Y Gyfraith (LLB)
Blwyddyn Mynediad
Astudiwch y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn ennill profiad o’r pwnc yn y byd go iawn.

Trosolwg y cwrs
Mae ein rhaglen y Gyfraith LLB flaenllaw yn gwrs amser llawn, tair blynedd sy’n heriol ac yn ysgogol.
Byddwch yn astudio modiwlau sylfaenol (sy’n cynnwys cam academaidd yr hyfforddiant angenrheidiol ar hyn o bryd i ddod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr) ynghyd â dewis eang o fodiwlau cyffrous dewisol sy’n cynnwys Cyfraith yr Amgylchedd, Cyfraith Hawliau Dynol, Cyfraith y Cyfryngau a Chyfraith Teulu.
Yn ogystal â’r hyfforddiant academaidd eang rydym yn ei gynnig, bydd astudio’r Gyfraith yng Nghaerdydd yn cynnig cyfleoedd unigryw i chi weld y Gyfraith ar waith mewn cyd-destun cymdeithasol.
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu profiad addysgu a dysgu eithriadol wedi'i ategu gan weithgaredd ymchwil ardderchog.
Ni yw'r unig Brifysgol Grŵp Russell i gynnig y ddau gwrs sydd eu hangen ar hyn o bryd i gymhwyso fel bargyfreithiwr neu gyfreithiwr – Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar a'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol – sy'n golygu bod gennych chi'r dewis i aros gyda ni yng Nghaerdydd i gwblhau'ch addysg gyfreithiol gyfan.
Nodweddion nodedig
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu eich cyflogadwyedd, gydag ein Hymgynghorydd Gyrfaoedd pwrpasol wrth law ddau ddiwrnod yr wythnos yn adeilad y Gyfraith. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol, rhai sy’n unigryw i Brifysgol Caerdydd, sydd yn rhoi mantais gystadleuol i’n myfyrwyr.
Cynlluniau Pro Bono*
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi'r cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau.
Dau o’n cynlluniau mwyaf sefydledig yw ein Prosiect Dieuog (y cyntaf yn y DU i wrthdroi dyfarniad o euogrwydd gan y Llys Apêl) a’n Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG sy’n unigryw i Gaerdydd.
Mae’r ddwy fenter wedi ennill neu wedi cael lle ar restr fer dyfarniadau cenedlaethol o fri ac wedi rhoi cymorth i grwpiau bregus ac aelodau o’r gymuned sy’n cael trafferth cael mynediad at gymorth cyfreithiol. Gallwch hefyd wneud cais am le ar ein cynllun gydag Undeb Rygbi Cymru, lle’r ydym yn cynghori clybiau rygbi amatur ar faterion cyfreithiol.
Mae’r broses ymgeisio ar gyfer pob un o'n cynlluniau yn wahanol ac ni allwn warantu y bydd myfyrwyr yn sicrhau lle ar y cynllun o'u dewis, nac ar unrhyw un o'n cynlluniau. Mae ein portffolio yn cael ei adolygu'n rheolaidd ac mae’r hyn rydym yn ei gynnig yn gallu newid.
Ymryson (Mooting)
Caiff ein myfyrwyr eu hannog i gystadlu mewn cystadlaethau ymryson blynyddol. Mae'r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i chi gyflwyno materion cyfreithiol gerbron barnwr, yn erbyn cwnsler sy’n gwrthwynebu.
Mae ymryson yn sgil wych i allu ychwanegu at eich CV ac mae’n rhoi profiad gwerthfawr o siarad yn gyhoeddus mewn lleoliad ffurfiol.
Cystadleuaeth cyfweld â chleientiaid
Anogir ein myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth cyfweld cleientiaid flynyddol, gyda Syr Geoffrey Bindman QC yn Llywydd arni.
Byddwch yn meithrin profiad cyfweld a chwnsela mewn lleoliad ffug a byddwch yn cael eich asesu yn erbyn meini prawf asesu penodol sy’n cynnwys sgiliau rhyngbersonol a’ch gallu i ddelio gyda phroblemau cyfreithiol.
Achrediadau
Gofynion mynediad
AAB - ABB os cymerir pob cymhwyster o fewn 3 blynedd. Caiff ceisiadau eu hystyried fesul achos. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na Meddwl yn Feirniadol.
Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd
Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
DDD-DDM
35-33 pwynt, neu 666-665 ar Lefel Uwch
Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
GCSE
Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.
PTE Academic
O leiaf 62 yn gyffredinol gydag o leiaf 62 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 54 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.
Trinity ISE II/III
II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
TGAU Saesneg Iaith Gradd B neu 6 neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfatebol.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£9,000 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£17,450 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Strwythur y cwrs
Ym mhob blwyddyn o’r cwrs, byddwch yn cymryd modiwlau sy’n werth hyd at 120 o gredydau.
Yn ogystal â’r modiwlau sylfaen sy'n ofynnol yn y flwyddyn gyntaf, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a thri sy'n ymdrin â phynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi ddilyn eich diddordebau.
Mae lefel y cymhwyster gradd a gewch chi yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill yn y modiwlau a gymerwch yn ystod blynyddoedd dau a thri.
Yn eich ail flwyddyn, bydd gennych y cyfle i wneud cais am leoliad gwaith a fydd yn weithredol yn y drydedd flwyddyn o’ch gradd LLB yn y Gyfraith. Mae’r lleoliadau llawn amser sy’n talu cyflog ar agor i chi drwy broses ymgeisio cystadleuol sy’n anelu at ail greu’r prosesau recriwtio y byddwch chi’n dod ar eu traws wedi i chi raddio o’r Brifysgol. Yn ystod eich lleoliad, byddwch yn ymarfer y gyfraith fel cynorthwyydd cyfreithiol ac yn perfformio rolau ar lefel graddedig. Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol ymarferydd sy’n cynnwys rheoli achos, ymchwil cyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol fel rheoli amser, gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol. Bydd y lleoliadau yng Nghaerdydd ac yn cyfrannu at 10% o’r dosbarth o radd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020
Blwyddyn un
Byddwch yn cymryd pedwar modiwl 30 credyd gorfodol yn y flwyddyn gyntaf, fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer dwy flynedd nesaf eich rhaglen gradd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Contract [30] | CL4301 | 30 credydau |
Criminal [30] | CL4302 | 30 credydau |
Legal Foundations [30] | CL4303 | 30 credydau |
Public Law [30] | CL4304 | 30 credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch yn cymryd modiwlau fydd yn gwneud cyfanswm o 120 o gredydau, wedi eu dewis o’r rhestr o bynciau cyfraith dewisol. Adolygir y rhestr hon yn flynyddol gan ystyried adnoddau staff, galw myfyrwyr a newidiadau i arferion cyfreithiol.
Blwyddyn tri
Byddwch yn cymryd modiwlau fydd yn gwneud cyfanswm o 120 o gredydau, wedi eu dewis o’r rhestr o bynciau cyfraith dewisol. Adolygir y rhestr hon yn flynyddol gan ystyried adnoddau staff, galw myfyrwyr a newidiadau i arferion cyfreithiol.
Dysgu ac asesu
Sut caf fy addysgu?
Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau.
Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf ond yn gyffredinol yn darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol. Bydd gennych hefyd fynediad i fersiynau clywedol o’r darlithoedd hefyd.
Mewn tiwtorialau byddwch yn cael y cyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy grynhoi dyfarniad neu erthygl benodol i'r grŵp.
Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, cyfreithiol a deallusol trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys datrys problemau cyfreithiol, trafodaethau mewn grwpiau bach, dadlau, ymrysonfeydd, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm.
Blwyddyn 1
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
17%
Astudio annibynnol dan arweiniad
83%
Lleoliadau ments
0%
Blwyddyn 2
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
18%
Astudio annibynnol dan arweiniad
82%
Lleoliadau ments
0%
Blwyddyn 3
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
19%
Astudio annibynnol dan arweiniad
82%
Lleoliadau ments
0%
Sut y caf fy nghefnogi?
Cewch diwtor personol a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs a’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Byddan nhw hefyd yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf os ydych chi’n profi unrhyw anawsterau.
Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn yr Ysgol ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol ar gael.
Mae amrywiaeth o staff ar gael i gynnig cymorth pellach, gan gynnwys tiwtor cefnogaeth academaidd, cyd-gysylltydd cynllun pro-bono a llyfrgellwyr arbenigol y gyfraith. Mae aelod o staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau fod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau.
