Ewch i’r prif gynnwys

Cerddoriaeth gyda Blwyddyn o Astudio Dramor (BA)

  • Maes pwnc: Cerddoriaeth
  • Côd UCAS: G84D
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn dramor
A violinist and a pianist.

Pam astudio'r cwrs hwn

certificate

Yr offeryn o’ch dewis

Cyrhaeddwch eich llawn botensial drwy hyfforddiant offerynnol sydd wedi'i ariannu'n llawn.

globe

Treuliwch flwyddyn dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd.

microphone

Bywyd fel cerddor teithiol

Cewch flas o'r hyn sy’n bosibl drwy deithio gydag un o'n ensembles.

people

Interniaethau yn y diwydiant cerddoriaeth

Cysylltwch â cherddorion drwy weithdai cyfansoddi; dosbarthiadau meistr perfformio, a chyfresi o gyngherddau.

structure

Lleoliad gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth

Dysgwch am yr hyn sydd gan y diwydiant cerddoriaeth i'w gynnig gyda lleoliad gwaith.

Bydd ein rhaglen Cerddoriaeth BA hyblyg yn eich galluogi i arbenigo a datblygu eich diddordebau cerddorol eich hun wrth gaffael addysg gadarn, eang mewn theori a dadansoddi cerddoriaeth, astudiaethau cyfansoddi a pherfformio, hanes a diwylliant cerddoriaeth, ethnogerddoleg, cynhyrchu stiwdio a busnes cerddoriaeth (gan gynnwys cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith). 

Yn ogystal â sylfeini allweddol addysg ym maes cerddoriaeth, mae’r rhaglen hon yn cynnig ystod hyblyg ac amrywiol o fodiwlau i chi, heb unrhyw ofynion craidd ym mlwyddyn 1.  Efallai y byddwch hefyd yn gallu astudio pynciau mewn ysgolion eraill, yn amodol ar argaeledd bob blwyddyn. Os byddai'n well gennych ganolbwyntio ar gerddoriaeth yn unig, ystyriwch ein cwrs BMus (sy'n cynnwys perfformio fel prosiect mawr ym mlwyddyn 3, gofynion modiwl craidd ym mlwyddyn 1, a'r cyfle i arbenigo mewn dau brosiect mawr) fel dewis arall. 

Yn ogystal ag astudio ystod o fodiwlau academaidd, byddwch hefyd yn cael eich annog i fanteisio'n llawn ar ein ensembles craidd a arweinir gan yr ysgol, sy’n cynrychioli ystod eang o draddodiadau a repertoires cerddorol, megis yr Ensemble Jazz, Chwyth Symffonig, Cerddorfa Symffoni, Ensemble Gamelan, Côr Siambr, Cerddorfa Siambr, Lanyi (Ensemble Gorllewin Affrica), Corws Symffoni a'r Gydweithfa Bop. 

Byddwch yn treulio’r drydedd flwyddyn o’r cwrs pedair blynedd hwn yn astudio dramor, gan ddilyn modiwlau mewn cerddoriaeth a phynciau eraill os ydynt ar gael. Yn y brifysgol sy’n eich croesawu, byddwch yn dysgu gwahanol safbwyntiau a dulliau gwahanol o fynd ati i astudio cerddoriaeth. Byddwch yn cwblhau eich astudiaethau yng Nghaerdydd yn y bedwaredd flwyddyn. 

Maes pwnc: Cerddoriaeth

  • academic-schoolYr Ysgol Cerddoriaeth
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4392
  • Marker31 Heol Corbett, Cathays, Caerdydd, CF10 3EB

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-BBB. Rhaid i'r rhain gyynnwys Cerddoriaeth.

Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Mathemateg Lefel Uwch.

Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
- gradd 8 Cerddoriaeth Ymarferol mewn offeryn neu lais.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Cerddoriaeth.

Bydd ymgeiswyr heb BTEC mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Ar ôl i chi wneud cais, byddwn yn eich gwahodd i un o bum diwrnod clyweliad a chyfweliad, a gynhelir rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror.

Yn y clyweliad
Cynhelir clyweliadau gan aelodau staff. Byddwn yn gofyn i chi ganu neu berfformio ar eich prif offeryn am tua phum munud. Chi sydd i ddewis eich repertoire, a byddwn yn seilio ein hasesiad o'ch perfformiad ar safonau mynegiannol a thechnegol cyffredinol.

Bydd cyfweliad byr yn dilyn lle y gallwn eich holi am y gerddoriaeth a berfformiwyd gennych, eich diddordebau cerddorol a'ch profiad. Nid profi eich gwybodaeth ffeithiol na barnu eich hoff a'ch cas bethau fydd y nod; diben ein cyfweliadau yw yn ein galluogi i ddod i'ch adnabod yn well a rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a dangos i ni beth sydd o ddiddordeb i chi.

Mae penderfyniad terfynol y tiwtor derbyn yn seiliedig ar adroddiad y cyfweliad a'r cais UCAS.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,350 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £3,405 Dim
Blwyddyn pedwar £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Oni bai am eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2024. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2024 i ddangos y newidiadau.

