Ewch i’r prif gynnwys

Daearyddiaeth Ddynol gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (BSc)

Pam astudio'r cwrs hwn

Ewch i’r afael â’r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol sy’n effeithio ar sut a lle rydym yn byw.

microchip

Gwella eich sgiliau

Datblygwch eich sgiliau technegol ac ymarferol gyda meddalwedd gan gynnwys GIS (System Gwybodaeth Ddaearyddol) a mapio Edina digimap.

certificate

Cydnabyddiaeth broffesiynol

Achrededig gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (RGS).

notepad

Astudiaethau maes

Ymweliadau maes a modiwlau astudio maes i gymhwyso dysgu i gyd-destunau'r byd go iawn a datblygu sgiliau ymarferol.

structure

Diffinio'r dyfodol

Cewch sicrhau'r wybodaeth a'r cymhelliant i fynd i'r afael â heriau byd-eang, trawsnewid ein byd a gwella ble a sut rydym ni'n byw.

briefcase

Blwyddyn ar leoliad

Cewch brofiad o ddiwydiant yn eich dewis faes; gan ddatblygu sgiliau a chysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

Bydd y rhaglen hon yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o rôl gofod a lle wrth lunio gweithgarwch economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol ar wahanol raddfeydd ac ar draws gwahanol gyd-destunau diwylliannol. 

Mae ein rhaglen yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth gritigol i chi o’r cysylltiadau cymhleth rhwng y byd naturiol a’r byd dynol, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o'r modd y mae lleoedd sydd y tu hwnt i’ch profiad dyddiol yn cael eu creu. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio eich gwybodaeth i lywio barn a chamau gweithredu penderfynwyr etholedig, y sector gwirfoddol a diwydiant er mwyn gwella cymdeithas. 

Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio syniadau ac ymarfer daearyddol ar amryw raddfeydd gofodol, gan wneud cysylltiadau rhwng y lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang. Er y bydd y rhaglen yn pwysleisio elfennau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, economaidd, datblygiadol ac amgylcheddol daearyddiaeth, bydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o fodiwlau arbenigol a fydd yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau eich hunain. Mae'n arwain at ddarn sylweddol o ymchwil wreiddiol (dan oruchwyliaeth un o'n staff arbenigol) sy'n cynnig cyfle i chi ddylunio, cynnal a chyflwyno darn o ymchwil ddaearyddol gynradd ar bwnc o'ch dewis.  

Rydym yn cydnabod gwerth profiad proffesiynol ac wedi llunio’r rhaglen gyda hyn mewn golwg. Ni yw'r unig raglen Ddaearyddiaeth sydd yn y 10 uchaf yn y DU sy'n cynnig lleoliad gwaith blwyddyn o hyd.

Byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn ar leoliad yn ymarferol yn ystod trydedd flwyddyn y rhaglen. Dyma gyfle gwych i droi a chymhwyso'ch dysgu i'r gweithle modern a datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol wrth ddatblygu eich profiad proffesiynol, eich proffil a'ch rhwydwaith.

Mae gwaith maes a dysgu drwy brofiad yn agweddau allweddol yn natblygiad gwybodaeth a sgiliau israddedig yn y ddisgyblaeth Daearyddiaeth. Mae'r rhaglen hon yn cynnig ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu'r set wybodaeth a sgiliau hon, gan gynnwys ymweliadau maes 1 neu 1/2 ddiwrnod yn ystod modiwlau; asesiadau casglu a dadansoddi data grŵp; a modiwlau astudiaethau maes pwrpasol ym Mlwyddyn 2 a’r Flwyddyn Olaf.

Achrediadau

Maes pwnc: Daearyddiaeth ddynol a chynllunio

  • academic-schoolYr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4022
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.



Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

M mewn Dylunio Lefel T, arolygu a chynllunio ar gyfer adeiladu.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £9,000 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,950 Dim
Blwyddyn dau £22,950 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £22,950 Dim
Blwyddyn pedwar £22,950 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Nid yw'r Ysgol yn talu costau cynhaliaeth mewn perthynas â'r flwyddyn ar leoliad (rhent, bwyd, teithio ac ati)  At hynny, fel y nodwyd, gall y lleoliad ei hun fod yn dâl neu'n ddi-dâl. 

Mae profiad astudio maes preswyl blwyddyn 2 yn cael ei ariannu’n rhannol.

Ar hyn o bryd, mae ymweliadau astudiaethau maes y flwyddyn olaf yn cael cymhorthdal (tua dwy ran o dair o'r gost) gan yr Ysgol, ond chi fydd yn gyfrifol am weddill y costau.

Dylech ddisgwyl talu costau teithio lleol a chynhaliaeth ar bob ymweliad astudiaeth faes.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn pedair blynedd. Mae blynyddoedd un, dau a phedwar yn cynnwys modiwlau gorfodol a dewisol ac mae blwyddyn tri yn cynnwys lleoliad gwaith proffesiynol blwyddyn o hyd.  Bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn. Mae modiwlau yn werth 20 o gredydau ac mae'r traethawd hir blwyddyn olaf yn werth 40 o gredydau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Cewch gyflwyniad i ddimensiynau allweddol Daearyddiaeth Ddynol, arddangosfa o’r dulliau arloesol y mae daearyddiaeth yn eu cyflwyno i faterion cyfoes a throsolwg cryf o faterion datblygu trefol, amgylcheddol a gwledig. Byddwch hefyd yn datblygu’r sgiliau hanfodol i gefnogi eich astudiaethau gradd.

Er y bydd angen i chi ennill 120 o gredydau, blwyddyn gyflwyniadol yw blwyddyn un ac nid yw’r modiwlau’n cyfrif tuag at radd eich gradd derfynol.

Blwyddyn dau

Mae blwyddyn dau yn adeiladu ar y sylfeini a gyflwynwyd yn y flwyddyn gyntaf, ac yn edrych yn fanylach ar hanes meddwl daearyddol, ac is-feysydd diwylliannol, datblygiadol, amgylcheddol, economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol daearyddiaeth ddynol.

Mae'r modiwl Daearyddiaethau Gwaith a Chyflogadwyedd yn rhoi cyfle i chi ymgymryd â lleoliad tymor byr i gymhwyso'ch dysgu yn ymarferol yn ystod eich ail flwyddyn.

Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan mewn taith maes dewisol a ariennir.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Bydd y flwyddyn ar leoliad gwaith yn rhoi profiad ymarferol gwerthfawr i chi mewn ymarfer proffesiynol ac yn eich galluogi chi i ddechrau adeiladu eich proffil a’ch rhwydwaith.

Dyma gyfnod o hyfforddiant dan oruchwyliaeth mewn swyddfa gyda sefydliad sy’n cyflogi sy’n barod i gyflwyno profiad amrywiol a rhaglen waith strwythuredig.

Byddwn yn eich helpu i sicrhau lleoliad â thâl neu heb dâl, yn amodol ar argaeledd. Gallwch hefyd archwilio cyfleoedd gydag ystod eang o gyflogwyr os oes gennych ddiddordeb penodol mewn math penodol o brofiad. Cynigir lleoliadau gwaith gan amrywiaeth o wahanol gyflogwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn ogystal ag yn y trydydd sector megis ymddiriedolaethau elusennol a sefydliadau ymgyrchu.

Blwyddyn pedwar

Mae’r flwyddyn olaf yn archwilio perthnasedd ehangach daearyddiaeth i bolisi a chymdeithas. Trwy'r modiwl traethawd hir gorfodol, byddwch yn cynnal eich ymchwil eich hun ac yn creu adroddiad estynedig. Yna byddwch yn defnyddio'r mewnwelediadau i archwilio sut y gellir defnyddio gwybodaeth ddaearyddol i newid cymdeithas.

Mae dewis eang o fodiwlau opsiynol yn caniatáu i chi arbenigo ymhellach yn eich maes dewisol o Ddaearyddiaeth Ddynol. Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan mewn taith maes dewisol dramor a ariennir yn rhannol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae ein hymagwedd yn seiliedig ar ymrwymiad i ddarparu addysg o’r ansawdd uchaf. Cyn belled ag y bo modd, ein nod yw dysgu mewn grwpiau bach gan ein bod yn credu bod hyn yn annog amgylchedd dysgu mwy cadarnhaol rhwng staff a myfyrwyr ac ymysg myfyrwyr eu hunain. Fel arfer, byddwch yn astudio chwe modiwl bob blwyddyn ac yn cael 12 awr o astudio dan arweiniad bob wythnos.

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein rhaglenni'n meithrin sgiliau deallusol, megis meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a aseswyd, darllen ac adolygu.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Bydd gwasanaethau cymorth y Brifysgol (gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog) i gyd ar gael i chi.