Mae’r holl fodiwlau o fewn rhaglen y Gyfraith yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol; Dysgu Canolog (Learning Central). Yma gallwch chi ymuno â fforymau trafod a dod o hyd i ddeunydd cwrs yn cynnwys recordiau o ddarlithoedd, dolenni at ddeunyddiau cysylltiedig, profion amlddewis, hen bapurau arholiad ac enghreifftiau o waith cyn-fyfyrwyr.
Sut caf fy asesu?
Caiff modiwlau eu hasesu drwy arholiad neu waith cwrs neu drwy gyfuniad o'r ddau. Mae fformat gwaith cwrs yn amrywio, gan gynnwys traethodau safonol, traethodau estynedig, portffolios o waith a gynhyrchir dros y flwyddyn academaidd gyfan ac atebion ysgrifenedig i broblemau cyfreithiol. Mae arholiadau fel arfer yn cael eu cynnal yn ystod yr haf. Cyflwynir gwaith cwrs ar ddyddiadau dynodedig yn ystod y flwyddyn academaidd.
Yn ystod y flwyddyn academaidd, byddwch yn cwblhau darnau gwahanol o waith nad ydyn nhw’n cyfrif tuag at farciau terfynol eich modiwlau, ond sydd wedi eu cynllunio i’ch helpu chi i gyflawni canlyniadau dysgu eich modiwlau ac i baratoi ar gyfer eich arholiadau a’ch gwaith cwrs. Gallai hyn fod yn ysgrifenedig neu ar lafar a gellir ei gyflwyno’n ffurfiol i diwtor neu ei gyflwyno yn ystod tiwtorialau neu seminarau. Fel arfer, bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ystod eich amser astudio annibynnol. Rhoddir adborth ar y gwaith hwn yn aml ac mewn amrywiaeth eang o fformatau, a’i fwriad yw eich helpu chi i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysg, yn ogystal â rhoi arwyddion o sut gallech wella eich perfformiad mewn arholiadau a gwaith cwrs.
Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Dulliau asesu (2017/18 data)
Blwyddyn 1
Arholiadau ysgrifenedig
88%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
13%
Blwyddyn 2
Arholiadau ysgrifenedig
88%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
13%
Blwyddyn 3
Arholiadau ysgrifenedig
75%
Arholiadau ymarferol
3%
Gwaith cwrs
23%
Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?
Mae gradd yn y gyfraith yn datblygu eich gallu i drefnu ffeithiau a syniadau mewn ffordd systematig, nodi gwybodaeth berthnasol a gwerthuso'r rhain i lunio cyngor ar gyfer cleient neu ddadl gyfreithiol.
Byddwch hefyd yn:
- gwella eich gallu i ddadlau mewn modd gwrthrychol, rhesymegol a phroffesiynol, gyda sylw dyledus i awdurdod a dulliau enwi dderbyniol
- datblygu eich gallu i ymgymryd â dysgu annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol
- gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm, gan gyfrannu’n adeiladol ac yn ddibynadwy
- datblygu eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- dysgu sut i ddefnyddio ffynonellau electronig penodol i’r pwnc, cronfeydd data a’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir i gasglu tystiolaeth ac i ymchwilio i gwestiynau cyfreithiol.
Gwybodaeth arall
Uned Pro Bono Ysgol y Gyfraith Caerdydd – Y gyfraith yn y byd go iawn
Rydym wedi ymrwymo i ymestyn cyfleoedd allgyrsiol i'n myfyrwyr, gan helpu i wella eu CVs mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi'r cyfle i fyfyrwyr ymarfer ac ehangu eu sgiliau.
Mae Pro Bono yn ymadrodd y mae cyfreithwyr yn ei ddefnyddio ar gyfer cyngor cyfreithiol am ddim. Rydym yn rhedeg sawl cynllun Pro Bono ac yn rhoi cyngor i aelodau o'r gymuned ar faterion cyfreithiol gwahanol.
Prosiect diniweidrwydd
Mae ein Prosiect Diniweidrwydd yn gweithio gyda charcharorion tymor hir sy’n mynnu eu bod nhw’n ddieuog o droseddau difrifol fel llofruddiaeth, ymosodiad difrifol a throseddau rhywiol. Y nod yw atal camweinyddu cyfiawnder lle gallai unigolyn fod wedi ei gollfarnu ar gam.
