Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli Busnes a Chymraeg gyda Blwyddyn o Leoliad Proffesiynol (BSc)

  • Meysydd pwnc: Rheoli busnes, Cymraeg
  • Côd UCAS: NQ28
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod

Pam astudio'r cwrs hwn

book

Dysgu gan y gorau

Manteisiwch ar arbenigedd a chefnogaeth staff sy’n cynnal ymchwil mewn ysgol sydd â'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil.

location

Dilynwch eich llwybr eich hun

Y rhyddid i bersonoli eich gradd; cewch arbenigo neu gyfuno marchnata, adnoddau dynol, rheoli rhyngwladol, logisteg a gweithrediadau.

people

Cymuned lewyrchus

Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.

briefcase

Blwyddyn ar leoliad

Cewch brofiad o ddiwydiant yn eich dewis faes; gan ddatblygu sgiliau a chysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

certificate

Nodwyd am ragoriaeth

Achrededig gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB).

Mae hwn yn gwrs arloesol a modern hwn wedi'i ddylunio i gyfuno prif elfennau'r radd Rheoli Busnes gydag astudio’r Gymraeg a'i diwylliant, gan eich paratoi ar gyfer cyfleoedd o fewn y farchnad lafur newidiol yng Nghymru. Bwriad y cyfuniad hwn yw gwella'r ystod o gyfleoedd cyflogaeth proffesiynol sy'n agored i chi ar ôl graddio wrth ddarparu addysg amlddisgyblaethol ac eang ar draws y disgyblaethau rheoli busnes a Chymru.

Drwy astudio’r elfen Rheoli Busnes byddwch yn datblygu gwybodaeth drylwyr o’r prif ddisgyblaethau sy’n berthnasol i reoli a busnes, ynghyd â gwerthfawrogiad o’r gwahanol feysydd gweithrediadol sy’n rhan o sefydliadau busnes. Mae'r sylfaen gadarn o wybodaeth y byddwch chi'n ei hennill yn eich paratoi ac yn eich galluogi i arbenigo maes o law mewn meysydd sy'n ddiddorol i chi ac sy'n adlewyrchu eich dyheadau gyrfaol. Drwy astudio’r Gymraeg, byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel yn yr iaith ei hun yn ogystal â datblygu dealltwriaeth drylwyr o’i lle yn y Gymru gyfoes. Ar ôl y flwyddyn gyntaf cewch gyfle i arbenigo trwy ddewis o ystod o fodiwlau dewisol sy'n ymdrin ag amrywiaeth o feysydd sy'n berthnasol i fusnes a rheolaeth. Mae'r rhain yn cynnwys cynllunio a pholisi iaith, cymdeithaseg iaith, sosioieithyddiaeth, technoleg iaith, a chyfieithu proffesiynol. Byddwch hefyd yn ymgysylltu â phynciau llenyddol, ieithyddol a diwylliannol.

Ceir nifer o synergeddau rhwng dwy elfen y radd, megis rôl y Gymraeg yn y gweithle modern, ei lle mewn economi ddigidol, a rôl marchnata yn ei hyrwyddo. Caerdydd yw prifddinas gwleidyddiaeth, busnes a chyfryngau Cymru, a bydd y rhaglen yn gallu manteisio ar y cysylltiadau agos sydd gan y ddwy ysgol er mwyn ehangu eich astudiaethau academaidd drwy ddealltwriaeth ymarferol.

Mae galw mawr am raddedigion sydd â sgiliau lefel uchel mewn rheoli busnes a Chymraeg a byddant mewn sefyllfa dda i wneud cyfraniad gwerthfawr i ddatblygiad economaidd, masnachol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol.

Bydd y rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ym maes busnes a'r gallu i weithio'n ddwyieithog ar lefel uchel yn Gymraeg a Saesneg.

Yn gyffredinol, mae'r radd mewn Rheoli Busnes a'r Gymraeg gyda Blwyddyn ar Leoliad Gwaith Proffesiynol yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn busnes gyda'r gallu i weithio'n ddwyieithog ar lefel uchel yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Achrediadau

Maes pwnc: Rheoli busnes

  • academic-schoolYsgol Busnes Caerdydd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Maes pwnc: Cymraeg

  • academic-schoolYsgol y Gymraeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd B mewn Cymraeg iaith gyntaf ar lefel Safon Uwch neu UG, neu bynciau eraill a astudir trwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yw myfyrwyr Cymraeg ail iaith yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i chi fod â sgiliau amlwg yn y Gymraeg hefyd.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Busnes. Rhaid i chi fod â sgiliau amlwg yn y Gymraeg hefyd.

