Ewch i’r prif gynnwys

Almaeneg a Cherddoriaeth (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae’r cwrs gradd cydanrhydedd yn galluogi myfyrwyr i gyfuno astudio cwrs poblogaidd ieithyddol o Almaeneg â Cherddoriaeth.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern a Cherddoriaeth yw datblygu ac addysgu ein myfyrwyr i fod yn ‘ddinasyddion byd-eang’. Drwy gyfuno Almaeneg a Cherddoriaeth, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol i weithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.  

Mae'r Almaen yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Almaeneg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig.

Rydym yn cynnig Almaeneg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yr Almaen yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad lle siaredir Almaeneg. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, fydd yn ysgogi menter a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. 

Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol.

Mae dinas Caerdydd yn gartref i'r celfyddydau, ac yn lleoliad gwych ar gyfer yr astudio Cerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol (Opera Cenedlaethol Cymru) a hefyd gerddorfa symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i'n myfyrwyr fynd i ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhatach ar gyfer cyngherddau. 

Mae disgwyl i chi fod wedi cyrraedd neu fod wedi dangos tystiolaeth o weithio tuag at Radd 8 mewn un neu ragor o offerynnau, neu lais, ar adeg gwneud eich cais. Efallai y cewch chi eich ystyried os nad ydych chi’n astudio Lefel-A Cerddoriaeth ond bod gennych chi Radd 8 Ymarferol a Gradd 7/8 Theori a’ch bod chi’n astudio pynciau Dyniaethau priodol ar Safon Uwch.

Fel myfyriwr cyd-anrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau ategol sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar. Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yr Almaen. 

Nodweddion nodedig

  • Addysgu dan arweiniad ymchwil sy’n eich galluogi i ymgysylltu â syniadau newydd sy’n helpu i lunio dyfodol astudiaethau Almaeneg a Cherddoriaeth.
  • Addysgu iaith o ansawdd uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol.
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i ategu eich gwaith dysgu iaith a throchi mewn diwylliant Almaenig.
  • Cwricwlwm â bwa dysgu clir, sy'n defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf ac sy'n cynnig dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant Almaenig
  • Y dewis o leoliad gwaith lle gellir ennill credydau.
  • Y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai’n astudio neu’n gweithio yn yr Almaen neu mewn gwlad lle siaredir Almaeneg
  • Amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau yn hyrwyddo dysgu iaith a datblygu eich sgiliau a'ch proffil.
  • Caiff hyfforddiant offerynnol (neu leisiol) ei gyllido'n llawn ar gyfer eich prif offeryn astudio.
  • Mae’r dewis yn y naill bwnc a’r llall i ysgrifennu traethawd hir yn rhoi’r cyfle i chi ddewis pwnc sy'n seiliedig ar y ddwy ddisgyblaeth.
  • Archwilio cerddoriaeth mewn cyd-destun diwylliannol eang, gan gofleidio elfennau llenyddol, cymdeithasol a gwleidyddol.
  • Cyfleoedd i feithrin cysylltiadau â cherddorion proffesiynol gweithredol drwy weithdai cyfansoddi, dosbarthiadau meistr ar berfformio, cyfres cyngherddau’r Brifysgol, a’n sgyrsiau gyrfaoedd.
Côd UCASWR32
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
  1. Yr Ysgol Ieithoedd Modern

    66a Plas y Parc

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3AS

  2. Yr Ysgol Cerddoriaeth

    Adeilad Cerddoriaeth

    31 Heol Corbett

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3EB

  3. Llyfrgell Cerddoriaeth

    Adain y Llyfrgell

    Neuadd Aberdâr

    Heol Corbett

    Caerdydd

    CF10 3UP

Gofynion mynediad

Mae’r gofynion mynediad a ddangosir ar gyfer darpar fyfyrwyr fydd yn dechrau yn 2019. Bydd y gofynion mynediad ar gyfer 2020 ar gael ym mis Awst 2019.

ABB-BBB including a B in Music. Applicants holding a B in relevant language A-levels will have access to the Languages advanced pathways. Please note that General Studies and Critical Thinking will not be accepted. Please also see 'other requirements' below. 

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Applicants taking BTEC will be considered for entry. Please contact the University for further information.

32 points with 6 in HL Music and 6 in HL in a modern language for the beginners pathway or 6 in HL in German for the advanced pathway. Please also see 'other requirements' below. 

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol Cerddoriaeth.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

You will need GCSE English Language Grade C or 4, IGCSE English First Language grade C, IGCSE English as a Second Language grade C. All joint honours applicants with Music are expected to have gained or shown evidence of working towards Grade 8 in one instrument or voice at the time of application and attend an audition. Consideration will be given to applicants who are not taking A-level Music but have Grade 8 Practical and Grade 7/8 Theory and are studying appropriate Humanities subjects at A-level. 

