Ewch i’r prif gynnwys

Ffrangeg ac Economeg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Bydd ein gradd Ffrangeg ac Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn eich darparu gyda dealltwriaeth o ddadansoddi economaidd. Mae hefyd yn eich ysgogi chi i ddeall problemau economaidd ac amrywiaeth o faterion cymdeithasol a gwleidyddol.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Two students speaking to each other

Trosolwg y cwrs

Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol Busnes Caerdydd yw addysgu ein myfyrwyr i fod yn 'ddinasyddion byd-eang'. Drwy astudio Ffrangeg ac Economeg, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn atyniadol i weithlu cynyddol fyd-eang ac agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.     

Mae’r radd pedair blynedd mewn Ffrangeg ac Economeg yn cyfuno prif elfennau (modiwlau ac addysgu) Economeg ag astudio’r iaith Ffrangeg a’i diwylliant. Bydd y rhaglen yn rhoi sylfaen cadarn i chi o ran theori, cysyniadau, egwyddorion a thechnegau ym meysydd creiddiol y pwnc: macro-economeg, micro-economeg a dadansoddi meintiol. Amcan hyn yw rhoi gwybod i chi sut mae economi'r Deyrnas Unedig yn gweithio, a'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau. Mae hefyd yn ceisio darparu lefel uchel o gymhwysedd mewn Ffrangeg a gwybodaeth am economi Ffrainc.

Byddwn yn cyflwyno ehangder a dyfnder dadansoddiad economaidd i chi ac yn cynnig cyfle i chi gaffael gwybodaeth a thechnegau ar draws nifer o feysydd arbenigol. Mae astudio economeg yn darparu hyfforddiant trylwyr a all fod yn sylfaen ddefnyddiol ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.

Drwy astudio Ffrangeg ac Economeg, mae'r rhaglen yn annog amrywiaeth o sgiliau penodol i’r maes a chraidd trosglwyddadwy a fydd o werth i chi mewn addysg yn y dyfodol ac yn eich gyrfa ddilynol. 

Wrth i’r Undeb Ewropeaidd ddatblygu, mae sgiliau iaith yn dod yn fwyfwy atyniadol i gyflogwyr. Bydd astudio Economeg gyda Ffrangeg yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer gyrfa mewn Economeg, gan ddarparu gwybodaeth gadarn i chi am ddamcaniaethau, cysyniadau, egwyddorion a thechnegau’r ddisgyblaeth.  Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi mantais ychwanegol i chi drwy gaffael iaith.

Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i hategu gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.

Mae'r flwyddyn gyntaf yn darparu’r Economeg hanfodol a modiwlau cysylltiedig sy'n sail i radd mewn Economeg ynghyd â modiwlau yn yr iaith Ffrangeg a’i diwylliant.

Mae’r ail flwyddyn yn datblygu’r sylfaen hon, gan roi pwysoliad cyfartal i bynciau Economeg ac iaith. Byddwch yn parhau i ganolbwyntio ar fodiwlau craidd mewn Economeg, tra bydd yr elfen iaith yn canolbwyntio ar eich sgiliau cyfathrebu yn yr iaith darged. Yn eich ail flwyddyn yn astudio Economeg byddwch yn astudio modiwlau gorfodol mewn micro-economeg a macro-economeg. Byddwch yn dewis eich 20 credyd sy'n weddill o blith rhestr o'r modiwlau dewisol.

Treulir eich trydedd flwyddyn yn Ffrainc yn astudio modiwlau sy’n gyfwerth â 120 o gredydau mewn amrywiaeth o bynciau cyfrifyddu, busnes ac economeg yn Ffrangeg.

Mae Ffrainc yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Ffrangeg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig. 

Yn y bedwaredd flwyddyn byddwch yn astudio ar gyfer 60 credyd o fodiwlau dewisol sy'n gysylltiedig ag Economeg, ynghyd â 30 o gredydau yn yr iaith Ffrangeg a 30 credyd o fodiwlau dewisol Ffrangeg.

Yn gyffredinol, mae'r radd mewn Ffrangeg ac Economeg eich paratoi chi ar gyfer gyrfa mewn Economeg neu fusnes rhyngwladol gyda'r gallu i weithio yn Ffrangeg yn ogystal ag yn Saesneg.

 

Nodweddion nodedig

  • Addysgu iaith o safon uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o addysgu ac asesiadau a gynlluniwyd i fwydo dysgu yn y dyfodol.
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i ategu eich gwaith dysgu iaith a throchi mewn diwylliant Ffrengig.
  • Cwricwlwm gyda bwa dysgu clir, yn defnyddio’r ymchwil diweddaraf a chynnig dealltwriaeth drylwyr o'r diwylliant Ffrengig.
  • Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau.
  • Y dewis o leoliad gwaith lle gellir ennill credydau.
  • Treulio eich trydedd flwyddyn naill ai’n astudio neu’n gweithio yn Ffrainc neu mewn gwlad arall lle siaredir Ffrangeg.
  • Cyfle i arbenigo mewn dadansoddi economaidd drwy gydol tair blynedd yr astudiaeth, a thrwy hynny ddatblygu gwybodaeth a sgiliau sylweddol yn y ddisgyblaeth.
  • Yr her deallusol sy'n deillio o amlygiad i ddatblygiadau diweddar mewn damcaniaeth economaidd.
  • Datblygu sgiliau ymchwil meintiol ac empirig sylweddol.
  • Y posibilrwydd o symud i yrfaoedd yng ngwasanaeth economaidd y Llywodraeth ac ymgyngoriaethau economaidd mawr.
Côd UCASRL11
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferThe School typically has 185 places available
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferThe School typically receives 600 applications
  1. Ysgol Busnes Caerdydd

    Adeilad Aberconwy

    Rhodfa Colum

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3EU

  2. Yr Ysgol Ieithoedd Modern

    66a Plas y Parc

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3AS

Cysylltu

Gofyn cwestiwn

Gofynion mynediad

ABB-BBB. Applicants holding a B in French will have access to the Languages advanced pathways. Please note that General Studies and Critical Thinking will not be accepted.  

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM - DMM in Social Science, Humanities, Arts and Science subjects.

IB 32-30 or 665-655 from 3 HL subjects

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Ieithoedd Modern.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

GCSE Maths Grade B or 6, GCSE English Language Grade C or 4, IGCSE English First Language grade C, IGCSE English as a Second Language grade C

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r gwerslyfrau craidd a argymhellir, y geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae BA Ffrangeg ac Economeg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael lefel uchel o gymwyseddau iaith ac economaidd dros flynyddoedd olynol, ynghyd â sgiliau i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob blwyddyn o’r rhaglen byddwch yn astudio 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 credyd mewn Economeg a 60 credyd mewn Ffrangeg. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yn Ffrainc neu mewn gwlad arall lle siaredir Ffrangeg.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn un byddwch yn astudio am 60 credyd mewn modiwlau economeg craidd ac un modiwl gorfodol o 40 credyd yn yr iaith Ffrangeg a modiwl trawsfudol 20 credyd, gan ddarparu sail gadarn i chi ar gyfer tair blynedd nesaf eich rhaglen radd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Applied Stats and Maths in Econ and BusinessBS150120 credydau
MicroeconomicsBS155120 credydau
MacroeconomicsBS165220 credydau
National and Global Perspectives on FranceML618720 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Advanced French Language Year 1ML618840 credydau
Beginners French Language Year 1ML618940 credydau

Blwyddyn dau

Mae'n ofynnol i chi astudio modiwlau sy’n cyrraedd cyfanswm o 120 o gredydau yn yr ail flwyddyn. Mae'r ail flwyddyn yn datblygu ar sylfaen blwyddyn un, gan roi pwysoliad cyfradd o 60 credyd rhwng pynciau iaith a busnes. Byddwch yn parhau i ganolbwyntio ar fodiwlau Economeg gorfodol mewn micro-economeg a macro-economeg, tra bydd yr elfen iaith yn canolbwyntio ar eich sgiliau cyfathrebu yn yr iaith Ffrangeg, gan ddarparu’r paratoad delfrydol ar gyfer y drydedd flwyddyn, a gaiff ei threulio dramor.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Macroeconomic TheoryBS254920 credydau
Microeconomic TheoryBS255020 credydau
Cultures in Context (French)ML628230 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Ex-Beginners Language Year 2 FrenchML628030 credydau
Ex-Advanced Language Year 2 FrenchML628130 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
British EconomyBS254720 credydau
Money Banking and FinanceBS255120 credydau
Economics of the EUBS255820 credydau
Managerial EconomicsBS256020 credydau
Introductory EconometricsBS257020 credydau
State, Business and the British Economy in the Twentieth CenturyBS257220 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir blwyddyn tri yn Ffrainc neu mewn gwlad arall Ffrangeg ei hiaith. Bydd y flwyddyn yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o'r diwylliant Ffrengig a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwydnwch.

Mae eich dewisiadau yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy Gynllun y Cyngor Prydeinig, neu weithio i sefydliad neu gwmni Ffrengig. Waeth beth fyddwch chi’n ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol.

Os dewiswch yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd sydd wedi cynnwys Paris, Toulouse, Chambéry, Grenoble, Lyon, Clermont-Ferrand, Montpellier a Nantes. Mae gennym gysylltiadau academaidd â Brwsel a Genefa yn ogystal.

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y Cyngor Prydeinig fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Ffrangeg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Gall yr ysgol eich helpu hefyd i ddod o hyd i leoliadau gwaith addas. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Ffrangeg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.

Mae astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu chi yn ôl i Gaerdydd yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio ar gyfer 60 credyd o fodiwlau Economeg dewisol. Cymerir modiwl 30 credyd gorfodol yn iaith Ffrangeg hefyd, ynghyd â modiwl 30 credyd dewisol mewn Ffrangeg.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Tra bo ein staff, a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth o fewn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil diweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn a chyfoes. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.

Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a seminarau yn bennaf, er y bydd eich modiwlau Ffrangeg hefyd yn cynnig cyfle i ymuno â gweithdai a dosbarthiadau iaith. Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial). 

Mewn tiwtorialau a seminarau byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau penodol, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy astudiaeth achos benodol i'r grŵp.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA Ffrangeg ac Economeg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall eich tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.

Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.   

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Mae adborth ac asesu yn feysydd blaenoriaeth yn y rhaglen hon, gydag arweinydd asesu ac adborth penodol yn gyfrifol am sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau. Yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol Busnes Caerdydd, mae'r asesu’n canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol. Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau ym mlwyddyn 1, cewch gymorth i ddeall sut mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
  • Dealltwriaeth gadarn o sylfeini a datblygiadau damcaniaeth economaidd.
  • Bod yn gyfarwydd â phrif fathau a ffynonellau data economaidd a sut cânt eu defnyddio mewn dadansoddiad economaidd.
  • Dealltwriaeth o'r dadleuon polisi economaidd cyfredol allweddol a phroblemau economaidd cyfoes.
  • Gwerthfawrogiad o’r cyfraniad y gall dadansoddiad economaidd ei wneud at ddeall amrywiaeth o broblemau economaidd penodol.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • meddu ar sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes Ffrainc a gwledydd lle siaredir Ffrangeg
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg a Ffrangeg.
  • Y gallu i egluro, trin, cymhwyso a gwerthuso modelau economaidd penodol yn feirniadol
  • Y gallu i weithio gyda data economaidd a ddefnyddir mewn dadansoddiad economaidd.
  • Sgiliau deall a defnyddio canfyddiadau empirig o lenyddiaeth economaidd.
  • Sgiliau cynnal ymchwil sylfaenol i broblemau economaidd.
  • Gallu cymhwyso syniadau damcaniaethol i ddadansoddi problemau economaidd byd-eang, yn rhai cyfoes a/neu hanesyddol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwydnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.
  • Y gallu i fodelu sefyllfaoedd gwneud penderfyniadau economaidd cymhleth er mwyn llunio fframweithiau dadansoddi sy’n hwyluso dealltwriaeth a datrys problemau’n effeithiol.
  • Gallu cymhwyso rhesymeg ddiddwytho a dadansoddi rhesymegol er mwyn modelu materion economaidd.
  • Sgiliau defnyddio mathemateg sylfaenol i daflu goleuni ar syniadau economaidd.
  • Cymhwysedd mewn integreiddio data, gwybodaeth ffeithiol, dadansoddiad meintiol a gwaith empiraidd, mewn modd priodol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Y gallu i ddadansoddi testunau cymhleth.
  • Y gallu i ddehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Cyfrifoldeb dros eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
  • Dilyniant o lunio problem i ganfod ateb. 
  • Dadl strwythuredig er mwyn dod i gasgliad ar sail set o dybiaethau.
  • Cysyniadau macro-economeg a gallu ymgymryd â dadansoddiad macro-economaidd sylfaenol o effeithiau ehangu ariannol, er enghraifft.
  • Meistrolaeth ar dechnegau diagramatig ac algebraidd.
  • Y gallu i gynnal dadansoddiadau diagramatig a mathemategol o faterion macro-economaidd.
  • Sgiliau dadansoddi, cyfathrebu a dysgu drwy waith dosbarth ac ymarferion ar y we.
  • Defnyddio sgiliau rhifedd, datrys problemau a TG.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol Ieithoedd Modern

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.

Ysgol Busnes Caerdydd

Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae Economeg yn ddisgyblaeth sy’n ysgogi deallusrwydd ac mae cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn aml yn galw am sgiliau graddedigion Economeg. Mae rhai graddedigion Economeg yn treulio cyfnod ychwanegol o hyfforddiant ar ôl cwblhau eu gradd, fel cwrs ôl-raddedig, efallai, neu gwrs hyfforddi pellach a fydd yn eu galluogi i drosi i broffesiwn arall fel cyfrifyddiaeth neu fyd y gyfraith. Pa bynnag yrfa rydych chi’n ei dilyn, bydd y sgiliau a ddatblygir yn ystod eich gradd Economeg (gallu datrys problemau, technegau meintiol, sgiliau dadansoddol ac ati) yn ddi-os yn cael eu croesawu gan gyflogwyr.

Yn ychwanegol at Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, rydym wedi buddsoddi yn ein Canolfan Yrfaoedd bwrpasol ein hunain er mwyn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd am swyddi a mynediad at gyngor ac arweiniad penodol i’r diwydiant busnes.

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf

Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd Reolwr Lleoliadau penodol sy’n cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Sadwrn 26 Hydref

icon-international

Rhyngwladol

icon-chat

Gofyn cwestiwn

icon-pen

Sut i wneud cais