Ewch i’r prif gynnwys

Daeareg (BSc)

Pam astudio'r cwrs hwn

rosette

Wedi’i achredu’n broffesiynol

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan y Gymdeithas Ddaearegol, y corff proffesiynol ar gyfer y geowyddorau yn y DU.

location

Cyfleoedd gwaith maes

Rydym yn mynd ar deithiau maes rheolaidd yn y DU a thramor i'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau gwaith maes cryf. Mae cost teithiau maes gorfodol yn rhan o ffioedd y cwrs.

star

Cysylltiadau lleol

Wedi'i leoli yn yr un adeilad â swyddfa Gymraeg Arolwg Daearegol Prydain a drws nesaf i Amgueddfa Cymru.

mortarboard

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol

Nid oes angen i chi fod wedi astudio Daeareg i ddilyn y cwrs hwn. Rydym yn dechrau gyda'r pethau sylfaenol i ddod â phawb i'r un lefel.

star

Cwrs hyblyg

Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch ofyn am gael eich symud i raglen radd MSci neu newid i gwrs arall yn yr un Ysgol ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.

I ddod o hyd i atebion i rai o’r problemau mwyaf sy’n wynebu ein planed heddiw mae angen i ni ddeall hanes a phrosesau’r Ddaear. Mae daearegwyr yn astudio'r mwynau a'r creigiau sy'n ffurfio'r Ddaear solet, y prosesau sy'n digwydd ar ac o fewn ein planed, ac esblygiad bywyd ar ei harwyneb. Maent yn defnyddio eu gwybodaeth am hinsoddau a pheryglon y gorffennol i ddeall a mynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu o ganlyniad i faterion fel newid yn yr hinsawdd a thrychinebau naturiol.

Ar ein cwrs Daeareg byddwch yn dysgu sut mae creigiau a mwynau’n cael eu ffurfio, sut mae anifeiliaid yn esblygu dros amser daearegol, beth sy’n achosi daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd a sut mae gwyddor Daeareg yn effeithio ar ein bywydau heddiw. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn gwaith maes, cofnodi data, dadansoddi a gwneud penderfyniadau’n hyderus.

Rydym wedi gweithio gyda diwydiant i ddylunio ein gradd fel eich bod yn graddio gyda’r sgiliau arbenigol y mae arnoch eu hangen i fod yn ddaearegydd proffesiynol.

Rydym yn gwneud y gorau o'n lleoliad ac yn mynd ar deithiau maes rheolaidd yn ne Cymru i archwilio sut mae daeareg yn effeithio ar dirweddau a diwydiant y rhanbarth. Bydd cyfleoedd hefyd i fynd ar deithiau tramor, ac yn y gorffennol rydym wedi bod i Sbaen a Chyprus.

Achrediadau

Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Maes pwnc: Daeareg a'r geowyddorau

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BBC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth Lefel Uwch) neu 31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gyda dau bwnc gwyddonol Lefel Uwch). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Anifeiliaid, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg, Gwyddor Iechyd, TGCh, neu Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae costau gwaith maes eich modiwlau craidd wedi'u cynnwys ond bydd angen i chi gyfrannu at fwyd os yw'n cael ei ddarparu yn ystod y daith. Bydd angen i chi dalu am fodiwlau gwaith maes dewisol. Bydd cost y teithiau hyn yn cael ei gapio ar swm a bennir gan yr ysgol. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol yn gymwys i wneud cais am Raglen Cymorth Ariannol Caerdydd i helpu gyda’r costau hyn.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd angen dillad addas arnoch gan gynnwys dillad ar gyfer tywydd cynnes, gwynt a siacedi i’ch diogelu mewn stormydd ac esgidiau cerdded. Bydd yr ysgol yn darparu'r holl gyfarpar iechyd a diogelwch yn ogystal â chyfarpar maes arbenigol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd amser llawn a thair blynedd o hyd yw hon. Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio modiwlau craidd ac yn cael sylfaen gref mewn daeareg. Ceir modiwlau craidd a modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri, felly mae gennych rywfaint o hyblygrwydd i ddewis y meysydd astudio sydd o ddiddordeb i chi.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio modiwlau craidd sydd wedi'u cynllunio i roi sylfaen gadarn i chi yng ngwyddoniaeth Daeareg. Rydym yn dechrau gyda'r egwyddorion sylfaenol, ac yn trafod pynciau fel platiau wyneb a strwythur mewnol y Ddaear, y mwynau sy'n ffurfio ein planed ac esblygiad bywyd drwy biliynau o flynyddoedd o amser daearegol.  Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol fel mapio ac arolygu, microsgopeg a, chynrychioli data mewn systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS).

Byddwn yn mynd ar deithiau maes lleol ledled de Cymru a thaith maes wythnos o hyd i Sir Benfro yng ngorllewin Cymru i adeiladu ar eich dysgu o ddarlithoedd a dosbarthiadau ymarferol.

Mae pob un o'r graddau yn Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol yn astudio'r un semester cyntaf. Ar ôl semester un gallwch chi benderfynu a ydych chi am barhau â'ch dewis gwreiddiol neu newid i un o'r graddau eraill (ee Daeareg Archwilio neu Geowyddoniaeth Amgylcheddol).

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn, ac mae pob modiwl craidd yn werth 20 o gredydau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
World of Dynamic EnvironmentsEA130020 Credydau
Exploring Planet EarthEA130120 Credydau
GIS, Maps and Analytical SkillsEA130320 Credydau
Earth Science FieldworkEA130420 Credydau
Earth MaterialsEA130620 Credydau
Life and Earth HistoryEA130720 Credydau

Blwyddyn dau

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar yr wybodaeth o flwyddyn un ac yn dechrau archwilio cysyniadau mwy datblygedig fel prosesau gwaddodol, tarddiad creigiau igneaidd a metamorffig, a'r strwythurau sy'n deillio o ddaeargrynfeydd ac adeiladu mynyddoedd.

Gallwch ddewis o fodiwlau dewisol sy'n agor llwybrau i ddaeareg adnoddau amgylcheddol neu fwynau, neu i astudio tirweddau a nodweddion wyneb. Yn ystod y flwyddyn hon byddwch yn ennill sgiliau a phrofiad mewn samplu, casglu a dadansoddi data yn barod ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri.

Byddwn yn mynd ar deithiau maes preswyl i Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Dorset a thramor yn ogystal â theithiau dydd rheolaidd i safleoedd ledled De Cymru.

Yn ystod yr haf rhwng blwyddyn dau a blwyddyn tri, byddwch yn cwblhau prosiect mapio annibynnol dros gyfnod o bum wythnos i’ch paratoi chi ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri. Gallwch ddewis gwneud hyn yn y DU neu dramor. Yn y gorffennol mae myfyrwyr wedi dewis astudio ardaloedd yng Ngogledd Cymru, yr Alban, Iwerddon, Norwy, Gogledd Sbaen, De Ffrainc neu Alpau Ffrainc.

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys modiwlau craidd 40 a 20 o gredydau a dewis o fodiwlau dewisol gwerth 20 o gredydau.

Blwyddyn tri

Bydd gennych fwy o ryddid i lywio eich gradd yn eich blwyddyn olaf ac yn dewis modiwlau sy’n cyd-fynd â’ch dyheadau o ran gyrfa. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn. Mae'r modiwlau craidd yn cynnwys eich traethawd hir a Geodynameg. Ar gyfer eich modiwlau dewisol gallwch ddewis o blith ystod o fodiwlau arbenigol sy'n ymdrin â phynciau fel gwaith maes datblygedig, peryglon naturiol a gwytnwch, daeareg amgylcheddol a pheirianneg, hinsoddau hynafol, a llawer mwy.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Mapping training
Students undertake training in geological mapping on one of our overseas field trips

Dysgu ac asesu

Rydym yn ysgol gyfeillgar ac anffurfiol a byddwch yn cael eich cefnogi a'ch dysgu gan arbenigwyr o safon ryngwladol sy'n ymwneud ag ymchwil ryngwladol flaengar.

Rydym yn defnyddio dull addysgu sy’n gymysgedd o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol, gan gynnwys: darlithoedd, gwaith yn y labordy, gwaith maes, tiwtorialau, gweithdai a seminarau. Fe'ch anogir hefyd i ddysgu'n annibynnol drwy gydol y cwrs. Rydym yn eich annog i feddwl yn greadigol ac i ddod i gasgliadau o ddata anghyflawn sy'n sgil sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr mewn sectorau fel yswiriant, peirianneg sifil ac ymgynghori.

Sut y caf fy nghefnogi?

Goruchwylio

Ar ddechrau'r cwrs, dyrennir tiwtor personol i chi ac mi fyddwch yn cwrdd â hwy’n rheolaidd ar gyfer tiwtorialau. Cynhelir tiwtorialau bob pythefnos yn y flwyddyn gyntaf ac yna bob mis ym mlwyddyn dau a thri. Bydd eich tiwtor personol yn arbenigwr ym maes daeareg, a gall gynnig cyngor ar faterion academaidd a phersonol. Ym mlwyddyn tri, cewch hefyd oruchwyliwr penodol ar gyfer eich prosiect traethawd hir.

Cyfleusterau

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Caiff darlithoedd eu recordio lle bo'n bosibl fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Mae gan wefan Dysgu Canolog fodiwl Cynllunio Datblygiad Personol hefyd sy’n eich helpu i asesu eich cynnydd yn rheolaidd ac i ddiwallu eich anghenion datblygu.

Gwasanaethau cefnogi

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Amrywiaeth

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy'n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anableddau, strwythurau teuluol, rhyw, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hiliau, credoau crefyddol neu gredoau eraill, a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol. Darllenwch am ein hymrwymiad i egwyddorion Athena SWAN a'n statws Efydd ( https://www.cardiff.ac.uk/earth-ocean-sciences/about-us/equality-diversity-and-inclusivity ).

Sut caf fy asesu?

We will be assessing your level of knowledge and understanding in each module through a combination of assignments, presentations, fieldwork, examinations and a dissertation. You will receive written and oral feedback on your coursework and there are opportunities for informal feedback throughout the course.

NOTE: The University welcomes applications from students with disabilities and we endeavour to offer reasonable alternative assessment methods wherever possible.   We have an Alternative Fieldwork Policy which is adopted in cases where a student cannot attend a scheduled, taught field course, or part(s) thereof, because of extenuating circumstances.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i gaffael, integreiddio a syntheseiddio gwybodaeth i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth ym maes gwyddorau ddaear.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o strwythur y Ddaear, ei deunyddiau, ffurfiau bywyd a'i hadnoddau a'r prosesau sy'n ei siapio’n awr a thrwy amser daearegol.
  • Y gallu i esbonio rôl ac effaith gwyddorau daear wrth ddatrys heriau amgylcheddol yr 21ain ganrif megis newid yn yr hinsawdd, geoberyglon a chynaliadwyedd ynni, dŵr ac adnoddau naturiol eraill i gwrdd ag anghenion poblogaeth y byd.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol :

  • Deall a gwerthuso’n feirniadol tystiolaeth sy'n seiliedig ar wyddoniaeth i asesu a llunio datrysiadau i broblemau aml-elfen cymhleth mewn gwyddorau daear.
  • Y gallu i gydosod a gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol ar amrywiaeth o raddfeydd (o ficrosgopig i blanedol) a chynhyrchu a dehongli setiau data mewn 2D, 3D a 4D.
  • Y gallu i werthuso ymchwil gyfredol yn y gwyddorau daear, gyda gwerthfawrogiad cymesurol o ansicrwydd a thrafodaeth a therfynau ar ddealltwriaeth.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i adnabod a dehongli creigiau, mwynau a ffosiliau i benderfynu ar eu perthnasoedd daearegol ac i ail-greu hanes unrhyw sampl / brigiad / rhanbarth penodol sy'n cael ei astudio.
  • Deall a chymhwyso'r dulliau a ddefnyddir i gaffael data geo-ofodol a chynrychioli data o'r fath mewn 2D a 3D gan ddefnyddio mapiau a phlatfformau digidol fel GIS.
  • Dadansoddi a phortreadu data rhifiadol mewn gwyddorau daear, gan gynnwys defnyddio meddalwedd briodol.
  • Datrys problemau sy'n cynnwys integreiddio a dadansoddi data gwyddor daear amrywiol ac yn aml yn anghyflawn a defnyddio methodolegau ansoddol a meintiol priodol.
  • Y gallu i ddylunio, gweithredu a chyflawni rhaglen ymchwil maes neu labordy yn ddiogel ac adrodd ar y canfyddiadau yn effeithiol yn ysgrifenedig.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i ddylunio, gweithredu a rheoli prosiect trwy draethawd hir annibynnol.
  • Y gallu i weithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm.
  • Cymhwyso'r dull gwyddonol, sgiliau rhifiadol a gofodol gan gynnwys delweddu i ddeall setiau data 3D (a 4D) a'u rhyngosod mewn gofod (ac amser).
  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth a chysyniadau yn effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig a gweledol i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
  • Dealltwriaeth o fanteision rhwydweithio cyflogaeth a datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Datrys problemau, dibynadwyedd, teyrngarwch, ymddygiad cymdeithasol, pwyll, agwedd at ddysgu ac ymchwil, arweinyddiaeth, gwytnwch, gwneud penderfyniadau a rhesymu.
Students studying maps
Lectures and practical work complement extensive fieldwork opportunities on our Geology degree programme