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Heblaw eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae BA Almaeneg a Cherddoriaeth yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau iaith a cherddoriaeth ar lefel uchel, ynghyd â’r sgiliau i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob blwyddyn o’r rhaglen byddwch yn astudio 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 o gredydau mewn Cerddoriaeth a 60 o gredydau mewn Almaeneg. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yn yr Almaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Almaeneg.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Byddwch yn cyfuno 60 o gredydau mewn Almaeneg â 60 o gredydau mewn Cerddoriaeth.

Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â chymhwyster Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Almaeneg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am Almaeneg. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith, sy'n cyflwyno datblygiad yr Almaen fel cenedl i chi, gan archwilio beth oedd ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Bydd y modiwl yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Yn y flwyddyn gyntaf, mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn cynnig hyfforddiant creiddiol mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol.

Fel myfyriwr BA, byddwch yn cael dewis rhydd o’r pynciau hyn.

I ategu eich astudiaethau academaidd, rydych chi’n cael eich annog yn weithredol i ymuno â Chôr neu Gerddorfa’r Brifysgol ac ensembles eraill.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
German History and Culture in Transnational ContextML718720 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Advanced German Language Year 1ML718840 credydau
Beginners German Language Year 1ML718940 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Composition 1AMU110710 credydau
Ethnomusicology 1: Music in Human LifeMU112410 credydau
Elements of Tonal Music 1MU112520 credydau
The Full WorksMU112710 credydau
Elfennau 1MU113520 credydau
Composition 1BMU120810 credydau
A History of Popular MusicMU122610 credydau
Elements of Tonal Music 2MU122720 credydau
From Page to Stage: Dramaturgy in Musical TheatreMU123010 credydau
Composing the LandscapeMU123110 credydau
Elfennau 2MU123720 credydau
Practical Musicianship 1MU131410 credydau
Repertoire StudiesMU131720 credydau
Cerddoriaeth Ymarferol IMU132410 credydau
Astudiaethau RepertoireMU132720 credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau, byddwch unwaith eto yn astudio 60 o gredydau mewn Cerddoriaeth a 60 o gredydau mewn Almaeneg.

Mae’r elfennau iaith yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi chi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Yn ogystal ag iaith, byddwch yn astudio 30 o gredydau yn edrych ar yr Almaen mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio’n fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth.

O ran Cerddoriaeth, mae cyrsiau yn fwy datblygedig a byddwch yn canolbwyntio ar bynciau mwy arbenigol, gan ddewis o blith pedwar grŵp: Cyfansoddi ac Astudiaethau Electroacwstig, Dawn Gerddorol Ysgrifenedig ac Ymarferol, Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol, ac Astudiaethau Hanesyddol. Lluniwyd ein modiwlau blwyddyn dau, Busnes Cerddoriaeth I/II, i’ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o’r proffesiwn cerddoriaeth yn well ac i roi cyfle i chi gael lleoliad byr mewn maes sy’n ymwneud â cherddoriaeth neu’r celfyddydau, naill ai mewn un bloc neu ar ffurf cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

Y tu allan i'ch astudiaethau ffurfiol, byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Mentora Myfyrwyr, sydd wedi cael canmoliaeth uchel ac sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae disgyblion mewn ysgolion uwchradd dethol yn cael eu mentora gan ein myfyrwyr israddedig sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig, ac sy'n mynd i'r ysgolion i fentora disgyblion mewn grwpiau bach o ddau neu dri dros gyfnod o bum wythnos.

Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon Iaith i Fyfyrwyr, sy'n gweithredu fel eiriolwyr ar gyfer dysgu ieithoedd. Yn dilyn hyfforddiant penodol, fel Llysgennad mae’n bosibl y cewch gyfle i siarad yn gyhoeddus mewn digwyddiadau, gan rannu eich profiad personol o ddysgu ieithoedd. Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, megis sesiynau blasu iaith, cyflwyno a hyrwyddo’r flwyddyn dramor, cefnogi diwrnodau a digwyddiadau iaith mewn ysgolion, neu hybu ieithoedd modern mewn ffeiriau gyrfaoedd neu ddiwrnodau agored.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cultures in Context (German)ML728230 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir eich trydedd flwyddyn yn yr Almaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Almaeneg. Bydd y flwyddyn dramor yn eich galluogi i feithrin sgiliau iaith, yn dyfnhau eich dealltwriaeth o'r diwylliant targed ac yn datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.

Bydd eich dewisiadau’n cynnwys:

  • astudio yn un o'n prifysgolion partner;
  • gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy gynllun y British Council, neu
  • weithio i sefydliad neu gwmni Ffrengig.

Os byddwch yn dewis yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd tebyg i Berlin, Hamburg, München a Köln.

