Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg a Ffrangeg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Yn y cynllun gradd hwn, caiff myfyrwyr y cyfle i astudio iaith Ewropeaidd boblogaidd â'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Trwy gyfuno Cymraeg a Ffrangeg, byddwch yn dysgu cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth y gellir eu defnyddio mewn sawl maes. Bydd y rhain hefyd o les yn y byd gwaith byd-eang ac yn helpu agor y drysau i amrywiaeth o yrfaoedd posibl.

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.

Mae Ffrainc yn ffigwr pwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Mae Ffrangeg yn un o ieithoedd gwaith swyddogol y gymuned Ewropeaidd, ac mae hi’n iaith diwylliant a diplomyddiaeth ar lefel fyd-eang. 

Rydym ni’n cynnig Ffrangeg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu, a chan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau clyweledol. Yn eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Bydd eich dealltwriaeth o’r Ffrangeg yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad Ffrangeg ei hiaith.       

Mae'n bwysig cofio nad yw astudio ieithoedd yn golygu astudio’r iaith a dim arall. Mae'n golygu ymchwilio i sawl agwedd ar wlad. Yng Nghaerdydd, rydym ni’n anelu at gynnig cwrs gwirioneddol eang gan gynnwys modiwlau dewisol mewn ffilm, llenyddiaeth, hanes celf, gwleidyddiaeth a hanes.

Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar.

Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i gefnogi gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych hyfedredd iaith lefel uchel yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol o lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cymreig a Ffrengig.

Nodweddion nodedig

Mae’r BA mewn Cymraeg a Ffrangeg yn cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru a meincnodau’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA).

CYMRAEG

Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:

  • y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
  • modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
  • ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
  • y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
  • y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
  • y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
  • y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn

FFRANGEG

  • modiwlau craidd sy’n gwarantu sylfaen gadarn i bawb, ond wedyn yn caniatáu, gyda chyngor gan eich tiwtor personol, ichi fireinio rhaglen a fydd fwyaf addas ar gyfer eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfaol
  • addysgu dan arweiniad ymchwil sy’n eich galluogi i ymgysylltu â syniadau newydd sy’n helpu i lunio dyfodol astudiaethau Ffrangeg
  • llwybr at y radd hon i ddechreuwyr nad oes ganddyn Ffrangeg Safon Uwch
  • y cyfle i dreulio blwyddyn yn astudio neu’n gweithio mewn gwlad Ffrangeg ei hiaith
  • gall myfyrwyr Ffrangeg Busnes sefyll yr arholiad Siambr Fasnach Paris a gydnabyddir yn rhyngwladol
Côd UCASQR51
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer mae 30 lle ar gael yn Ysgol y Gymraeg.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae Ysgol y Gymraeg yn derbyn tua 100 o geisiadau.
  1. Yr Ysgol Ieithoedd Modern

    66a Plas y Parc

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3AS

  2. School of Welsh

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  3. Labordy Llunio Digidol

    Adeilad Bute

    Rhodfa'r Brenin Edward VII

    Caerdydd

    CF10 3NB

  4. Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol

    Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol

    Rhodfa Colum

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3EU

Gofynion mynediad

Mae’r gofynion mynediad a ddangosir ar gyfer darpar fyfyrwyr fydd yn dechrau yn 2019. Bydd y gofynion mynediad ar gyfer 2020 ar gael ym mis Awst 2019.

ABB - BBB gan gynnwys gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf. Sylwer, nid ydym yn derbyn Cymraeg Ail Iaith nac Astudiaethau Cyffredinol

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DM  - Derbynnir pynciau ynghylch y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ogystal â gradd B yn Gymraeg Iaith Gyntaf ar Safon Uwch.

Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch yn ogystal â chymhwyster Iaith Gymraeg.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gymraeg.

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith arnoch ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Gradd pedair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae’r rhan fwyaf o'r modiwlau yn ysgol y Gymraeg yn werth 20 credyd. Treulir y drydedd flwyddyn dramor.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio ar gyfer cyfanswm o 120 credyd.

