Ewch i’r prif gynnwys

Eidaleg ac Economeg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae astudio Economeg yn eich darparu gyda hyfforddiant trylwyr a fydd yn sylfaen defnyddiol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Two students speaking to each other

Trosolwg y cwrs

Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol Busnes Caerdydd yw addysgu ein myfyrwyr i fod yn 'ddinasyddion byd-eang'. Drwy gyfuno Eidaleg ac Economeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol i weithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.     

Mae’r radd pedair blynedd mewn Eidaleg ac Economeg yn cyfuno prif elfennau (modiwlau ac addysgu) Economeg ag astudio Eidaleg a diwylliant yr Eidal. Bydd y rhaglen yn rhoi sylfaen cadarn i chi o ran theori, cysyniadau, egwyddorion a thechnegau ym meysydd creiddiol y pwnc: macro-economeg, micro-economeg a dadansoddi meintiol. Amcan hyn yw rhoi gwybod i chi sut y mae economi'r Deyrnas Unedig yn gweithio, a'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau. Mae hefyd yn ceisio darparu lefel uchel o gymhwysedd mewn Eidaleg a gwybodaeth am economi'r Eidal.

Byddwn yn cyflwyno ehangder a dyfnder dadansoddiad economaidd i chi ac yn cynnig cyfle i chi gaffael gwybodaeth a thechnegau ar draws nifer o feysydd arbenigol. Mae astudio economeg yn darparu hyfforddiant trylwyr a all fod yn sylfaen ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.

Drwy astudio Eidaleg ac Economeg, mae'r rhaglen yn annog amrywiaeth o sgiliau craidd a sgiliau maes-benodol sy'n drosglwyddadwy ac a fydd o werth i chi mewn addysg yn y dyfodol ac yn eich gyrfa ddilynol. 

Wrth i’r Undeb Ewropeaidd ddatblygu, mae sgiliau iaith yn dod yn fwyfwy atyniadol i gyflogwyr. Bydd astudio Economeg gydag Eidaleg yn eich helpu i baratoi ar gyfer gyrfa mewn Economeg, gan ddarparu gwybodaeth gadarn i chi am ddamcaniaethau, cysyniadau, egwyddorion a thechnegau’r ddisgyblaeth.  Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi mantais ychwanegol i chi drwy gaffael iaith.

Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i hategu gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.

Mae'r flwyddyn gyntaf yn darparu’r Economeg a'r modiwlau cysylltiedig hanfodol sy'n sail i radd mewn Economeg, ynghyd â modiwlau mewn Eidaleg a diwylliant yr Eidal.

Mae’r ail flwyddyn yn datblygu’r sylfaen hon, gan roi pwysoliad cyfartal i Economeg a phynciau Eidalaidd. Byddwch yn parhau i ganolbwyntio ar fodiwlau craidd mewn Economeg, tra bydd yr elfen iaith Eidaleg yn canolbwyntio ar eich sgiliau cyfathrebu. Yn eich ail flwyddyn yn astudio Economeg byddwch yn astudio modiwlau gorfodol mewn micro-economeg a macro-economeg. Byddwch yn dewis eich 20 credyd sy'n weddill o blith rhestr o'r modiwlau Eidaleg dewisol.

Treulir eich trydedd flwyddyn yn Ffrainc yn astudio modiwlau sy’n gyfwerth â 120 o gredydau mewn amrywiaeth o bynciau cyfrifyddu, busnes ac economeg yn Eidaleg.

Mae’r Eidal yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Eidaleg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig. 

Yn y bedwaredd flwyddyn, byddwch yn astudio ar gyfer 60 o gredydau mewn modiwlau dewisol sy'n gysylltiedig ag Economeg, ynghyd â 30 o gredydau mewn Eidaleg a 30 o gredydau mewn modiwlau dewisol Eidaleg.

Yn gyffredinol, mae'r radd mewn Eidaleg ac Economeg yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn Economeg neu fusnes rhyngwladol gyda'r gallu i weithio trwy gyfrwng yr Eidaleg yn ogystal â'r Saesneg.

Nodweddion nodedig

  • Addysgu iaith o safon uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o addysgu ac asesiadau a gynlluniwyd i fwydo dysgu yn y dyfodol.
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich gwaith dysgu iaith a throchi mewn diwylliant Eidalaidd.
  • Cwricwlwm â bwa dysgu clir, sy'n defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf ac sy'n cynnig dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant Eidalaidd.
  • Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau.
  • Y dewis o leoliad gwaith lle gellir ennill credydau.
  • Y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai’n astudio neu’n gweithio yn yr Eidal neu mewn gwlad lle siaredir Eidaleg.
  • Cyfle i arbenigo mewn dadansoddi economaidd drwy gydol tair blynedd yr astudiaeth, a thrwy hynny ddatblygu gwybodaeth a sgiliau sylweddol yn y ddisgyblaeth.
  • Yr her deallusol sy'n deillio o amlygiad i ddatblygiadau diweddar mewn damcaniaeth economaidd.
  • Datblygu sgiliau ymchwil meintiol ac empirig sylweddol.
  • Y posibilrwydd o symud i yrfaoedd yng ngwasanaeth economaidd y Llywodraeth ac ymgyngoriaethau economaidd mawr.
Côd UCASRL31
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferThe School of Modern Languages typically has 185 places available
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferThe School of Modern Languages typically receives 600 applications
  1. Ysgol Busnes Caerdydd

    Adeilad Aberconwy

    Rhodfa Colum

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3EU

  2. Yr Ysgol Ieithoedd Modern

    66a Plas y Parc

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3AS

Cysylltu

Gofyn cwestiwn

Gofynion mynediad

ABB - BBB. Ni fydd angen i chi ennill y graddau hyn mewn unrhyw bynciau penodol, ond bydd gan ymgeiswyr sydd wedi ennill B mewn Eidaleg fynediad at llwybrau uwch i Ieithoedd . Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM - DMM ym mhynciau Gwyddorau Cymdeithasol, Dyniaethau, Celfyddydau a Phynciau Gwyddonol.

 Bagloriaeth Ryngwladol 32-30 neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Ieithoedd Modern.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

TGAU Mathemateg Gradd B neu 6, TGAU Saesneg Iaith Gradd C neu 4 neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfatebol.

Dewis

Each candidate's profile is considered as a complete picture, taking into account your interest in and suitability for the degree, as shown in your personal statement and referee's report, as well as achieved and predicted grades. Your ability to present an argument, evidence of intellectual curiosity and your enthusiasm for and commitment to studying will also be assessed.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£18,450Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r gwerslyfrau craidd a argymhellir, y geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae BA Eidaleg ac Economeg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael lefel uchel o gymwyseddau iaith ac economaidd dros flynyddoedd olynol, ynghyd â sgiliau i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob blwyddyn o’r rhaglen byddwch yn astudio 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 o gredydau mewn Economeg a 60 o gredydau mewn Eidaleg. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yn yr Eidal neu mewn gwlad arall lle siaredir Eidaleg.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn un byddwch yn astudio am 60 credyd mewn modiwlau economeg craidd ac un modiwl gorfodol o 40 credyd yn yr iaith Eidaleg a modiwl trawsfudol 20 credyd, gan ddarparu sail gadarn i chi ar gyfer tair blynedd nesaf eich rhaglen radd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Applied Stats and Maths in Econ and BusinessBS150120 credydau
MicroeconomicsBS155120 credydau
MacroeconomicsBS165220 credydau
Introduction to Italian Studies in a Transnational ContextML817920 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Advanced Italian Language (Year 1)ML818840 credydau
Beginners Italian Language Year 1ML818940 credydau

Blwyddyn dau

Mae'n ofynnol i chi astudio modiwlau sy’n cyrraedd cyfanswm o 120 o gredydau yn yr ail flwyddyn. Mae'r ail flwyddyn yn datblygu ar sylfaen blwyddyn un, gan roi pwysoliad cyfartal o 60 o gredydau mewn pynciau busnes ac Eidaleg. Byddwch yn parhau i ganolbwyntio ar fodiwlau Economeg gorfodol mewn micro-economeg a macro-economeg, tra bydd yr elfen iaith yn canolbwyntio ar eich sgiliau cyfathrebu yn yr Eidaleg, gan eich paratoi mewn modd delfrydol ar gyfer y drydedd flwyddyn, a gaiff ei threulio dramor.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ex-Beginners Language Year 2 ItalianML828030 credydau
Ex-Advanced Language Year 2 ItalianML828130 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
British EconomyBS254720 credydau
Money Banking and FinanceBS255120 credydau
Economics of the EUBS255820 credydau
Managerial EconomicsBS256020 credydau
Introductory EconometricsBS257020 credydau
State, Business and the British Economy in the Twentieth CenturyBS257220 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir eich trydedd flwyddyn yn yr Eidal neu mewn gwlad arall lle siaredir Eidaleg. Bydd y flwyddyn yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Ffrengig a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwydnwch.

Mae eich dewisiadau yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gan weithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy Gynllun y Cyngor Prydeinig, neu weithio i sefydliad neu gwmni Eidalaidd. Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Os dewiswch yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd sy'n cynnwys Fenis, Verona, Milan, Pavia, Parma, Ferrara, Firenze, Pisa a Catania.  

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y British Council fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r British Council yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Eidaleg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Eidaleg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.     

Mae astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu chi yn ôl i Gaerdydd yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio ar gyfer 60 credyd o fodiwlau Economeg dewisol. Cymerir modiwl gorfodol 30 o gredydau mewn Eidaleg hefyd, ynghyd â modiwl dewisol 30 o gredydau mewn Eidaleg.

 

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Tra bo ein staff, a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth o fewn eu maes. Maent yn dod â’r gwersi y maent wedi’u dysgu o’u hymchwil diweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn a chyfoes.

Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.

Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a seminarau yn bennaf, er y bydd eich modiwlau Eidaleg hefyd yn cynnig cyfle i ymuno â gweithdai a dosbarthiadau iaith. Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial). 

Mewn tiwtorialau a seminarau byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau penodol, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy astudiaeth achos benodol i'r grŵp.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.

 

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

27%

Astudio annibynnol dan arweiniad

73%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

null%

Astudio annibynnol dan arweiniad

null%

Lleoliadau ments

null%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

null%

Astudio annibynnol dan arweiniad

null%

Lleoliadau ments

null%

Blwyddyn 4

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

26%

Astudio annibynnol dan arweiniad

74%

Lleoliadau ments

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA Eidaleg ac Economeg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall eich tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.

Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.   

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Mae adborth ac asesu yn feysydd blaenoriaeth yn y rhaglen hon, gydag arweinydd asesu ac adborth penodol yn gyfrifol am sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau. Yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol Busnes Caerdydd, mae'r asesu’n canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol. Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau ym mlwyddyn 1, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Dulliau asesu (2017/18 data)

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

78%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

18%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

null%

Arholiadau ymarferol

null%

Gwaith cwrs

null%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

null%

Arholiadau ymarferol

null%

Gwaith cwrs

null%

Blwyddyn 4

Arholiadau ysgrifenedig

68%

Arholiadau ymarferol

5%

Gwaith cwrs

27%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
  • Dealltwriaeth gadarn o sylfeini a datblygiadau damcaniaeth economaidd.
  • Bod yn gyfarwydd â phrif fathau a ffynonellau data economaidd a sut y cânt eu defnyddio mewn dadansoddiad economaidd.
  • Dealltwriaeth o'r dadleuon polisi economaidd cyfredol allweddol a phroblemau economaidd cyfoes.
  • Gwerthfawrogiad o’r cyfraniad y gall dadansoddiad economaidd ei wneud at ddeall amrywiaeth o broblemau economaidd penodol.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes yr Eidal a gwledydd lle siaredir Eidaleg.
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn Saesneg ac Eidaleg, a hynny yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Y gallu i egluro, trin, cymhwyso a gwerthuso modelau economaidd penodol yn feirniadol
  • Y gallu i weithio gyda data economaidd a ddefnyddir mewn dadansoddiad economaidd.
  • Sgiliau deall a defnyddio canfyddiadau empirig o lenyddiaeth economaidd.
  • Sgiliau cynnal ymchwil sylfaenol i broblemau economaidd.
  • Gallu cymhwyso syniadau damcaniaethol i ddadansoddi problemau economaidd byd-eang, yn rhai cyfoes a/neu hanesyddol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.
  • Y gallu i fodelu sefyllfaoedd gwneud penderfyniadau economaidd cymhleth er mwyn llunio fframweithiau dadansoddi sy’n hwyluso dealltwriaeth a datrys problemau’n effeithiol.
  • Gallu cymhwyso rhesymeg ddiddwytho a dadansoddi rhesymegol er mwyn modelu materion economaidd.
  • Sgiliau defnyddio mathemateg sylfaenol i daflu goleuni ar syniadau economaidd.

Cymhwysedd mewn integreiddio data, gwybodaeth ffeithiol, dadansoddiad meintiol a gwaith empiraidd, mewn modd priodol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Y gallu i ddadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Arddangos sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Cyfrifoldeb dros eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
  • Dilyniant o lunio problem i ganfod ateb. 
  • Dadl strwythuredig er mwyn dod i gasgliad ar sail set o dybiaethau.
  • Cysyniadau macro-economeg a gallu ymgymryd â dadansoddiad macro-economaidd sylfaenol o effeithiau ehangu ariannol, er enghraifft.
  • Meistrolaeth ar dechnegau diagramatig ac algebraidd.
  • Y gallu i gynnal dadansoddiadau diagramatig a mathemategol o faterion macro-economaidd.
  • Sgiliau dadansoddi, cyfathrebu a dysgu drwy waith dosbarth ac ymarferion ar y we.
  • Defnyddio sgiliau rhifedd, datrys problemau a TG.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol Ieithoedd Modern

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.    

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.   

Ysgol Fusnes Caerdydd

Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae Economeg yn ddisgyblaeth sy’n ysgogi deallusrwydd ac mae cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn aml yn galw am sgiliau graddedigion Economeg. Mae rhai graddedigion Economeg yn treulio cyfnod ychwanegol o hyfforddiant ar ôl cwblhau eu gradd, fel cwrs ôl-raddedig, efallai, neu gwrs hyfforddi pellach a fydd yn eu galluogi i drosi i broffesiwn arall fel cyfrifyddiaeth neu fyd y gyfraith. Pa bynnag yrfa rydych chi’n ei dilyn, bydd y sgiliau a ddatblygir yn ystod eich gradd Economeg (gallu datrys problemau, technegau meintiol, sgiliau dadansoddol ac ati) yn ddi-os yn cael eu croesawu gan gyflogwyr.

Yn ychwanegol at Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, rydym wedi buddsoddi yn ein Canolfan Yrfaoedd bwrpasol ein hunain er mwyn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd am swyddi a mynediad at gyngor ac arweiniad penodol i’r diwydiant busnes.

 

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd Reolwr Lleoliadau penodol sy’n cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Gwanwyn 2020

icon-international

Rhyngwladol

icon-chat

Gofyn cwestiwn

icon-pen

Sut i wneud cais