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y British Council fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r British Council yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Almaeneg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Almaeneg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol. Y mae hefyd yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 o gredydau mewn Almaeneg a 30 o gredydau mewn modiwl dewisol Almaeneg, yn ychwanegol at 60 o gredydau mewn Cerddoriaeth.

O ran Cerddoriaeth, fe fyddwch chi unwaith eto’n dewis o blith y pedwar grŵp pwnc, a gallwch fynd ar drywydd un o'r tri phrosiect academaidd o bwys: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoreg, neu Brosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth. Cewch gwblhau portffolio cyfansoddiadau byr (Cyfansoddi IV) a/neu ddatganiad 'caeedig' o flaen arholwyr yn unig (Dawn gerddorol ymarferol IV).

Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
High-Level Proficiency in German LanguageML736630 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Final Year Dissertation - German (in English/Welsh)ML735930 credydau
Final Year Dissertation - German (in German)ML736130 credydau
Screening the City: Berlin on FilmML736230 credydau
The German Idea of HistoryML736330 credydau
Geschichte oder Geschichten? - die Gegenwartsliteratur im historischen KontextML736430 credydau
The GDR in Literature & CultureML736530 credydau
Practical Musicianship 3 (Ensemble)MU313710 credydau
The Birth of ModernismMU314910 credydau
Studio Techniques 2: Audio and Hard Disk RecordingMU316320 credydau
20th Century Contrapuntal PracticeMU316410 credydau
The Birth of ModernismMU316520 credydau
Nineteenth Century Italian OperaMU316810 credydau
Nineteenth Century Italian OperaMU316920 credydau
Studio Techniques 2: Audio and Hard Disk RecordingMU326720 credydau
Wagner and Romantic OperaMU327410 credydau
Wagner and Romantic OperaMU327520 credydau
The Cultures of BeethovenMU328010 credydau
The Cultures of BeethovenMU328120 credydau
Performance Practice and Organology the Long Seventeenth Century, 1550-1700MU328410 credydau
Performance Practice and Organology the Long Seventeenth Century, 1550-1700MU328520 credydau
Jazz, Culture and PoliticsMU328610 credydau
Jazz, Culture and PoliticsMU328720 credydau
FugueMU328810 credydau
DissertationMU334030 credydau
Project in Music AnalysisMU334330 credydau
Practical Musicianship 4 (Performance)MU334420 credydau
Composition 4MU334520 credydau
Project in EthnomusicologyMU334630 credydau
Practical Contribution Portfolio 3MU334710 credydau
TraethawdMU335030 credydau
Cerddoriaeth Ymarferol IV (Perfformiad)MU335420 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.   

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA Almaeneg a Cherddoriaeth yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor. 

Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod. 

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.   

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Rhoddir adborth ar eich gwaith yn aml ac mewn amrywiaeth eang o fformatau, a’i fwriad yw eich helpu chi i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysg, yn ogystal â rhoi arwyddion o sut y gallech wella eich perfformiad mewn arholiadau a gwaith cwrs.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl y cyfnod arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol.

Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, astudiaethau achos, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati).

Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth. Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Canlyniadau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. 

Gellir gweld y Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
  • Creadigrwydd a dychymyg cerddorol;
  • Sgiliau a thechnegau cyfansoddi allweddol.
  • Nodiannu syniadau yn effeithiol ac yn gywir.
  • Gwybodaeth am gyfansoddwyr, eu hieithoedd cerddorol, eu technegau a’u harddulliau.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes yr Almaen a gwledydd lle siaredir Almaeneg
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg ac Almaeneg.
  • Sgiliau darllen yn feirniadol, ymchwil annibynnol, ac ysgrifennu.
  • Sgiliau dadansoddi llenyddol, darllen deongliadol a mynegiant ysgrifenedig.
  • Sgiliau dadansoddol a datblygu tuag at ddehongliad annibynnol a doeth o waith ymchwil.
  • Nodiannu syniadau cerddorol yn gywir ac yn effeithiol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Amlygu sgiliau wrth weithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • Defnyddio amrywiaeth o offerynnau a’u galluoedd technegol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Dadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Arddangos sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Arddangos sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

YSGOL IEITHOEDD MODERN    

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.

YSGOL CERDDORIAETH

Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau  yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae ein modiwlau ar gyfer yr ail flwyddyn ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall y gwahanol ganghennau yn y proffesiwn cerddoriaeth yn well. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau.

Mae ein cyfres flynyddol o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth yn gyfle gwych i chi gwrdd â phobl broffesiynol mewn amryw feysydd fel perfformio, addysg cerddoriaeth, newyddiaduraeth cerddoriaeth, rheoli'r celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

Mae modiwlau Blwyddyn dau ar Fusnes Cerddoriaeth I/II yn rhoi cyfle am leoliad gwaith byr, naill ai mewn un bloc neu fel cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Gwener 5 Gorffennaf

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais