Ewch i’r prif gynnwys

Hanes (BA)

  • Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd
  • Côd UCAS: V100
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Astudiwch gydag angerdd

Dilynwch eich diddordebau gyda phynciau sy'n amrywio o gaethwasiaeth yn America i hanes Sofietaidd a Japan.

star

Traethawd hir gyda gwahaniaeth

Dilynwch bwnc sy'n sbarduno eich chwilfrydedd; cewch wella sgiliau niferus gyda chyflwyniad ac elfen ysgrifenedig.

book

Dysgu gan arbenigwyr

Cewch elwa o addysgu a chefnogaeth gan staff ymchwil-weithredol.

briefcase

Gweithdai gyrfaoedd rhyngweithiol

Cyfle i hogi eich sgiliau gyrfa a chael cipolwg gwerthfawr ar rolau a sectorau sy'n addas i chi.

Mae ein gradd gyffrous BA Hanes yn rhoi cyfle i chi siapio eich angerdd am hanes yn ôl eich diddordebau, gan ddefnyddio'r dulliau diweddaraf i astudio'r gorffennol gyda llygad beirniadol a gwneud cysylltiadau â thrafodaethau ar bynciau llosg. 

Mae ein harbenigedd yn cyrraedd ehangder rhyfeddol o gymdeithasau, cyfnodau a lleoliadau, yn rhychwantu Ynysoedd Prydain, Ewrop (dwyrain a gorllewin), Affrica, Asia a Chyfandiroedd America. Mae ein modiwlau’n rhoi cyfle i chi astudio meysydd sydd wedi hen ennill eu plwyf, fel hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol a rhywedd, neu archwilio meysydd a allai fod yn newydd i chi, fel hanes amgylcheddol neu hanes digidol. 

Gan gris-croesi'r ystod eang hon o gyfnodau amser a safbwyntiau, bydd ein rhaglen uchel ei pharch yn eich hyfforddi i ddadansoddi pynciau o bob cwr o'r byd, gan eich galluogi i roi eich sgiliau fel hanesydd ar waith. At hynny, mae casgliadau mawreddog yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau'r Brifysgol yn rhoi mynediad i chi i ystod eang o destunau gwreiddiol a ffynonellau, gan gynnwys rhai o lyfrau print hynaf y byd. 

Wrth rannu ein hymchwil arloesol ein hunain yn ein holl fodiwlau, rydym yn eich annog i ail-werthuso dealltwriaeth o'r gorffennol ac i greu eich dehongliadau newydd a gwreiddiol eich hun. Byddwch yn dod yn fedrus wrth archwilio dadleuon, gan dynnu'n greadigol ar ein sylfaen gadarn i archwilio hanes o bob math. Ar hyd y ffordd, byddwch yn datblygu sgiliau sydd mor fanteisiol yn ein hoes ddigidol: creadigrwydd, empathi, meddwl beirniadol, sgiliau cyfathrebu darbwyllol a'r gallu i herio a chwestiynu. 

Ar ddiwedd eich gradd, byddwch yn ysgrifennu hanes gwreiddiol, gan ymchwilio i bwnc o ddiddordeb academaidd personol yn eich traethawd hir. Mae astudio yng Nghaerdydd yn golygu cymryd rhan mewn trafodaethau hanesyddol a chyhoeddus - a dod yn hanesydd yn eich rhinwedd eich hun. 

Gan raddio gydag ystod eang o sgiliau academaidd ac ymarferol – gan gynnwys gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu – yr hyder i’w defnyddio a’r gallu i weld y darlun mawr, byddwch yn cael eich gwerthfawrogi gan gyflogwyr a byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd ymlaen i ddilyn ystod o yrfaoedd. Wedi’i haddysgu gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes, mae ein cwrs BA Hanes yn rhoi’r sgiliau, yr hyfforddiant a’r wybodaeth i chi lwyddo.

Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried BTECs mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddolwr perthnasol. 

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai testunau allweddol ac i dalu costau argraffu sylfaenol a llungopïo at eich defnydd chi. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn ddiddorol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’r rhaglen BA Hanes wedi’i strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael sgiliau lefel uchel dros flynyddoedd olynol i ddod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer cyflogaeth broffesiynol.

Drwy gyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol, byddwch yn astudio modiwlau gwerth 120 o gredydau bob blwyddyn.  