Yn y Gymraeg, mae dau lwybr yn y flwyddyn gyntaf, un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf, ac un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith. Bydd myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf yn astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Ffrangeg, tra bydd myfyrwyr ail iaith yn astudio 80 credyd yn y Gymraeg a 40 credyd Ffrangeg.

CYMRAEG

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un y Gymraeg ar ddatblygu sgiliau allweddol (rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith er mwyn datblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

FFRANGEG

Ym mlwyddyn un Ffrangeg byddwch yn adeiladu ar sgiliau ieithyddol craidd ac yn cael eich cyflwyno i ddiwylliant, llenyddiaeth, gwareiddiad a gwleidyddiaeth Ffrainc. Mae dau lwybr Ffrangeg ar gael: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Ffrangeg, a llwybr i ddechreuwyr i fyfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl o’r Ffrangeg.

Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
National and Global Perspectives on FranceML618720 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Advanced French Language Year 1ML618840 credydau
Beginners French Language Year 1ML618940 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Ffrangeg.

CYMRAEG

Ym mlwyddyn dau y Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.

Yn ogystal â’r elfennau craidd hyn, mae’r cwrs Cymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn pedwar yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, megis cynllunio ieithyddol, sgriptio a chyfieithu.

FFRANGEG

Mae elfennau iaith blwyddyn dau Ffrangeg yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer y flwyddyn dramor.  Mae hyn yn cael ei ategu gan fodiwlau dewisol, sy’n rhoi cipolwg gwirioneddol ar fywyd, gwleidyddiaeth a diwylliant Ffrainc a bywyd, gwleidyddiaeth a diwylliant Ffrengig, ymhlith pethau eraill. Gallwch ddewis amrywiaeth o ddewisiadau modiwl, megis Ffrangeg Busnes (sy'n eich paratoi ar gyfer arholiad Siambr Fasnach Paris, sy’n uchel iawn ei fri), Ffrainc ac Affrica, Ffrainc a’r Ail Ryfel Byd neu addasiadau amlgyfrwng o ffuglen Ffrainc, ymhlith eraill.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Cultures in Context (French)ML628230 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ex-Beginners Language Year 2 FrenchML628030 credydau
Ex-Advanced Language Year 2 FrenchML628130 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Llenyddiaeth PlantCY231020 credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY233020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY236020 credydau
Bywydau LlênCY242520 credydau
TafodieithegCY245020 credydau
SosioieithyddiaethCY253020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY266520 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir blwyddyn tri yn Ffrainc, neu o bosibl mewn gwlad arall lle siaredir Ffrangeg. Mae eich dewisiadau yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gan weithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy Gynllun y Cyngor Prydeinig, neu weithio i sefydliad neu gwmni Ffrengig. Beth bynnag eich dewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Os byddwch yn dewis astudio, rydym ni wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd, gan gynnwys Paris, Toulouse, Chambéry, Montpellier a Nantes ymysg eraill, ac mae gennym gysylltiadau academaidd gyda Brwsel hefyd.

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y Cyngor Prydeinig fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er na fyddwch ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad gyrchfan. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo iddi gynnig arweiniad ichi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Ffrangeg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle ichi siarad Ffrangeg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddiant/gwaith yn Ewrop yn gymwys i wneud cais am grant Erasmus.

Mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Tra byddwch i ffwrdd o Gaerdydd, bydd cydlynydd blwyddyn dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei gael ar bethau.

Mae myfyrwyr y flwyddyn derfynol fel arfer yn barod iawn i helpu gyda’n sesiynau briffio blwyddyn dramor sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd, ac maent wedi cyfrannu at ein ‘modiwl blwyddyn dramor’ helaeth ar Dysgu Canolog sy’n rhoi cyngor wedi ei dargedu at fyfyrwyr drwy gydol eich blwyddyn dramor.

Mae astudio neu weithio dramor yn ffordd wych i baratoi ar gyfer eich blwyddyn olaf ac yn rhoi lefel o hunan-hyder ac aeddfedrwydd i chi sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Intercalary Semester Abroad: Semester Work Placement Abroad (French, Spring)ML609160 credydau
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad (French, Spring)ML609360 credydau
Intercalary Year Abroad for Law and French StudentsML609560 credydau
Intercalary Semester Abroad: Semester Work Placement Abroad (French)ML609760 credydau
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad (French)ML609960 credydau

Blwyddyn pedwar

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Ffrangeg.

CYMRAEG

Ym mlwyddyn pedwar y Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau (20 credyd) neu 9,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.

FFRANGEG

Nid yw Ffrangeg yn gwahaniaethu mwyach rhwng dechreuwyr a myfyrwyr uwch yn y flwyddyn olaf, a bydd pob myfyriwr Ffrangeg yn astudio’r un modiwlau iaith. Byddwch yn mireinio eich sgiliau ieithyddol o ran mynegiant a chyfieithu, ac yn arbenigo yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi drwy ddewis modiwlau arbenigol.

Mae ein modiwl traethawd hir yn y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ysgrifennu traethawd hir ac ymgysylltu’n ddyfnach â maes y testun a ddewisir, yn ogystal ag ymestyn eich sgiliau ymchwil a dadansoddi.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
High-Level Proficiency in French LanguageML636630 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Llenyddiaeth PlantCY331020 credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY333020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY336020 credydau
Bywydau LlênCY342520 credydau
TafodieithegCY345020 credydau
SosioieithyddiaethCY353020 credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY366520 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 credydau
Culture, Political Protest & Dissent in the 1960sML136030 credydau
European Cinema: Thinking the Real of FictionML136230 credydau
Student Teaching ModuleML136330 credydau
Final Year Dissertation - French (in English/Welsh)ML626230 credydau
France & The Second World War: History & MemoryML636030 credydau
Final Year Dissertation - French (in French)ML636130 credydau
Conflict, Consensus & The French Labour MovementML636430 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae’r radd wedi’i seilio ar ystod o fodiwlau craidd (gorfodol) a dewisol. Cefnogir pob modiwl gan ddeunyddiau addysgu electronig a rennir trwy wefan Dysgu Canolog, rhan o amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol.

Rydym ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn arbennig yn achos y llwybr ail-iaith).

Mae dosbarthiadau Ieithoedd Modern yn cael eu dysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Caiff y sgiliau cyfathrebu hanfodol hyn eu hymarfer a’u datblygu drwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig. Mae ein dulliau dysgu yn eich caniatáu i weithio gydag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Deunyddiau sy’n cynnwys llyfrau testun, fideos, ffilmiau, nofelau ffeiliau sain a gwefannau a gefnogir gan adnoddau ar-lein sy’n cydfynd gyda gweithgareddau dosbarth ac yn hyrwyddo ac yn galluogi dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn cynnwys amrywiaeth o’r llenyddol a’r hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfredol, yn darparu mewnwelediad eang i iaith a diwylliant. 

Addysgir pob modiwl yn Ysgol y Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth cyson i chi ynglŷn â’ch gwaith. Cyflwynir ef mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol am waith ysgrifenedig ac adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau. Bydd modd i chi drafod eich perfformiad cyffredinol gyda’ch tiwtor personol hefyd. 

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • mireinio sgiliau ieithyddol a gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes Cymru
  • mireinio sgiliau ieithyddol a gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes Ffrainc a gwledydd lle siaredir Ffrangeg
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
     

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

YSGOL Y GYMRAEG

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig.

Yn 2016/17, dywedodd 91% o raddedigion Ysgol y Gymraeg oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

YSGOL IEITHOEDD MODERN
Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.

O’r rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau MA yr Ysgol mewn Astudiaethau Ewropeaidd neu mewn Cyfieithu neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl graddio, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol mewn diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Treulir blwyddyn tri yn gweithio neu’n astudio mewn gwlad sy'n siarad Ffrangeg.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 56% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Gwener 5 Gorffennaf

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais