Ewch i’r prif gynnwys

Ffrangeg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae’r cwrs yn anelu i alluogi myfyrwyr i ddatblygu lefel uchel o fedrusrwydd yn eu hiaith neu ieithoedd dewisol, yn ogystal â dealltwriaeth drylwyr o’r diwylliannau sy’n ei siapio.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Two students speaking to each other

Trosolwg y cwrs

Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yw galluogi ein myfyrwyr i fod yn ‘ddinasyddion byd-eang’. Mae ein graddedigion yn ieithyddion medrus iawn sydd â nifer o sgiliau sy’n eu galluogi nhw i weithio mewn llu o yrfaoedd a phroffesiynau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

Mae ein rhaglen BA Ffrangeg (sydd â phwyntiau mynediad ar gyfer dechreuwyr ac ar ôl Safon Uwch) yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau iaith lefel uchel, a deall Ffrainc a diwylliant siaradwyr Ffrangeg yn drylwyr o safbwynt rhyngddiwylliannol. Trwy dreulio blwyddyn dramor yn gweithio, yn astudio neu’n addysgu Ffrangeg, byddwch yn mireinio eich iaith, eich ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol ac yn datblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer eich CV mewn marchnad swyddi sy’n chwilio am raddedigion sy’n gallu siarad iaith dramor.

Mae Ffrangeg yn brif iaith sydd â chyrhaeddiad byd-eang, ac mae ganddi ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Ffrangeg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig. Trwy astudio Ffrangeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn atyniadol mewn gweithlu cynyddol ryngwladol ac agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd yn yr iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Ffrainc – yn dibynnu ar eich meysydd arbenigol.

Nodweddion nodedig

  • Addysgu iaith o safon uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o addysgu ac asesiadau a gynlluniwyd i fwydo dysgu yn y dyfodol
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich gwaith dysgu iaith a throchi mewn diwylliant Ffrengig, gan gynnwys dosbarthiadau sgwrsio dewisol yn ychwanegol gyda myfyrwyr Erasmus, digwyddiadau yn yr Alliance Française a Chymdeithas y Myfyrwyr Ffrangeg
  • Cwricwlwm gyda bwa dysgu clir, yn defnyddio’r ymchwil diweddaraf a chynnig dealltwriaeth drylwyr o'r diwylliant Ffrengig.
  • Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau
  • Y dewis o leoliad gwaith lle gellir ennill credydau
  • Y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai’n astudio neu’n gweithio yn Ffrainc neu mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg,

Amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau yn hyrwyddo dysgu iaith a datblygu eich sgiliau a'ch proffil.

Côd UCASR100
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer mae 185 lle ar gael yn yr Ysgol.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae'r Ysgol fel arfer yn derbyn tua 600 o geisiadau.

Gofynion mynediad

ABB - BBB. Bydd gan ymgeiswyr sydd â B Safon Uwch yn Ffrangeg fynediad i'r llwybr Ieithoedd Uwch. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM - DMM. Y Gwyddorau Cymdeithasol, y Dyniaethau, y Celfyddydau a Phynciau Gwyddonol yn ofynnol.

Bagloriaeth Ryngwladol 32-30 neu 655-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Ieithoedd Modern.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

TGAU Saesneg Iaith Gradd C neu 4 neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfatebol.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£18,200Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae Ffrangeg BA yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau a sgiliau iaith dros flynyddoedd olynol i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob un o flynyddoedd y rhaglen byddwch yn astudio ar gyfer 120 o gredydau. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio yn Ffrainc neu mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Byddwch yn cyfuno Ffrangeg ag iaith fodern arall neu gyfieithu, gan eich galluogi i brofi mwy nag un maes astudio.

Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Ffrangeg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am y Ffrangeg. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch. 

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith sy'n cyflwyno datblygiad Ffrainc fel cenedl i chi, gan archwilio beth yw ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Mae hefyd yn archwilio ymwneud Ffrainc â'r byd, gan eich galluogi i archwilio rôl Ffrainc y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol. Bydd y modiwl yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Blwyddyn dau

Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi chi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Yn ogystal ag iaith, byddwch yn astudio 30 credyd yn edrych ar Ffrainc mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio eich diwylliant targed yn fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth.

Byddwch yn gallu dewis o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol, gan gynnwys Ffrangeg Busnes (sy'n eich paratoi ar gyfer yr arholiad Siambr Fasnach Paris y mae galw mawr amdano), a chyfieithu arbenigol.

Y tu allan i'ch astudiaethau ffurfiol, byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Mentora Myfyrwyr, sydd wedi cael canmoliaeth uchel ac sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae disgyblion mewn ysgolion uwchradd dethol yn cael eu mentora gan ein myfyrwyr israddedig sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig, sy'n mynd i ysgolion i fentora disgyblion mewn grwpiau bach o ddau neu dri dros gyfnod o bum wythnos.

Gallwch hefyd ddewis i gymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon Iaith i Fyfyrwyr, sy'n gweithredu fel eiriolwyr ar gyfer dysgu ieithoedd. Yn dilyn hyfforddiant penodol, fel Llysgennad mae’n bosibl y cewch chi gyfle i siarad yn gyhoeddus mewn digwyddiadau, gan rannu eich profiad personol o ddysgu ieithoedd. Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, fel sesiynau blasu iaith, cyflwyno a hyrwyddo’r flwyddyn dramor, cefnogi diwrnodau a digwyddiadau iaith mewn ysgolion, neu hybu ieithoedd modern mewn ffeiriau gyrfaoedd neu ddiwrnodau agored.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir eich trydedd flwyddyn yn Ffrainc neu mewn gwlad arall lle siaredir Ffrangeg. Bydd y flwyddyn yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o'r diwylliant Ffrengig a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwydnwch.

Mae eich dewisiadau ar gyfer y flwyddyn hon yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy Gynllun y Cyngor Prydeinig, neu weithio i sefydliad neu gwmni Ffrengig. Waeth beth fyddwch chi’n ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Os dewiswch yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd sydd wedi cynnwys Paris, Toulouse, Chambéry, Grenoble, Lyon, Clermont-Ferrand, Montpellier a Nantes. Mae gennym gysylltiadau academaidd â Brwsel a Genefa yn ogystal.  

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y Cyngor Prydeinig fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Ffrangeg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Gall yr ysgol eich helpu hefyd i ddod o hyd i leoliadau gwaith addas. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Ffrangeg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.     

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn ni’n eich croesawu chi yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn derfynol, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 credyd iaith a 90 o gredydau modiwlau dewisol Ffrangeg. Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant Ffrainc.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

22%

Astudio annibynnol dan arweiniad

78%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

33%

Astudio annibynnol dan arweiniad

67%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

0%

Astudio annibynnol dan arweiniad

0%

Lleoliadau ments

100%

Blwyddyn 4

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

17%

Astudio annibynnol dan arweiniad

83%

Lleoliadau ments

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA Ffrangeg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor. 

Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Hefyd, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.   

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Mae adborth ac asesu yn feysydd blaenoriaeth i’r Ysgol Ieithoedd Modern, gydag arweinydd asesu ac adborth penodol yn gyfrifol am sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau. Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol. Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Dulliau asesu (2017/18 data)

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

57%

Arholiadau ymarferol

7%

Gwaith cwrs

37%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

65%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

32%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

0%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

100%

Blwyddyn 4

Arholiadau ysgrifenedig

47%

Arholiadau ymarferol

5%

Gwaith cwrs

48%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  •    Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg a Ffrangeg
  • Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gychwyn ac ymgymryd â dadansoddiadau o wybodaeth.
  • Casgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan gyfiawnhau’r rhain gyda rhesymu cadarn a dehongliadau manwl o ddeunydd ffynhonnell.
  • Technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynllunio ac ysgrifennu traethawd academaidd, gan ddefnyddio’r confensiynau cyfeirio priodol.
  • Gwerthusiad beirniadol o syniadau a dadleuon, drwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau ysgrifenedig a llafar.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • Dangos gwydnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • Gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Y gallu i ddadansoddi testunau cymhleth.
  • Y gallu i ddehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Sgiliau ieithyddol uwch, ynghyd â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant a llenyddiaeth Ffrainc.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.    

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae’r gyrfaoedd eraill sydd ar gael yn cynnwys swyddi fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allgludo a phrawf-ddarllenwyr.   

Swyddi

  • Teaching
  • Interpreting
  • Finance

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Gwanwyn 2020

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais