Ewch i’r prif gynnwys

Hanes (BA) Rhan-amser

Blwyddyn Mynediad

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd yn radd gyffrous sy’n eich galluogi chi i ddysgu ac ymchwilio’n annibynnol o dan arweinyddiaeth ein staff academaidd cyfeillgar.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Ancient History

Trosolwg y cwrs

Mae ein gradd hanes gyfoethog a gwobrwyol yn rhoi cipolwg i chi ar brosesau newid o’r byd hynafol i’r cyfnod modern.

Mae ein cyrsiau'n cwmpasu hanes cymdeithasau mewn rhannau amrywiol o'r byd, yn cynnwys yr Unol Daleithiau, yr Almaen, Rwsia, Dwyrain Ewrop, Ffrainc, Prydain, Cymru, India a Tsieina.

O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, rydym yn eich annog i 'wneud hanes' drosoch eich hunan, gan ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Byddwch yn dysgu i feddwl yn annibynnol, i asesu cryfderau a gwendidau corff o dystiolaeth hanesyddol, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau yn glir. Cewch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau sy'n adlewyrchu syniadau diweddaraf y ddisgyblaeth, wedi'u haddysgu gan ymchwilwyr blaenllaw yn y maes.

Rydym wedi cael enw da ers tro o ran ein haddysgu, ymchwil a hyd a lled daearyddol a chronolegol yr Hanes yr ydym yn ei astudio. Ond yn fwy na hyn – rydym yn ymfalchïo mewn meithrin amgylchedd cyfeillgar, personol a chefnogol.

Cyflwyno cais ar gyfer 2019 neu 2020

Côd UCASMynediad uniongyrchol
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd6 blwyddyn
Modd (astudio)Rhan-amser
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer, mae 320 lle ar gael yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn derbyn tua 1800 o geisiadau.

Gofynion mynediad

AAA-ABB, i gynnwys Hanes. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

AAA-ABB gan Bagloriaeth Cymru a dau bwnc Safon Uwch, i gynnwys Hanes. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.

33 o bwyntiau yn y Diploma Bagloriaeth Ryngwladol gan gynnwys o leiaf 6 pwynt yn Hanes Lefel Uwch ac o leiaf 6 pwynt mewn un pwnc Lefel Uwch arall.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd croeso i geisiadau gan rai sy’n cynnig cymwysterau eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£3,500Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£8,850Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae’r BA Hanes (rhan amser yn rhaglen radd chwe blynedd, gyda dau semester y flwyddyn. Byddwch yn astudio modiwlau gwerth 60 o gredydau bob blwyddyn.

Mae ein modiwlau blwyddyn o hyd yn gynnyrch dylunio trwyadl ac ail-werthuso parhaus. Mae staff academaidd, myfyrwyr ac arbenigwyr allanol yn cydweithio i wneud yn siŵr bod y cynlluniau gradd yn bodloni safonau ansawdd eu disgyblaethau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio 120 o gredydau ym Mlwyddyn Un. Ym Mlwyddyn un byddwch yn astudio 80 credyd mewn Hanes a 40 credyd mewn pwnc arall yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd neu Ysgol academaidd yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol sy’n cymryd rhan.

Mae’r holl fyfyrwyr Hanes blwyddyn gyntaf yn astudio ‘Ymarfer Hanes’. Bydd hwn yn eich cyflwyno i fframweithiau gwahanol sy’n sail i ymchwil hanesyddol a’r ffyrdd amrywiol o ysgrifennu hanes. Bydd hefyd yn darparu hyfforddiant yn y sgiliau angenrheidiol i arfer hanes ar lefel israddedig.

Mae myfyrwyr rhan amser fel arfer yn cwblhau’r cyfnod astudio hwn dros ddwy flynedd, yn cymryd modiwlau gwerth 60 o gredydau’r flwyddyn

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Voices of the Past: the Hidden History of the Ancient WorldCE513210 credydau
Medieval QueenshipCE521710 credydau
If These Finds Could Talk: The Archaeology of ObjectsCE533510 credydau
Migration and the Making of Multicultural BritainCE533610 credydau
A World Full of GodsHS000120 credydau
Projecting the Past: Film, Media and HeritageHS000220 credydau
The Making of The Modern World, 1750-1970HS110520 credydau
Making Global Histories: Asia and the WestHS110820 credydau
Inventing a Nation: Politics, Culture and HeritageHS110920 credydau
Medieval Worlds, AD 500 -1500HS111220 credydau
Renaissance, Reformation and RevolutionHS111720 credydau
History in Practice Part 1: Questions, Frameworks and Audiences.HS111920 credydau
History in Practice Part 2: Sources, Evidence and Argument.HS112020 credydau
The Archaeology of Mediterranean Societies: Egypt, Greece and RomeHS212320 credydau
The Archaeology of Britain: Prehistory to PresentHS213020 credydau
The Ancient World in 20 ObjectsHS310420 credydau
Introduction to Ancient History 1: Gods, Kings and Citizens, 1000-323 BCEHS310520 credydau
Introduction to Ancient History 2: Empires East and West, 323 BCE to 680 CEHS310620 credydau
Reading Latin1HS312120 credydau
Reading Latin 2HS312220 credydau
Reading Greek 1HS312320 credydau
Reading Greek 2HS312420 credydau
The Origins and Legacies of Religion in the Modern WorldRT010120 credydau
Themes and Issues in the Study of ReligionRT010220 credydau
Introduction to a Scriptural Language 1RT010320 credydau
Introduction to a Scriptural Language 2RT010420 credydau
Introduction to the BibleRT010520 credydau
The Story of ChristianityRT010620 credydau

Blwyddyn dau

Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, rhoddir rhagor o bwyslais ar waith seminar, gyda goruchwyliaeth unigol ar gyfer traethodau estynedig a thraethodau hir.

Mae’r cwrs craidd yn cynnwys darlithoedd wythnosol wedi’u hategu gan seminarau bob pythefnos mewn grwpiau bach. Nid yw’r modiwl Astudio Annibynnol yn cynnwys unrhyw ddarlithoedd neu seminarau ond mae’n cael ei addysgu drwy sesiynau goruchwylio unigol gyda staff academaidd.

Blwyddyn tri

Blwyddyn pedwar

Blwyddyn pump

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
The World of the Anglo-Saxons, c.500-c.1087HS180330 credydau
Sexuality and the Social Order in Medieval EuropeHS180430 credydau
The Military Orders, 1100-1320HS180530 credydau
Kingship: Image and Power, c.1000-1399HS181330 credydau
Deviants, Rebels and Witches in Early Modern Britain and IrelandHS182830 credydau
Germany's New Order in Europe, 1933-1945HS183230 credydau
Conflict, Coercion and Mass Mobilisation in Republican China 1911-1945HS183830 credydau
Fascism and Anti-Fascism in FranceHS184830 credydau
Race, Sex and Empire: Britain and India, 1765-1929HS185530 credydau
Wales, the English reform movement and the French Revolution of 1789HS185630 credydau
Glimpses of the Unfamiliar: Travellers to Japan from 1860 to the Post-War EraHS185830 credydau
Socialism, Society and Politics in Britain, 1880-1918HS186030 credydau
Remembering the Holocaust in Germany: Coming to Terms with the Past?HS186430 credydau
Class, Protest and Politics: South Wales, 1918-39HS186830 credydau
Health and Medicine in Early Modern BritainHS187530 credydau
Violence and Ideology in Inter-War Soviet RussiaHS188330 credydau
Czechoslovakia: The View from Central EuropeHS188430 credydau
From Hernando de Soto to the Seven Years' War: Accommodation, Violence and Networks in Native American HistoryHS188930 credydau
The Dangerous City? Urban Society and Culture, 1800-1914HS189630 credydau
The Arts in War and Peace: Culture and Politics in Britain, c.1930-1960HS189730 credydau
The War Against the Jews: Antisemitism, the Holocaust, and Jewish ExperienceRT030830 credydau

Blwyddyn chwech

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
DissertationHS180130 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn eich galluogi chi i ddatblygu mewn amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf. Ategir hyn gan ymagwedd ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Mae'r dulliau addysgu'n cynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, teithiau maes a sesiynau tiwtorial un i un. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.  Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y ddarlith, mewn grwpiau bach.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Maen nhw’n cynnig cyfle buddiol i ymgymryd yn feirniadol â’r prif syniadau a deunydd darllen sy’n gysylltiedig â phwnc, ac i ymchwilio i feysydd o ddiddordeb arbennig gydag arbenigwr yn y maes.

Addysgu Iaith Cymraeg

Mae’r adran yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer dysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg Os oes staff ar gael, mae modd addysgu yn Gymraeg mewn seminarau ar gyfer rhai neu bob un o’r prif gyrsiau craidd, a chynigir o leiaf un dewis iaith Gymraeg ym mlynyddoedd dau a thri. Mae goruchwyliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ar gyfer traethodau hir (Archwilio Dadleuon Hanesyddol) a thraethodau estynedig, a gallwch ddewis ysgrifennu’r cyfan neu ran o’ch gwaith a asesir a’ch arholiadau yn Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu. 

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Cewch adborth drwy waith ysgrifenedig ffurfiannol, trafodaeth seminar, adborth ysgrifenedig ar draethodau, tiwtorialau traethawd, a sesiynau goruchwylio Archwilio Dadl Hanesyddol a Thraethawd Hir (sy’n cynnwys adborth ysgrifenedig a llafar ar lyfryddiaethau, cynlluniau ymchwil, a phenodau drafft).

Sut caf fy asesu?

Bydd modiwlau yn cael eu hasesu drwy wahanol ddulliau, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs, adroddiadau ysgrifenedig, beirniadu ffynonellau, adolygiadau beirniadol, arholiadau, profion dosbarth a chyflwyniadau llafar.

Mae gwaith cwrs ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig ar gyfer dibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol.  Bydd asesiadau, gan gynnwys gwaith cwrs, arholiadau a chyflwyniadau llafar, yn profi'r gwahanol sgiliau y byddwch wedi'u dysgu. 

Mae dilyniant yn cael ei adeiladu i mewn i’r asesu, o ran y modd y byddwch chi’n gwneud tasgau tywys llai o faint ym Mlwyddyn Un, yn ogystal â thraethodau ffurfiannol ym Mlynyddoedd Dau a Thri. Mae dilyniant hefyd yn amlwg yn y pwyslais cynyddol ar waith hirach, annibynnol, gan arwain at draethawd hir 10,000 o eiriau ym Mlwyddyn Tri.  Mae modiwlau’r flwyddyn olaf hefyd yn gofyn am ymgysylltiad dyfnach â dulliau annibynnol o weithio, ynghyd â mwy o alw am drin nifer fwy o dasgau ac eitemau llyfryddiaeth yn feirniadol.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Mae’r radd hon yn datblygu amrywiaeth o sgiliau deallusol: meddwl yn feirniadol, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon seiliedig ar dystiolaeth, a chyflwyno barn yn effeithiol yn ysgrifenedig ac mewn trafodaethau. Hefyd, byddwch yn ennill sgiliau ymarferol fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol, a rheoli amser. Mae ein graddau’n rhoi pwyslais amlwg ar ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i lawer o yrfaoedd.

Yn gyffredinol, mae sgiliau a dealltwriaeth ddeallusol yn cael eu caffael yn gynyddol. Yn ystod eich gradd, byddwn yn disgwyl gweld rhagor o ddyfnder ac ehangder yn eich astudiaethau. Yn fras:

  • Mae Blwyddyn Un yn eich cyflwyno i amrywiaeth ac ystod o ddulliau a ddefnyddir mewn hanes.
  • Mae Blwyddyn Dau yn rhoi hyfforddiant penodol i chi ar ddadansoddi cysyniadau, damcaniaethau a dulliau a ddefnyddir gan haneswyr yn feirniadol.
  • Mae’r flwyddyn olaf yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu’r sgiliau hyn drwy ymgysylltu’n drefnus â ffynonellau cynradd yn eich modiwlau a chwestiynu’r rhain ac wrth gynhyrchu Traethawd Hir sy’n seiliedig ar ymchwil gwreiddiol.

Cewch eich annog i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am eich dysgu eich hun ac am gyflwyno eich canfyddiadau. Ni allwn ddysgu drosoch chi, ond eich cyfrifoldeb ni yw eich helpu i ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a sesiynau tiwtorial, ac i’ch helpu i ddysgu'n annibynnol. Erbyn diwedd y radd, byddwch wedi meithrin sylfaen gadarn yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan yr hanesydd enwog Marc Bloch unwaith fel 'crefft yr hanesydd'.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2013/14, roedd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio, mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i adnabod eu sgiliau a'u priodoleddau. Mae graddedigion Hanes yn dod o hyd i waith mewn amrywiaeth eang o swyddi proffesiynol. Nid yw pob un o'r swyddi hyn yn gysylltiedig â Hanes. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, ac mae rhai wedi dod yn haneswyr o fri rhyngwladol.

Swyddi

  • Historian
  • Teacher
  • Lecturer
  • Curator

Lleoliadau

Mae gan yr ysgol Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sy'n cefnogi myfyrwyr gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Gwanwyn 2020

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

Gwneud cais ar gyfer 2018 neu 2019