Ewch i’r prif gynnwys

Almaeneg a Siapanaeg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae BA mewn Almaeneg a Japaneeg (gradd cydanrhydedd) yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr i gyfuno astudio dwy iaith bwysig y byd.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yw datblygu ac addysgu ein myfyrwyr i fod yn ‘ddinasyddion byd-eang’.  Yn ogystal â datblygu sgiliau iaith lefel uchel, mae ein rhaglen BA Almaeneg a Japaneeg yn eich galluogi i gael dealltwriaeth ryngddiwylliannol drylwyr sy'n cwmpasu gwybodaeth benodol am ddiwylliannau'r Almaen a Japan. Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu lefel uchel a sgiliau meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.

Mae'r Almaen yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliannau cyfoethog a soffistigedig. Almaeneg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol y gymuned Ewropeaidd, ac mae’n iaith diwylliant a diplomyddiaeth ar lefel fyd-eang o hyd.

Mae Japan yn y cyfnod cyfoes wedi’i seilio ar hanes diwylliannol cyfoethog, diddorol, sy’n ymestyn yn ôl filoedd o flynyddoedd. Mae’n dal yn bŵer economaidd pwysig yn ogystal ag yn arloeswr yn y diwydiannau moduron ac electronig, sy’n symud mor gyflym. Drwy astudio Japaneeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol mewn gweithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.

Drwy astudio Almaeneg ar y cyd â Japaneeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol mewn gweithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.

Rydym yn cynnig Almaeneg ar gyfer myfyrwyr uwch a dechreuwyr, a Japaneeg i ddechreuwyr yn unig. O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu a deunyddiau clyweledol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yr Almaen a Japan yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad lle siaredir Almaeneg a gwlad lle siaredir Japaneeg. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, fydd yn ysgogi menter a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. 

Mae'n bwysig cofio nad yr iaith yn unig sy'n bwysig wrth astudio ieithoedd. Mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs wirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol. 

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd mewn Almaeneg a Japaneeg, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yr Almaen a Japan.  

Nodweddion nodedig

  • Addysgu iaith o safon uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o addysgu ac asesiadau a gynlluniwyd i fwydo dysgu yn y dyfodol.
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich gwaith dysgu iaith a’ch trochi yn niwylliant yr Almaen a Japan, gan gynnwys dosbarthiadau sgwrsio dewisol ychwanegol gyda myfyrwyr Erasmus a Chymdeithas y Myfyrwyr Almaeneg, ynghyd â seminarau rhaglen astudiaethau Japaneeg, lle mae ysgolheigion ac arbenigwyr ar astudiaethau Japaneaidd o bob rhan o'r byd yn cael eu gwahodd i ddarlithio ar eu hymchwil eu hunain.
  • Cwricwlwm gyda bwa dysgu clir, sy'n defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf ac sy'n cynnig dealltwriaeth drylwyr o'r diwylliant Almaenig a Japaneaidd
  • Trefnir Cystadleuaeth Areithio Japaneeg bob blwyddyn gyda chymorth Clwb Japan Cymru, sy’n glwb busnes lleol. Yn y blynyddoedd a fu, mae enillydd y wobr gyntaf wedi cael cynnig lleoliad gwaith yn Sony UK Technology a Panasonic Manufacturing UK.
  • Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau.
  • Y dewis o leoliad gwaith lle gellir ennill credydau.
  • Y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai’n astudio neu’n gweithio mewn gwlad sy’n gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng yr Almaeneg neu'r Japaneeg.
  • Amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau yn hyrwyddo dysgu iaith a datblygu eich sgiliau a'ch proffil.
Côd UCASTR22
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
  1. Ysgol Busnes Caerdydd

    Adeilad Aberconwy

    Rhodfa Colum

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3EU

  2. Yr Ysgol Ieithoedd Modern

    66a Plas y Parc

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3AS

Gofynion mynediad

Mae’r gofynion mynediad a ddangosir ar gyfer darpar fyfyrwyr fydd yn dechrau yn 2019. Bydd y gofynion mynediad ar gyfer 2020 ar gael ym mis Awst 2019.

ABB - BBB. Applicants holding a B in relevant language A-levels will have access to the Languages advanced pathways. Please note that General Studies and Critical Thinking will not be accepted.   

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM - DMM in Social Science, Humanities, Arts, and Science subjects.

IB 32-30 or 665-655 from 3 HL subjects.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Ieithoedd Modern.

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

GCSE English Language Grade C or 4, IGCSE English First Language grade C, IGCSE English as a Second Language grade C.  

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae BA Almaeneg a Japaneeg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau a sgiliau iaith lefel uchel dros flynyddoedd olynol i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob un o flynyddoedd y rhaglen byddwch yn astudio ar gyfer 120 o gredydau. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor – un semester yn yr Almaen neu wlad arall lle siaredir Almaeneg, a'r semester arall yn Japan neu wlad arall lle siaredir Japaneeg.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Byddwch yn cyfuno Almaeneg â Japaneeg, gan eich galluogi i brofi mwy nag un maes astudio.

Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â chymhwyster Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Almaeneg a Japaneeg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am Almaeneg neu Japaneeg. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith, sy'n cyflwyno datblygiad yr Almaen a Japan fel cenhedloedd, gan archwilio arwyddocâd hynny i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Mae hefyd yn archwilio perthynas yr Almaen a Japan â'r byd, gan eich galluogi i archwilio rôl yr Almaen a Japan y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol. Bydd astudiaethau yn y meysydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Japan in ContextML158020 credydau
German History and Culture in Transnational ContextML718720 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Japanese for Post-A Level LearnersML154840 credydau
Elementary JapaneseML154940 credydau
Advanced German Language Year 1ML718840 credydau
Beginners German Language Year 1ML718940 credydau

Blwyddyn dau

Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Yn ogystal â 30 o gredydau mewn Almaeneg a Japaneeg, byddwch yn astudio 30 o gredydau yn edrych ar yr Almaen a Japan mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio'r Almaen a Japan yn fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau megis diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth. Bydd gennych hefyd y dewis o astudio Iaith Busnes a Chyfieithu Arbenigol.

Y tu allan i'ch astudiaethau ffurfiol, byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Mentora Myfyrwyr, sydd wedi cael canmoliaeth uchel ac sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae disgyblion mewn ysgolion uwchradd dethol yn cael eu mentora gan ein myfyrwyr israddedig sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig, ac sy'n mynd i'r ysgolion i fentora disgyblion mewn grwpiau bach o ddau neu dri dros gyfnod o bum wythnos.

Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon Iaith i Fyfyrwyr, sy'n gweithredu fel eiriolwyr ar gyfer dysgu ieithoedd. Yn dilyn hyfforddiant penodol, fel Llysgennad mae’n bosibl y cewch gyfle i siarad yn gyhoeddus mewn digwyddiadau, gan rannu eich profiad personol o ddysgu ieithoedd. Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, megis sesiynau blasu iaith, cyflwyno a hyrwyddo’r flwyddyn dramor, cefnogi diwrnodau a digwyddiadau iaith mewn ysgolion, neu hybu ieithoedd modern mewn ffeiriau gyrfaoedd neu ddiwrnodau agored.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Intermediate JapaneseML528030 credydau
Japanese Culture and SocietyML528230 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ex-Beginners Language Year 2 GermanML725030 credydau
Ex-Advanced Language Year 2 GermanML725130 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Introduction to Specialised TranslationML220130 credydau
Cultures in Context (German)ML728230 credydau
The World & Language of Business (German)ML728330 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir eich trydedd flwyddyn yn yr Almaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Almaeneg, ac yn Japan neu mewn gwlad arall lle siaredir Japaneeg. Bydd y flwyddyn yn eich galluogi i feithrin eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Almaenig a Japaneaidd, a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.

Mae eich opsiynau ar gyfer y flwyddyn hon yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy Gynllun y British Council, neu weithio i sefydliad neu gwmni Almaenig. Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Os byddwch yn dewis yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd, gan gynnwys Chuo, Dokko, Toyo, Waseda, Berlin, Hamburg, München a Köln. Mae gennym gysylltiadau academaidd â Brwsel yn ogystal.

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y British Council fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r British Council yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Almaeneg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Almaeneg a Japaneeg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.

Rhaid cael fisa er mwyn astudio yn Japan. Mae Dilyniant i’r Flwyddyn Dramor yn Japan yn dibynnu ar Lysgenhadaeth Japan yn cymeradwyo eich cais am fisa yn llwyddiannus.

Disgrifir y dogfennau angenrheidiol ar gyfer ffeilio cais am Dystysgrif Cymhwysedd i’r Swyddfa Mewnfudo ar wefan Swyddfa Mewnfudo Japan a bydd yr Ysgol Ieithoedd Modern yn gwneud cais i’r swyddfa mewnfudo berthnasol am Dystysgrif Cymhwyster am Statws Preswyl ("Tystysgrif Cymhwyster") ar eich rhan. Mae'r Dystysgrif Cymhwyster yn darparu prawf eich bod yn cydymffurfio â’r amodau ar gyfer mynediad a ragnodir yn Erthygl 7 Paragraff 1 Eitem 2 y Ddeddf Rheoli Mewnfudo. Gan hynny, bydd meddu ar Dystysgrif Cymhwyster yn hwyluso’r gweithdrefnau ar gyfer cyhoeddi fisa yn llysgenadaethau tramor Japan, yn ogystal ag arolygu mewnfudo ym meysydd awyr Japan.

Mae astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 o gredydau mewn Almaeneg a 30 o gredydau mewn Japaneeg, yn ychwanegol at 60 o gredydau mewn modiwlau dewisol. Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.  

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

29%

Astudio annibynnol dan arweiniad

71%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

40%

Astudio annibynnol dan arweiniad

60%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

0%

Astudio annibynnol dan arweiniad

0%

Lleoliadau ments

100%

Blwyddyn 4

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

null%

Astudio annibynnol dan arweiniad

null%

Lleoliadau ments

null%

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA Almaeneg a Japaneeg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd cydlynydd blwyddyn dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl yr ydych yn ei chael ar bethau.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor. 

Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Mae ein tîm gwasanaethau proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Yn ogystal, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog. 

Sut caf fy asesu?

Mae adborth ac asesu yn feysydd blaenoriaeth i’r Ysgol Ieithoedd Modern, gydag arweinydd asesu ac adborth penodol yn gyfrifol am sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau.

Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol. Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Dulliau asesu (2017/18 data)

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

60%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

37%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

53%

Arholiadau ymarferol

25%

Gwaith cwrs

22%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

20%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

80%

Blwyddyn 4

Arholiadau ysgrifenedig

null%

Arholiadau ymarferol

null%

Gwaith cwrs

null%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Canlyniadau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. 

Gellir gweld y Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon isod:  

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg, Almaeneg a Japaneeg.
  • Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gychwyn ac ymgymryd â dadansoddiadau o wybodaeth.
  • Cyrraedd casgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan gyfiawnhau’r rhain gyda rhesymu cadarn a dehongliadau manwl o ddeunydd ffynhonnell.
  • Technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynllunio ac ysgrifennu traethawd academaidd, gan ddefnyddio’r confensiynau cyfeirio priodol.
  • Gwerthusiad beirniadol o syniadau a dadleuon, drwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau ysgrifenedig a llafar.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Dadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Arddangos sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Sgiliau ieithyddol uwch, ynghyd â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliannau a llenyddiaeth yr Almaen a Japan.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Arddangos sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.  

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.

Swyddi

  • Teaching
  • Banking and Finance
  • Interpreter

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf. 

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Gwener 5 Gorffennaf

icon-international

Rhyngwladol

icon-chat

Gofyn cwestiwn

icon-pen

Sut i wneud cais