Hanes ac Economeg (BA)
Blwyddyn Mynediad
Mae BA Hanes ac Economeg (Cydanrhydedd) yn gyfle i fyfyrwyr astudio'r gorffennol ochr yn ochr â theori economaidd brif ffrwd a modiwlau dewisol eraill.

Trosolwg y cwrs
Mae BA Hanes ac Economeg (Cydanrhydedd) yn gyfle i fyfyrwyr astudio'r gorffennol ochr yn ochr â'r cyfle i ddeall dadansoddiadau economaidd yn drylwyr.
Mae'r modiwlau Hanes yn cwmpasu’r cyfnod o gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig hyd at heddiw. Mae cydbwysedd rhwng modiwlau sy’n cwmpasu cyfnodau hanesyddol penodol a modiwlau thematig sy’n archwilio pynciau cymdeithasol a diwylliannol eang, fel rhyfela, rhywedd, crefydd, celf, meddygaeth a gwyddoniaeth.
Mae’r rhan o'r radd sy'n dilyn Hanes yn anelu at ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol myfyrwyr ynghylch strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymdeithasau’r gorffennol, a meithrin sgiliau deallusol fel y gallu i asesu tystiolaeth yn feirniadol, gwerthuso gwahanol ddehongliadau o’r dystiolaeth, llunio dadleuon ar sail tystiolaeth, a mynegi barn yn gadarn ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae'r rhan o'r radd sy'n dilyn Economeg yn cynnig dealltwriaeth o theori economaidd i fyfyrwyr, yn enwedig nodweddion strwythur a rheoli mentrau busnes modern. Amcan y rhaglen yw addysgu am brif nodweddion economi diwydiannol y DU a'r datblygiadau allweddol mewn busnes.
Byddwch yn ystyried polisi busnes y llywodraeth a pholisïau busnes rhyngwladol gan nodi eu goblygiadau ar ddatblygiad marchnadoedd a chwmnïau. Cewch hefyd eich cyflwyno i feysydd y tu hwnt i economeg ynghyd â'r cyfle i ddilyn modiwlau mewn arian busnes, y farchnad ac elfennau eraill o reoli.
Nodweddion nodedig
Mae’r radd yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen ar fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’r Economeg neu Hanes ar lefel ôl-raddedig, ynghyd ag amrywiaeth werthfawr o sgiliau deallusol a throsglwyddadwy i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd i broffesiynau eraill.
Côd UCAS | VL11 |
---|---|
Derbyniad nesaf | Medi 2020 |
Hyd | 3 blwyddyn |
Modd (astudio) | Amser llawn |
Lleoedd sydd ar gael fel arfer | 320 o leoedd sydd ar gael fel arfer yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd. |
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arfer | Mae'r Ysgol fel arfer yn derbyn tua 1,800 o geisiadau. |
-
Adeilad Aberconwy
Rhodfa Colum
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU
-
Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Adeilad John Percival
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU
Cysylltu
Gofyn cwestiwnGofynion mynediad
AAB - ABB. Mae AS/ Lefel A Hanes yn ddymunol. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol
Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd
Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Graddau DDM-DMM mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ogystal â unrhyw bwnc BTEC arall os caiff ei gyfuno â Safon Uwch. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.
Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch gan gynnwys 6 mewn Hanes Lefel Uwch.
Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
TGAU Mathemateg Gradd B. TGAU Saesneg Gradd C neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfatebol.
Dewis
Fel sy'n arferol â pholisi derbyn Prifysgol Caerdydd. Mae'n bosibl y cyfwelir ymgeiswyr sy'n dychwelyd i addysg mewn modd nad yw'n arferol, megis trwy gwrs Mynediad.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£9,000 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£18,450 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn rhaglen radd tair blynedd sy'n cynnwys modiwlau craidd sy'n darparu sgiliau a hyfforddiant hanfodol, yn ogystal ag amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol i fyfyrwyr ddewis o’u plith er mwyn teilwra eu gradd i gwrdd â'u diddordebau. Byddwch chi’n astudio ar gyfer cyfanswm o 120 credyd bob blwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020
Blwyddyn un
Ym Mlwyddyn 1, byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau Economeg a 60 credyd o fodiwlau Hanes.
