Ewch i’r prif gynnwys

Iaith Saesneg a Ieithyddiaeth (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

globe

Treuliwch semester dramor

Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd mewn bywyd a dysg.

location

Wedi'i deilwra i chi

Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.

building

Profiad yn y diwydiant

Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.

book

Dysgu gan y gorau

Cewch elwa o gynnwys a arweinir gan ymchwil; a dysgu gan ysgolheigion ieithyddiaeth ac iaith byd-enwog.

Mae ein gradd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth yn cyfuno astudiaeth systematig o allu dynol o ran iaith yn ei holl fynegiadau ledled y byd â ffocws ychwanegol ar yr iaith Saesneg.

Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar iaith ddynol a sut mae gwybodaeth ieithyddol yn cael ei chaffael, ei chynhyrchu a'i deall mewn gwahanol gyd-destunau. Byddwch yn darganfod yr hyn sy’n gyffredin i bob iaith, yr hyn sy'n eu gwahaniaethu, a sut y maent yn newid dros amser. Byddwch hefyd yn dod i werthfawrogi amrywiaethau mewn iaith, gan gynnwys newidiadau hanesyddol, acenion, cyweiriau cymdeithasol penodol, yn ogystal â gwahaniaethau rhwng iaith lafar ac ysgrifenedig.

Gan feithrin sgiliau gwella gyrfa, byddwch yn dod yn fedrus o ran cynhyrchu testunau amlfoddol (meddyliwch am wefannau, blogiau a chloriau cylchgronau) gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd penodol. Byddwch yn dysgu sgiliau o ddadansoddi data rhifiadol neu leferydd yn ffonetig i ddehongli patrymau mewn casgliadau mawr o iaith ysgrifenedig a/neu lafar a elwir yn gorpora.

Mae gennym fodiwlau arbenigol gyda gyrfaoedd mewn addysg, yn y cyfryngau, ym maes iechyd, a’r broses gyfreithiol mewn golwg. Mae ein cymuned yn groesawgar, yn rhyngwladol o ran ei safbwynt ac yn gartref i'r Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu sy'n ennyn parch yn fyd-eang. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn meithrin amgylchedd cyfeillgar, personol a chefnogol, ac yn cynnal cyfarfodydd un-i-un yn rheolaidd.

Mae astudio am radd mewn Saesneg Iaith a Ieithyddiaeth yn datblygu galluoedd i ddadansoddi a beirniadu'r iaith sydd o'n hamgylch ond mae hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau cadarn. Mae ein graddedigion yn adnabyddus am eu gallu i gyfuno'r gorau o'r Dyniaethau (fel cyfathrebu'n effeithiol) gyda'r gorau o sgiliau gwyddoniaeth gymdeithasol (dadansoddiad technegol drwy drin   data yn systematig ac yn feirniadol er enghraifft).

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Ym mhob blwyddyn o'r Rhaglen, byddwch yn ymgymryd â gwerth 120 credyd o fodiwlau, sy'n gyfanswm o 360 credyd am dair blynedd eich gradd.

Rhaid i chi basio bob blwyddyn academaidd cyn cael symud ymlaen. Mae dosbarthiad eich gradd yn seiliedig ar y graddau rydych chi’n eu hennill ym mlynyddoedd dau a thri.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio 120 o gredydau bob blwyddyn.

Mae dau fodiwl craidd yn rhoi sylfaen ardderchog o ran disgrifio, dadansoddi a dehongli iaith. Byddwch hefyd yn cymryd pedwar modiwl sy'n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar iaith Saesneg a/neu gyfathrebu i gwblhau'r credydau sy'n ofynnol.

Os dymunwch, gallwch ddewis astudio dau fodiwl mewn llenyddiaeth Saesneg yn rhan o'ch blwyddyn gyntaf, yn amodol ar y Safon Uwch a enillir mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith a Llenyddiaeth.

Blwyddyn dau

Byddwch yn astudio gwerth 120 o gredydau.

Dau fodiwl craidd yn cwmpasu holl elfennau hanfodol seineg a ffonoleg, gramadeg a semanteg geiriadurol (ystyr geiriau), gan adeiladu stoc gyffredin o wybodaeth a dealltwriaeth mewn Saesneg iaith ac ieithyddiaeth.

Mae eich modiwlau dewisol yn rhoi gwybodaeth sylfaenol gadarn mewn ystod o feysydd astudio allweddol mewn Saesneg iaith. Ar hyn o bryd, mae'r pynciau yn cynnwys disgwrs, sosioieithyddiaeth, hanes Saesneg, datblygiad iaith plant, llythrennedd ddigidol, dulliau ymchwil, a nodweddion arddull. Bydd rhai o'r modiwlau hyn yn cael eu hargymell yn fawr, oherwydd eu pwyslais arbennig ar faterion ieithyddol.

