Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddorau Biolegol gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (BSc)

Blwyddyn Mynediad


Mae ein gradd BSc yn y Gwyddorau Biolegol, sy’n cael ei harwain gan ymchwil, yn cynnig ystod eang o bynciau ac yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau maes gwych yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

cells

Trosolwg y cwrs

Mae ein gradd Gwyddorau Biolegol gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn rhoi’r dewis a’r hyblygrwydd gorau posibl o ran astudio pob agwedd ar fioleg, gan eich caniatáu i ddewis modiwlau ar draws yr holl amrywiaeth o bynciau mae’r Ysgol yn eu cynnig a theilwra eich gradd i’ch diddordebau eich hun wrth iddyn nhw ddatblygu. Gallwch ddewis canolbwyntio ar agwedd benodol ar fioleg, fel organebau, ecoleg neu’r amgylchedd, neu ddewis cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau.

Mae dewis eang o bynciau i'w hastudio ar draws y gwyddorau biolegol, biofeddygol, biocemegol a biofoleciwlaidd, gan gynnwys: bioleg anifeiliaid a phlanhigion, microbioleg, geneteg, bioleg systemau, ecoleg, clefydau, ymddygiad, niwrowyddoniaeth, bioleg celloedd, datblygiad ac esblygiad. Cewch hefyd y cyfle i astudio cwrs maes (yn dibynnu ar ddewis ac argaeledd modiwl) naill ai yn y DU neu dramor.

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol sy’n berthnasol i’ch gradd. Mae profiad yn dangos y bydd hynny’n gwella llawer ar eich rhagolygon gyrfa wedi hynny.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch hefyd yn cael y dewis i newid i radd fwy arbenigol, fel BSc Gwyddorau Biolegol (Geneteg) neu BSc Gwyddorau Biolegol (Sŵoleg), neu i radd gyffredinol arall, fel Gwyddorau Biofeddygol. Bydd hyn yn dibynnu ar y modiwlau a ddewiswyd ym mlynyddoedd dau a thri, a bydd eich Tiwtor Personol yn gallu eich arwain drwy’r opsiynau sydd ar gael i chi. Byddwch hefyd yn cael yr opsiwn o newid i radd Meistr MBiol integredig (yn amodol ar argaeledd lle a chynnydd academaidd).

Mae’r rhaglen yn cyfuno dealltwriaeth wyddonol gyda datblygiad sgiliau academaidd (arfarnu beirniadol, gwerthuso a dadansoddi data) ynghyd â datblygiad sgiliau ymarferol, cyflwyno ac ysgrifenedig mewn cyd-destun gwyddonol. Yn y pen draw, nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd yn llysgenhadon cyflogadwy, gwybodus, amryddawn a brwdfrydig ar gyfer gwyddoniaeth.

Mae graddedigion Gwyddorau Biolegol diweddar wedi mynd ati i ddilyn gyrfaoedd mewn sefydliadau ymchwil, ymgyngoriaethau amgylcheddol, cwmnïau cyffuriau, y GIG, byd addysg, a llu o yrfaoedd y tu allan i faes bioleg fel bancio a rheoli. Mae nifer sylweddol yn mynd ymlaen i ymgymryd â rhaglenni hyfforddiant Meistr neu PhD.

Nodweddion nodedig

Mae gan ein graddau gysylltiad agos â diddordebau ymchwil y staff sy’n addysgu, gan eich caniatáu i brofi cyffro dysgu mewn amgylchedd ymchwil gweithredol. Rydym yn denu arian ymchwil allanol sylweddol a bydd hynny’n caniatáu ichi wneud defnydd o’r offer, y technegau a'r cyfleusterau diweddaraf yn eich gwaith prosiect. Mae gan yr Ysgol hefyd Orsaf Maes gyda staff yno’n barhaus yn Borneo, yn ogystal ag arwain Sefydliadau Ymchwil Dŵr a Mannau Cynaliadwy’r Brifysgol, gan ganiatáu mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi cyffrous.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig lefel uchel o hyblygrwydd gyda dewis y myfyrwyr wrth ei wraidd. Chi sydd i ddewis beth fydd trywydd eich profiad academaidd. Gallwch ddewis arbenigo mewn maes penodol neu fynd ymlaen ag amrywiaeth eang o ddysgu ac archwilio’r ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n sail i lawer o lwyddiant yr Ysgol.

Côd UCASC101
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer, mae 415 lle ar gael yn yr Ysgol.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae’r Ysgol yn derbyn tua 2500 o geisiadau.

Mae ecoleg gyfoethog Cymru yn cynnig amgylchedd delfrydol ar gyfer datblygu a hogi eich sgiliau fel ymchwilydd maes, ac yna gallwch fynd â'r sgiliau hynny gyda chi i bob rhan o’r byd.

Gofynion mynediad

Mae’r gofynion mynediad a ddangosir ar gyfer darpar fyfyrwyr fydd yn dechrau yn 2019. Bydd y gofynion mynediad ar gyfer 2020 ar gael ym mis Awst 2019.

AAB –ABB gan gynnwys Bioleg neu Gemeg ac ail bwnc gwyddonol.  AAB – ABB gan gynnwys A mewn Bioleg neu Gemeg ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Cemeg neu Fioleg yn unig, heb ail bwnc gwyddonol. Gall Bioleg Ddynol gymryd lle Bioleg. Yr ail bynciau fwyaf cyffredin a derbynnir yw Mathemateg, Ffiseg, Seicoleg, Addysg Gorfforol, Gwyddoniaeth Amgylcheddol a Daearyddiaeth. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol. Mae’n ofynnol i chi basio’r elfen ymarferol Lefel A Gwyddoniaeth, lle bo'n berthnasol.    

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDD mewn Diploma Estynedig RQF mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, gyda D ym mhob un o’r Unedau Craidd/Gorfodol. BTEC derbyniol ar gyfer mynediad: Diploma Estynedig RQF BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol a Diploma Estynedig BTEC mewn Rheoli Anifeiliaid

34-32 pwynt gan gynnwys 6 mewn Bioleg neu Gemeg ar y Lefel Uwch NEU 655 ar y Lefel Uwch gan gynnwys 6 mewn Bioleg neu Gemeg.   

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol y Biowyddorau.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

I gynnwys C/4 mewn Mathemateg TGAU.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ewch i'n tudalen cyfanswm ffioedd am y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Mae cyrsiau maes sy'n digwydd dramor yn golygu costau ychwanegol – yn bennaf ar gyfer llety a theithio’r myfyrwyr. Rydym yn ymdrechu i gadw'r rhain cyn lleied â phosibl, er enghraifft rydym yn cadw ein Gorsaf Maes a’n staff ein hunain yn Borneo, ac nid yw’r costau hyn yn cael eu hadfer o ffioedd i fyfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnig rhai cyrsiau maes ardderchog yng Nghymru nad ydynt yn arwain at gostau ychwanegol. 

Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer agweddau eraill ar hyfforddiant, er y gallai rhai gwasanaethau (fel myfyrwyr yn argraffu yn ôl y galw) godi ffi.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Nid oes angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs BSc hwn yn llawn amser dros bedair blynedd academaidd. Mae'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd, gyda'r tri modiwl 40 credyd yn cael eu haddysgu yn yr ail flwyddyn. Mae blwyddyn tri yn cael ei threulio ar leoliad proffesiynol ac, yn y flwyddyn olaf, mae’r prosiect ymchwil yn cario 30 o gredydau ac yn cael ei wneud ochr yn ochr â thri modiwl 30 credyd.

Mae modiwlau blwyddyn un yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial ategol sy’n darparu gwybodaeth ddamcaniaethol gefndir yn ogystal â dosbarthiadau ymarferol. Mae ein cynlluniau gradd amrywiol yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin, sy’n rhoi sylw i’r holl agweddau ar fiowyddoniaeth ac mae ganddo’r fantais o gynnig hyblygrwydd o ran eich dewis gradd. Mae dosbarthiadau’n rhoi sgiliau TG biolegwyr i fyfyrwyr a dealltwriaeth o ddadansoddi data yn ystadegol, a defnyddir gwaith cwrs i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.

Yn yr ail flwyddyn, mae sesiynau ymarferol labordy helaeth yn helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a’r gallu i werthuso data arbrofol yn feirniadol. Defnyddir aseiniadau a osodwyd a darllen i hyrwyddo dysgu hunangyfeiriedig a dadansoddi llenyddiaeth ymchwil sylfaenol.

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol sy’n berthnasol i’ch gradd. Yn ystod y lleoliad hwn byddwch yn ymgymryd â phob agwedd ar ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofol, casglu data a dadansoddi ac, yn olaf, cyflwyno data gan gynhyrchu adroddiad a chyflwyniad prosiect.

Yn y flwyddyn olaf, mae angen astudio llawer mwy annibynnol, ac mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr gynhyrchu adroddiad sylweddol sy’n seiliedig ar ymchwil (labordy, llenyddiaeth, addysgeg, neu ymrwymiad gwyddonol).

Drwy gydol y cwrs rydym yn ymdrechu i gynnig dewis mor eang â phosibl i’ch caniatáu i deilwra eich gradd i’ch nodau astudio.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn flwyddyn gyffredin, sy’n cwmpasu pob agwedd ar y biowyddorau. Bwriad hyn yw adlewyrchu’r ffaith fod ymchwil biowyddoniaeth yn gynyddol yn faes amlddisgyblaethol.

Cyflwynir y maes llafur modiwlaidd, modern drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, cyflwyniadau a dosbarthiadau ymarferol a gynhelir mewn labordai mawr, gyda chyfleusterau da. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg biolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a  phlanhigion ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu medrau gwyddonol ymarferol ac academaidd. Efallai y bydd modiwlau’n gorgyffwrdd ag astudiaethau Safon Uwch ar y cychwyn, ond byddant yn fuan yn symud ymlaen i fwy o ddyfnder a chwmpas.

Mae system y flwyddyn gyntaf gyffredin yn cynnig mantais fawr o ran rhoi hyblygrwydd mewn perthynas â dewis gradd i chi. Nod y dull hwn yw eich gwneud yn agored i holl feysydd y biowyddorau, fel eich bod yn gallu gweithredu’n weld o yn y disgyblaethau biowyddoniaeth sy’n fwyfwy rhyngddisgyblaethol. Mae strwythur cyffredin y flwyddyn gyntaf yn eich caniatáu i symud eich ffocws yn yr ail flwyddyn, os byddwch yn dymuno, neu gadw ffocws cryf ar un ddisgyblaeth benodol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Skills for ScienceBI100120 credydau
Structure and Function of Living OrganismsBI100220 credydau
Organisms and EnvironmentBI100320 credydau
The Dynamic CellBI100420 credydau
Biological ChemistryBI101420 credydau
Genetics and EvolutionBI105120 credydau

Blwyddyn dau

Mae'r ail flwyddyn yn caniatáu i chi arbenigo mwy, a bydd yn  adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol rydych chi wedi’u meithrin yn y flwyddyn gyntaf. Bydd ffocws ar ddadansoddi data a chyfathrebu gwyddonol, yn ogystal â thechnegau a thechnegau maes uwch. Bydd sgiliau deall dylunio arbrofol, adolygu llenyddiaeth, dadansoddi ystadegol a dadansoddi beirniadol yn gweithredu fel sylfaen ar gyfer astudio pellach yn y drydedd flwyddyn.

Yn yr ail flwyddyn, mae 11 o fodiwlau ar gael i chi, hyd at gyfanswm o 120 o Gredydau, gan ganiatáu eich bod yn rhydd i fynd ar drywydd meysydd sydd o ddiddordeb arbennig i chi. Mae’r pynciau modiwl sydd ar gael yn cynnwys, amrywiaeth ac addasu anifeiliaid, geneteg, bioleg celloedd, biocemeg ac ecoleg a chadwraeth. Yr unig fodiwl nad yw ar gael yw anatomeg ddynol ymarferol (er y byddwch yn rhoi sylw i anatomeg ddynol yn y flwyddyn gyntaf).

Bydd myfyrwyr ar y modiwl ecoleg a chadwraeth yn cael cyfle i ymgymryd ag un o'n cyrsiau maes sy’n seiliedig ar brosiect, sy'n cael ei redeg mewn amrywiaeth o leoliadau yn y DU a thramor.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Animal Diversity and AdaptationBI213140 credydau
Genetics and its ApplicationsBI213240 credydau
Ecology and Conservation - Part ABI213330 credydau
Ecology and Conservation - Part BBI213410 credydau
Cell BiologyBI223140 credydau
BiochemistryBI223240 credydau
Developmental and Stem Cell BiologyBI223340 credydau
Molecular Biology of the GeneBI223440 credydau
PhysiologyBI233140 credydau
Concepts of DiseaseBI233240 credydau
Practical AnatomyBI233340 credydau
Brain and BehaviourBI243140 credydau
Fundamental NeuroscienceBI243240 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Bydd y Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY) yn cael ei threulio ar leoliad mewn lleoliad proffesiynol. Mae PTY yn rhoi cyfle i chi dreulio cyfnod o 9-12 mis mewn labordy ymchwil academaidd, clinigol neu ddiwydiannol/masnachol, neu sefydliad arall wedi’i gymeradwy, er mwyn ennill profiad ymchwil yn uniongyrchol.

Byddwch yn ymgymryd ag agweddau gwahanol ar ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofol, casglu data a dadansoddi ac, yn olaf, cyflwyno data gan gynhyrchu adroddiad a chyflwyniad prosiect.

Bydd ein Cydlynwyr Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn eich cefnogi i ddod o hyd i safle addas sy’n berthnasol i’ch dyheadau o ran gyrfa, a bydd tiwtor yn cadw mewn cysylltiad gyda chi ac yn ymweld â chi yn ystod eich lleoliad.

Mae nifer o’r lleoliadau yn y DU, ond rydym hefyd wedi cael nifer o leoliadau mewn mannau eraill, yn arbennig yn Ewrop drwy gynllun ‘ERASMUS’ UE y mae Caerdydd yn bartner ynddo, ond hefyd yn cynnwys De-ddwyrain Asia, De Affrica, yr Almaen, yr Eidal ac UDA.Mae dod o hyd i leoliad yn broses gystadleuol ac ni ellir gwarantu llwyddiant. Fodd bynnag, rydym wedi llwyddo i leoli’r mwyafrif helaeth o’n myfyrwyr Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol.Bydd yr adroddiad a luniwch ar eich lleoliad yn cyfrif pan asesir eich gradd yn derfynol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sandwich YearBI9999120 credydau

Blwyddyn pedwar

Mae ein cwricwlwm blwyddyn olaf yn eich galluogi i arbenigo mewn mwy o fanylder yn un o themâu ymchwil mawr yr Ysgol. Mae’r dull hwn yn eich trwytho i ddiwylliant ymchwilio'r biowyddorau, drwy gyfrwng addysgu yn seiliedig ar ymchwil a phrosiect yn y flwyddyn olaf sydd yn eich caniatau i ymchwilio i destun mewn llawer mwy o fanylder.

Mae defnyddio gwybodaeth graidd i ddatrys problemau a gwerthuso modelau, syniadau a dadleuon cyfredol yn feirniadol yn brif ffocws yn y flwyddyn olaf. Er mwyn datblygu sgiliau gwaith annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn helpu i baratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol, bydd rhan hon y cwrs yn cynnwys llawer iawn o astudio hunangyfeiriedig, a fydd yn helpu i’ch paratoi am yr amgylchedd proffesiynol.

Yn ogystal â phrosiect ymchwil 30 credyd, byddwch yn cwblhau tri modiwl 30 credyd (o ddewis rhydd bron o 18, ac eithrio anatomeg ddynol ddatblygedig). Mae'r modiwlau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys esblygiad ac addasu, bioleg systemau a modelu, gwyddoniaeth planhigion, bioamrywiaeth, bioleg synthetig, bioleg celloedd uwch, biowybodeg a genomeg swyddogaethol, a genynnau a genomau.

Ar ddechrau'r flwyddyn olaf, mae gennych yr opsiwn o wneud cais i drosglwyddo i gwrs MBiol gyda gradd Meistr integredig, yn dibynnu ar gynnydd academaidd boddhaol a’r lleoedd sydd ar gael.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae Ysgol y Biowyddorau yn cynnig profiad addysgol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn seiliedig ar ragoriaeth academaidd. Yn bwysicach byth, mae’r profiad addysgol yn cael ei lywio a’r arwain gan ymchwil blaenllaw, ac mae’n uchel ei fri gan fyfyrwyr a chyrff proffesiynol. Rydym yn ceisio cefnogi pob dysgwr mewn diwylliant dysgu cynhwysol.

Ar y cwrs Gwyddorau Biolegol, byddwch yn caffael gwybodaeth graidd a dealltwriaeth drwy gyfrwng darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol neu waith maes, seminarau ymchwil, gweithdai a sesiynau tiwtorial. Byddwch yn caffael gwybodaeth uwch a dealltwriaeth drwy astudio annibynnol, gwaith grŵp a gwaith prosiect.

Disgwylir i fyfyrwyr gynnal astudiaeth annibynnol a disgwylir mwy o annibyniaeth o ran dysgu wrth i'r cwrs fynd rhagddo.

Gellir ymgymryd ag elfennau dethol o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae myfyrwyr hefyd yn gallu gofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer cymorth academaidd a chymorth bugeiliol.

