Hanes a Ffrangeg (BA)
Mae'r radd Hanes a Ffrangeg BA (cydanrhydedd) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfuno un o ieithoedd mawr y byd ag astudio hanes cymdeithasol a gwleidyddol.

Trosolwg y cwrs
Nod yr Ysgol Ieithoedd Modern a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yw datblygu ac addysgu eu myfyrwyr i fod yn 'ddinasyddion byd-eang'. Drwy astudio Ffrangeg a Hanes, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth fuddiol i fyd gwaith ac astudiaethau pellach, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn atyniadol i weithlu cynyddol fyd-eang ac agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.
Mae ein rhaglenni Hanes yn rhoi cipolwg i chi ar brosesau newid o’r byd hynafol i’r cyfnod modern. Cewch astudio hanes cymdeithasau mewn rhannau amrywiol o'r byd, gan gynnwys India, Tsieina, Ffrainc, yr Almaen, Rwsia, Prydain a Chymru.
Byddwch yn dysgu i feddwl yn annibynnol, asesu cryfderau a gwendidau corff o dystiolaeth hanesyddol dros eich hun, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau yn glir. Bydd ein staff academaidd cyfeillgar wrth law i’ch arwain ac i ddarparu adborth llawn ac adeiladol drwy gydol eich astudiaethau.
Mae Ffrainc yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Ffrangeg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig.
Yn ogystal â datblygu sgiliau iaith Ffrangeg lefel uchel, cewch gyfle i ddatblygu dealltwriaeth ryngddiwylliannol drylwyr sy'n cwmpasu gwybodaeth benodol am ddiwylliant Ffrainc. Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu lefel uchel a sgiliau meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
Rydyn ni’n cynnig Ffrangeg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant Ffrainc yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.
Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad Ffrangeg ei hiaith.
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, fydd yn ysgogi menter a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig.
Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol.
Fel myfyriwr cyd-anrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau ategol sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar. Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Ffrainc.
Nodweddion nodedig
- Addysgu dan arweiniad ymchwil sy’n eich galluogi i ymgysylltu â syniadau newydd sy’n helpu i lunio dyfodol astudiaethau Hanes a Ffrangeg.
- Addysgu iaith o ansawdd uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol.
- Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich gwaith dysgu iaith a throchi yn y diwylliant Ffrengig, gan gynnwys dosbarthiadau sgwrsio dewisol gyda myfyrwyr Erasmus, digwyddiadau yn yr Alliance Française a Chymdeithas y Myfyrwyr Ffrangeg a’r Gymdeithas Hanes.
- Cwricwlwm gyda bwa dysgu clir, yn defnyddio’r ymchwil diweddaraf a chynnig dealltwriaeth drylwyr o'r diwylliant Ffrengig
- Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau
- Y dewis o leoliad gwaith lle gellir ennill credydau
- Y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai’n astudio neu’n gweithio yn Ffrainc neu mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg.
- Amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau yn hyrwyddo dysgu iaith a datblygu eich sgiliau a'ch proffil.
Côd UCAS | VR11 |
---|---|
Derbyniad nesaf | Medi 2020 |
Hyd | 4 blwyddyn |
Modd (astudio) | Amser llawn |
Lleoedd sydd ar gael fel arfer | Fel arfer mae 320 lle ar gael yn yr Ysgol. |
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arfer | Mae'r Ysgol fel arfer yn derbyn tua 1800 o geisiadau. |
-
Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Adeilad John Percival
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU
-
66a Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS
Cysylltu
Gofynion mynediad
ABB-BBB. Mae Hanes Safon Uwch yn ddymunol.
Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd
Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Graddau DDM-DMM mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol. Unrhyw bwnc BTEC arall os caiff ei gyfuno â Safon Uwch ond ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.
Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.
Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
TGAU Saesneg Iaith Gradd C neu 4 neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfatebol.
Ffioedd dysgu
Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£9,000 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)
Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|
£17,700 | Dim |
Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Strwythur y cwrs
Mae BA Hanes a Ffrangeg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau iaith a hanes ar lefel uchel i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.
Ym mhob blwyddyn o’r rhaglen byddwch yn astudio 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 credyd mewn Hanes a 60 credyd mewn Ffrangeg. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yn Ffrainc neu mewn gwlad arall lle siaredir Ffrangeg.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020
Blwyddyn un
Mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac yn rhoi trosolwg i chi o ddau bwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach. Byddwch yn cymryd 120 o gredydau gyda’i gilydd, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 credyd mewn Hanes a 60 credyd mewn Ffrangeg.
Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr iaith i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Ffrangeg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am y Ffrangeg. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch.
Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith sy'n cyflwyno datblygiad Ffrainc fel cenedl i chi, gan archwilio beth yw ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Bydd y modiwl yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.
Mae’r holl fyfyrwyr Hanes blwyddyn gyntaf yn astudio’r un model craidd sy’n cyflwyno fframweithiau gwahanol i chi sy’n sail i ymchwil hanesyddol a’r nifer o ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra’n darparu hyfforddiant yn y sgiliau angenrheidiol i arfer hanes ar lefel israddedig.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
History in Practice Part 1: Questions, Frameworks and Audiences. | HS1119 | 20 credydau |
National and Global Perspectives on France | ML6187 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
A World Full of Gods | HS0001 | 20 credydau |
Projecting the Past: Film, Media and Heritage | HS0002 | 20 credydau |
The Making of The Modern World, 1750-1970 | HS1105 | 20 credydau |
Making Global Histories: Asia and the West | HS1108 | 20 credydau |
Inventing a Nation: Politics, Culture and Heritage | HS1109 | 20 credydau |
Medieval Worlds, AD 500 -1500 | HS1112 | 20 credydau |
Renaissance, Reformation and Revolution | HS1117 | 20 credydau |
Reading Latin1 | HS3121 | 20 credydau |
Reading Latin 2 | HS3122 | 20 credydau |
Reading Greek 1 | HS3123 | 20 credydau |
Reading Greek 2 | HS3124 | 20 credydau |
Advanced French Language Year 1 | ML6188 | 40 credydau |
Beginners French Language Year 1 | ML6189 | 40 credydau |
Blwyddyn dau
Ym mlwyddyn dau fe fyddwch chi’n astudio am 60 credyd mewn modiwlau Hanes dewisol a 60 credyd mewn Ffrangeg.
Bydd yr elfennau iaith yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi chi ar gyfer eich blwyddyn dramor. Yn ogystal, byddwch yn astudio 30 credyd yn edrych ar Ffrainc mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio’n fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cultures in Context (French) | ML6282 | 30 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ex-Beginners Language Year 2 French | ML6280 | 30 credydau |
Ex-Advanced Language Year 2 French | ML6281 | 30 credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Treulir blwyddyn tri yn Ffrainc neu mewn gwlad arall Ffrangeg ei hiaith. Bydd y flwyddyn dramor yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Ffrengig a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwydnwch.
Bydd eich dewisiadau’n cynnwys:
- astudio yn un o'n prifysgolion partner;
- gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy gynllun y Cyngor Prydeinig, neu
- weithio i sefydliad neu gwmni Ffrengig.
Os dewiswch yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd sydd wedi cynnwys Paris, Toulouse, Chambéry, Grenoble, Lyon, Clermont-Ferrand, Montpellier a Nantes. Mae gennym gysylltiadau academaidd â Brwsel a Genefa yn ogystal.
Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y Cyngor Prydeinig fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.
Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Ffrangeg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Gall yr ysgol eich helpu hefyd i ddod o hyd i leoliadau gwaith addas. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Ffrangeg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.
Waeth beth fyddwch chi’n ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol. Y mae hefyd yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.
Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Sandwich Year Project (Autumn Semester) | ML1240 | 60 credydau |
Sandwich Year Project (Spring Semester) | ML1241 | 60 credydau |
Intercalary Semester Abroad: Semester Work Placement Abroad (French, Spring) | ML6091 | 60 credydau |
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad (French, Spring) | ML6093 | 60 credydau |
Intercalary Semester Abroad: Semester Work Placement Abroad (French) | ML6097 | 60 credydau |
Intercalary Semester Abroad: Study Abroad (French) | ML6099 | 60 credydau |
Blwyddyn pedwar
Pan fyddwn ni’n eich croesawu chi yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn derfynol, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 credyd iaith a 30 o gredydau mewn modiwlau Ffrangeg dewisol, yn ychwanegol at 60 credyd o fodiwlau Hanes. Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.
Mae modiwlau traethawd hir y flwyddyn olaf yn rhoi’r dewis i chi ysgrifennu traethawd hir ac ymgysylltu’n ddyfnach â maes testun a ddewisir, yn ogystal â chynyddu eich sgiliau ymchwil a dadansoddi.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
High-Level Proficiency in French Language | ML6366 | 30 credydau |
Dysgu ac asesu
Sut caf fy addysgu?
Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.
Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.
Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach, gweithdai dogfennau a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.
Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.
Blwyddyn 1
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
19%
Astudio annibynnol dan arweiniad
81%
Lleoliadau ments
0%
Blwyddyn 2
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
27%
Astudio annibynnol dan arweiniad
73%
Lleoliadau ments
0%
Blwyddyn 3
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
0%
Astudio annibynnol dan arweiniad
0%
Lleoliadau ments
100%
Blwyddyn 4
Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu
22%
Astudio annibynnol dan arweiniad
78%
Lleoliadau ments
0%
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae ein rhaglen BA mewn Hanes a Ffrangeg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.
Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.
Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.
Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.
Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.
Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.
Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.
Mae gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sydd yn eich cefnogi chi gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Rhoddir adborth ar eich gwaith yn aml ac mewn amrywiaeth eang o fformatau, a’i fwriad yw eich helpu chi i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysg, yn ogystal â rhoi arwyddion o sut gallech wella eich perfformiad mewn arholiadau a gwaith cwrs.
Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl y cyfnod arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.
Sut caf fy asesu?
Yn y ddwy Ysgol, mae'r asesu’n canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol.
Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau, cyflwyniadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).
Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.
Dulliau asesu (2017/18 data)
Blwyddyn 1
Arholiadau ysgrifenedig
45%
Arholiadau ymarferol
3%
Gwaith cwrs
52%
Blwyddyn 2
Arholiadau ysgrifenedig
55%
Arholiadau ymarferol
3%
Gwaith cwrs
42%
Blwyddyn 3
Arholiadau ysgrifenedig
40%
Arholiadau ymarferol
0%
Gwaith cwrs
60%
Blwyddyn 4
Arholiadau ysgrifenedig
60%
Arholiadau ymarferol
5%
Gwaith cwrs
35%
Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
- Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
- Y gallu i esbonio a chymhwyso cysyniadau fel cyfnodoli, hanes cenedlaethol a dulliau cymharol.
- Y gallu i ddod i gasgliadau am arferion hanesyddol drwy ddefnyddio astudiaethau achos sy'n ymwneud â meysydd penodol o ddadl hanesyddol.
- Y gallu i wneud cysylltiadau rhwng amrywiaeth o ddeunyddiau ffynhonnell wreiddiol gwahanol, a chysyniadau hanesyddiaeth damcaniaethol a drafodwyd.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- meddu ar sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes Ffrainc a gwledydd lle siaredir Ffrangeg
- Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg a Ffrangeg.
- Y gallu i nodi a dehongli amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol.
- Y gallu i lunio dadansoddiadau a dadleuon yn glir ac yn gryno, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn effeithiol, ac yna eu cyflwyno.
- Y gallu i nodi cryfderau, gwendidau a phroblemau, neu nodi dehongliadau hanesyddol/hanesiaeth amgen o themâu allweddol.
- Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau i gychwyn ac ymgymryd â dadansoddiadau o wybodaeth.
- Y gallu i feddwl yn feirniadol a herio rhagdybiaethau.
- Y gallu i lunio a chyfiawnhau dadleuon a chasgliadau a chyflwyno tystiolaeth ategol briodol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
- Dangos gwydnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
- Y gallu i nodi cryfderau, gwendidau, problemau a/neu nodweddion dehongliadau hanesyddol/hanesiaeth amgen.
- Y gallu i wahaniaethu rhwng hanes poblogaidd a hanes proffesiynol.
- Y gallu i egluro prosesau hanesyddol.
- Sgiliau dadansoddi hanes.
- Gwybodaeth am themâu eang a datblygiadau a ystyriwyd yn ystod y cwrs drwy astudiaeth achos o ddigwyddiad.
- Sgiliau rheoli amser a'r gallu i drefnu dulliau astudio a llwyth gwaith yn annibynnol.
- Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
- Sgiliau wrth weithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- deall pynciau cymhleth yn hyderus.
- Y gallu i ddadansoddi testunau cymhleth.
- Y gallu i ddehongli a defnyddio data perthnasol.
- Sgiliau ymchwil ymarferol.
- Atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
- Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
- Sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
- Creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
- Sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
- Y gallu i nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Ysgol Ieithoedd Modern
Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.
Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl graddio, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa ragorol mewn diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.
Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i adnabod eu sgiliau a'u priodoleddau. Mae graddedigion Hanes yn dod o hyd i waith mewn amrywiaeth eang o gyflogaeth broffesiynol gysylltiedig a heb fod yn gysylltiedig. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, a rhai wedi dod yn haneswyr rhyngwladol honedig.
Lleoliadau
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.
Mae'r ddwy ysgol yn cynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith am gredydau.
Astudio yn Gymraeg
Mae hyd at 28% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.
Diwrnod agored nesaf i israddedigion