Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae’r cwrs hwn yn un sydd â lleoedd gwag fel rhan o Glirio ac Addasu ar gyfer mynediad yn 2019.

Mae’r cwrs BA Llenyddiaeth Saesneg a’r Gymraeg yn gyfle i astudio dau gwrs gradd anrhydedd yn y Brifysgol.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Drwy gyfuno’r Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Mae’r radd gydanrhydedd yn cynnig y cyfle i ddilyn cwrs astudio ar lefel uwch, gan rannu eich modiwlau rhwng y Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg.

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae’r cwricwlwm Llenyddiaeth Saesneg yn cynnig mynediad at holl rychwant llenyddiaeth Saesneg, o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid hyd at yr unfed ganrif ar hugain. Ond ni chyfyngir y cwricwlwm i’r gair printiedig - gan fod y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celfyddyd, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd yn cyffroi’n chwilfrydedd, ac mae’n haddysgu ni’n adlewyrchu’r diddordebau hynny. Er nad yw’r cwrs Llenyddiaeth Saesneg yn cynnwys unrhyw fodiwlau gorfodol, byddwch yn ennill profiad o ystod eang o destunau llenyddol, cyfnodau, mudiadau a genres.

Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ddulliau academaidd.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:

  • y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
  • modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
  • ystod o fodiwlau craidd a dewisol mewn Llenyddiaeth Saesneg ac sy’n astudio’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
  • y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
  • y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
  • y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
  • y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
  • cwrs sy’n cynnig traddodiad cryf ym maes ysgrifennu creadigol ac fe addysgir y maes gan awduron sy’n gwneud eu marc ar ddiwylliant cyfoes.
  • cwrs a gydnabyddir am ddarllen yng ngoleuni damcaniaethau a sicrhau bod deialog rhwng testunau o bob cyfnod a materion cyfoes o ran rhywedd, hunaniaeth, rhywioldeb, cenedligrwydd, hil, y corff, yr amgylchedd a thechnoleg ddigidol.
Côd UCASQQ53
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd3 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer, mae 30 lle ar gael yn Ysgol y Gymraeg.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae Ysgol y Gymraeg yn derbyn tua 100 o geisiadau.
  1. Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  2. School of Welsh

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  3. Labordy Llunio Digidol

    Adeilad Bute

    Rhodfa'r Brenin Edward VII

    Caerdydd

    CF10 3NB

  4. Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol

    Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol

    Rhodfa Colum

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3EU

Gofynion mynediad

Mae’r gofynion mynediad a ddangosir ar gyfer darpar fyfyrwyr fydd yn dechrau yn 2019. Bydd y gofynion mynediad ar gyfer 2020 ar gael ym mis Awst 2019.

ABB gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith a Llenyddiaeth Saesneg a Saesneg Iaith, neu Ysgrifennu Creadigol. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.  

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

D mewn BTEC (pynciau ym maes y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn ofynnol). Hefyd, gradd B yn Gymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith ar Safon Uwch, a gradd B mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (cyfunedig) neu Ysgrifennu Creadigol ar Safon Uwch.    

665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch gan gynnwys 6 ar Lefel Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Saesneg a Pherfformio, yn ogystal â chymhwyster Iaith Gymraeg.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Astudiaethau Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Ysgol y Gymraeg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith arnoch ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng y pynciau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio ar gyfer cyfanswm o 120 credyd.

Yn y Gymraeg, mae dau lwybr yn y flwyddyn gyntaf, un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf, ac un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith. Bydd myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf yn astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg, tra bydd myfyrwyr ail iaith yn astudio 80 credyd yn y Gymraeg a 40 credyd Llenyddiaeth Saesneg.

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un y Gymraeg ar ddatblygu sgiliau allweddol (rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith er mwyn datblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.

Fel arfer yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg Safon Uwch fel ail iaith yn dilyn y llwybr ail iaith, ond byddwn yn ystyried eich sgiliau ieithyddol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, cyn penderfynu pa lwybr y byddwch chi’n ei ddilyn.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Ar gyfer y llwybr ail iaith y modiwlau craidd yw:

  • Sgiliau Llafar
  • Defnyddio’r Gymraeg
  • Astudio Llenyddiaeth
  • Y Gymraeg Heddiw

Blwyddyn sylfaen yw blwyddyn un Llenyddiaeth Saesneg ac fe’i cynlluniwyd i roi ichi’r sgiliau i astudio ar lefel uwch a chael trosolwg o’r pwnc. Bydd yn eich galluogi i wneud dewisiadau deallus o blith modiwlau blynyddoedd dau a thri.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Critical Reading and Critical WritingSE214620 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau llafarCY150020 credydau
Defnyddio'r GymraegCY150120 credydau
Y Gymraeg HeddiwCY150820 credydau
Astudio Testunau LlenyddolCY151220 credydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau
Drama: Stage and PageSE213920 credydau
Star-cross'd Lovers: the Politics of DesireSE214020 credydau
Transforming Visions: Text and ImageSE214220 credydau
Transgressive Bodies in Medieval LiteratureSE214720 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg.

Ym mlwyddyn dau y Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.

Yn ogystal â’r elfennau craidd hyn, mae cwrs y Gymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, megis cynllunio ieithyddol, sgriptio a chyfieithu.

Nid oes modiwlau gorfodol ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg yn yr ail flwyddyn. Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau sy’n seiliedig ar gyfnod, genre neu thema, a byddwch chi’n darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.

Gallai'r rhain gynnwys modiwlau fel Shakespeare a Drama’r Dadeni, y Nofel yn yr Oes Ramantaidd, Ffuglen a Barddoniaeth o Gymru, yn ogystal â Ffyrdd o Ddarllen, De America mewn Llenyddiaeth a Ffilm neu Ysgrifennu Creadigol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau Academaidd UwchCY221020 credydau
Llenyddiaeth PlantCY231020 credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY233020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY236020 credydau
Bywydau LlênCY242520 credydau
TafodieithegCY245020 credydau
SosioieithyddiaethCY253020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY266520 credydau
Style and GenreSE141620 credydau
Fiction of the Indian SubcontinentSE228320 credydau
Children's Literature: Form and FunctionSE244720 credydau
Introduction to Romantic PoetrySE245020 credydau
African-American LiteratureSE245120 credydau
Imaginary Journeys: More to HuxleySE245720 credydau
Modernism and the CitySE246320 credydau
Gothic Fiction: The Romantic AgeSE246820 credydau
Romanticism, Politics, AestheticsSE246920 credydau
Modern and Contemporary Women's PoetrySE247420 credydau
Visual VictoriansSE247520 credydau
Seventeenth and Eighteenth Century Women WritersSE247620 credydau
Shakespeare's Tragedies and HistoriesSE247720 credydau
Wild West: Literary and Cinematic WesternsSE247920 credydau
Contemporary Poetry: Tradition and InnovationSE248120 credydau
GirlsSE248220 credydau
Experimental Elizabethan DramaSE249220 credydau
Portraits of the ArtistSE249320 credydau
Object Women in Literature and FilmSE249420 credydau
Coming of Age Fiction: Society and the Creative VoiceSE249520 credydau
Epic and SagaSE249620 credydau
Renaissance Poetry, Prose and Drama: The Principal Genres, Issues and AuthorsSE249720 credydau
Decadent Men, 1890s-1910s: Wilde to ForsterSE249820 credydau
ENCAP Employability ModuleSE625520 credydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg.

Ym mlwyddyn tri y Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau (20 credyd) neu 9,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.

Erbyn y drydedd flwyddyn byddwch wedi cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genre a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn dadansoddi cyd-destunau a thestunau ynghyd â’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Felly byddwch mewn sefyllfa ardderchog i ddewis rhwng amrywiaeth mwy arbenigol o fodiwlau Llenyddiaeth Saesneg sy'n ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod o ran awduron a thestunau cyfarwydd ac efallai rai anghyfarwydd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Llenyddiaeth PlantCY331020 credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY333020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY336020 credydau
Bywydau LlênCY342520 credydau
TafodieithegCY345020 credydau
SosioieithyddiaethCY353020 credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY366520 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 credydau
The Robin Hood TraditionSE236720 credydau
The Illustrated BookSE239520 credydau
Modern Welsh Writing in EnglishSE244820 credydau
Fictive Histories/Historical FictionsSE246720 credydau
DissertationSE252420 credydau
HitchcockSE254420 credydau
Modern Drama: Page, Stage, ScreenSE255120 credydau
Utopia: Suffrage to CyberpunkSE258120 credydau
Second-generation Romantic PoetsSE258220 credydau
Bluestockings, Britannia, Unsexed Females: Women in Public Life, 1770-1800SE258820 credydau
Gothic Fiction: The VictoriansSE258920 credydau
Postcolonial TheorySE259320 credydau
Visions of Past and Future in Children's LiteratureSE259520 credydau
Military Masculinities in the Long Nineteenth CenturySE259720 credydau
Island Stories: Literatures of the North AtlanticSE259820 credydau
American Poetry after ModernismSE260620 credydau
The American Short StorySE260920 credydau
Renaissance DramaSE261020 credydau
Apocalypse Then and NowSE261120 credydau
Criminal ShakespeareSE261220 credydau
Scandal and Outrage: Controversial Literature of the Twentieth and Twenty-First CenturiesSE261320 credydau
Writing Nature from Romanticism to the PresentSE261420 credydau
The High Drama of Work: Taskscapes in Early Modern PlaysSE261520 credydau
Representing Race in Contemporary AmericaSE261620 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Rydym ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn arbennig yn achos y llwybr ail-iaith).

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

27%

Astudio annibynnol dan arweiniad

73%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

null%

Astudio annibynnol dan arweiniad

null%

Lleoliadau ments

null%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

null%

Astudio annibynnol dan arweiniad

null%

Lleoliadau ments

null%

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol ar arholiadau yn dilyn cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Dulliau asesu (2017/18 data)

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

25%

Arholiadau ymarferol

8%

Gwaith cwrs

67%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

null%

Arholiadau ymarferol

null%

Gwaith cwrs

null%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

null%

Arholiadau ymarferol

null%

Gwaith cwrs

null%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym yn darparu profiad academaidd hynod foddhaol i’n myfyrwyr er mwyn cynorthwyo eu datblygiad fel dinasyddion sy’n meddwl yn feirniadol ac sy’n ymwybodol yn ddiwylliannol. Y mae eu sgiliau dadansoddol uchel, eu pwerau mynegiant a’u hunanddibyniaeth flaengar yn eu gwneud yn hynod o ddeniadol i gyflogwyr.

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig.

Mae gan raddedigion Llenyddiaeth Saesneg sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.

Yn 2016/17, dywedodd 91% o raddedigion Ysgol y Gymraeg oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio, a dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 56% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Sadwrn 14 Medi

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais