Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Sifil (MEng)

  • Maes pwnc: Peirianneg
  • Côd UCAS: H207
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

people

Sgiliau proffesiynol

Mae prosiectau grŵp gyda myfyrwyr peirianneg o ddisgyblaethau eraill yn adlewyrchu dynameg tîm peirianneg proffesiynol a byddant yn eich helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol.

structure

Cwrs hyblyg

Gallwch deilwra eich cwrs gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau eich hun gyda'r hyblygrwydd i ddewis lle rydych am ganolbwyntio eich astudiaethau’n ddiweddarach yn y cwrs. Os byddwch yn newid eich meddwl am eich rhaglen, yn y rhan fwyaf o achosion gallwch ofyn i newid ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.

briefcase

Cynnwys a arweinir gan ddiwydiant

Caiff cynnwys ein cwrs ei lywio gan gydweithrediad diwydiannol a'i gyflwyno gan staff academaidd blaenllaw, y mae llawer ohonynt yn Beirianwyr Siartredig neu wedi gweithio mewn diwydiant.

star

Elfen ddylunio gref

Mae elfen ddylunio gref drwy gydol y cwrs, a bydd gennych ddigonedd o gyfleoedd ar gyfer gwaith ymarferol yn ein gofod stiwdio dylunio dynodedig, ein labordai arbenigol, ein gweithdai a’n hystafelloedd cyfrifiaduron. Bydd cyfle i'r rhai sy'n astudio yn y ddisgyblaeth peirianneg sifil fynd ar deithiau maes diwydiannol.

certificate

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Wedi'i achredu gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant a Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion cyflawni'n llawn y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig.

Mae peirianwyr sifil yn dylunio, adeiladu a chynnal y gofodau a'r lleoedd sy'n siapio ein bodolaeth o ddydd i ddydd. Maent yn ymwneud ag adeiladu a chynnal a chadw adeiladau, ffyrdd, rheilffyrdd, pontydd, cyflenwad dŵr a rhwydweithiau gwastraff.

Mae’r cwrs achrededig hwn yn darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i ddod yn beiriannydd sifil sy’n barod am waith. Trwy sesiynau labordy, teithiau maes, prosiectau unigol a dosbarthiadau dylunio, byddwch yn ymgorffori'r wybodaeth o'ch darlithoedd a'ch tiwtorialau ac yn datblygu eich galluoedd ymarferol mewn tirfesur a dylunio.

Byddwch yn dewis o blith amrywiaeth o broblemau peirianneg dilys yn y byd go iawn a senarios sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, i weithio arnynt yn unigol a chyda pheirianwyr-fyfyrwyr o ddisgyblaethau eraill. Mae gwaith grŵp yn adlewyrchu perthnasoedd tîm peirianneg a bydd yn eich helpu i feithrin sgiliau proffesiynol, megis gwaith tîm a chyfathrebu. Mae ein mannau creu mynediad agored yn darparu lle i chi ddylunio, creu a chydweithio.

Mae rhaglen radd MEng yn eich galluogi i ehangu a chryfhau eich gwybodaeth am beirianneg bensaernïol, a byddwch yn elwa ar ddysgu lefel uwch mewn dylunio a rheoli yn ogystal â phrosiect dylunio peirianneg amlddisgyblaethol.

Achrediadau

Maes pwnc: Peirianneg

  • academic-schoolYr Ysgol Peirianneg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4656
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd A mewn Mathemateg. Bydd angen i chi basio’r elfen ymarferol o bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae’r costau gwaith maes ar gyfer eich modiwlau craidd wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi gyfrannu at fwyd os caiff ei ddarparu yn ystod y daith.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac amrywiaeth o adnoddau dysgu ychwanegol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn gwrs gradd pedair blynedd amser llawn, gyda modiwlau craidd yn bennaf ym Mlynyddoedd Un a Dau. Mae gan Flynyddoedd Tri a Phedwar gydbwysedd a ddewiswyd yn ofalus o fodiwlau craidd a dewisol, sy'n eich galluogi i ddewis pynciau i gyd-fynd â'ch diddordebau personol neu'ch llwybr gyrfa dewisol.

Mae angen i chi ennill 120 credyd y flwyddyn.

Bydd angen i fyfyrwyr sy'n dymuno symud ymlaen i’r rhaglen MEng ar ddiwedd Blwyddyn Dau gyflawni marc o 60% neu uwch ar gyfer y flwyddyn ar gyfartaledd, neu symud ymlaen i un o'n dwy raglen BEng fel arall. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.

Blwyddyn dau

Mae’r ail flwyddyn eto'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.

Mae cwrs maes preswyl oddi ar y safle yn cael ei gynnal am bum niwrnod yn semester y gwanwyn, fel rhan o'r modiwl Astudiaethau Maes o'r Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig.

Blwyddyn tri

Mae'r drydedd flwyddyn hefyd yn cynnwys prosiect mawr, sy’n werth chwarter y flwyddyn fel arfer.  Byddwch yn gweithio'n unigol ar y prosiect, ochr yn ochr ag aelod o staff goruchwylio.

Mae yna fodiwlau craidd eraill ond mae yna fodiwlau dewisol hefyd, gan adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn y blynyddoedd cynharach.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rheoli Adeiladu ac AdeiladuEN310410 Credydau
ProsiectEN330030 Credydau
Dadansoddiad StrwythurolEN330210 Credydau
Peirianneg DŵrEN330310 Credydau
Peirianneg GeodechnegolEN330410 Credydau
Astudiaethau Dylunio StrwythurolEN330710 Credydau
Dylunio Peirianneg SifilEN330910 Credydau

Blwyddyn pedwar

Byddwch yn gwneud prosiect grŵp yn y bedwaredd flwyddyn, sy'n werth chwarter yr asesiad cyfan.

Mae sawl modiwl craidd a dewisol hefyd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Taith maes peirianneg sifil
Mae myfyrwyr yn dysgu arferion adeiladu arloesol o fewn cyd-destun cynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol a chymdeithasol ar daith maes i safle adeiladu mawr yn y DU.

Dysgu ac asesu

Addysgir trwy ddarlithoedd a thiwtorialau, ac ategir hyn gan waith ymarferol mewn labordai a gwaith prosiect. Mae yna lyfrgell gyfoethog o ddeunyddiau dysgu ar-lein, wedi'i deilwra ar gyfer pob gwers ym mhob modiwl, gan gynnwys fideos cyfarwyddiadol/gwybodaeth, nodiadau astudio, cwestiynau ymarfer dan arweiniad a rhai cwisiau ar-lein.

Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 30 credyd ym Mlwyddyn Tri, a dyrennir goruchwyliwr ar ei gyfer o blith y staff addysgu.

Bydd cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr trwy ffeiriau gyrfaoedd a darlithoedd gwadd. Bydd siaradwyr o’r diwydiant yn cyflwyno darlithoedd rheolaidd am eu meysydd arbenigol. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle i chi glywed arbenigwyr yn siarad am bynciau sy’n berthnasol i’ch gradd, ac mae'n rhoi dealltwriaeth i chi o sut beth yw gweithio yn y diwydiant.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ym Mlwyddyn Un, dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor personol wrth law i'ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn rhai academaidd a materion phersonol, a hynny mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol. Ein nod yw eich helpu i oresgyn unrhyw broblem, ni waeth pa mor fach neu fawr ydyw, mor effeithlon a chyflym â phosibl.

Ar gyfer y prosiect 30 credyd ym Mlwyddyn Tri, bydd goruchwyliwr yn y maes arbenigedd ymchwil perthnasol yn cael ei ddyrannu i chi a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd i roi arweiniad a chyngor ar gynnydd yn y gwaith.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn yr Ysgol Peirianneg ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd ar gael hefyd. 

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.

Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth am asesiadau ysgrifenedig trwy gydol y cwrs.  Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn at grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar am gyflwyniadau a chyfraniadau at weithgareddau grŵp.

Sut caf fy asesu?

Bydd eich asesiadau'n amrywio i werthuso gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau proffesiynol a sgiliau allweddol.  Yn bennaf, asesir ym Mlwyddyn Un trwy brofion yn ystod y flwyddyn, adroddiadau byr, portffolio datblygiad proffesiynol, cyflwyniadau a dau arholiad ysgrifenedig. Mae'r amrywiaeth hwn o asesiadau'n cael eu cynnal i'r blynyddoedd uwch gyda newid graddol o brofion i arholiadau. Caiff y prosiect unigol mawr ym Mlwyddyn Tri ei asesu gan adroddiad traethawd hir, a bydd prosiectau grŵp ym Mlwyddyn Pedwar yn cael eu hasesu trwy adroddiadau prosiect aml-gydran mawr.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud.

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

KU1 Cymhwyso gwybodaeth gynhwysfawr am fathemateg, ystadegau, gwyddoniaeth naturiol ac egwyddorion peirianneg i ddatrys problemau cymhleth mewn peirianneg sifil. Bydd llawer o'r wybodaeth ar flaen y gad yn y pwnc astudio penodol ac yn cael ei llywio gan ymwybyddiaeth feirniadol o ddatblygiadau newydd a chyd-destun ehangach peirianneg sifil.

KU2 Llunio a dadansoddi problemau cymhleth i ddod i gasgliadau wedi'u cadarnhau. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso’r data sydd ar gael gan ddefnyddio egwyddorion cyntaf mathemateg, ystadegau, gwyddoniaeth naturiol ac egwyddorion peirianneg, a defnyddio barn beirianyddol i weithio gyda gwybodaeth a allai fod yn ansicr neu’n anghyflawn, gan drafod cyfyngiadau’r technegau a ddefnyddir.

KU3 Gwerthuso effaith amgylcheddol a chymdeithasol atebion i broblemau peirianneg sifil cymhleth (gan gynnwys cylch bywyd cyfan cynnyrch neu broses) a lleihau effeithiau andwyol.

KU4 Trafod rôl systemau rheoli ansawdd a gwelliant parhaus yng nghyd-destun problemau peirianneg sifil cymhleth.

KU5 Cymhwyso gwybodaeth am egwyddorion rheoli peirianneg, cyd-destunau masnachol, rheoli prosiectau a newid, a materion cyfreithiol perthnasol gan gynnwys hawliau eiddo deallusol.

Sgiliau Deallusol:

IS1 Dewis a chymhwyso technegau cyfrifiadurol a dadansoddol priodol, gan gydnabod/trafod cyfyngiadau'r technegau a ddefnyddir, ar gyfer cyfuno problemau peirianneg sifil, a llunio barn ar gamau gweithredu priodol.

IS2m Dewis a gwerthuso llenyddiaeth dechnegol a ffynonellau eraill o wybodaeth yn feirniadol i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth.

IS3m Dylunio datrysiadau ar gyfer problemau peirianneg sifil cymhleth sy’n rhoi tystiolaeth o wreiddioldeb ac yn bodloni cyfuniad o anghenion cymdeithasol, defnyddwyr, busnes a chwsmeriaid fel y bo’n briodol, gan ystyried iechyd a diogelwch, amrywiaeth, cynhwysiant, materion diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol a masnachol, codau ymarfer a safonau diwydiant

IS4 Cymhwyso dull integredig neu systemau i ddatrys problemau cymhleth.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

PS1 Dewis a chymhwyso sgiliau labordy a gweithdy ymarferol priodol mewn peirianneg sifil, yn enwedig wrth ddyfeisio dulliau dadansoddol neu arbrofol, i ymchwilio i broblemau cymhleth.

PS2 Dewis, cymhwyso a gwerthuso deunyddiau, offer, technolegau a phrosesau peirianneg priodol, gan gydnabod eu cyfyngiadau.

PS3 Defnyddio proses rheoli risg i nodi, gwerthuso a lliniaru risgiau (effeithiau ansicrwydd) sy'n gysylltiedig â phrosiect neu weithgaredd peirianneg sifil penodol.

PS4 Mabwysiadu dull cyfannol a chymesur o liniaru risgiau diogelwch mewn peirianneg sifil.

PS5m Integreiddio gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a chreadigrwydd i ddatrys ystod eang o broblemau peirianneg, gan gynnwys rhai newydd neu gymhleth, yn enwedig trwy gymryd rhan mewn prosiectau dylunio mewn grŵp.

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:

TS1 Cyfathrebu'n effeithiol am faterion peirianneg cymhleth â chynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol, gan werthuso effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir.

TS2 Nodi a dadansoddi pryderon moesegol a gwneud dewisiadau moesegol rhesymegol ar sail codau ymddygiad proffesiynol.

TS3 Mabwysiadu agwedd gynhwysol at ymarfer peirianneg a chydnabod/cyfleu cyfrifoldebau, buddion a phwysigrwydd cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

TS4m Gweithio'n effeithiol yn unigol, ac fel aelod neu arweinydd tîm, a gwerthuso effeithiolrwydd perfformiad eich hun a pherfformiad tîm.

TS5 Cynllunio a chofnodi gwerthusiad myfyriol o hunanddysgu a datblygiad fel sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes/DPP.

Myfyrwyr yn gweithio ar brosiect grŵp
Myfyrwyr peirianneg sifil yn cydweithio fel rhan o brosiect grŵp bach.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Cyflogir graddedigion y cwrs hwn yn bennaf yn y diwydiant peirianneg sifil gan gwmnïau ymgynghorol a chontractwyr mawr fel Syr Robert McAlpine, Ramboll, Arup, Mott McDonald ac eraill. Ymhlith y rolau nodweddiadol mae peiriannydd sifil graddedig, peiriannydd safle neu beiriannydd dylunio, a byddant yn gweithio ledled y Deyrnas Unedig ac ymhellach oddi cartref hefyd.

Mae nifer o raddedigion wedi dewis astudio ymhellach, naill ai ar lefel MSc neu PhD, yng Nghaerdydd ac mewn sefydliadau ledled y DU a thu hwnt.

Mae eraill wedi dewis gweithio i gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhai enghreifftiau diweddar yn cynnwys cwmnïau yn y sectorau ariannol, cyfryngau a phetrocemegol gyda chyrchfannau gan gynnwys Deloitte, PwC, Virgin a Shell.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Peiriannydd Sifil
  • Dadansoddwr Technoleg
  • Rheolwr Prosiect

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.