mae dwy agwedd gysylltiedig ar y cwrs athroniaeth yng Nghaerdydd sy'n ei wneud yn nodedig ymysg prifysgolion Grŵp Russell. Un yw bod yna bwyslais cryf ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg ymhlith y modiwlau a gynigir. Y llall yw bod ein gwaith ymchwil a’n haddysgu yn cael ei ledaenu’n gyfartal ar draws arddulliau 'dadansoddol' a 'Chyfandirol' athroniaeth y Gorllewin, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth lawn o'r ddau gyda'r posibilrwydd o wneud dewis gwybodus i arbenigo mewn un dull neu'r llall.
Mae’r radd yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen ar fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’r naill astudiaeth neu’r llall ar lefel ôl-raddedig, ynghyd ag amrywiaeth werthfawr o sgiliau deallusol a throsglwyddadwy i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd i broffesiynau eraill.
Nodweddion nodedig
Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:
- pwyslais gref ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg
- sylw cyfartal i arddulliau ‘dadansoddol’ a ‘Chyfandirol’ Athroniaeth Orllewinol
- y cyfle i astudio mewn dau faes pwnc gyda safbwyntiau gwyddorau cymdeithasol gwahanol
- y profiad o ddysgu o fewn amgylcheddau addysgu gwahanol, rhyngweithio â myfyrwyr a staff ar draws y Brifysgol
- yr amrywiaeth eang o fodiwlau a meysydd pwnc sydd ar gael i fyfyrwyr ym meysydd Economeg ac Athroniaeth
Côd UCAS | VL51 |
---|---|
Derbyniad nesaf | Medi 2020 |
Hyd | 3 blwyddyn |
Modd (astudio) | Amser llawn |
Lleoedd sydd ar gael fel arfer | Fel arfer, mae 350 lle ar gael yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. |
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arfer | Mae’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn derbyn tua 1450 o geisiadau. |
-
Adeilad Aberconwy
Rhodfa Colum
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU
-
Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Adeilad John Percival
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU
Cysylltu
Gofyn cwestiwnGofynion mynediad
ABB-BBB. Ni fydd angen i chi ennill y graddau hyn mewn unrhyw bynciau penodol, ond nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol a Meddwl Beirniadol.
Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd
Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
DDM. Pynciau BTEC fyddai’n dderbyniol ar gyfer mynediad - pynciau ynghylch y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.
Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Astudiaethau Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
TGAU Saesneg Iaith Gradd C neu 4 neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfwerthol.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£9,000 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£18,450 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Strwythur y cwrs
Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am dair blynedd gyda dau semester y flwyddyn, wedi eu rhannu rhwng y ddau bwnc. Ceir 120 o gredydau bob blwyddyn. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020
Blwyddyn un
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Athroniaeth a 60 credyd Economeg.
Mae'r modiwlau athroniaeth gorfodol yn canolbwyntio ar natur y meddwl a chyflwyno cysyniadau, damcaniaethau, dadleuon a dulliau canolog damcaniaeth foesol a gwleidyddol cyfoes.
Ceir hefyd fodiwlau gorfodol mewn Macro-economeg a Micro-economeg.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Applied Stats and Maths in Econ and Business | BS1501 | 20 credydau |
Microeconomics | BS1551 | 20 credydau |
Macroeconomics | BS1652 | 20 credydau |
Mind, Thought and Reality | SE4101 | 20 credydau |
Moral and Political Philosophy | SE4103 | 20 credydau |
Critical Thinking | SE4107 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Athroniaeth a 60 credyd Economeg. Mae modiwlau damcaniaethau macro-economaidd a micro-economaidd yn orfodol.
Fe fyddwch chi hefyd yn dewis eich modiwlau sy'n weddill o amrywiaeth fawr o ddewisiadau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Macroeconomic Theory | BS2549 | 20 credydau |
Microeconomic Theory | BS2550 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
British Economy | BS2547 | 20 credydau |
Money Banking and Finance | BS2551 | 20 credydau |
Economics of the EU | BS2558 | 20 credydau |
Managerial Economics | BS2560 | 20 credydau |
Introductory Econometrics | BS2570 | 20 credydau |
State, Business and the British Economy in the Twentieth Century | BS2572 | 20 credydau |
Philosophy of Science | SE4312 | 20 credydau |
Metaphysics | SE4364 | 20 credydau |
French Existentialism | SE4369 | 20 credydau |
Modern Moral Philosophy | SE4373 | 20 credydau |
Contemporary Ethical Theory | SE4388 | 20 credydau |
Epistemology | SE4398 | 20 credydau |
Credoau'r Cymry | SE4400 | 20 credydau |
Ancient Philosophy | SE4405 | 20 credydau |
Philosophy of Feminism | SE4418 | 20 credydau |
Philosophy of Psychology | SE4421 | 20 credydau |
Damcaniaethu a Dadfeilio’r Gymdeithas Gyfalafol | SE4423 | 20 credydau |
Aesthetics | SE4424 | 20 credydau |
ENCAP Employability Module | SE6255 | 20 credydau |
Blwyddyn tri
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Athroniaeth a 60 credyd Economeg.
Wrth astudio Athroniaeth, mae modiwlau arbenigol yn eich galluogi chi i ddilyn eich diddordebau ac ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod.
Wrth astudio Economeg, bydd eich technegau mathemateg ac ystadegau wedi datblygu, a byddwch yn gallu gwneud dadansoddiad economaidd o ddadleuon damcaniaethol mewn economeg ac asesu dadleuon amgen.
Dysgu ac asesu
Sut caf fy addysgu?
Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.
Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Blwyddyn 1
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
25%
Astudio annibynnol dan arweiniad
75%
Lleoliadau ments
0%
Blwyddyn 2
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
22%
Astudio annibynnol dan arweiniad
78%
Lleoliadau ments
0%
Blwyddyn 3
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
21%
Astudio annibynnol dan arweiniad
79%
Lleoliadau ments
0%
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.
Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.
Sut caf fy asesu?
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.
Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol.
Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.
Dulliau asesu (2017/18 data)
Blwyddyn 1
Arholiadau ysgrifenedig
78%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
22%
Blwyddyn 2
Arholiadau ysgrifenedig
71%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
29%
Blwyddyn 3
Arholiadau ysgrifenedig
55%
Arholiadau ymarferol
4%
Gwaith cwrs
41%
Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?
Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:
- ddeall pynciau cymhleth gyda hyder
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
- nodi a defnyddio data perthnasol
- cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
- cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
- gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
- defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
- cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Rhagolygon gyrfa
YSGOL SAESNEG, CYFATHREBU AC ATHRONIAETH
Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae gan raddedigion Athroniaeth sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.
YSGOL BUSNES
Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae Economeg yn ddisgyblaeth sy’n ysgogi deallusrwydd ac mae gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn aml yn galw am sgiliau graddedigion Economeg. Pa bynnag yrfa rydych chi’n ei dilyn, bydd y sgiliau a ddatblygir yn ystod eich gradd (gallu datrys problemau, technegau meintiol a sgiliau dadansoddol) yn ddi-os yn cael eu croesawu gan gyflogwyr.
Yn ychwanegol at Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, rydym wedi buddsoddi yn ein canolfan yrfaoedd bwrpasol ein hunain er mwyn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd am swyddi a mynediad at gyngor ac arweiniad penodol i’r diwydiant busnes.
Astudio yn Gymraeg
Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.
Diwrnod agored nesaf i israddedigion