Yn 2014, ein prosiect ni oedd y Prosiect Diniweidrwydd cyntaf yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod euogfarn yn cael ei wrthdroi gan y Llys Apêl).
Mae myfyrwyr yn gweithio dan oruchwyliaeth bargyfreithwyr cymwys, yn ymchwilio i achosion ac yn eu cyflwyno nhw i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.
Cynllun gofal iechyd parhaus y GIG
Dan y cynllun hwn, rydym yn mynd i’r afael â mater cyllid Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Mae hon yn broblem gynyddol ledled y wlad sy’n effeithio ar ran o’r gymuned sy’n agored i niwed, yn bennaf y rhai sy’n dioddef o glefyd Alzheimer a ffurfiau eraill o ddementia. Gall unigolion o’r fath gael eu hunain mewn cartrefi nyrsio, gan dalu eu ffioedd yn breifat, lle gellid dadlau bod ganddyn nhw hawl i fynnu bod y GIG yn diwallu cost eu gofal yn llawn.
Mae myfyrwyr yn cael eu hyfforddi yn y maes arbenigol hwn o gyfraith, ac yn cael gwaith wedi ei ddyrannu iddyn nhw mewn ‘cwmnïau’ o chwe myfyriwr. Maen nhw’n cael eu goruchwylio gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol o gwmni cyfreithwyr Hugh James yng Nghaerdydd, ac mae’r gwaith yn cynnwys cyfweliadau â chleientiaid, ysgrifennu llythyrau, ac ymchwil.
Prosiect Undeb Rygbi Cymru
Gan weithio mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, mae myfyrwyr yn darparu gwasanaeth cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i glybiau rygbi Cymru dan lefel Cynghrair y Principality. Mae materion cyfreithiol y mae clybiau yn eu hwynebu yn cynnwys cyflogi staff, cynnal a chadw’r tiroedd, iechyd a diogelwch a llawer mwy.
Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi a’i warantu gan gyfreithwyr Hugh James, a siambrau bargyfreithwyr Civitas. Mae myfyrwyr hefyd yn cydweithio i gynhyrchu taflenni gwybodaeth sy’n cwmpasu materion cyfreithiol mae clybiau yn eu hwynebu.
Cynllun Oedolion Priodol Hafal
Hafal yw prif elusen iechyd meddwl Cymru. Mae Hafal yn hyfforddi myfyrwyr i weithio fel ‘Oedolion Priodol’, i gefnogi oedolion sy’n agored i niwed sy’n cael eu cyfweld mewn gorsaf heddlu ar ôl cael eu harestio. Ar ôl cael eu hyfforddi, mae myfyrwyr yn gwirfoddoli i fod ar rota i gael eu galw i mewn i orsafoedd heddlu ar draws De Cymru.
Yr Uned Cymorth Personol
Mae’r Uned Cymorth Personol yn cefnogi’r rhai sy’n ymgyfreitha drostyn nhw eu hunain, tystion, dioddefwyr, aelodau o’u teuluoedd a chefnogwyr. Mae’n darparu cymorth di-dâl, cyfrinachol, annibynnol, nad yw’n gyfreithiol i gleientiaid, i’w helpu drwy broses y llys. Mae’r Uned yn hyfforddi myfyrwyr i gynorthwyo ymgyfreithwyr yn y Ganolfan Cyfiawnder Sifil yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Rhagolygon gyrfa
Yn 2015/16, dywedodd 97% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Fe wnaeth y myfyrwyr wnaeth ddewis gweithio yn syth ar ôl graddio gael swyddi fel trafodwyr, paragyfreithwyr, trinwyr ailforgeisio a chyfreithwyr gyda chwmnïau fel Cyfreithwyr Hugh James, Admiral Law, Eversheds LLP a Gwasanaethau’r Gyfraith a Risg GIG Cymru.
Nid yw gradd yn y gyfraith yn cyfyngu graddedigion i yrfaoedd yn y proffesiwn cyfreithiol. Bob blwyddyn mae nifer o raddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau mor amrywiol â chyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.
Astudio yn Gymraeg
Mae hyd at 81% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.
Diwrnod agored nesaf i israddedigion