Bydd myfyrwyr gydag anableddau yn cael eu cefnogi’n llawn mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Cefnogi Anabledd a Dyslecsia’r Brifysgol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob aelod o’r staff academaidd yn Ysgol y Biowyddorau yn ymchwilwyr profiadol yn eu priod feysydd ac maen nhw’n angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda myfyrwyr.

Bydd y rhyngweithio sylfaenol gyda staff academaidd yn ystod darlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (sesiynau tiwtorial). Bydd myfyrwyr hefyd yn cael tiwtor personol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol a chyngor academaidd drwy gydol y cwrs.

Gellir cysylltu â staff darlithio mewn perthynas â sesiynau addysgu neu drwy e-bost, ac maen nhw’n gweithredu polisi ‘drws agored’ ar gyfer myfyrwyr ag ymholiadau penodol am ddeunydd cwrs, neu system ar gyfer cadw lle ar gyfer cyfarfod. Hefyd, mae gan bob cynllun gradd gydlynydd cynllun gradd sydd yn gallu rhoi cyngor ar faterion academaidd. Mae gan bob blwyddyn astudio gydlynydd blwyddyn a all roi cyngor ar faterion gweinyddol sy'n ymwneud â’r cwrs astudio. Hefyd, mae Swyddfa israddedig hwylus gyda gweinyddwyr cyfeillgar a phrofiadol a all ateb y rhan fwyaf o ymholiadau gweinyddol hefyd.

Adborth
Bydd adborth ar eich astudiaeth, eich gwaith a’ch cynnydd ar sawl ffurf, o sylwadau ysgrifenedig ffurfiol ar eich gwaith a gyflwynwyd i sgyrsiau mwy anffurfiol a chyngor yn ystod dosbarthiadau a sesiynau ymarferol, neu gan eich Tiwtor Personol. Drwy gydol y cwrs, byddwn yn rhoi adborth manwl ar yr holl waith cwrs a asesir. Fel arfer darperir hyn ar-lein drwy'r system 'Grademark', sy'n eich galluogi i gael mynediad at eich adborth yn gyfleus trwy ddyfais tabled neu gyfrifiadur. Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich cynnydd academaidd a’ch datblygiad personol gyda'ch Tiwtor Personol, a thrafod papurau arholiad traethawd er mwyn gwella eich perfformiad. Yn ystod y prosiect ymchwil a gwaith ymarferol, byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ychwanegol gan y staff academaidd sy’n eich goruchwylio.

Sut caf fy asesu?

Fel arfer, asesir modiwlau’r flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. Mae pob modiwl yn cynnwys asesiadau gwaith cwrs, a gallai’r rhain fod ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig ymarferol, adroddiadau strwythuredig, profion dosbarth, profion ateb strwythuredig, gwaith grŵp, cyflwyniadau poster a chyflwyniadau llafar ac ymarferion datrys problemau ystadegol/cyfrifiaduro.  Gall asesiadau fod yn grynodol a gallant gyfrif tuag at y nod modiwl terfynol, neu gallant fod yn ffurfiannol, gan eich helpu i ddysgu ac ymarfer sgiliau allweddol a gwybodaeth drwy adborth.  Mae'r arholiadau terfynol ar ddiwedd pob modiwl yn cynnwys adran ateb strwythuredig sy’n cael ei farcio gan beiriant (asesu ehangder gwybodaeth) ac adran ateb ysgrifenedig (asesu dyfnder gwybodaeth mewn pynciau penodol).  

Yn ystod y Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol byddwch yn cynhyrchu adroddiad lleoliad, a fydd yn cyfrif tuag at asesiad terfynol eich gradd.

Yn y flwyddyn olaf, asesir modiwlau a addysgir drwy arholiadau a gwaith cwrs dadansoddol estynedig. Mae eich prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf yn cael ei asesu gan werthusiad goruchwyliwr ac adroddiad ysgrifenedig.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
  • casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
  • meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
  • gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
  • cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
  • perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
  • rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amryw o ffynonellau;
  • trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
  • cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
  • trafod materion cyfredol mewn perthynas ag ymchwil, ymchwiliadau a/neu ddadleuon;
  • cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
  • pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
  • adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth o rôl ac effaith eiddo deallusol (IP) mewn amgylchedd ymchwil;
  • gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar grŵp, fel arweinydd ac aelod o dîm;
  • dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth);
  • nodi targedau, a gweithio tuag at y targedau ar gyfer datblygiad personol, datblygiad proffesiynol, datblygiad academaidd a datblygiad gyrfa; 
  • arddangos sgiliau cynllunio ac arweinyddiaeth ar gyfer gosod, a bodloni, nodau cyraeddadwy yn y gweithle.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.Mae cyfran sylweddol o'n graddedigion BSc Gwyddorau Biolegol yn mynd ymlaen i astudio graddau Meistr neu PhD. Mae gan lawer o bobl eraill yrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth fel ymchwil a datblygu, cadwraeth, rheoli amgylcheddol, ymchwil wyddonol, cyhoeddi meddygol neu wyddonol, rheoli agro-diwydiant a bywyd gwyllt, ymhlith llawer o rai eraill.