Mae ein rhaglenni israddedig yn caniatáu i chi arbenigo a datblygu eich diddordebau cerddorol eich hun.

Gradd pedair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae pob blwyddyn yng Nghaerdydd yn cael ei rhannu'n semester yr hydref a semester y gwanwyn ac mae ganddi strwythur modiwlaidd. Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yng Nghaerdydd yn werth 10 neu 20 credyd. Gan ddibynnu ar ble rydych chi'n treulio'ch blwyddyn dramor, gall strwythur y semestrau a'r modiwlau fod yn wahanol ym Mlwyddyn 3 y rhaglen.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn gosod y sylfeini i’ch paratoi i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch.

Cynigir modiwlau cwbl ddewisol mewn theori a dadansoddi cerddoriaeth, cyfansoddi (offerynnau unigol ac ensembles bach), sgiliau cerddorol ymarferol (perfformiad unigol), portffolio ymarferol (ensembles, arwain, hyfforddiant clyw), a thechnegau mewn jazz a cherddoriaeth boblogaidd. Mae yna hefyd driawd o fodiwlau a fydd yn rhoi cymorth mawr ei angen i fyfyrwyr o ran ymwybyddiaeth hanesyddol ac arddull o genres a thraddodiadau cerddorol (Gorllewinol ac Anorllewinol, Cerddoriaeth Boblogaidd, Jazz a Ffilm, yn ogystal â Theatr Gerdd) a datblygu gallu i ysgrifennu a siarad yn hyderus, yn rhugl ac yn feirniadol am gerddoriaeth.

Byddwch yn astudio o leiaf 80 credyd mewn Cerddoriaeth ym mlwyddyn 1 (h.y. pedwar modiwl). Gallwch ddewis astudio modiwlau y tu allan i fodiwlau'r ysgol, yn amodol ar argaeledd.

I ategu eich astudiaethau academaidd, fe'ch anogir yn weithredol i ymuno â'r ensembles craidd a arweinir gan y brifysgol os byddwch yn dewis peidio â'u cymryd yn ffurfiol fel modiwlau academaidd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau Astudio LlenyddiaethCY151320 Credydau
Sgiliau IaithCY151520 Credydau
Y Gymraeg HeddiwCY151620 Credydau
Iaith ac YstyrCY160020 Credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 Credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 Credydau
Uwch Iaith Ffrangeg Blwyddyn 1 (semester)ML608820 Credydau
Safbwyntiau cenedlaethol a byd-eang ar FfraincML618720 Credydau
Iaith Ffrangeg Uwch Blwyddyn 1ML618840 Credydau
Dechreuwyr Almaeneg Blwyddyn 1ML708920 Credydau
Hanes a Diwylliant yr Almaen mewn Cyd-destun TrawswladolML718720 Credydau
Uwch Iaith Almaeneg Blwyddyn 1ML718840 Credydau
Dechreuwyr Almaeneg Blwyddyn 1ML718940 Credydau
Uwch Iaith Eidaleg Blwyddyn 1 (semester)ML808820 Credydau
Blwyddyn 1 Iaith Dechreuwyr (Semester)ML808920 Credydau
Cyflwyniad i Astudiaethau Eidaleg mewn Cyd-destun TrawswladolML817920 Credydau
Iaith Gymraeg Uwch (Blwyddyn 1)ML818840 Credydau
Dechreuwyr Iaith Eidaleg Blwyddyn 1ML818940 Credydau
Cyfansoddiad 1AMU111320 Credydau
Technegau mewn Cerddoriaeth Jazz a PhoblogaiddMU120120 Credydau
Cyfansoddiad 1BMU121320 Credydau
Elfennau o Theori TonalMU131120 Credydau
Ysgrifennu am GerddoriaethMU131220 Credydau
Cerddoriaeth fel DiwylliantMU132020 Credydau
Astudiaethau Achos mewn Hanes CerddoriaethMU132120 Credydau
Portffolio Ymarferol IMU132220 Credydau
Cerddor Ymarferol 1MU132520 Credydau
Drama: Llwyfan a TudalenSE213920 Credydau
Cariadon croes seren: Gwleidyddiaeth DesireSE214020 Credydau
Trawsnewid Gweledigaethau: Testun a DelweddSE214220 Credydau
Cyrff Troseddgar mewn Llenyddiaeth GanoloesolSE214720 Credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2 cewch gyfle i atgyfnerthu eich cryfderau ochr yn ochr â pharhau â’ch gweithgareddau mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan ddewis eich modiwlau o dri o leiaf o'r pedwar grŵp:

  • Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol
  • Cyfansoddi a Chynhyrchu
  • Sgiliau Cerddorol Ymarferol
  • Cerddoleg a Lleoliad

Mae ein modiwlau blwyddyn 2 ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o'r proffesiwn cerddoriaeth yn well a rhoi cyfle am leoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau, yn semestr y gwanwyn.

Ym mlwyddyn 2, cewch eich cyflwyno'n helaeth i addysgu a arweinir gan ymchwil.

Fel myfyriwr BA, byddwch yn astudio isafswm o 100 o gredydau mewn Cerddoriaeth ym mlwyddyn 2, a gallwch ddewis astudio modiwlau y tu allan i faes Cerddoriaeth, yn amodol ar argaeledd.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Mae’r flwyddyn o Astudio Dramor yn flwyddyn 'annibynnol', lle byddwch yn dilyn modiwlau sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth yn un o'n prifysgolion partner dramor. Bydd y cwricwlwm dramor yn cyfateb i 120 yn union o gredydau ym Mhrifysgol Caerdydd, a chewch eich asesu’n unol â’r normau a sefydlwyd yn y brifysgol bartner.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Astudio DramorMU2400120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Byddwch yn dewis eto o blith o leiaf dri o'r pedwar grŵp pwnc (a amlinellwyd o dan flwyddyn 2), ac yn cael cyfle i astudio un neu ddau o'r pedwar prif fodiwl prosiect: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoreg, Prosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth a Chyfansoddi 3 (Portffolio Cyfansoddi).

Mae myfyrwyr BA yn cael cyfle i gymryd mân brosiect mewn perfformio (Sgiliau Cerddoriaeth Ymarferol) gwerth 20 credyd. (Mae prosiect mawr ar ffurf Datganiad yn unigryw i'r rhaglen BMus.)

Byddwch yn astudio isafswm o 100 o gredydau mewn Cerddoriaeth ym mlwyddyn 4, a gallwch ddewis astudio modiwlau y tu allan i faes Cerddoriaeth, yn amodol ar argaeledd. Mae modiwlau blwyddyn 4 yn parhau i ganolbwyntio ar addysgu a arweinir gan ymchwil.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Cewch eich addysgu gan staff academaidd gydag arbenigedd ar draws cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoreg a cherddoriaeth boblogaidd.

Mae eich hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, os ydych chi'n astudio modiwl Sgiliau Cerddorol Ymarferol. Mae hyn yn cynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Byddwch yn cael 24 gwers hanner awr yn ystod y flwyddyn.

Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o arddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai mewn grwpiau bach, sesiynau tiwtorial unigol, hyfforddiant offerynnol ensemble, ymarferion ac astudio annibynnol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau pob blwyddyn byddwch yn cael canllaw i nodau modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen a gwrando. Bydd y tiwtoriaid personol a ddyrennir i chi yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar ddewis modiwlau a byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw.

Ar gyfer prosiectau’r flwyddyn olaf, byddwch yn cael goruchwyliwr i fonitro cynnydd a darparu ymgynghoriadau unigol trwy drefniant.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Ar gyfer y Flwyddyn Astudio dramor, bydd Cydlynydd Rhyngwladol yr Ysgol yn rhoi arweiniad i chi cyn, yn ystod ac ar ôl eich lleoliad gwaith. Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion partner yn cynnig rhaglen ymsefydlu gynhwysfawr, gyda sesiwn groeso wedi'i threfnu ar gyfer dechrau'r flwyddyn. O ran prifysgolion yn Ewrop, os oes angen hyfforddiant ychwanegol arnoch yn iaith frodorol y sefydliad, fe'ch anogir i ymrestru mewn dosbarthiadau sy'n addas i lefel eich gallu.

Sut caf fy asesu?

Methods of assessment vary from module to module and may include essay assignments, presentations, extended projects, performances, and written exams. For the Year of Study Abroad you will be assessed according to the norms established at the partner university.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, fel:

  • llythrennedd datblygedig
  • llythrennedd cyfrifiadurol
  • sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer)
  • sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • ymdopi ag ansicrwydd/cymhlethdod
  • creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • sgiliau fel arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli, yn rhan annatod o weithgareddau cerddorol ymarferol
  • nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Yn rhan o'r Flwyddyn Astudio Dramor, byddwch yn caffael:

  • sgiliau iaith
  • y gallu i drafod gwahaniaethau diwylliannol
  • y gallu i addasu i arferion sefydliadol newydd

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2016/17, dywedodd 100% o raddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio (DLHE 2016/17).

Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.

Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i gael gyrfa gyda’r BBC, Cynghorau Celfyddydau, Glyndebourne Opera, Opera Cenedlaethol Lloegr, prifysgolion, Oxford University Press, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’r London Symphony Orchestra, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau diwydiannol, masnachol, addysgol ac elusennol eraill.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae ein modiwlau ar gyfer yr ail flwyddyn ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall y gwahanol ganghennau yn y proffesiwn cerddoriaeth yn well. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau.

Mae ein cyfres flynyddol o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth yn gyfle gwych i chi gwrdd â phobl broffesiynol mewn amryw feysydd fel perfformio, addysg cerddoriaeth, newyddiaduraeth cerddoriaeth, rheoli’r celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.

Lleoliadau

Mae modiwlau Blwyddyn dau ar Fusnes Cerddoriaeth I/II yn rhoi cyfle am leoliad gwaith byr, naill ai mewn un bloc neu fel cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 1% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.