Caiff cyfran helaeth o'r modiwlau sy'n rhan o'r rhaglen radd ei haddysgu gan adran Economeg yr Ysgol Busnes, ond mae'n bosibl y bydd cyfle i astudio modiwlau a addysgir mewn adrannau eraill o'r Ysgol Busnes.
Mae’r holl fyfyrwyr Hanes blwyddyn gyntaf yn cymryd ‘Ymarfer Hanes’ sy’n eich cyflwyno i fframweithiau gwahanol sy’n sail i ymchwil hanesyddol a’r nifer o ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra’n darparu hyfforddiant yn y sgiliau angenrheidiol i arfer hanes ar lefel israddedig.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Applied Stats and Maths in Econ and Business | BS1501 | 20 credydau |
Microeconomics | BS1551 | 20 credydau |
Macroeconomics | BS1652 | 20 credydau |
History in Practice Part 1: Questions, Frameworks and Audiences. | HS1119 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
A World Full of Gods | HS0001 | 20 credydau |
Projecting the Past: Film, Media and Heritage | HS0002 | 20 credydau |
The Making of The Modern World, 1750-1970 | HS1105 | 20 credydau |
Making Global Histories: Asia and the West | HS1108 | 20 credydau |
Inventing a Nation: Politics, Culture and Heritage | HS1109 | 20 credydau |
Medieval Worlds, AD 500 -1500 | HS1112 | 20 credydau |
Renaissance, Reformation and Revolution | HS1117 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau Economeg a 60 credyd o fodiwlau Hanes.
Byddwch yn dysgu i feddwl yn annibynnol, asesu cryfderau a gwendidau corff o dystiolaeth hanesyddol i chi eich hun, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau yn glir. Bydd ein staff academaidd cyfeillgar wrth law i’ch arwain ac i ddarparu adborth llawn ac adeiladol drwy gydol eich astudiaethau.
Bydd y modiwlau Economeg yn rhoi sylfaen cadarn i fyfyrwyr o ran theori, cysyniadau, egwyddorion a thechnegau ym meysydd creiddiol y pwnc: Macro-economeg, Micro-economeg a dadansoddi meintiol. Amcan hyn yw rhoi gwybodaeth sylfaenol dda i fyfyrwyr ynghylch sut mae economi'r DU yn gweithio, a'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Macroeconomic Theory | BS2549 | 20 credydau |
Microeconomic Theory | BS2550 | 20 credydau |
Blwyddyn tri
Ym Mlwyddyn 3, byddwch yn astudio 60 credyd o fodiwlau Economeg a 60 credyd o fodiwlau Hanes.
Rydym yn cynnig ystod eang o agweddau Economeg i wahanol raddau yn y flwyddyn olaf, ynghyd â chyfle i arbenigo. Bydd gan rai modiwlau elfennau meintiol iddynt, tra bo eraill yn fathemategol o ran eu natur.
Os dymunwch, gallwch ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o'ch dewis chi yn y naill ddisgyblaeth neu’r llall.
Dysgu ac asesu
Sut caf fy addysgu?
Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.
Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Addysgu Iaith Cymraeg
Mae'r rhan o'r radd sy'n dilyn Hanes yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer dysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amodol ar argaeledd staff, mae’r addysgu trwy gyfrwng yn y Gymraeg mewn seminarau ar gael mewn rhai neu’r cyfan o’r prif gyrsiau craidd, a chynigir o leiaf un dewis iaith Gymraeg ym mlynyddoedd dau a thri. Mae goruchwyliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd ar gael ar gyfer traethodau hir (Archwilio Dadleuon Hanesyddol) a thraethodau estynedig, a gall myfyrwyr ddewis ysgrifennu’r cyfan neu ran o’ch gwaith a asesir a’ch arholiadau yn Gymraeg.
Blwyddyn 1
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
25%
Astudio annibynnol dan arweiniad
75%
Lleoliadau ments
0%
Blwyddyn 2
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
19%
Astudio annibynnol dan arweiniad
81%
Lleoliadau ments
0%
Blwyddyn 3
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
20%
Astudio annibynnol dan arweiniad
80%
Lleoliadau ments
0%
Sut y caf fy nghefnogi?
Pennir Tiwtor Personol ar gyfer pob myfyriwr mewn Hanes ac Economeg y gallent drafod eu cynnydd academaidd a'u datblygiad personol. Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.
Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwch yn derbyn adborth drwy waith ysgrifenedig ffurfiannol, trafodaeth seminar, adborth ysgrifenedig ar draethodau, tiwtorialau traethawd, a sesiynau goruchwylio Archwilio Dadl hanesyddol a Traethawd Hir (sy’n cynnwys adborth ysgrifenedig a llafar ar lyfryddiaethau, cynlluniau ymchwil, a phenodau drafft).
Cyflwynir adborth ichi'n gyson mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.
Caiff gwaith cwrs ei farcio, a chewch adborth ysgrifenedig arno. Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.
Sut caf fy asesu?
Cewch eich asesu drwy arholiadau ysgrifenedig a thraethodau gwaith cwrs yn bennaf. Byddwch hefyd yn ysgrifennu traethodau hirach, adolygiadau beirniadol o erthyglau ysgolheigaidd, a thraethawd hir, ac fe fyddwch yn rhoi cyflwyniadau llafar mewn rhai cyrsiau penodol. Mae'r meini prawf o ran marcio'r gwaith hwn yn mesur eich cyflawniadau ar sail deilliannau dysgu'r Rhaglen.
Mae dilyniant yn dod yn rhan o’r asesu, o ran y modd y bydd myfyrwyr yn gwneud tasgau llai lle cânt eu tywys ym Mlwyddyn 1, yn ogystal â thraethodau ffurfiannol ym Mlynyddoedd 2 a 3 Bydd y dilyniant hefyd yn amlwg yn sgîl y pwyslais cynyddol ar ddarnau hirach, annibynnol o waith.
Dulliau asesu (2017/18 data)
Blwyddyn 1
Arholiadau ysgrifenedig
67%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
33%
Blwyddyn 2
Arholiadau ysgrifenedig
70%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
30%
Blwyddyn 3
Arholiadau ysgrifenedig
73%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
28%
Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau academaidd ac ymarferol, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd mwy cyffredinol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- cyfathrebu a chyflwyno gwybodaeth, dadleuon a syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig (yn unigol ac fel rhan o dîm);
- gan ddefnyddio TGCh a phecynnau meddalwedd sylfaenol;
- dod o hyd i wybodaeth rifol berthnasol, ei dehongli a'i chyflwyno – i gefnogi sail adroddiadau prosiect ac achosion busnes;
- dangos a gwella eich sgiliau rhyngbersonol i'r grŵp/tîmweithio'n fwy effeithiol;
- sut i gydnabod, cofnodi a chyfathrebu eich sgiliau a'ch gwybodaeth i gwblhau amcanion personol/gyrfaol;
- sut i reoli eich dysgu a'ch perfformiad (gan gynnwys rheoli amser);
- dangos ymrwymiad i ddysgu a datblygu’n barhaus.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Credwn mewn rhoi’r cyfleoedd gorau i raddedigion ddod o hyd i gyflogaeth. Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd i helpu myfyrwyr nodi eu sgiliau a’u priodoleddau, ac mae gennym ni ein Swyddog cyflogadwyedd a Lleoliadau’r Gweithle mewnol yn yr Ysgol. Mae rhai o'n graddedigion yn mynd i broffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd academaidd. Mae'r rhan fwyaf, fodd bynnag, yn cystadlu'n llwyddiannus iawn mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill.
Ysgol Busnes Caerdydd
Mae'r rhaglen radd Busnes yn cynnig ystod eang o sgiliau a gaiff eu cymeradwyo gan lawer o gyflogwyr yn sector breifat a'r sector gyhoeddus. Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Yn ogystal â Gwasanaeth Gyrfaoedd anolog y Brifysgol, mae ein myfyrwyr yn elwa o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Lleoliadau ar y campws sy'n eu helpu i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd gwaith a chael mynediad at hyfforddiant, canllawiau a chyngor sy'n benodol i'r diwydiant busnes.
Lleoliadau
Mae'r ddwy Ysgol yn gweld budd mewn cael Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sy'n cefnogi myfyrwyr â chyfleoedd profiad gwaith a chyngor ar yrfaoedd yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.
Astudio yn Gymraeg
Mae hyd at 28% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.
Diwrnod agored nesaf i israddedigion