Mae'r hyfforddiant a ddarperir drwy’r modiwlau hyn yn eich paratoi i wneud eich dewis o blith y modiwlau 'estynedig' mwy arbenigol, dan arweiniad ymchwil, sydd ar gael yn eich blwyddyn olaf.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Seiniau LleferyddSE133620 Credydau
Geiriau ac ystyrSE137020 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dulliau YmchwilSE131820 Credydau
DrafodaethSE136220 Credydau
SosioieithyddiaethSE136920 Credydau
Hanes SaesnegSE139820 Credydau
Iaith a RhywSE140320 Credydau
Arddull a GenreSE141620 Credydau
Caffael Iaith Gyntaf ac Ail IaithSE142220 Credydau
Astudio Rhyngwladol Dramor (60 credyd) GwanwynSE625260 Credydau

Blwyddyn tri

Byddwch yn gwneud 120 credyd, gyda mwy o hyblygrwydd yn eich dewis o fodiwlau.

Cynigir modiwlau yn y meysydd pwnc y mae staff yn gweithio ynddynt ar hyn o bryd, gan roi cipolwg unigryw i chi ar rywfaint o’r gwaith mwyaf diweddar ac arloesol mewn ymchwil Saesneg iaith. Mae'r modiwlau hyn yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i chi gasglu a dadansoddi eich data eich hun.

Ar hyn o bryd, mae'r modiwlau'n mynd i'r afael â meysydd fel anhwylderau cyfathrebu, ieithyddiaeth fforensig, dysgu ac addysgu iaith, iaith ac ideoleg, ieithyddiaeth corpws, trafodaethau yn y cyfryngau, cyfathrebu proffesiynol a rhyng-ddiwylliannol, a chyfathrebu mewn perthnasoedd. Bydd rhai o'r modiwlau hyn yn cael eu hargymell i chi yn fawr, oherwydd eu pwyslais arbennig ar faterion ieithyddol.

Os ydych yn dymuno, gallwch ymgymryd â phrosiect (20 credyd) neu draethawd estynedig (40 credyd) yn y maes ymchwil o'ch dewis, yn amodol ar berfformiad yn yr ail flwyddyn.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 Credydau
Ieithyddiaeth FforensigSE132420 Credydau
Cyfathrebu mewn PerthynasSE134420 Credydau
Anhwylderau CyfathrebuSE134720 Credydau
Traethawd Hir mewn Iaith a Chyfathrebu 1SE138320 Credydau
Traethawd Hir mewn Iaith a Chyfathrebu 2SE138420 Credydau
Traethawd Hir EstynedigSE138540 Credydau
Patrymau IaithSE139620 Credydau
Trafodaeth CyfryngauSE140820 Credydau
Y Cofiant GraffigSE140920 Credydau
Dulliau Arbrofol o SeicoieithyddiaethSE141820 Credydau
Iaith a diwylliant poblogaiddSE141920 Credydau
Ymadroddion mewn Theori a ChymhwysoSE142120 Credydau
Saesneg y BydSE142320 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Defnyddir ystod eang o arddulliau dysgu ac addysgu yn ystod y rhaglen. Byddwch yn mynychu darlithoedd, yn cymryd rhan mewn seminarau ac yn cynnal ymchwil annibynnol i baratoi ar gyfer pob sesiwn. Mae modiwlau fel arfer yn para un semester ac yn bennaf maent yn cynnwys dwy ddarlith ac un seminar yr wythnos, yn ogystal ag astudiaeth annibynnol.

Bydd y gweithgareddau dysgu yn amrywio o un modiwl i’r nesaf lle bo’n briodol, ond gallai’r rhain gynnwys gweithgareddau fel: darlithoedd rhyngweithiol, trafodaethau seminar am destunau/pynciau a baratowyd, cyflwyniadau myfyrwyr neu gyflwyniadau grŵp, gwaith grŵp bach o fewn seminarau. Bydd disgwyl i chi wneud y gwaith darllen a pharatoi perthnasol arall i’ch galluogi chi chwarae rhan lawn yn y gweithgareddau hyn ac anogir chi i edrych ar adnoddau’r llyfrgell fel y bo’n briodol.
Os byddwch yn dewis gwneud traethawd hir neu draethawd estynedig ym mlwyddyn tri byddwch yn gwneud ymchwil annibynnol ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi, gyda chymorth a goruchwyliaeth reolaidd gan ddarlithydd ag arbenigedd yn y maes pwnc hwnnw.

Sut y caf fy nghefnogi?

Cewch diwtor personol a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs a’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Byddan nhw hefyd yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf os ydych chi’n profi unrhyw anawsterau. Pob semester, bydd gennych ""Gyfarfod Cynnydd Academaidd a Datblygiad Personol"" wedi'i drefnu gyda'ch tiwtor personol.

Mae gennym Swyddog Cyflogadwyedd, Interniaethau a Lleoliadau Gwaith dynodedig, sy'n sicrhau bod unrhyw brofiad gwaith a lleoliadau gwaith yn cael eu hysbysebu i'r holl fyfyrwyr. Mae aelod staff academaidd arall yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau fod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau. Ceir hefyd Gydlynydd Astudio Dramor sy'n hwyluso'r opsiwn o dreulio rhan o'ch astudiaeth mewn sefydliad dramor.

Mae’r holl fodiwlau’n defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol; Dysgu Canolog (Learning Central). Yma gallwch chi ymuno â fforymau trafod a dod o hyd i ddeunydd cwrs gan gynnwys, dolenni at ddeunydd darllen craidd a deunyddiau eraill cysylltiedig, profion ar-lein, hen bapurau arholiad ac enghreifftiau o waith cynfyfyrwyr.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunanasesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

A range of formative and summative assessment methods are used, including essays, examinations, presentations, portfolios and creative assignments.

Essays and examinations are used not only for assessment purposes but also as a means of developing your capacities to gather, organise, evaluate and deploy relevant information and ideas from a variety of sources in reasoned arguments. Dedicated essay workshops and individual advice enable you to produce your best work, while written feedback on essays feeds forward into future work, enabling you to develop your strengths and address any weaker areas.

The optional final-year dissertation provides you with the opportunity to investigate a specific topic of interest to you in depth and to acquire detailed knowledge about a particular field of study, to use your initiative in the collection and presentation of material and present a clear, cogent argument and draw appropriate conclusions.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • Deall pynciau cymhleth gyda hyder.
  • Gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth.
  • Cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol.
  • nodi a defnyddio data perthnasol.
  • Cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.
  • Defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn arddangos:

  • Y gallu i ddadansoddi a thrafod meysydd craidd iaith ac ieithyddiaeth Saesneg, gan gynnwys seineg, gramadeg, semanteg, pragmateg a dadansoddi disgwrs.
  • Y gallu i nodi a dehongli ystod o ffenomenau ieithyddol empirig a defnyddio'r derminoleg ddisgrifiadol berthnasol.
  • Y gallu i gysyniadoli rôl ganolog iaith wrth lunio strwythurau pŵer a’u parhau.
  • Y gallu i ddadansoddi ac asesu sut mae gwahanol gyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol yn effeithio ar natur iaith ac ystyr.

Sgiliau Deallusol:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn arddangos:

  • Y gallu i werthuso syniadau, dadleuon a ymchwil empirig yn feirniadol.
  • Y gallu i gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn glir ac yn gydlynol mewn fformatau ysgrifenedig a llafar.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r Rhaglen yn gallu:

  • Y gallu i gasglu, gwerthuso, cyfuno a dehongli data ansoddol a/neu feintiol.
  • Y gallu i werthuso effaith defnyddio iaith mewn cyd-destun penodol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn arddangos:

  • Y gallu i gynnal dadl feirniadol sy'n ymateb i gonfensiynau penodol y genre.
  • Yr hyder i fynd i'r afael â phecynnau meddalwedd anghyfarwydd a chaffael sgiliau TG newydd.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae ein graddau mewn Saesneg Iaith ac Ieithyddiaeth yn cyfuno’r goreuon o blith sgiliau dyniaethau (hyblygrwydd, cyfathrebu, beirniadu) â sgiliau gwyddorau cymdeithasol (dadansoddi technegol a dull systematig). Mae cyrchfannau cyffredin yn cynnwys addysgu ysgolion cynradd ac uwchradd, addysgu Saesneg fel iaith dramor, therapi iaith a lleferydd, newyddiaduraeth (digidol), y gwasanaeth sifil a gweinyddiaeth gyhoeddus.

Mae'r swyddi mwyaf cyffredin/poblogaidd ar gyfer graddedigion y rhaglen hon yn cynnwys:

  • Athro Saesneg
  • Cynorthwy-ydd ymchwil
  • Gweithiwr proffesiynol yn y cyfryngau
  • Golygydd
  • Cynorthwy-ydd therapi iaith a lleferydd
  • Gweithiwr proffesiynol ym meysydd busnes a gwasanaethau cyhoeddus
  • Technoleg gwybodaeth a'r proffesiwn telathrebu

Yn ystod eich gradd gallwch fanteisio'n llawn ar yr ystod eang o gyfleoedd a ddarperir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.