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae daearegwyr yn chwarae rhan ganolog yn y gymdeithas heddiw. Mae angen daeareg arnom i ddod o hyd i ffynonellau dŵr, ynni a mwynau cynaliadwy, i ganfod a lliniaru peryglon, ac i asesu tir ar gyfer adeiladu ffyrdd neu adeiladau.

Gyda gradd daeareg, gallwch ddewis gweithio mewn amrywiaeth o rolau gwahanol gan gynnwys daearegwr peirianneg, hydrogeolegydd, mwynolegydd neu ymgynghorydd amgylcheddol. Bydd gennych hefyd sgiliau cyflogadwy hanfodol y mae sectorau fel yswiriant, cyllid, addysg a chynllunio yn chwilio amdanynt.

Mae rhai o’n cynfyfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio i gyflogwyr pwysig fel yr Arolwg Daearegol Prydeinig, Asiantaeth yr Amgylchedd, Digirock, Boliden Mining, Network Rail, Balfour Beatty a’r cwmni ymgynghorol peirianneg a mwyngloddio Royal HaskoningDHV.

Lleoliadau

Gall unrhyw fyfyriwr sy'n gallu cael lleoliad addas gyda chwmni neu sefydliad drosglwyddo i'n rhaglen pedair blynedd, a graddio gyda BSc gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol. Ni allwn warantu lleoliad i chi, gan fod y broses recriwtio a dethol yn dibynnu ar y cwmni yr ydych yn gwneud cais ar ei gyfer.  Fodd bynnag, byddwn yn eich cefnogi chi i ddod o hyd i leoliad a gwneud cais, a gall gwasanaeth gyrfaoedd y Brifysgol eich helpu gyda'ch ceisiadau, CV a sgiliau cyfweliad.   Yn ôl ein profiad ni, mae myfyrwyr sy'n cyflawni blwyddyn ar leoliad proffesiynol yn dychwelyd i'w hastudiaethau gyda sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad diwydiant amhrisiadwy.

Gwaith maes

Mae ein teithiau maes Daeareg wedi eu cynllunio’n benodol i hoelio sylw ar themâu allweddol, fel tarddiadau’r gramen gefnforol, datblygiad basnau gwaddodol a’r potensial i gael olew a nwy ohonyn nhw, a datblygiad a dymchweliad cadwyni o fynyddoedd.

Rydym wedi ymweld â mannau clasurol yn Sir Benfro, Arran, de-orllewin Lloegr, Cyprus a Sbaen, lle mae ein myfyrwyr wedi dysgu sut i gofnodi arsylwadau, dadansoddi a dehongli ystod eang o greigiau a strwythurau yn y maes, a chael eu hyfforddi i lunio map daearegol. Yng Nghyprus, mae cynfyfyrwyr wedi astudio darn dyrchafedig o gramen gefnforol a'i gwaddodion cysylltiedig yn ystod teithiau maes.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.