Mae gan ein graddedigion hefyd lefelau uchel o gymhwysedd mewn llu o sgiliau trosglwyddadwy sy’n ddeniadol i amrywiaeth mawr o gyflogwyr ym meysydd mwy cyffredinol diwydiant, masnach, gwasanaethau cyhoeddus, gweinyddu a rheoli. Yn olaf, gall gradd yn y Biowyddorau fod yn gam at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio, gwyddoniaeth filfeddygol neu gyfrifydda.

Lleoliadau

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY) sy'n rhoi cyfle i chi dreulio cyfnod o 9-12 mis mewn labordy ymchwil academaidd, clinigol neu ddiwydiannol, neu sefydliad arall wedi’i gymeradwy, er mwyn ennill profiad ymchwil yn uniongyrchol.

Mae nifer o’r lleoliadau yn y DU, ond rydym hefyd wedi cael nifer o leoliadau mewn mannau eraill, yn arbennig yn Ewrop drwy gynllun ‘ERASMUS’ UE y mae Caerdydd yn bartner ynddo, ond hefyd yn cynnwys De-ddwyrain Asia, De Affrica, yr Almaen, yr Eidal ac UDA.

Mae dod o hyd i leoliad yn broses gystadleuol ac ni ellir gwarantu llwyddiant. Caiff y broses ei llywio'n bennaf gan y myfyriwr gan fod y rhan fwyaf o leoliadau yn dibynnu ar ymgeisio a dethol gan bartner cwmni neu sefydliad. Fodd bynnag, rydym yn cynnig cyngor a chymorth, yn ogystal â threfnu cynllun ERASMUS, a hyd yn hyn rydym wedi llwyddo i leoli mwyafrif helaeth o’n myfyrwyr PTY.

Os na fydd lleoliad ar gael, neu eich bod yn newid eich meddwl, gallwch newid o’r radd pedair blynedd gyda PTY i radd tair blynedd BSc. Fel arall, ar ôl yr ail flwyddyn, ac yn amodol ar gynnydd academaidd a'r lleoedd sydd ar gael, gallwch wneud cais i newid i radd MBiol Meistr integredig.

Gwaith maes

Mae profiad uniongyrchol o blanhigion ac anifeiliaid yn eu cynefin naturiol yn rhan bwysig o fioleg fodern. Yn dibynnu ar argaeledd a dewisiadau modiwl, efallai y byddwch yn cael yr opsiwn i gymryd un o'n cyrsiau maes poblogaidd, sy'n cynnwys profiad gwaith maes estynedig fel rhan o'n modiwl ecoleg a chadwraeth yn yr ail flwyddyn.

Mae ein cyrsiau maes yn rhoi profiad ymarferol hanfodol o dechnegau modern a sgiliau ymarferol mewn bioleg maes, megis modrwyo adar,  mesur dosbarthiad planhigion, dal mamaliaid bychain, trapiau pydew, ac arolygon ystlumod.

Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau maes arbenigol, yn seiliedig ar gyrsiau mewn amrywiaeth o leoliad ledled y byd. Mae ein hystod o gyrsiau maes fel arfer yn cynnwys Bioamrywiaeth Fforest Law (Borneo), Ecoleg Morol Trofannol (Tobago a Borneo), Ecoleg Morydol (Aber Hafren), Ecoleg Afon (Caerdydd), ac Ecoleg Llawr y Goedwig (Caerdydd). Mae pob un o'r cyrsiau maes hyn yn cynnwys prosiect ymchwil annibynnol, sydd yn aml yn cynnwys ymddygiad neu ecoleg anifeiliaid.Ar adegau, gall cyrsiau maes gael eu heffeithio gan gyfyngiadau teithio, argaeledd staff neu rifau.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Gwener 5 Gorffennaf

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais