Ewch i’r prif gynnwys

Daearyddiaeth Amgylcheddol (BSc)

Environmental Geography third-year field trip to Switzerland

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae daearyddwyr amgylcheddol yn defnyddio eu dealltwriaeth wyddonol o'r amgylchedd naturiol a ffisegol i ddod o hyd i atebion i faterion amgylcheddol hanfodol.

briefcase

Cysylltiadau â diwydiant

Mae ein cysylltiadau â chynfyfyrwyr, rheoleiddwyr amgylcheddol a sefydliadau lleol yn cynnig digon o gyfleoedd i chi gwblhau prosiectau a lleoliadau gwaith dros yr haf.

location

Cyfleoedd gwaith maes

Rydym yn mynd ar deithiau maes rheolaidd yn y DU a thramor i'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau gwaith maes cryf. Mae cost teithiau maes gorfodol yn rhan o ffioedd y cwrs.

molecule

Cyfleusterau ansawdd uchel

Bydd gennych fynediad at yr offer arolygu a mapio diweddaraf, labordai a cyfleusterau cyfrifiadurol.

star

Cwrs hyblyg

Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch ofyn am gael eich symud i raglen radd MSci neu newid i gwrs arall yn yr un Ysgol ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.

Mae ein dealltwriaeth wyddonol o'r amgylchedd naturiol a ffisegol yn allweddol i fynd i'r afael â materion fel newid yn yr hinsawdd, llygredd a dirywiad tir.

Ar ein cwrs Daearyddiaeth Amgylcheddol, byddwch yn ymchwilio i sut mae'r Ddaear yn gweithredu a'r wyddoniaeth sydd wrth wraidd effaith pobl ar y blaned dros amser. Byddwch yn edrych ar amgylcheddau ledled y byd, o'r pegynau eithafol i riffiau cwrel trofannol, gan archwilio'r pwysau sy'n eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol fel ei gilydd. Byddwch yn defnyddio'r technolegau diweddaraf ac yn datblygu sgiliau mewn mapio daearyddol, ymchwil, dadansoddi a datrys problemau.

Rydym yn manteisio i’r eithaf ar ein lleoliad gan gymryd tripiau dydd rheolaidd i Benrhyn Gwŷr, Arfordir Treftadaeth Morgannwg a Bannau Brycheiniog yn ne Cymru. Bydd cyfleoedd hefyd i fynd dramor; ac yn y gorffennol rydym wedi bod i'r Iseldiroedd a’r Swistir.

Mae myfyrwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn poeni am iechyd y blaned ac am wneud gwahaniaeth er gwell. Maent yn graddio gyda'r sgiliau sydd eu hangen i ddatrys ystod o broblemau amgylcheddol cymhleth a gyda phrofiad o waith maes ymarferol ac ymchwil arloesol.

Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Maes pwnc: Daearyddiaeth (Ffisegol)

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BBC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth Lefel Uwch) neu 31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch (gyda dau bwnc gwyddonol Lefel Uwch). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddorau Amgylcheddol, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

 

 

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Anifeiliaid, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg, Gwyddor Iechyd, TGCh, neu Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae’r costau gwaith maes ar gyfer eich modiwlau craidd wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi gyfrannu tuag at fwyd os caiff ei ddarparu yn ystod y daith. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol yn gymwys i wneud cais am Raglen Cymorth Ariannol Caerdydd i helpu gyda’r costau hyn.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd angen dillad addas arnoch gan gynnwys dillad ar gyfer tywydd cynnes, gwynt a siacedi i’ch diogelu mewn stormydd ac esgidiau cerdded. Bydd yr ysgol yn darparu'r holl gyfarpar iechyd a diogelwch yn ogystal â chyfarpar maes arbenigol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd amser llawn a thair blynedd o hyd yw hon. Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio modiwlau craidd ac yn cael sylfaen gref mewn daearyddiaeth amgylcheddol. Ceir modiwlau craidd a modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri, felly mae gennych rywfaint o hyblygrwydd i ddewis y meysydd sydd o ddiddordeb i chi.

 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio modiwlau craidd a luniwyd i roi sylfaen gref ym maes gwyddorau’r ddaear a daearyddiaeth yn eich blwyddyn gyntaf. Mae pynciau’n cynnwys cefnforoedd, yr hinsawdd, prosesau’r ddaear ac amgylcheddau byd-eang.  Byddwch yn datblygu sgiliau daearyddol hanfodol megis gwaith map a siartiau, Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) a dadansoddi data daearyddol.