Lefel T

Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,800 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £4,540 Dim
Blwyddyn pedwar £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Na, nid oes costau ychwanegol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cyflwynir y rhaglen drwy amrywiaeth o fodiwlau craidd a dewisol sy'n cynnwys darlithoedd a gaiff eu haddysgu wedi’u cefnogi â seminarau a mathau eraill o addysgu grwpiau bach ac astudio dan arweiniad. Ym mhob blwyddyn, mae gofyn i fyfyrwyr gymryd cyfwerth â chwe modiwl 20 credyd, pedwar ‘Rheoli Busnes’ a dau ‘Cymraeg’. Yn yr ail flwyddyn a’r blynyddoedd olaf, mae myfyrwyr yn dechrau arbenigo drwy astudio nifer o fodiwlau dewisol. Treulir blwyddyn 3 y rhaglen ar leoliad gwaith proffesiynol.

Bydd yr elfen ‘Cymraeg’ yn cael ei haddysgu yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae holl raglenni Rheoli Busnes BSc yn rhannu blwyddyn gyntaf eithaf cyffredinol, lle byddwch yn astudio modiwlau gorfodol ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau busnes, er mwyn datblygu dealltwriaeth eang o gyd-destunau a phrosesau busnes a rheoli.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae'r flwyddyn gyntaf yn rhoi sail gadarn ym mhynciau rheoli a busnes, ynghyd â dau fodiwl yn y Gymraeg sy’n rhoi pwyslais ar ddatblygu sgiliau ym meysydd iaith a llenyddiaeth.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyflwyniad i GyfrifegBS150320 Credydau
Rheolaeth: Theori a ThystiolaethBS151120 Credydau
Pobl mewn sefydliadauBS152920 Credydau
Technoleg a'r Oes DdigidolBS153210 Credydau
Egwyddorion Marchnata a StrategaethBS163010 Credydau
Iaith ac YstyrCY160020 Credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 Credydau

Blwyddyn dau

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar y sylfaen a ddatblygwyd yn y flwyddyn gyntaf, gyda myfyrwyr yn canolbwyntio ar fodiwlau Rheoli Busnes craidd, tra bo’r cynnwys ‘Cymraeg’ yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth eang o ddatblygiad yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Heriau mewn rheoli ac arwain sefydliadauBS200220 Credydau
Rhagoriaeth mewn Rheoli GweithrediadauBS200320 Credydau
Marchnata a StrategaethBS254020 Credydau
Rheoli PoblBS254220 Credydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cymraeg ProffesiynolCY221520 Credydau
Myrddin a MerlinCY235020 Credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY241020 Credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY261020 Credydau
Tu Hwnt i'r TudalenCY270220 Credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY281020 Credydau
Caffael IaithCY291020 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Caiff blwyddyn tri ei threulio ar Leoliad Proffesiynol. Gall hyn fod yn rhan hynod werthfawr o'ch rhaglen gan fod llawer o fanteision y gallwch eu cael ohoni:

  • Gallwch gael cymorth drwy gydol y broses ymgeisio a recriwtio drwy weithdai wedi'u teilwra a chyngor un-i-un.
  • Byddwch yn cael eich cefnogi tra byddwch ar leoliad. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ymgartrefu yn eu lleoliadau yn gyflym iawn, ond rydym wrth law i helpu ac i roi cyngor os oes arnoch ein hangen ni.
  • Dylai eich perfformiad academaidd wella - mae myfyrwyr sy'n cwblhau blwyddyn ar leoliad yn perfformio'n well yn eu blwyddyn olaf yn gyffredinol.
  • Byddwch yn cael cipolwg ar sefydliad a gyrfa heb unrhyw ymrwymiadau tymor hir – gallai hyn eich helpu wrth gynllunio eich gyrfa yn y dyfodol.
  • Mae’n bosibl y cewch fynd i mewn i sefydliad ar lefel uwch ar ôl cwblhau eich astudiaethau.
  • Cewch gyfle i ennill arian wrth astudio.
  • Byddwch yn datblygu sgiliau newydd ac yn ychwanegu at eich CV.

Nid yw cael eich derbyn ar y rhaglen hon yn gwarantu y cewch leoliad gwaith. Chi fydd yn gyfrifol am sicrhau lleoliad gwaith, ond gall ein tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd eich cynorthwyo i ddod o hyd i rywbeth addas, ac wrth eich paratoi ar gyfer y broses ymgeisio a recriwtio.

Rydym yn eich cynghori'n gryf eich bod yn dechrau'r broses o ddod o hyd i leoliad cyn gynted â phosibl. Mae proses recriwtio llawer o gyflogwyr graddedig yn agor tua blwyddyn cyn i'r lleoliadau ddechrau mewn gwirionedd. Yn aml, mae nifer o gamau i fynd drwyddynt, gan gynnwys canolfannau profi ac asesu seicometrig, a gall y broses gyfan gymryd hyd at bedwar mis (weithiau'n hirach) o'r dechrau i'r diwedd; mae'n bwysig iawn eich bod yn dechrau chwilio'n gynnar.

Rydym yn annog pob myfyriwr yn gryf i ddod o hyd i leoliadau gwaith â thâl a'u trefnu. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried lleoliadau di-dâl ar yr amod ei bod yn amlwg bod y profiad yn eich galluogi i fodloni deilliannau dysgu'r rhaglen, a'ch bod yn gwbl ymwybodol o unrhyw oblygiadau ariannol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Lleoliad ProffesiynolBS4020120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Mae'r flwyddyn olaf yn ymestyn cynnwys busnes a rheoli'r radd gydag un modiwl dwbl craidd 20 credyd a 60 credyd o fodiwlau dewisol wedi hynny o'r rhestr o fodiwlau dewisol dwbl ac unigol o'r Ysgol Busnes. Mae’r modiwlau Cymraeg yn cynnwys 40 credyd o fodiwlau o'r rhestr o fodiwlau Cymraeg dewisol, gan gynnwys sawl un fydd yn uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, megis cynllunio iaith, sgriptio a chyfieithu.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rheolaeth StrategolBS354320 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Materion cyfoes mewn gwaith a chyflogaethBS300120 Credydau
Systemau Rheoli AsiaiddBS300220 Credydau
Entrepreneuriaeth a Busnesau NewyddBS300320 Credydau
Safbwyntiau Beirniadol i Reolwyr CyfoesBS300420 Credydau
Rheoli Cyflenwyr Strategol CyfrifolBS300610 Credydau
Strategaeth LogistegBS300710 Credydau
Logisteg yn yr Oes DdigidolBS300810 Credydau
Tueddiadau Cyfoes mewn Rheoli Cadwyn GyflenwiBS300910 Credydau
Dadansoddi a Gwella GweithrediadauBS301010 Credydau
Marchnata DigidolBS301210 Credydau
Deall a rheoli gwobrBS301310 Credydau
Pobl yn ymddwyn yn waelBS302310 Credydau
Rheoli Busnes BachBS302410 Credydau
Dadansoddiad Data ArchwiliadolBS351910 Credydau
Modelu mewn Gwyddoniaeth RheolaethBS361910 Credydau
Rheoli Cyfathrebu Hysbysebu a MarchnataBS372520 Credydau
Moeseg a moesoldeb busnesBS372820 Credydau
Rheoli Adnoddau Dynol RhyngwladolBS374020 Credydau
Busnes RhyngwladolBS374420 Credydau
Marchnata GwasanaethauBS374620 Credydau
Marchnata diwylliannolBS374710 Credydau
Dylunio BusnesBS374810 Credydau
Myrddin a MerlinCY335020 Credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY341020 Credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY361020 Credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 Credydau
Tu Hwnt i'r TudalenCY370220 Credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 Credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY381020 Credydau
Blas ar YmchwilCY390020 Credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 Credydau
Caffael IaithCY391020 Credydau
Stori Pwy? Cyfathrebu CymruMC362620 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Mae cyfadran a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes, yn dod â'r gwersi a ddysgwyd o'u hymchwil ddiweddaraf i'r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn cyfoes.

Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.

Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol Cymraeg yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os ydych yn profi unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd eich tiwtor yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Fel rheol, eich tiwtor personol sy'n ysgrifennu tystlythyrau ar gyfer ceisiadau am swydd, felly dylech roi gwybod i'ch tiwtor personol am sut rydych chi'n dod ymlaen. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.

I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hwb Myfyrwyr Israddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Caiff y modiwlau a addysgir o fewn y rhaglen oll eu hasesu trwy un neu ragor o'r asesiadau ar y cwrs canlynol;

  • Traethodau
  • Gwaith cwrs ysgrifenedig arall (gan gynnwys aseiniadau creadigol ac adroddiadau amrywiol, e.e. ar brofiad gwaith);
  • Arholiadau paratoad ac arholiadau dibaratoad ffurfiol;
  • Profion dosbarth (ysgrifenedig a/neu drwy gyfrifiadur);
  • Cyflwyniadau grŵp a rhai unigol;
  • Cofnodion dysgu;
  • Cyflwyniadau llafar;
  • Traethawd hir/prosiect.

Flwyddyn Lleoliad Proffesiynol

Mae’r Flwyddyn Lleoliad Proffesiynol yn cynnwys ymgymryd ag isafswm o 30 wythnos ar leoliad. Mae eich asesiad yn cynnwys adroddiad cychwynnol 1,000 gair (20%), adroddiad terfynol 2,500 gair (50%), cyflwyniad 15 munud (15%) ac Adroddiad Cyflogwr (15%). Bydd y marc cyfun yn cyfrannu 10% tuag at eich gradd gyffredinol (law yn llaw â 30% o’r ail flwyddyn a 60% o’ch blwyddyn derfynol). Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau pedwar log dysgu ffurfiannol (h.y. anghyfrannol) 500 gair drwy ‘Dysgu Canolog’ ar ddiwedd wythnosau 6, 12, 18 a 24 o’ch lleoliad.

Mae’r logiau hyn yn gyfle i chi fyfyrio ar eich datblygiad personol a phroffesiynol yn barhaus ac yn eich helpu i gwblhau eich asesiadau crynodol. Bydd nodyn atgoffa yn cael ei anfon at fyfyrwyr pan fydd hi’n amser cyflwyno’r rhain . Er nad ydynt yn cyfrannu at farc cyffredinol eich modiwl, mae’r asesiad ffurfiannol hwn yn orfodol ac efallai y byddwch yn methu’r modiwl os nad ydych yn cyflwyno’r logiau.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dealltwriaeth o'r agweddau mewnol ar strwythur, llywodraethu, swyddogaethau a phrosesau sefydliadau.
  • Gwerthfawrogiad o'r rhyngweithio deinamig rhwng sefydliadau a’r amgylchedd busnes cymdeithasol ac economaidd y maent yn gweithredu ynddo.
  • Gwybodaeth am brosesau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer rheoli sefydliadau amrywiol yn effeithiol a chyfrifol.
  • Gwerthfawrogiad o ba mor bwysig yw hi bod sefydliadau yn deall ar yn rheoli eu marchnadoedd.
  • Dealltwriaeth o sut mae pobl yn rhyngweithio o fewn sefydliadau a sut y gellir eu harwain, eu rheoli a'u datblygu.
  • Gwybodaeth am wahanol systemau a phrosesau ar gyfer rheoli gweithrediadau o fewn sefydliadau a rhwng sefydliadau.
  • Ymwybyddiaeth o'r polisïau a’r strategaethau priodol i fodloni buddiannau rhanddeiliaid, rheoli risg a chyflawni cymaint o amcanion strategol ag sy’n bosibl.
  • Gwerthfawrogiad o sut y gall sefydliadau greu gwelliant cymdeithasol yn ogystal â gwelliant economaidd.
  • Dealltwriaeth o gysyniadau allweddol a dulliau damcaniaethol sydd wedi’u datblygu ac sy’n datblygu yn y Gymraeg.
  • Y gallu i ddadansoddi sut y crëir ystyron drwy iaith a grym affeithiol iaith
  • Deall a gallu disgrifio strwythur ieithyddol y Gymraeg.
  • Y gallu i ddadansoddi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymdeithas gyfoes, gan gynnwys cymunedau daearyddol, cymdeithasol, gwaith a digidol amrywiol.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu beirniadol i ddadansoddi, gwerthuso a chyfosod gwybodaeth.
  • Y gallu i ddatrys problemau.
  • Cymhwysedd wrth arddangos dadleuon beirniadol gwybodus a chytbwys.
  • Y gallu i gymhwyso damcaniaethau a dulliau arfer perthnasol.
  • Y gallu i fyfyrio ar ddysgu o'r gweithle dwyieithog a’i werthuso.
  • Y gallu i gynhyrchu a dadansoddi testunau ysgrifenedig a llafar o wahanol fathau (a allai gynnwys ysgrifennu creadigol).

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Sgiliau Rheoli Pobl.
  • Y gallu i ddefnyddio ymchwil i fabwysiadu ymagwedd yn seiliedig ar dystiolaeth o ran rheoli.
  • Craffter masnachol.
  • Arloesedd, creadigrwydd a menter.
  • Deall natur a gweithrediadau amgylchedd proffesiynol.
  • Gweithredu yn hyderus ac yn broffesiynol yn y gweithle.
  • Datblygu, gwella a dangos sgiliau, gwybodaeth a phrofiad cysylltiedig â gwaith, mewn meysydd gan gynnwys proffesiynoldeb, moeseg, iechyd a diogelwch.
  • Y gallu i nodi ac addasu i arferion gweithio ac arferion cysylltiedig mewn lleoliad cyflogaeth, a myfyrio'n feirniadol arnynt.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Hunan-reoli effeithiol a thueddiad i ddatblygu'n bersonol.
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy amrywiaeth o gyfryngau, ac i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
  • Y gallu i ddefnyddio sgiliau cydweithio a gweithio'n effeithiol mewn gydag eraill.
  • Y gallu i ysgrifennu a siarad Cymraeg sy'n briodol ar gyfer amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.
  • Dadansoddi a myfyrio ar sgiliau rheoli personol, gan nodi ffyrdd o wella trwy gynllunio datblygiad personol.
  • Datblygu sgiliau seiliedig ar waith a phrofiad, gan adeiladu ar hyder a phroffesiynoldeb.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae'r rhaglen radd Busnes yn cynnig ystod eang o sgiliau a gaiff eu cymeradwyo gan lawer o gyflogwyr yn sector breifat a'r sector gyhoeddus.

Mae galw clir am raddedigion rheoli busnes sy'n gallu gweithio'n ddwyieithog. Byddai’r radd hon yn ffordd o ddiwallu'r angen hwn drwy eich galluogi i ddatblygu sgiliau Cymraeg o'r radd flaenaf, yn ogystal â meithrin dealltwriaeth o'r gweithle mewn ysgol busnes uchel ei pharch. Mae’r modiwlau Cymraeg yn gyfle i chi ganolbwyntio ar eich sgiliau ieithyddol. Byddai’r rheiny sy’n ennill y radd hon yn arbennig o ddeniadol i gyflogwyr yng Nghymru yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus sy'n chwilio am weithwyr cymwys mewn gweithle dwyieithog.

Mae nifer o wefannau recriwtio a disgrifiadau swydd yn nodi'r Gymraeg fel sgil hanfodol neu ddymunol, neu sgil sydd o fantais ganfyddadwy.

Yn ogystal â gwasanaeth gyrfaoedd canolog y brifysgol, mae ein myfyrwyr yn elwa o'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Lleoliadau ar y campws sy'n eu helpu i ddod o hyd i interniaethau, cyfleoedd gwaith a chael mynediad at hyfforddiant, canllawiau a chyngor sy'n benodol i'r diwydiant busnes.

Lleoliadau

Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd ennill profiad gwaith yn ystod eich astudiaethau. Mae Rheolwr Lleoliadau penodol yr Ysgol Busnes yn cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau am swyddi a thechnegau cyfweliad hefyd ar gael gan Ymgynghorydd Gyrfaoedd mewnol yr Ysgol Busnes.

Mae’r modiwl craidd, Yr Iaith ar Waith, ym Mlwyddyn 2 yn cynnwys cyfnod byr (20 awr) o brofiad gwaith cyfrwng Cymraeg wedi’i warantu.

Yn benodol, mae’r rhaglen yn gyfle i gael profiad gwaith mewn amgylchedd busnes proffesiynol ac yn eich galluogi i roi’r wybodaeth a geir yn nwy flynedd gyntaf y cwrs gradd ar waith mewn lleoliad gwaith proffesiynol penodol. Lle bo’n bosibl, bydd y lleoliad drwy gyfrwng yn Gymraeg neu’n gofyn am sgiliau dwyieithog.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 50% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.