Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

English Literature at Cardiff University
globe

Treuliwch semester dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd mewn bywyd a dysg.

location

Wedi'i deilwra i chi

Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.

building

Profiad yn y diwydiant

Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.

book

Dysgu gan y gorau

Cewch elwa o gynnwys a arweinir gan ymchwil; a dysgu gan ysgolheigion ac awduron llenyddol byd-enwog.

Mae ein rhaglen BA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn caniatáu i chi astudio pob cyfnod o lenyddiaeth yn Saesneg, o'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd i'r unfed ganrif ar hugain, ynghyd â hyfforddiant mewn Ysgrifennu Creadigol. Rydym yn ymdrin â phob genre, o ffuglen gyfoes a hanesyddol i farddoniaeth, drama, ffilm a cherddoriaeth.

Mae elfen ysgrifennu creadigol y rhaglen yn rhoi'r cyfle i chi symud ymlaen o fodiwlau rhagarweiniol ar ddarllen ac ysgrifennu yn greadigol i waith arbenigol o fewn ffurfiau a genres penodol megis ffuglen, barddoniaeth, ffeithiol greadigol ac ysgrifennu sgriptiau, gan arwain at gynhyrchu casgliad estynedig o waith creadigol.

Trwy gydol y rhaglen, byddwch yn cael eich annog i'ch ymestyn eich hun yn ddeallusol ac yn ddychmygus trwy archwilio llenyddiaeth fel ymarferydd ac fel beirniad. Bydd ein hymagwedd yn eich helpu i feithrin dealltwriaeth o'r broses greadigol, yn ogystal â gwella eich gwybodaeth am genre, hanes llenyddol a'r maes academaidd amrywiol a deinamig sy'n ffurfio Llenyddiaeth Saesneg.

Byddwch yn canolbwyntio ar ddod yn ddarllenydd ac awdur gofalus, sylwgar a hyddysg, sy'n sensitif i'r arlliw o iaith ac arddull ac sy'n gallu cynhyrchu gwaith creadigol caboledig a soffistigedig, yn ogystal â mynegi eich ymatebion i destunau yn ysgrifenedig sy'n fanwl gywir, llawn steil, ac yn effeithiol.

Byddwch yn ymuno ag amgylchedd cyfeillgar a chefnogol sydd ag enw da yn rhyngwladol am addysgu ac ymchwil. Mae ein tîm Ysgrifennu Creadigol talentog yn ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd a, gyda’i gilydd, mae ganddynt brofiad ym myd y theatr, teledu a ffilm. Mae ein platfformau cyhoeddus, BookTalk Caerdydd ac Arbrawf Barddoniaeth Caerdydd, yn boblogaidd ac yn ennyn llawer o ddiddordeb.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 ar Lefel Uwch mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ogystal â gradd B mewn Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Ysgrifennu Creadigol ar Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd israddedig amser llawn sy'n cymryd tair blynedd i'w chwblhau. Byddwch yn astudio modiwlau sy'n werth cyfanswm o 360 o gredydau wedi'u rhannu'n deg dros dair blynedd.

Rhaid i chi lwyddo ymhob blwyddyn academaidd cyn parhau i gam nesaf eich astudiaethau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Blwyddyn sylfaen yw blwyddyn 1 ac fe’i cynlluniwyd i roi i chi’r sgiliau a'r ymarfer i astudio ar lefel uwch a chael trosolwg, er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau gwybodus o blith modiwlau blynyddoedd dau a thri a gosod y sylfeini ar gyfer astudio Ysgrifennu Creadigol.

Byddwch yn astudio tri modiwl craidd a thri modiwl dewisol. Bydd y rhain yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer dwy flynedd nesaf eich gradd drwy gynnig y cyfle i ddatblygu eich sgiliau beirniadol a chreadigol drwy ddarllen, dadansoddi a chynhyrchu gwaith dychmygus ar draws amrywiaeth eang o wahanol genres.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2, byddwch yn dewis o blith amrywiaeth o fodiwlau sy’n seiliedig ar gyfnodau, genres neu themâu, a byddwch chi’n adeiladu ar y flwyddyn sylfaen drwy ddarllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.

Byddwch hefyd yn parhau â'ch astudiaethau Ysgrifennu Creadigol mewn amrywiaeth o ffurfiau a genres, gan gynnwys ffuglen, barddoniaeth a sgriptio.

Blwyddyn tri

Yn eich blwyddyn olaf byddwch yn dewis o blith ystod o fodiwlau mwy arbenigol, gan eich galluogi i ddilyn diddordebau a ddatblygwyd yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Byddwch yn ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod, gan eich galluogi i ddatblygu ymhellach sgiliau dadansoddi a chyflwyno y bydd cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, yn ogystal â’ch paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.

Rydych hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir portffolio mewn Ysgrifennu Creadigol sy'n ategu eich gwaith yn y modiwlau Llenyddiaeth Saesneg a'ch galluogi i greu darn estynedig o ysgrifennu mewn genre arbenigol. Mae'r traethawd hir hefyd yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau ymchwil a rheoli prosiectau.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau, gyda phob modiwl yn cynnwys gwaith addysgu mewn seminarau a grwpiau bach. Ym maes Ysgrifennu Creadigol mae'r gwaith addysgu mewn grwpiau bach yn cael ei gyflawni drwy gweithdai yn seiliedig ar adolygiad o ysgrifennu myfyrwyr gan gymheiriaid.

Mae'r gwaith addysgu'n pwysleisio pwysigrwydd sut ma testunau rhyngweithio â'u cyd-destunau, a chynlluniwyd pob modiwl i ganolbwyntio ar nifer o destunau penodol ac i baratoi ymateb ystyriol yn ofalus i bynciau penodol yr eir i'r afael â nhw yn y modiwl, tra bod gweithdai Ysgrifennu Creadigol yn gofyn i chi ymgysylltu â'r broses ysgrifennu beirniadol drwy drafodaeth werthusol am ysgrifennu cymheiriaid.

Bydd gweithgareddau dysgu'n amrywio o fodiwl i fodiwl, fel sy'n briodol, ond gall gynnwys gweithgareddau megis: darlithoedd rhyngweithiol, trafodaethau seminar am destunau/pynciau a baratowyd, cyflwyniadau unigol neu grŵp myfyrwyr, gwaith grŵp bach mewn seminarau, adolygiad cymheiriaid mewn gweithdai, dosbarthiadau cyfieithu, ymarferion ysgrifennu ffurfiannol, cofnodion dyddlyfr a dangosiadau ffilm.

Disgwylir i chi darllen a pharatoi mewn ffyrdd perthnasol eraill er mwyn eich galluogi gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn llawn. Fe'ch anogir i archwilio adnoddau'r llyfrgell fel sy'n briodol. Ar gyfer y gweithdai, caiff gwaith cymheiriaid ei rannu'n flaenorol a disgwylir i chi ddod â sylwadau a baratowyd fe rhan o'r broses cyfnewid syniadau sy'n llywio'r sesiynau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Dyrennir tiwtor personol a byddwch yn cwrdd ag ef/hi ar gyfer cyfarfodydd cynnydd academaidd (un fesul semester). Mae ffurflen i'w llenwi cyn pob cyfarfod Cynnydd Academaidd a gynlluniwyd er mwyn eich helpu i fyfyrio ar yr adborth ysgrifenedig a'r rhesymau dros y marciau rydych wedi'u cael gan y rownd asesu flaenorol. Byddwch yn trafod yr adborth hwn a'ch myfyrdodau arno gyda'ch tiwtor personol.

Yn ogystal, mae gan bob aelod o staff oriau swyddfa wythnosol yn ystod wythnosau addysgu, a gallwch drefnu apwyntiadau i weld eich tiwtor personol neu arweinwyr eich modiwl un i un i drafod unrhyw faterion. Gellir cysylltu â staff hefyd drwy eu hebostio.

Bydd gwybodaeth allweddol ar gyfer pob modiwl ar gael ar ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir, Dysgu Canolog, ynghyd ag adnoddau dysgu ychwanegol priodol, megis nodiadau a sleidiau darlithoedd.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Darperir adborth ysgrifenedig ar asesiad ffurfiannol a chrynodol ac fe'ch anogir i drafod eich syniadau â thiwtoriaid modiwlau a, lle y bo'n briodol, wyneb yn wyneb yn ystod oriau swyddfa.

Trafodir eich cyflawniad a'ch cynnydd hefyd mewn cyfarfodydd cynnydd rheolaidd gyda thiwtoriaid personol.

Sut caf fy asesu?

All English Literature modules offer you the opportunity to undertake unassessed formative work appropriate to the module. Most modules are assessed by essay and/or examination, but some include other forms of assessment such as journal entries, a portfolio, or presentations.

Creative Writing modules are assessed by short portfolios of creative work that include a critical commentary. The assessment strategy is structured to lead you from formative thinking throughout the module towards the production of an informed critical/creative response.

Your final year project consists of a substantial, independently-researched and original portfolio of creative work, produced under the guidance of a member of staff, in the field of fiction, creative non-fiction, poetry, playwriting, or screenwriting. The portfolio includes a critical commentary on the work produced.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a dealltwriaeth

  • Ymwybyddiaeth o wahanol gyfnodau, mudiadau a genres llenyddol ac o amrywiaeth llenyddiaeth Saesneg.
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.
  • Y gallu i gynnal dadl feirniadol sy'n ymatebol i waith arddulliau ieithyddol a llenyddol.
  • Ymwybyddiaeth o gonfensiynau llyfryddol y ddamcaniaeth a'u rôl yn cyfathrebu gwybodaeth.
  • Gwybodaeth am faterion beirniadol a/neu dadleuon ynghylch testunau, neu a godwyd ganddynt.
  • Dealltwriaeth o effeithiau amgylchiadau hanesyddol a diwylliannol wrth lywio'r broses o lunio testunau a'u hystyr.
  • Gwybodaeth am eirfa a therminoleg feirniadol briodol
  • Ymwybyddiaeth o ddulliau a phrosesau golygyddol.
  • Deall, drwy ddarllen a'ch arferion eich hun, elfennau allweddol ffurfiau ysgrifennu gwahanol.
  • Y gallu i lunio gwaith llenyddol gwreiddiol mewn amrywiaeth o ffurfiau a genres.
  • Ymwybyddiaeth o dôn, ffurfioldeb, strwythur, genre a chynulleidfa yn eich ysgrifennu eich hun.

Sgiliau deallusol

  • Y gallu i fynd i'r afael â syniadau cymhleth gydag eglurder.
  • Gallu i ddadansoddi a dehongli deunydd o amrywiaeth o gyfnodau llenyddol.
  • Y gallu i ddefnyddio sgiliau hanfodol lefel uchel o ddadansoddiad agos wrth drin testunau llenyddol.
  • Y gallu i ddewis a threfnu deunydd yn bwrpasol a chymhellol.
  • Y gallu i ddefnyddio barn pobl eraill wrth ddatblygu a gwella arferion; llunio ymatebion ymarferol ystyriol i ddyfarniadau beirniadol eraill, wrth ddatblygu dadansoddiad beirniadol hael a thrylwyr mewn adolygiad cymheiriaid a gweithgareddau gweithdai.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol

  • Sgiliau cyfathrebu uwch (yn ysgrifenedig ac ar lafar).
  • Y gallu i roi gwerthusiad beirniadol effeithlon o ddogfennau mewn arddulliau amrywiol.
  • Y gallu i roi adborth ar lafar ac yn ysgrifenedig ar waith pobl eraill.
  • Y gallu i gael mynediad at ddata electronig, ei ddefnyddio a'i werthuso.
  • Y gallu i ryngweithio'n effeithiol ag eraill, mewn sefyllfaoedd gwaith tîm neu grŵp.

Sgiliau trosglwyddadwy

  • Y gallu i fynd i'r afael â syniadau cymhleth gydag eglurder.
  • Y gallu i ddewis a threfnu deunydd yn bwrpasol a chymhellol.
  • Cynllunio, trefnu a chyflwyno gwaith o fewn terfyn amser.
  • Dylech gychwyn a chymryd cyfrifoldeb am brosiectau annibynnol.
  • Ymateb yn greadigol ac yn ddychmygol i dasgau ymchwil.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae llawer o'n graddedigion delfrydol yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn meysydd ysgrifennu llawrydd, y byd academaidd, addysgu, cyhoeddi, rheoli celfyddydau a gweinyddu, cysylltiadau cyhoeddus a newyddiaduraeth.

Mae llawer o gyflogwyr yn croesawu graddedigion sydd â sgiliau llythrennedd lefel uchel. Ynghyd â sgiliau o'r fath, mae ein myfyrwyr yn datblygu'r math o ddealltwriaeth o'r broses greadigol sy'n cael ei gwerthfawrogi gan fusnesau, o ddylunio i werthu.

Mae ysgrifennu dychmygus yn trosglwyddo'n rhwydd i feysydd hysbysebu a thwristiaeth yn ogystal â chwmnïau hysbysebu. Ar ôl graddio o'n Hysgol bydd gennych bortffolio o ysgrifennu creadigol i'w ddangos i ddarpar gyflogwyr.

Mae ein graddedigion yn dod o hyd i swyddi mewn Adnoddau Dynol, y fasnach lyfrau, meysydd proffesiynol fel llyfrgellyddiaeth ond hefyd llywodraeth leol a meysydd eraill o fywyd cyhoeddus sy'n ymwneud â chyfathrebu.

Lleoliadau

Mae gennym bortffolio sefydledig o interniaethau gyda llenyddiaeth/cylchronau diwylliannol yn seiliedig ar Gymru y gall myfyrwyr eu defnyddio.

Gallwch hefyd wneud cais ar gyfer cyfnewidiadau gyda'r amrywiaeth o bartneriaid Prifysgol drwy Ganolfan Fyd-eang y Brifysgol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.