Mae pob un o'r graddau yn yr Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol yn astudio'r un semester cyntaf. Ar ôl semester un gallwch chi benderfynu a ydych chi am barhau â'ch dewis gwreiddiol neu newid i un o'r graddau eraill (ee Daearyddiaeth Forol neu Ffisegol).

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn, ac mae pob modiwl craidd yn werth 20 o gredydau.

Blwyddyn dau

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn adeiladu ar yr wybodaeth o flwyddyn un ac yn dechrau archwilio cysyniadau mwy datblygedig fel biogeocemeg, ecoleg forol a system atmosffer y cefnforoedd. Byddwch yn dysgu sgiliau a chael profiad mewn samplu, casglu data a dadansoddi yn barod ar gyfer eich traethawd ymchwil ym mlwyddyn tri.

Yn ystod yr haf rhwng blwyddyn dau a blwyddyn tri, byddwch yn cwblhau eich pum wythnos o ymchwil annibynnol i’ch paratoi chi ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri. Yn y gorffennol mae myfyrwyr wedi edrych ar faterion yn ymwneud ag ansawdd pridd a dŵr a thueddiadau yn yr hinsawdd.

Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl i barc cenedlaethol arfordirol yng Nghymru (naill ai Sir Benfro neu Eryri) lle byddwch yn dysgu sgiliau maes allweddol gan gynnwys technegau mapio ac arolygu.

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys modiwlau craidd 40 a 20 o gredydau a dewis o fodiwlau dewisol gwerth 20 o gredydau.

Blwyddyn tri

Bydd gennych fwy o ryddid i lywio eich gradd yn eich blwyddyn olaf ac yn dewis modiwlau sy’n cyd-fynd â’ch dyheadau o ran gyrfa. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.  

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn. Mae'r modiwlau craidd yn cynnwys eich traethawd hir ac ymchwilio i amgylcheddau eithafol o safbwynt biocemegol.

Ar gyfer eich modiwlau dewisol gallwch ddewis astudio ystod o bynciau arbenigol fel Systemau Amgylcheddau Morol neu Newid yn yr Hinsawdd Byd-eang.

Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl tramor i leoliad arfordirol yn Ewrop lle byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn monitro ac arolygu amgylcheddol. Yn y gorffennol, rydym ni wedi bod i'r Iseldiroedd a'r Swistir.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Students testing water quality of a river
Environmental Geography students testing a lake in Wales for its water quality

Dysgu ac asesu

Rydym yn ysgol gyfeillgar ac anffurfiol a chewch eich addysgu gan arbenigwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang sy’n cynnal ymchwil arloesol yn rhyngwladol.

Rydym yn defnyddio dull addysgu sy’n gymysgedd o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol, gan gynnwys: darlithoedd, gwaith yn y labordy, gwaith maes, tiwtorialau, gweithdai a seminarau. Cewch hefyd eich annog i ddysgu’n annibynnol ac mewn grwpiau drwy gydol y cwrs, gan ddatblygu ystod eang o sgiliau a fydd yn hanfodol ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sgiliau rheoli prosiect a threfnu yn ogystal â datblygu eich gallu wrth gymhwyso technoleg gwybodaeth a defnyddio technegau ac offer o’r radd flaenaf.

 

Sut y caf fy nghefnogi?

Goruchwylio

Ar ddechrau'r cwrs, dyrennir tiwtor personol i chi ac mi fyddwch yn cwrdd â hwy’n rheolaidd ar gyfer tiwtorialau. Cynhelir tiwtorialau bob pythefnos yn y flwyddyn gyntaf ac yna bob mis ym mlwyddyn dau a thri. Bydd eich tiwtor personol yn arbenigwr yn eich cwrs gradd dewisol, a gall gynnig cyngor ar faterion academaidd a phersonol. Ym mlwyddyn tri, cewch hefyd oruchwyliwr penodol ar gyfer eich prosiect traethawd hir.

Cyfleusterau

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Caiff darlithoedd eu recordio lle bo'n bosibl fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Mae gan wefan Dysgu Canolog fodiwl Cynllunio Datblygiad Personol hefyd sy’n eich helpu i asesu eich cynnydd yn rheolaidd ac i ddiwallu eich anghenion datblygu.

Gwasanaethau cefnogi

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Amrywiaeth

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy'n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anableddau, strwythurau teuluol, rhyw, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hiliau, credoau crefyddol neu gredoau eraill, a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol. Darllenwch am ein hymrwymiad i egwyddorion Athena SWAN a'n statws Efydd ( https://www.cardiff.ac.uk/earth-ocean-sciences/about-us/equality-diversity-and-inclusivity ).

 

Sut caf fy asesu?

We will be assessing your level of knowledge and understanding in each module through a combination of assignments, presentations, fieldwork, examinations and a dissertation. You will receive written and oral feedback on your coursework and there are opportunities for informal feedback throughout the course.

You will complete a wide range of assessments, from traditional essays, data interpretation exercises and posters on topical themes to more interactive assignment experiences including group presentations, technical reports and briefing papers. These different assessments are designed to give you professional assessment experience and help you prepare for employment.

NOTE: The University welcomes applications from students with disabilities and we endeavour to offer reasonable alternative assessment methods wherever possible.   We have an Alternative Fieldwork Policy which is adopted in cases where a student cannot attend a scheduled, taught field course, or part(s) thereof, because of extenuating circumstances

 

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dealltwriaeth systematig o brosesau gofodol ac amserol sy'n gysylltiedig ag ystod o amgylcheddau, gan gynnwys dealltwriaeth feirniadol eang o'r rhyngberthynas rhwng systemau amgylcheddol, cemegol a ffisegol ar ystod o raddfeydd
  • Dealltwriaeth eang o adnoddau amgylcheddol a heriau byd-eang cysylltiedig, gan gynnwys dulliau rheoli’r rhain
  • Dealltwriaeth systematig o natur amlddisgyblaethol Daearyddiaeth Amgylcheddol, gan gynnwys ei chynnwys, ei dulliau a'i hathroniaeth, a dealltwriaeth ymarferol gysylltiedig o'r angen i integreiddio gwybodaeth o'r gwyddorau cytras, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â System y Ddaear, gwyddorau’r cefnfor, atmosfferig, ffisegol ac amgylcheddol

Sgiliau Deallusol:

  • Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:
  • Dadlau, dehongli ac egluro achosion, graddfeydd ac effeithiau prosesau amgylcheddol cyfoes ac yn y dyfodol wrth gymhwyso syniadau, cysyniadau a dulliau perthnasol yn feirniadol
  • Casglu, coladu, syntheseiddio a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth eang o ddata a gwybodaeth amgylcheddol, gan ddilyn dulliau perthnasol mewn meysydd cytras o wyddorau amgylcheddol
  • Gwerthuso ymchwil gyfredol mewn agweddau dethol ar wyddorau amgylcheddol, gan ddangos gwerthfawrogiad o ansicrwydd, amwysedd a therfynau dealltwriaeth gwyddoniaeth gysylltiedig
  • Gweithio ar draws disgyblaethau i gysylltu gwybodaeth a phrofiad o wyddorau perthynol i ddeall ystod o amgylcheddau gan gynnwys eu perthynas â chymdeithas

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dadansoddi a dehongli'n feirniadol ystod o wahanol fathau o ddata sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd fel rhan o brosesau ymchwil i ymchwilio i ystod o faterion amgylcheddol amserol a chysyniadau damcaniaethol
  • Cynllunio, dylunio a gweithredu ymchwil sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, wneud defnydd beirniadol o ystod o ddulliau ansoddol a meintiol o gasglu a dadansoddi data mewn astudiaethau maes, alltraeth, labordy a desg
  • Deall a chymhwyso dulliau a ddefnyddir i gaffael data geo-ofodol a chynrychioli data o'r fath mewn fformatau cartograffig a graffig priodol gan ddefnyddio platfformau priodol, gan gynnwys GIS
  • Mynd i'r afael â phroblemau ymchwil sy'n cynnwys integreiddio a dadansoddi data amrywiol, sy’n aml yn anghyflawn ac ansicr gan ddefnyddio methodolegau a dulliau ansoddol a meintiol priodol
  • Arddangos sgiliau ymarferol a chymhwysedd mewn technoleg gwybodaeth, systemau gwybodaeth ddaearyddol, technegau cartograffig, ystadegol a dadansoddol eraill
  • Defnyddio sgiliau rheoli prosiect a threfnu effeithiol drwy weithio'n annibynnol a thrwy weithio mewn tîm
  • Deall yr agweddau ar gasglu data o ran cyfyngiadau ymarferol, logisteg, diogelwch a moesegol, a hynny mewn amrywiol amgylcheddau, a chymhwyso'r ddealltwriaeth hon, fel sy'n briodol i ymchwil gymhwysol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau gan ddefnyddio cyfryngau llafar, ysgrifenedig a gweledol i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg
  • Y gallu i weithio'n gymwys yn unigol neu fel rhan o dîm wrth osod problemau a datrys problemau o fewn ystod o amgylcheddau ymchwil cymhwysol lle mae’r dasg o wneud penderfyniadau’n gymhleth ac yn amlddisgyblaethol
  • Y gallu i ymgymryd ag astudiaeth annibynnol ac ysgolheictod personol, wedi'u meithrin trwy gymryd mwy o gyfrifoldeb personol, menter a phrofiadau hunan-ddysgu
  • Dealltwriaeth o'r sgiliau a'r cymwyseddau sydd eu hangen i ddod o hyd i waith a chefnogi datblygiad proffesiynol parhaus, a’r gallu i gymhwyso hyn i hunan-fyfyrio, asesu a mynegi sgiliau ac anghenion cyflogadwyedd unigol

 

Student working on a mapping exercise
Student completing a mapping exercise on Caerphilly Mountain

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Gyda’r blaned dan bwysau cynyddol yn sgîl newid yn yr hinsawdd, gorecsbloetio a llygredd, mae galw mawr am wybodaeth a sgiliau daearyddwyr amgylcheddol. Bydd gan ddaearyddwr amgylcheddol rôl bwysig mewn dyfodol mwy gwyrdd a charbon isel gan ddefnyddio eu dealltwriaeth o’r ddaear i ddod o hyd i atebion cynaliadwy i’r heriau a wynebwn yn y dyfodol.

Gallwch ddewis gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a rolau gwahanol gan gynnwys cadwraeth a rheoli amgylcheddol, fel ymgynghorydd amgylcheddol neu ddadansoddwr geo-ofodol. Bydd gennych hefyd sgiliau cyflogadwy hanfodol y mae sectorau fel yswiriant, cyllid, addysg a chynllunio yn chwilio amdanynt.

Mae rhai o’n myfyrwyr yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i weithio yn Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, llywodraeth leol, cwmnïau ymgynghori amgylcheddol ac elusennau amgylcheddol.

Lleoliadau

Gall unrhyw fyfyriwr sy'n gallu cael lleoliad addas gyda chwmni neu sefydliad drosglwyddo i'n rhaglen pedair blynedd, a graddio gyda BSc gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol. Ni allwn warantu lleoliad i chi, gan fod y broses recriwtio a dethol yn dibynnu ar y cwmni yr ydych yn gwneud cais ar ei gyfer.  Fodd bynnag, byddwn yn eich cefnogi chi i ddod o hyd i leoliad a gwneud cais, a gall gwasanaeth gyrfaoedd y Brifysgol eich helpu gyda'ch ceisiadau, CV a sgiliau cyfweliad.   Yn ôl ein profiad ni, mae myfyrwyr sy'n cyflawni blwyddyn ar leoliad proffesiynol yn dychwelyd i'w hastudiaethau gyda sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad diwydiant amhrisiadwy.

Gwaith maes

Mae ein lleoliad yn ne Cymru yn berffaith ar gyfer astudio daearyddiaeth amgylcheddol, gan fod gennym fynediad hawdd at ystod eang o amgylcheddau naturiol, gyda mynyddoedd i’r gogledd ac aber llanw afon Hafren i’r de. Yn naturiol, byddwn yn treulio peth amser yn astudio’r tirweddau amrywiol hyn ac yn eich hyfforddi mewn sgiliau gwaith maes hanfodol, megis darllen map, nodi tirwedd a defnyddio cwmpawd.

Rydym hefyd yn mynd â’n myfyrwyr ar sawl taith maes preswyl. Yn y gorffennol rydym wedi archwilio effeithiau rhewlifau'r gorffennol ar amgylchedd Parc Cenedlaethol Eryri, wedi ymweld â thirwedd rewlifol fodern yn yr Alpau, ac wedi ymchwilio i systemau hydroleg ac afonydd yn ne Ffrainc.

Yr Ysgol sy’n talu’r holl gostau teithio a chostau llety ar ein teithiau maes. Byddwn yn gofyn i chi am gyfraniad bach tuag at gostau bwyd a diod yn unig ar gyfer pob taith.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.