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn gosod y sylfeini ar gyfer y radd, ac mae’n cynnwys modiwlau sydd wedi’u dylunio i’ch paratoi â’r sgiliau ar gyfer astudio uwch, ac maen nhw’n caniatáu i chi archwilio syniadau a themâu hanesyddol efallai na fyddwch wedi dod ar eu traws yn y brifysgol hyd yma.

Mae ein modiwlau craidd yn eich cyflwyno i’r gwahanol fframweithiau sy’n sail i ymchwil hanesyddol ac i’r dadleuon mawr ynghylch sut rydym yn deall cysylltiadau ‘byd-eang’ a newid hanesyddol. Trwy’r modiwlau hyn, byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth ynghylch pam mae haneswyr yn anghytuno, ac yn meithrin sgiliau sy’n eich galluogi i gymryd rhan yn y dadleuon hyn.

Mae modiwlau dewisol ar hanes canoloesol, hanes modern cynnar a hanes Cymru yn rhoi cyfleoedd i chi astudio ystod o gyfnodau a rhanbarthau. Gallwch astudio modiwlau sy’n archwilio themâu hefyd, fel crefydd neu ffilm, ar draws sawl cyfnod, neu gymryd modiwlau ar hanes yr henfyd neu archaeoleg, sy’n archwilio’r gorffennol o wahanol safbwyntiau ac yn eich cyflwyno i wahanol ffurfiau o dystiolaeth ar gyfer deall y gorffennol.

Blwyddyn dau

Yn eich ail flwyddyn, mae ein modiwlau dewisol yn eich galluogi i archwilio themâu ar draws ystod amser gulach gan annog ymagwedd fwy cymharol.

Mae ein modiwlau craidd yn datblygu eich sgiliau i ddeall y gorffennol drwy archwilio gwahanol ymagweddau tuag at hanes a natur gwahanol fathau o dystiolaeth hanesyddol a ffyrdd o ddefnyddio’r dystiolaeth honno. Byddwch yn cymhwyso’r sgiliau hyn wrth i chi ymchwilio i ddadl hanesyddol sydd o ddiddordeb i chi, gyda chefnogaeth goruchwyliwr, a hefyd yn cydweithio i archwilio rôl yr hanesydd wrth rannu ymchwil y tu hwnt i ffiniau’r byd academaidd a’r lleisiau maen nhw’n eu breintio neu’n eu tawelu.

Blwyddyn tri

Yn y flwyddyn olaf, cewch eich herio i feddwl yn ddyfnach am natur datblygiadau hanesyddol. Byddwch yn datblygu eich sgiliau dadansoddi ffynonellau ac ysgrifennu hanes trwy astudio’r ystod o fodiwlau arbenigol a gynigir.

Gyda chefnogaeth un o’n staff arbenigol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflawni traethawd ymchwil hir ar bwnc sy’n ymwneud â maes rydych chi’n ei astudio fel rhan o’ch gradd. Mae’r traethawd hir yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol uwch a dealltwriaeth fanwl o bwnc ymchwil, gyda chefnogaeth lawn goruchwyliwr academaidd a rhaglen o weithdai. Yn gyffredinol, mae ein myfyrwyr yn teimlo mai’r traethawd hir yw elfen fwyaf cyffrous a boddhaus eu hastudiaethau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Estyn Allan: Menter, Cymuned a ChydweithioHS030120 Credydau
Gemau Digidol ac Ymarfer HanesHS631020 Credydau
Ysbïwyr ac ysbiwyr yn y Byd CanoloesolHS631120 Credydau
Brenhiniaeth: Delwedd, Grym a Phortialadaeth, c.1100-1399HS631220 Credydau
Rhyw, Hunaniaeth a Phrofiad yn Ewrop GanoloesolHS631320 Credydau
Witchcraft and Witch-Hunting in Early Modern Europe, 1400-1750HS631420 Credydau
Chwyldro Gwybodaeth: Gwleidyddiaeth a Chyfathrebu ym Mhrydain Fodern GynnarHS631520 Credydau
Iechyd a Salwch ym Mhrydain Fodern GynnarHS631620 Credydau
Bywydau Symudol: Teithio, Alltudiaeth a Mudo yn y Byd Modern CynnarHS631720 Credydau
Caethwasiaeth a Bywyd Caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau, 1775-1865HS631820 Credydau
Hanes Americanaidd BrodorolHS631920 Credydau
Utopias eithafiaeth: Chwyldroadau mewn Cyd-destun CymharolHS632020 Credydau
Tsiecoslofacia: Yr Ugeinfed Ganrif mewn BychainHS632120 Credydau
Ffrainc dan FeddiannaethHS632220 Credydau
Y tu mewn i'r trydydd ReichHS632320 Credydau
Trais ac ideoleg yn yr Undeb Sofietaidd rhwng y Rhyfel Byd CyntafHS632420 Credydau
Rhyfel a Rhyddid yn y Swdanau ôl-drefedigaetholHS632620 Credydau
Rhywedd ac Imperialaeth, India c.1800- c.1900HS632720 Credydau
Newid, Gwrthdaro a Symudedd Torfol yn Tsieina Gweriniaethol, 1911-1945HS632820 Credydau
Dyffryn Ffasgaidd Japan, 1930-1945HS632920 Credydau
Argraffiadau ymylol y Chwyldro FfrengigHS633020 Credydau
Mayhem a llofruddiaeth: Ymchwilio i'r Isfyd FictoraiddHS633120 Credydau
Gwneud Sosialaeth BrydeinigHS633220 Credydau
Prydain yn Rhyfel: Diwylliant a Gwleidyddiaeth ar y Ffrynt Cartref, 1939-1945HS633320 Credydau
Cyhoeddus a Phreifat: Rhyw, Hunaniaethau a Phwer ym Mhrydain yr Ugeinfed GanrifHS633420 Credydau
Iddewon, Ewrop a'r BydHS633520 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae ymchwil yn ganolog i brofiad myfyrwyr yng Nghaerdydd a chaiff ein holl addysgu ei lywio gan y canfyddiadau diweddaraf.

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Byddwch yn dysgu trwy ystod eang o ddulliau addysgu o ddarlithoedd rhyngweithiol, seminarau bywiog yn seiliedig ar drafodaeth a gweithdai i waith grŵp a thiwtorialau. Bydd y gweithgareddau hyn ar y campws yn cael eu cyfuno ag ystod o amgylcheddau ar-lein a fydd yn cyfoethogi eich profiad dysgu ac yn eich galluogi i ymestyn eich astudiaethau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae seminarau a gweithdai’n cynnig profiad gwerth chweil i ymgysylltu'n feirniadol â'r syniadau a’r darllen allweddol ar bwnc. Maent yn gyfle gwerthfawr i archwilio syniadau a gweithio'n agos gyda'ch darlithwyr a dysgu oddi wrth fyfyrwyr eraill. Yn eich ail a thrydedd flwyddyn, cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o brosiectau annibynnol gyda chefnogaeth arbenigwr yn y maes a hyfforddiant un-i-un.

Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu a thrafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gwaith tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser mewn amgylchedd cefnogol.

Addysgu yn yr Iaith Gymraeg

Rydym yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amodol ar argaeledd staff, mae seminarau a addysgir yn Gymraeg ar gael ar rai o'r modiwlau craidd neu bob un ohonynt. Mae goruchwyliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ym Mlwyddyn Dau a Thri ar gyfer prosiectau hir a thraethodau hir. Gallwch ddewis ysgrifennu’r cyfan neu rywfaint o’ch gwaith a asesir ac arholiadau yn y Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Byddwch yn cael Tiwtor Personol fydd yn gallu eich cynghori ar faterion academaidd a materion bugeiliol mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol. Mae Tiwtoriaid Personol yn cwrdd â chi yn rheolaidd i drafod cynnydd a rhoi cyngor ac arweiniad, ac maent ar gael i ymgynghori â nhw ar adegau eraill yn ôl yr angen. Darperir cymorth ychwanegol penodol i fodiwlau gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau drwy amser un-i-un yn ystod oriau swyddfa penodol yn ystod wythnosau dysgu, ac mae tiwtoriaid yn croesawu cyswllt drwy e-bost. Darperir cefnogaeth ar gyfer prosiectau a’r traethawd hir gan oruchwyliwr academaidd a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd.

Bydd gennych fynediad drwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, yn ogystal ag ystod o amgylcheddau digidol a rhaglenni eraill i’ch helpu â’ch astudiaethau.

Mae ein Tîm Cefnogi Addysg israddedig yn cynnig gwasanaethau academaidd ac yn cefnogi myfyrwyr, ac maen nhw yno i gynnig gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Dyfodol Myfyrwyr i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa, gwasanaethau cymorth a digwyddiadau i’ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, cymorth gyda materion ariannol a chymorth i fyfyrwyr ag anableddau.

Sut caf fy asesu?

Mae asesiadau’n cynnwys beirniadaeth ffynhonnell, prosiectau ymchwil, adolygiadau, cyflwyniadau, portffolios creadigol-feirniadol a phostiadau blog, ochr yn ochr â mathau mwy traddodiadol o asesu fel traethodau a phrofion/arholiadau. Mae rhai o'n hasesiadau yn caniatáu i chi weithio ar y cyd ar brosiect, tra bod eraill yn cynnwys ysgrifennu a chreu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd; er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ddylunio arddangosfa amgueddfa neu greu canllaw ar gyfer defnyddio ffynonellau; ac efallai y cewch gyfle i greu podlediadau a thestunau digidol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae traethodau hir yn caniatáu i chi fynd i'r afael â chwestiynau hanesyddol sylfaenol neu archwilio mater neu ddadl hanesyddol yn fanylach.

Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Maent yn helpu i roi’r sgiliau i chi gysylltu eich gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol; dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau; cydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau; a chyflwyno dadleuon ar sail tystiolaeth. Mae'r sgiliau a ddatblygir ac a asesir trwy gydol y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd graddedig. Mae adborth unigol a grŵp ar asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich lefel cyrhaeddiad gyfredol neu ddiweddar.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. 

Mae Deilliannau Dysgu’r Rhaglen hon i’w gweld isod:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol: 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD1: ymwneud yn feirniadol ac yn gysyniadol â'r rhagdybiaethau a'r dulliau newidiol y mae haneswyr yn eu defnyddio i egluro'r gorffennol.

GD2: nodi a dadansoddi’n feirniadol amrywiaeth hanes dynol, parhad, a newid, ar draws ystod ddaearyddol a chronolegol eang.

GD3: dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o gymhlethdod ac amrywiaeth y gorffennol mewn un wlad neu mewn perthynas â thema benodol.

GD4: dangos ymwybyddiaeth feirniadol o gyfyngiadau gwybodaeth hanesyddol a natur esblygol y wybodaeth a’r ddealltwriaeth honno.

Sgiliau Deallusol:

SD1: gwerthuso’n feirniadol natur cytundeb ac anghytundeb hanesyddiaethol.

SD2: defnyddio gwybodaeth a sgiliau a dulliau priodol i nodi a gwerthuso newid hanesyddol yn feirniadol.

SD3: ffurfio a chyfiawnhau dadleuon am ystod o faterion, problemau a dadleuon hanesyddol gan ddefnyddio syniadau a dulliau hanesyddiaethol.

SD4: dod o hyd i ffynonellau sylfaenol priodol, pwyso a mesur eu natur a'u dadansoddi'n feirniadol i ateb cwestiynau a datrys problemau.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SY1: dangos meddwl beirniadol, rhesymeg a'r gallu i gymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth trwy ddethol yn annibynnol a dadansoddi'n feirniadol ystod briodol o dystiolaeth.

SY2: gofyn cwestiynau ymchwil cymhellol a phenodol a mynd ar drywydd atebion i'r cwestiynau hynny trwy ymholi strwythuredig, gan ddethol ac archwilio ystod briodol o dystiolaeth.

SY3: crynhoi a gwerthuso'n feirniadol rinweddau ac anfanteision cymharol safbwyntiau a dehongliadau amgen a gwerthuso eu harwyddocâd.

SY4: dylunio, cyflawni a chyflwyno prosiect ymchwil hanesyddol, hanesyddiaethol, neu gysyniadol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

ST1: cyflwyno canfyddiadau a dadleuon cymhleth yn glir, yn gryno, ac yn berswadiol mewn amrywiaeth o fformatau.

ST2: dangos sgiliau menter i ddatrys problemau a dadansoddi tystiolaeth amrywiol, rhannol neu amwys gan ddefnyddio meddwl beirniadol, menter a chreadigrwydd.

ST3: paratoi a rhoi cyflwyniad a darparu deunyddiau ategol clir a chywir mewn fformat priodol.

ST4: rheoli eich dysgu eich hun yn effeithiol.

ST5: cyfathrebu gwybodaeth a dadleuon cymhleth yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol, naill ai'n unigol neu ar y cyd fel rhan o dîm.

Gwybodaeth arall

Mae'r radd yn cael ei haddysgu gan dîm, dan oruchwyliaeth Cynullydd y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae dulliau addysgu yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, gwaith unigol a grŵp, tiwtorialau un i un, a dysgu hunan-gyfeiriedig. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid academaidd. Mae’r dulliau addysgu hyn yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu dulliau o feddwl yn feirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys adnoddau dysgu digidol.

Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich cefnogi i ddatblygu eich syniadau, sgiliau a chymwyseddau. Rydym yn defnyddio ystod eang o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs, beirniadaeth o ffynonellau, adolygiadau beirniadol, archwiliadau, profion ar-lein, posteri, cyflwyniadau llafar a chyflwyniadau grwpiau. Mae dilyniant yn cael ei adeiladu i mewn i’r asesu, o ran y modd y byddwch chi’n gwneud tasgau tywys llai o faint ym mlwyddyn un, yn ogystal â gwaith ffurfiannol ym mlynyddoedd dau a thri. Yn rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth. Mae dilyniant hefyd yn amlwg yn y pwyslais cynyddol ar waith hirach, annibynnol, gan arwain at draethawd hir 10,000 o eiriau yn eich blwyddyn olaf.

Addysgu yn yr Iaith Gymraeg

Rydym yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer dysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amodol ar argaeledd staff, mae’r addysgu trwy gyfrwng yn y Gymraeg mewn seminarau ar gael mewn rhai neu’r cyfan o’r prif gyrsiau craidd, a chynigir o leiaf un dewis iaith Gymraeg ym mlynyddoedd dau a phedwar. Mae goruchwyliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ar gyfer traethodau hir a thraethodau estynedig, a gall myfyrwyr ddewis ysgrifennu’r cyfan neu ran o’ch gwaith a asesir a’ch arholiadau yn Gymraeg.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio, waeth pa lwybr byddwch chi’n ei ddilyn.

Mae ein gradd yn eich paratoi gyda dealltwriaeth fywiog a beirniadol o’r gorffennol, ei waddol parhaus, a sut mae’n cysylltu â’r presennol, a sgiliau pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, o gydweithio a chyfathrebu gydag ystod eang o gynulleidfaoedd, i feddwl yn feirniadol a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddatrys problemau. Rydym yn cynnig cyfleoedd i chi ennill a datblygu sgiliau mentergarwch wrth i chi ddatblygu, o gynnig eich syniadau am hanes byd-eang ar fodiwlau yn y flwyddyn gyntaf a chydweithio ar brosiect ym mlwyddyn 2, i leoliadau â chredydau ym mlwyddyn 2 a'r flwyddyn olaf. Mae ystod o fodiwlau dewisol yn ehangu’r cyfleoedd hyn ac yn eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau ymhellach.

Cyflwynir digwyddiadau hyfforddi a gyrfaol y tu mewn a’r tu allan i’r cwricwlwm gyda ffocws ar ddatblygu eich sgiliau tra byddwch yn y brifysgol a gwneud defnydd llwyddiannus o’r sgiliau hynny yn y dyfodol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd nid yn unig yn darparu hyfforddiant a gweithdai ar ein modiwlau craidd, ond hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun tra'n caniatáu i chi wneud gwahaniaeth.

Mae Gwobr Caerdydd yn rhoi fframwaith i chi ddatblygu eich cyflogadwyedd ar ei sail, a gallwch fanteisio ar ystod eang o raglenni prifysgol o Ieithoedd i Bawb (er mwyn dechrau dysgu iaith neu wella eich sgiliau iaith) i gymorth gan y tîm Menter a Dechrau Busnes i ddod â’ch syniadau’n fyw.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Newyddiadurwr darlledu
  • Cyfreithiwr
  • Swyddog gweithredol hysbysebu
  • Athro
  • Hanesydd

Lleoliadau

Rydym yn sicrhau y gall lleoliadau gael eu hymgorffori yn eich dysgu. Cynigir cyfleoedd ar gyfer lleoliadau amrywiol a phwrpasol ym Mlwyddyn Dau ar fodiwl sy’n canolbwyntio ar drosi’r sgiliau rydych yn eu meithrin drwy eich gradd i’r gweithle. Yn eich blwyddyn olaf, rydym yn cynnig cyfle i astudio modiwl y gallwch ddatblygu eich sgiliau menter drwyddo, ac sy’n rhoi’r sgiliau i chi gyfathrebu a chydweithio â sefydliadau allanol. Mae gan staff hefyd gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth leol a sefydliadau eraill, sy’n cynnig cyfleoedd lleoliad yn ystod a’r tu allan i semestrau.

Trwy ein cysylltiadau â Dyfodol Myfyrwyr, gallwch ddod o hyd i leoliadau ac interniaethau ar y campws, o leoliadau 35 awr rhan-amser sy’n cyd-fynd â'ch astudiaethau i leoliadau haf cyflogedig. Yn ogystal, mae Go Wales yn cynnig cymorth ychwanegol i'ch helpu i gael profiad gwaith.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.