Yn ystod y flwyddyn ar leoliad, cewch eich cefnogi gan oruchwyliwr gweithle, tiwtor lleoliad, yn ogystal â'ch tiwtor personol, yn unol â Pholisi Lleoliad y Brifysgol ac yn dilyn ein hymarfer sefydledig yn yr Ysgol. Byddwch hefyd yn dal yn gallu cael mynediad at ystod lawn o wasanaethau cymorth y Brifysgol. 

Bydd tiwtoriaid lleoliadau yn cadw mewn cysylltiad â chi drwy gydol eich lleoliad, gan gynnwys, lle y bo'n bosibl, gwneud ymweliadau bugeiliol o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn (lle nad yw hyn yn ymarferol, gellir cynnal cyfarfodydd Skype neu gyfarfodydd cyfatebol).  Byddant hefyd yn cysylltu â chi o leiaf ddwywaith y semester dros Skype, ffôn neu ddull tebyg gydag ebost dilynol fel sy'n briodol.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar eich gwaith cwrs ac yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl y cyfnod arholiadau ym mis Mai/Mehefin. Byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios ac aseiniadau creadigol.

Rydym yn annog arloesi a chreadigrwydd wrth ddarparu ac asesu’r dysgu ac addysgu – er enghraifft, y defnydd o systemau gwybodaeth ddaearyddol, cyfarpar cartograffig, cyfryngau digidol ac ymweliadau astudiaethau maes.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.

Bydd asesiadau’r flwyddyn ar leoliad yn cynnwys Cynllun Datblygiad Proffesiynol, adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad, cofnod gwaith, ac adroddiad cyflogwr.

Mae’r prosiect ymchwil yn y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi ac ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol, defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd, a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud. 

Mae Deilliannau Dysgu’r Rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Cymhwyso gwybodaeth a ddysgwyd yn ystod blynyddoedd 1 a 2 mewn amgylchedd proffesiynol
  • Ymwybyddiaeth feirniadol o agweddau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol daearyddiaeth ddynol
  • Dealltwriaeth o ddadleuon cyfoes ym maes daearyddiaeth ddynol
  • Ymwybyddiaeth feirniadol o seiliau athronyddol allweddol daearyddiaeth ddynol
  • Dealltwriaeth feirniadol o hanes daearyddiaeth ddynol
  • Ymwybyddiaeth o sut caiff data ym mhrif is-feysydd daearyddiaeth ddynol eu casglu a'u dadansoddi
  • Sut i gymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o ddaearyddiaeth ddynol i broblemau'r byd go iawn
  • Dealltwriaeth o'r ffyrdd allweddol y mae pŵer yn gweithio yn y gofod a thrwyddo
  • Sgiliau mewn ymchwil ac arfarnu, gan gynnwys casglu data, ymchwilio, dadansoddi ac asesu tystiolaeth drwy ddarn sylweddol o ymchwil wreiddiol
  • Y gallu i ddiffinio mater neu broblem ymarferol yn gywir ar gyfer ymchwiliad, astudiaeth neu ymchwil a llunio strategaeth ar gyfer casglu, asesu, dadansoddi a chyflwyno data a gwybodaeth berthnasol.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Deall amrywiaeth o ddulliau ymchwil meintiol ac ansoddol
  • Deall amrywiaeth o ffyrdd o ddehongli a dadansoddi data
  • Dealltwriaeth o sut i ddadansoddi a myfyrio'n feirniadol ar waith ysgolheigaidd
  • Dealltwriaeth o sut i lunio dadl argyhoeddiadol
  • Gwerthfawrogi a pharchu syniadau o gyfle cyfartal, amrywiaeth gymdeithasol a diwylliannol, a’r defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol a dynol
  • Gwerthfawrogi a pharchu hawliau unigol a chyfunol mewn cyd-destunau gofodol a diwylliannol

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sy’n gysylltiedig â’r gwaith, ar lefel broffesiynol ac yn bersonol
  • Dealltwriaeth feirniadol o amgylchedd y gweithle, gan gynnwys sut i weithredu mewn gweithle yn hyderus ac yn broffesiynol
  • Y gallu i nodi ac addasu i arferion gweithio ac arferion cysylltiedig mewn lleoliad cyflogaeth, a myfyrio'n feirniadol arnynt
  • Sgiliau cyflwyno

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Cyfleu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau yn effeithiol drwy ddulliau llafar ac ysgrifenedig
  • Ysgrifennu a meddwl yn feirniadol
  • Sgiliau gweithio mewn tîm gan ymateb yn briodol i geisiadau cydweithwyr a gwneud gofynion eich hun ar gydweithwyr yn glir
  • Hunanreolaeth effeithiol drwy osod a chadw at flaenoriaethau gwaith, gan ddefnyddio amser yn effeithlon ac adnabod cyfleoedd ar gyfer mewnbwn gan gydweithwyr, gweithwyr proffesiynol eraill a/neu randdeiliaid
  • Rheoli a chyflwyno gwybodaeth yn effeithiol trwy'r cyfryngau a thechnoleg gwybodaeth
  • Gwerthfawrogi a pharchu'r gwaith o ddiogelu iechyd a diogelwch personol yn y gwaith ynghyd ag iechyd a diogelwch eraill
  • Cynllunio gyrfa gan gyfeirio at ofynion sgiliau proffesiynol

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i gyflawni eich dyheadau proffesiynol, gan roi’r sgiliau, y chwilfrydedd a’r hyder i chi ddylanwadu ar eich maes dewisol.

Mae ein graddedigion yn gweithio mewn nifer o swyddi allweddol mewn llywodraethau cenedlaethol a lleol, ymgyngoriaethau busnes, cwmnïau amlwladol, canolfannau ynni cynaliadwy, asiantaethau amgylcheddol rhyngwladol, cwmnïau strategaeth tai, cwmnïau adeiladu a syrfewyr, ac maen nhw’n weithredol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Ymysg yr enghreifftiau nodweddiadol o rolau sy'n agored i ddaearyddwyr mae logisteg, rheoli manwerthu, dadansoddwr economaidd, gweithiwr cymorth, swyddog elusennol, swyddog hawliau dynol, ymgynghorydd ffoaduriaid a lloches, trefnydd ymgyrchoedd amgylcheddol, gweithiwr cadwraeth, swyddog iechyd yr amgylchedd, peiriannydd amgylcheddol, dadansoddwr llygredd, rheolwr coedwigaeth, ymgynghorydd amgylcheddol, syrfëwr, swyddog adfywio trefol, cynllunydd tref, swyddog trafnidiaeth, athro, ymchwilydd polisi cyhoeddus, rheoli safle treftadaeth, ymchwilydd teledu, arbenigwr GIS, arbenigwr data cyfrifiad a chartograffydd.

Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r profiad a’r wybodaeth rydych yn eu cael drwy eich blwyddyn ar leoliad gwaith a gallant helpu i roi mantais gystadleuol i chi ar ôl graddio.

Lleoliadau

Mae’r radd hon yn opsiwn pedair blynedd gyda blwyddyn ar leoliad gwaith yn y drydedd flwyddyn. Gall y lleoliad fod yn gyflogedig neu'n ddi-dâl. Ni fydd angen i chi wneud penderfyniad terfynol p’un a ydych am ystyried yr opsiwn hwn ai peidio hyd nes yr ail flwyddyn.

Mae pob blwyddyn academaidd hefyd yn cynnig ymweliad astudiaethau maes a ariennir yn rhannol sy’n eich galluogi chi i gynnal gwaith ymchwil ac ymchwilio i broblem fyw / astudiaeth achos ar leoliad.

Ym mlwyddyn un, mae’r ymweliadau astudiaethau maes hyn yn lleol i ranbarth dinas Caerdydd. Ym mlwyddyn dau a'ch blwyddyn olaf, gallwch ddewis ymweliad astudiaethau maes preswyl. Mae'r rhain yn aml yn cynnwys cyrchfannau yn y DU a thramor. Gweler yr adran ‘costau ychwanegol’ am ragor o wybodaeth.

Gwaith maes

Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu ymarferol. Mae pob blwyddyn academaidd yn cynnig ymweliad astudiaethau maes a ariennir yn rhannol sy’n eich galluogi chi i ymchwilio ac archwilio problem/astudiaeth achos ar leoliad.

Ym mlwyddyn un, mae’r ymweliadau astudiaethau maes hyn yn lleol i ranbarth dinas Caerdydd. Ym mlwyddyn dau, gallwch ddewis mwynhau ymweliad astudiaethau maes preswyl i ddinas yn Ewrop. Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis ymweliad astudiaethau maes i ddinas ledled y byd. Gweler yr adran ‘costau ychwanegol’ am ragor o wybodaeth.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.