Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn cynnig rhaglen heriol o fodiwlau ym mhob pwnc, cefnogaeth gan amgylchedd cyfeillgar a pherthnasau da rhwng myfyrwyr a staff.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

English literature student reading outdoors

Trosolwg y cwrs

Yn y radd hon sy’n ysgogi’r meddwl, gallwch gyfuno’ch diddordeb mawr mewn Llenyddiaeth Saesneg gyda’ch angerdd am archwilio rhai o gwestiynau sylfaenol bodoli.

Sut dylem fyw ein bywydau? Beth ddylem ni ei gredu? Sut dylem fynd ati i geisio ateb y cwestiynau hyn? Sut allwn ni hyd yn oed feddwl amdanynt? Mae Athroniaeth yn ymchwilio i'r materion dwys hyn.

Gan mai dyma’r ddisgyblaeth academaidd hynaf, mae Athroniaeth wedi datblygu ystod drawiadol o gysyniadau a thechnegau ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau cymhleth. Rydym yn eich arfogi i ddadansoddi ac adeiladu cadwyni cymhleth o resymu drosoch eich hun, gan ddatblygu a mireinio eich sgiliau meddwl i ystyried posau athronyddol byd-eang ein hoes.

Yn llenyddiaeth Saesneg, rydym yn cynnig mynediad at yr holl rychwant cronolegol, o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid hyd at yr unfed ganrif ar hugain. Ni chyfyngir ein cwricwlwm i’r gair printiedig: gan ein bod yn ymddiddori yn y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celfyddyd, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd, mae ein haddysgu’n adlewyrchu’r diddordebau hynny. Mae hyn yn eich galluogi i lunio eich gradd sy’n gweddu i chi, gan ddewis llwybr traddodiadol o nifer o gyfnodau a genres neu gymysgedd mwy deinamig sy'n cyfuno astudiaeth lenyddol gyda dadansoddiad o ffurfiau diwylliannol eraill.

Rydym yn cynnig rhaglen heriol a hyblyg o fodiwlau, ac yn ategu hynny ag awyrgylch cyfeillgar a pherthynas ragorol rhwng y staff a’r myfyrwyr. A nhwythau’n arbenigwyr yn eu meysydd, mae ein darlithwyr i gyd yn ymchwilwyr gweithgar, gan rannu’r syniadau diweddaraf gan gynnwys eu hymchwil flaengar eu hunain. Mae ein Book Talk Caerdydd, Arbrawf Barddoniaeth Caerdydd, Caffi Athroniaeth a'r Ŵyl Athroniaeth flynyddol yn cynnig mwy o gyfleoedd i archwilio themâu cyfoes a materion byd-eang gyda'r cyhoedd ehangach.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:

  • addysgu ar draws rhychwant cronolegol a daearyddol cyfan llenyddiaeth Saesneg, o'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd i'r 21ain ganrif
  • bri am ddarllen yng ngoleuni damcaniaethau a sicrhau bod deialog rhwng testunau o bob cyfnod a materion cyfoes o ran rhywedd, hunaniaeth, rhywioldeb, cenedligrwydd, hil, y corff, yr amgylchedd a thechnoleg ddigidol.
  • traddodiad cryf ym maes ysgrifennu creadigol ac fe addysgir y maes gan awduron sy’n gwneud eu marc ar ddiwylliant cyfoes.
  • pwyslais ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg
Côd UCASVQ53
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd3 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer, mae 350 lle ar gael yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn derbyn tua 1450 o geisiadau.

Gofynion mynediad

ABB-BBB gan gynnwys Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg a Saesneg Iaith, neu Ysgrifennu Creadigol. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol. 

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DD-DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ogystal â gradd B mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (cyfunedig) neu Ysgrifennu Creadigol ar Safon Uwch. 

Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch gan gynnwys 6 ar Lefel Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Saesneg a Pherfformio

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Astudiaethau Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg  Iaith arnoch ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am dair blynedd gyda dau semester y flwyddyn, wedi eu rhannu rhwng y ddau bwnc. Ceir 120 o gredydau bob blwyddyn. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio 60 credyd llenyddiaeth Saesneg a 60 credyd mewn Athroniaeth.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Critical Reading and Critical WritingSE214620 credydau
Mind, Thought and RealitySE410120 credydau
Moral and Political PhilosophySE410320 credydau
Critical ThinkingSE410720 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd llenyddiaeth Saesneg a 60 credyd mewn Athroniaeth.

Byddwch yn gallu dewis o blith amrywiaeth fawr o fodiwlau thematig, genre, cyfnod a rhanbarthol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Style and GenreSE141620 credydau
The Robin Hood TraditionSE236720 credydau
Modernist FictionsSE244520 credydau
Children's Literature: Form and FunctionSE244720 credydau
Introduction to Romantic PoetrySE245020 credydau
African-American LiteratureSE245120 credydau
Modernism and the CitySE246320 credydau
Gothic Fiction: The Romantic AgeSE246820 credydau
Social Politics and National Style: American Fiction and Form, 1920-1940SE247020 credydau
Literature and ScienceSE247120 credydau
Dickens in Many MediaSE247220 credydau
Seventeenth and Eighteenth Century Women WritersSE247620 credydau
Shakespeare's Tragedies and HistoriesSE247720 credydau
Contemporary Poetry: Tradition and InnovationSE248120 credydau
GirlsSE248220 credydau
Object Women in Literature and FilmSE249420 credydau
Renaissance Poetry, Prose and Drama: The Principal Genres, Issues and AuthorsSE249720 credydau
Decadent Men, 1890s-1910s: Wilde to ForsterSE249820 credydau
Chaucer's Gender Politics: Chivalry, Sex and Subversion in the Canterbury TalesSE261820 credydau
Contemporary British FictionsSE261920 credydau
Experimental Early Modern DramaSE262020 credydau
Writing MourningSE262120 credydau
Philosophy and LiteratureSE262320 credydau
Jane Austen in ContextSE262520 credydau
Philosophy of ScienceSE431220 credydau
MetaphysicsSE436420 credydau
French ExistentialismSE436920 credydau
Modern Moral PhilosophySE437320 credydau
Contemporary Ethical TheorySE438820 credydau
EpistemologySE439820 credydau
Credoau'r CymrySE440020 credydau
Ancient PhilosophySE440520 credydau
Philosophy of FeminismSE441820 credydau
Philosophy of PsychologySE442120 credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio’r Gymdeithas GyfalafolSE442320 credydau
AestheticsSE442420 credydau
ENCAP Employability ModuleSE625520 credydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd llenyddiaeth Saesneg a 60 credyd mewn Athroniaeth.

Os dymunwch, gallwch ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o'ch dewis chi yn y naill ddisgyblaeth neu’r llall. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ganolbwyntio eich diddordebau ar faes neu gyfnod penodol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
The Graphic MemoirSE140920 credydau
Fictive Histories/Historical FictionsSE246720 credydau
DissertationSE252420 credydau
HitchcockSE254420 credydau
Modern Drama: Page, Stage, ScreenSE255120 credydau
Gender and Monstrosity: Late/Neo VictorianSE256420 credydau
Utopia: Suffrage to CyberpunkSE258120 credydau
Second-generation Romantic PoetsSE258220 credydau
Bluestockings, Britannia, Unsexed Females: Women in Public Life, 1770-1800SE258820 credydau
Gothic Fiction: The VictoriansSE258920 credydau
Poetry in the Making: Modern Literary ManuscriptsSE259220 credydau
Postcolonial TheorySE259320 credydau
Visions of Past and Future in Children's LiteratureSE259520 credydau
Island Stories: Literatures of the North AtlanticSE259820 credydau
Medieval Romance: Monsters and MagicSE259920 credydau
John MiltonSE260820 credydau
The American Short StorySE260920 credydau
Apocalypse Then and NowSE261120 credydau
Criminal ShakespeareSE261220 credydau
Scandal and Outrage: Controversial Literature of the Twentieth and Twenty-First CenturiesSE261320 credydau
Representing Race in Contemporary AmericaSE261620 credydau
Love, Death and Marriage in Renaissance DramaSE262220 credydau
Visuality, Culture and TechnologySE262420 credydau
MetaethicsSE436720 credydau
Moral PsychologySE437220 credydau
The Problem of ConsciousnessSE437920 credydau
Dissertation in PhilosophySE438520 credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 credydau
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruSE439620 credydau
Cognition and TechnologySE441020 credydau
Animal MindsSE441120 credydau
The Social ImaginationSE441220 credydau
Modern German PhilosophySE441320 credydau
Athroniaeth CrefyddSE441720 credydau
Belief & IrrationalitySE441920 credydau
Desires, Emotions and HappinessSE442020 credydau
Ethics of KnowingSE442220 credydau
Beauty & EthicsSE442520 credydau
Moral ResponsibilitySE442620 credydau
International Study Abroad (60 credits) AutumnSE625160 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

20%

Astudio annibynnol dan arweiniad

80%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

19%

Astudio annibynnol dan arweiniad

81%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

18%

Astudio annibynnol dan arweiniad

82%

Lleoliadau ments

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Dulliau asesu (2017/18 data)

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

35%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

65%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

25%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

75%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

25%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

75%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:

  • ddeall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae gan raddedigion llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Gwanwyn 2020

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais