Mathemateg (MMath)
Blwyddyn Mynediad
Medrwch astudio Mathemateg gan ei fod yn bwnc diddorol a heriol. Mae’r cwrs yn darparu sgiliau pwysig ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.

Trosolwg y cwrs
Mae'r cwrs Mathemateg MMath pedair blynedd, yn cynnig cyfle i ymchwilio'n ddyfnach i fathemateg pur a chymhwysol nag sy'n bosibl ar gwrs BSc.
Y cwrs MMath yw'r paratoad delfrydol os ydych am fynd ymlaen i weithio ym maes ymchwil neu i gwmni technolegol, neu am gael dealltwriaeth ddyfnach o fathemateg a datblygu sgiliau y mae galw amdanynt ymhlith amrywiaeth o ddarpar gyflogwyr.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys craidd hanfodol o fathemateg sy'n gysylltiedig â modiwlau mathemateg gymhwysol, ystadegau, cyfrifiadureg ac ymchwil weithredol, a chewch gipolwg ar bob un o'r canghennau hyn yn ystod eich blwyddyn gyntaf.
Nodweddion nodedig
Bydd Astudio Mathemateg yng Nghaerdydd yn:
- cynnig sylfaen gadarn o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ym mhrif feysydd mathemateg
- annog dealltwriaeth o gysyniadau mathemategol haniaethol, dadleuon rhesymegol a rhesymu casgliadol
- cynnig addysg briodol mewn mathemateg sy'n briodol ar gyfer y rhai sy'n bwriadu bod yn fathemategwyr proffesiynol, neu sydd am gael dealltwriaeth ddyfnach o fathemateg
- cynnig cyfle i ymgymryd â phrosiect mathemategol sylweddol ar lefel uwch
- rhoi pwyslais ar ddysgu annibynnol
Mae llawer o gynnwys ein cyrsiau ym mlwyddyn un yn debyg iawn, felly gallech newid i gwrs arall yn yr Ysgol, os ydych yn dymuno.
NODYN: Gallech dreulio blwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn. Byddai hyn yn ei gwneud yn radd MMath pum mlynedd.
Achrediadau
Gofynion mynediad
AAA-AAB gan gynnwys A mewn Mathemateg. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol.
Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd
Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
DD mewn BTEC ac A mewn Mathemateg Safon Uwch.
36 pwynt neu 666 mewn 3 phwnc Lefel Uwch, i gynnwys 6 mewn Mathemateg lefel uwch neu 6 mewn dadansoddiadau dadansoddi. Bydd Ceisiadau a Dehongliadau Mathemateg Lefel Uwch yn cael eu hystyried fesul achos, ni fyddwn yn derbyn hyn fel safon mynediad.
Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Mathemateg.
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg radd C neu radd 4 neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfatebol.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£9,000 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£21,950 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Strwythur y cwrs
Gradd pedair blynedd amser llawn yw hon. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 neu 20 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o'r modiwlau, a bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn. Bydd y modiwlau y byddwch yn eu dewis ym mlynyddoedd un, dau a thri yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer nes ymlaen.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020
Blwyddyn un
Mae'r rhan fwyaf o'r modiwlau blwyddyn gyntaf yn rhai gorfodol, ond cewch astudio hyd at 10 credyd mewn pwnc arall.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Elementary Differential Equations | MA1001 | 10 credydau |
Geometry | MA1004 | 10 credydau |
Foundations of Mathematics I | MA1005 | 20 credydau |
Foundations of Mathematics II | MA1006 | 20 credydau |
Linear Algebra I | MA1008 | 10 credydau |
Introduction to Probability Theory | MA1500 | 10 credydau |
Computing for Mathematics | MA1701 | 10 credydau |
Fundamental skills for University and Beyond | MA1900 | 10 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Classical Mechanics | MA1301 | 10 credydau |
Statistical Inference | MA1501 | 10 credydau |
Finance I: Financial Markets and Corporate Financial Management | MA1801 | 10 credydau |
Blwyddyn dau
Mae rhagor o fodiwlau dewisol ar gael yn yr ail flwyddyn. Bydd y modiwlau y byddwch yn eu dewis yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer yn nes ymlaen.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Complex Analysis | MA2003 | 10 credydau |
Series and Transforms | MA2004 | 10 credydau |
Real Analysis | MA2006 | 10 credydau |
Linear Algebra II | MA2008 | 20 credydau |
Multivariable and Vector Calculus | MA2010 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Modelling with Differential Equations | MA0232 | 10 credydau |
Operational Research | MA0261 | 20 credydau |
Introduction to Number Theory I | MA2011 | 10 credydau |
Groups | MA2013 | 10 credydau |
Vibrations and Waves | MA2303 | 10 credydau |
Foundations of Probability and Statistics | MA2500 | 20 credydau |
Numerical Analysis | MA2701 | 10 credydau |
Mathematical Investigations with Python | MA2760 | 10 credydau |
Finance II: Investment Management | MA2800 | 10 credydau |
Problem Solving | MA2900 | 10 credydau |
Blwyddyn tri
Mae cysylltiad agos rhwng y modiwlau sydd ar gael ym mlwyddyn tri, a diddordebau ymchwil yr Ysgol. Ym mlwyddyn tri, byddwch yn dewis detholiad o fodiwlau uwch, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar bynciau o ddiddordeb arbennig.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Time Series Analysis and Forecasting | MA0367 | 10 credydau |
Project (Half) | MA0392 | 10 credydau |
Complex Function Theory | MA3000 | 10 credydau |
Combinatorics | MA3004 | 10 credydau |
Introduction to Functional and Fourier Analysis | MA3005 | 20 credydau |
Coding Theory | MA3007 | 10 credydau |
Algebraic Topology | MA3008 | 10 credydau |
Introduction to Number Theory 2 | MA3011 | 10 credydau |
Ordinary Differential Equations | MA3012 | 10 credydau |
Rings and Fields | MA3013 | 10 credydau |
Theoretical and Computational Partial Differential Equations | MA3303 | 20 credydau |
Methods of Applied Mathematics | MA3304 | 20 credydau |
Fluid Dynamics | MA3305 | 20 credydau |
Regression Analysis and Experimental Design | MA3502 | 20 credydau |
Stochastic Processes for Finance and Insurance | MA3503 | 20 credydau |
Algorithms and Heuristics | MA3602 | 10 credydau |
Optimisation | MA3603 | 20 credydau |
Game Theory | MA3604 | 10 credydau |
Stochastic OR Models | MA3606 | 10 credydau |
Mathematical Methods for Data Mining | MA3700 | 10 credydau |
Behavioural Finance | MA3800 | 10 credydau |
Blwyddyn pedwar
Yn y bedwaredd flwyddyn, bydd y cwrs yn datblygu hyfforddiant mewn ymchwil ac uwch-sgiliau mewn mathemateg, yn enwedig mewn dadansoddi mathemategol, ffiseg fathemategol a dynameg hylifol. Byddwch hefyd yn gwneud darn pwysig o waith prosiect lle byddwch yn gwneud gwaith ymchwil newydd.
Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu, yn ogystal â defnyddio eich sgiliau mathemategol mewn pwnc ymchwil o'ch dewis.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
MMath Project | MA4900 | 40 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Theoretical Fluid Dynamics | MA4003 | 20 credydau |
Measure Theory | MA4007 | 20 credydau |
Combinatorial and Analytic Number Theory | MA4011 | 20 credydau |
Finite Elasticity | MA4012 | 20 credydau |
Mathematical Foundations of Quantum Physics | MA4014 | 20 credydau |
Advanced Topics in Analysis: Sobolev Spaces and Viscosity Solutions | MA4015 | 20 credydau |
Statistics of Big Data | MA4511 | 20 credydau |
Convex Optimisation | MA4600 | 20 credydau |
Stochastic Search and Optimisation | MA4601 | 20 credydau |
Reading Module | MA4901 | 20 credydau |
Reading Module | MA4902 | 20 credydau |
Dysgu ac asesu
Sut caf fy addysgu?
Cewch eich addysgu mewn darlithoedd, tiwtorialau i grwpiau bach, a dosbarthiadau trafod enghreifftiau. Cewch eich annog i ddysgu'n fwyfwy annibynnol drwy gydol y cwrs.
Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, a myfyrio ar asesiadau ac adborth.
Ym mlwyddyn pedwar, byddwn yn disgwyl i fyfyrwyr chwarae rhan fwy amlwg oherwydd bydd rhai darlithoedd yn cael eu cynnal ar ffurf seminarau.
Blwyddyn 1
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
29%
Astudio annibynnol dan arweiniad
71%
Lleoliadau ments
0%
Blwyddyn 2
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
27%
Astudio annibynnol dan arweiniad
73%
Lleoliadau ments
0%
Blwyddyn 3
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
26%
Astudio annibynnol dan arweiniad
74%
Lleoliadau ments
0%
Blwyddyn 4
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
13%
Astudio annibynnol dan arweiniad
87%
Lleoliadau ments
0%
Sut y caf fy nghefnogi?
Ar ddechrau pob blwyddyn, byddwch yn cael arweiniad ynghylch nodau'r modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen. Byddwn yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.
Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol ar unwaith.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, llyfrgelloedd ardderchog a chanolfannau adnoddau.
Cewch ragor o gymorth dysgu hefyd drwy Wasanaeth Cefnogi Mathemateg cyffredinol y Brifysgol. Sesiynau hamddenol ac anffurfiol sydd ar gael bob dydd yw'r rhain. Gall myfyrwyr alw heibio i drafod unrhyw elfen o'u hastudiaethau gyda thiwtor naill ai mewn cyfarfod un i un, neu mewn grŵp bach.
Sut caf fy asesu?
Mae gan lawer o fodiwlau arholiadau ysgrifenedig ar ddiwedd semestrau'r hydref neu'r gwanwyn, ac mae gan rai ohonynt elfen asesu barhaus hefyd. Gall hyn gynnwys ymarferion datrys problemau, adroddiadau ysgrifenedig, rhaglenni cyfrifiadurol a chyflwyniadau llafar. Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.
Asesir eich prif brosiect ymchwil ym mlwyddyn pedwar drwy adroddiad ysgrifenedig a'r arholiad llafar.
Ar hyn o bryd, mae 20% o'ch gradd derfynol yn seiliedig ar eich astudiaethau yn yr ail flwyddyn, a 30% ohoni ar astudiaethau ym mlwyddyn tri. Rhaid cael o leiaf 55% ar gyfartaledd ym mlynyddoedd un a a dau i allu parhau i astudio'r rhaglen.
Adborth:
Mae adborth ysgrifenedig ac atebion amlinellol am asesiadau o fewn y cwrs, yn rhoi'r cyfle i chi fyfyrio ar eich cynnydd. Darperir rhagor o adborth mewn dosbarthiadau trafod enghreifftiau a thiwtorialau (ym mlwyddyn un) er mwyn adolygu problemau'n fanylach a thrafod atebion posibl. Dylech drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol. Mae nifer o ddulliau ar waith i roi rhagor o adborth i gefnogi eich astudiaethau; darllenwch "Sut y caf fy nghefnogi?" isod.
Dulliau asesu (2017/18 data)
Blwyddyn 1
Arholiadau ysgrifenedig
90%
Arholiadau ymarferol
5%
Gwaith cwrs
5%
Blwyddyn 2
Arholiadau ysgrifenedig
97%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
3%
Blwyddyn 3
Arholiadau ysgrifenedig
95%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
5%
Blwyddyn 4
Arholiadau ysgrifenedig
67%
Arholiadau ymarferol
5%
Gwaith cwrs
28%
Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd pwysig. Byddwch yn:
- datblygu eich sgiliau cyfathrebu a'ch gallu i gyfathrebu mathemateg ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar
- dangos hunanreolaeth effeithiol a'r sgiliau trefnu sydd eu hangen i ymgymryd â phrosiect mathemategol sylweddol
- gwella eich sgiliau cyfrifiadura, TG, adalw gwybodaeth a thrin data
- datblygu eich gallu i feddwl mewn ffyrdd rhesymegol a dadansoddol wrth ystyried problemau mewn disgyblaethau eraill
- dangos sgiliau gweithio mewn grŵp, rheoli amser a chyflwyno
- dangos ymrwymiad i ddysgu gydol oes drwy ymgysylltu mewn proses o gynllunio datblygiad personol
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae sgiliau rhifiadol arbenigol a meddwl mewn ffyrdd rhesymegol a dadansoddol, yn rhinweddau y mae galw amdanynt ar draws amrywiaeth o yrfaoedd ysgogol a buddiol. Mae sector y gwasanaethau ariannol a sefydliadau fel Swyddfa’r Ystadegau Gwladol a’r Swyddfa Feteorolegol, ymhlith y rhai sydd wedi cyflogi graddedigion yr Ysgol Mathemateg.
Mae graddedigion y cwrs MMath yn aml yn symud ymlaen i wneud PhD ac uwch-astudiaethau eraill.
Mae'r Ysgol Mathemateg hefyd yn cynnig Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, cyflwyniadau gan gwmnïau yn yr Ysgol, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a noddir ar gyfer cyflawniad academaidd.
Swyddi
- Finance Manager
- Lecturer
- Risk Analyst
- Statistician
Lleoliadau
Gallech dreulio blwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn. Byddai hyn yn ei gwneud yn radd MMath pum mlynedd.
Astudio yn Gymraeg
Mae hyd at 36% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.
Diwrnod agored nesaf i israddedigion