Ewch i’r prif gynnwys

Biocemeg gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (MBiochem)

  • Maes pwnc: Biocemeg
  • Côd UCAS: 873C
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 5 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod

Pam astudio'r cwrs hwn

Mae ein cwrs Meistr integredig mewn Biocemeg gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn ymchwil neu sy'n gobeithio dilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth. Mae'r cwrs gradd pum mlynedd hwn yn galluogi myfyrwyr i archwilio ffiniau presennol ein gwybodaeth yn eu dewis nhw o faes, ac mae'n gyfle iddynt hyfforddi mewn uwch-dechnegau ymchwil.

Astudiaeth o systemau biolegol a sut maen nhw’n gweithredu ar lefel moleciwlaidd yw biocemeg, ac mae hefyd yn cynnwys bioleg celloedd a bioleg ddatblygiadol. Mae'n bwnc sydd â hanes cyfoethog o ddarganfyddiadau gwyddonol, o ensymoleg a llwybrau metabolaidd i ganfod genynnau a strwythur DNA. Heddiw mae’r pwnc yn rhoi sylw i feysydd newydd pwysig, megis genomeg, systemau a bioleg synthetig ac mae’n ganolog i bob agwedd ar fioleg.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am y rôl allweddol y mae gwyddorau biocemeg a biomoleciwlaidd yn cyfrannu at ddatblygiadau yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys meddygaeth a biotechnoleg. Cewch hyfforddiant ymarferol helaeth mewn technegau labordy ac (yn dibynnu ar ddewis modiwl ac argaeledd) ymchwil maes, yn ogystal â phrofiad ymarferol o sgiliau trosglwyddadwy eang ym maes cyfrifiadura, ystadegau, dadansoddi data a chyflwyno.

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol sy’n berthnasol i’ch gradd. Mae profiad yn dangos y bydd hynny’n gwella llawer ar eich rhagolygon gyrfa wedi hynny.

Mae’r rhaglen yn cyfuno dealltwriaeth wyddonol gyda datblygu sgiliau academaidd (arfarnu beirniadol, gwerthuso a dadansoddi data) ynghyd â datblygu sgiliau ymarferol, cyflwyno ac ysgrifenedig mewn cyd-destun gwyddonol. Yn y pen draw, nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sy'n llysgenhadon cyflogadwy, gwybodus, amryddawn a brwdfrydig ar gyfer gwyddoniaeth.

Bydd y wybodaeth a’r sgiliau y byddwch chi’n eu datblygu yn ystod eich gradd Biocemeg yn eich gwneud yn gyflogadwy mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd ym mhob maes yn y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau moleciwlaidd, gan gynnwys y diwydiannau fferyllol, ymchwil, cyhoeddi ac addysgu. Bydd y sgiliau dadansoddol a’r sgiliau eraill y byddwch chi’n eu meithrin ar y cwrs hefyd yn sylfaen wych ar gyfer llawer o lwybrau gyrfaol eraill ar wahân i wyddoniaeth. Fel arall, efallai y byddwch am barhau â’ch astudiaethau gyda gradd uwch.

Nodweddion nodedig

Mae gan ein graddau gysylltiad agos â diddordebau ymchwil y staff sy’n eu haddysgu, gan eich caniatáu i brofi cyffro dysgu mewn amgylchedd ymchwil gweithredol. Rydym yn denu llawer iawn o arian ymchwil allanol a bydd hynny’n caniatáu ichi wneud defnydd o’r offer, y technegau a'r cyfleusterau diweddaraf yn eich gwaith prosiect. Mae'r Ysgol hefyd yn cynnal Gorsaf Maes yn Borneo gyda staff yno'n barhaus. Yn ogystal, mae'n arwain Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, gan ganiatáu mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi cyffrous.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig lefel uchel o hyblygrwydd gyda dewis y myfyrwyr wrth ei wraidd. Chi sydd i ddewis beth fydd trywydd eich profiad academaidd. Gallwch ddewis arbenigo mewn maes penodol neu barhau ag amrywiaeth eang o ddysgu gan astudio’r ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n sail i lawer o lwyddiant yr Ysgol.

Maes pwnc: Biocemeg

  • academic-schoolYsgol y Biowyddorau
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4119
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB. Rhaid cynnwys Bioleg (neu Fioleg Ddynol) neu Gemeg.

Bydd angen i chi basio elfen ymarferol wyddoniaeth y Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

 

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg neu Cemeg HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:

- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

- TGAU Mathemateg gradd C / 4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.


Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.

Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfleusterau labordy gan gynnwys cemegolion
  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, Gwyddoniaeth Fforensig, neu Reoli Anifeiliaid gyda Rhagoriaeth ym mhob un o'r Unedau Craidd/Gorfodol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,800 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim
Blwyddyn pump £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £5,640 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim
Blwyddyn pump £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Mae'r holl gyrsiau maes sy'n digwydd dramor yn golygu costau ychwanegol – yn bennaf ar gyfer llety a theithio’r myfyrwyr. Rydym yn ymdrechu i gadw'r rhain cyn lleied â phosibl, er enghraifft rydym yn cadw ein Gorsaf Maes a’n staff ein hunain yn Borneo, ac nid yw’r costau hyn yn cael eu hadfer o ffioedd i fyfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnig rhai cyrsiau maes ardderchog yng Nghymru nad ydynt yn arwain at gostau ychwanegol.

Ni fyddwn yn codi unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer agweddau eraill ar hyfforddiant, er y gallai rhai gwasanaethau (fel myfyrwyr yn argraffu yn ôl y galw) godi ffi.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfleusterau TG (mewn man cymunedol), labordai gydag offer arbenigol, a’r holl feddalwedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer y cwrs.

Cynghorir myfyrwyr i gael gliniadur personol neu ddyfais gyfatebol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cynigir y cwrs MBiochem hwn gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn amser llawn dros gyfnod o bum mlynedd academaidd. Mae'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd, gyda thri modiwl 40 credyd yn cael eu haddysgu yn yr ail flwyddyn. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad proffesiynol ac, yn y bedwaredd flwyddyn, mae’r prosiect ymchwil yn cario 30 o gredydau ac yn cael ei wneud ochr yn ochr â thri modiwl 30 credyd. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn astudio dau fodiwl 20 credyd ac yn cynnal prosiect ymchwil gwerth 80 o gredydau.  Er ein bod yn ceisio cynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl wrth wneud ein cyrsiau, gellir cyfyngu ar y dewis o fodiwlau ar sail Gradd Mynediad i sicrhau capasiti ar fodiwlau craidd y mae’n rhaid eu gwneud wrth astudio ar gyfer rhai graddau.

Mae modiwlau blwyddyn un yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial ategol sy’n darparu gwybodaeth ddamcaniaethol gefndir yn ogystal â dosbarthiadau ymarferol. Mae ein cynlluniau gradd amrywiol yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin, sy’n rhoi sylw i’r holl agweddau ar fiowyddoniaeth ac mae ganddynt y fantais o gynnig hyblygrwydd o ran eich dewis gradd. Mae dosbarthiadau’n rhoi sgiliau TG biolegwyr i fyfyrwyr a dealltwriaeth o ddadansoddi data yn ystadegol, a defnyddir gwaith cwrs i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.

Yn yr ail flwyddyn, cynigir modiwlau ar draws ystod eang o bynciau. Ym mhob achos, mae sesiynau ymarferol helaeth mewn labordy yn helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol a’r gallu i werthuso data arbrofol yn feirniadol. Defnyddir aseiniadau a osodwyd a deunydd darllen i hyrwyddo dysgu hunangyfeiriedig a dadansoddi llenyddiaeth ymchwil sylfaenol.

Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol sy’n berthnasol i’ch gradd. Yn ystod y lleoliad hwn byddwch yn ymgymryd â phob agwedd ar ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofol, casglu data a dadansoddi ac, yn olaf, cyflwyno data gan gynhyrchu adroddiad a chyflwyniad prosiect.

Yn y bedwaredd flwyddyn, mae angen astudio llawer mwy annibynnol, ac mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr gynhyrchu adroddiad sylweddol sy’n seiliedig ar ymchwil (labordy, llenyddiaeth, addysgeg, neu ymrwymiad gwyddonol). Rydym yn ymdrechu i gynnig dewis mor eang â phosibl i’ch caniatáu i deilwra eich gradd i’ch nodau astudio.

Bydd y modiwlau a addysgir yn y flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar uwch-dechnegau ymchwil, sgiliau chwilio llenyddiaeth a dadansoddi, trafod a gwerthuso'n feirniadol mewn grwpiau, ynghyd â chynllunio gwaith arbrofol. Bydd modiwl y prosiect ymchwil yn gofyn i chi ymgolli'n llwyr mewn gwaith ymchwil mewn labordy am gyfnod o 6 mis.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn flwyddyn gyffredin, sy’n cwmpasu pob agwedd ar y biowyddorau. Mae hyn yn adlewyrchu natur gynyddol amlddisgyblaethol ymchwil y biowyddorau ac mae'n cynnig y fantais ychwanegol o gynnig hyblygrwydd o ran dewis gradd i chi.

Bydd maes llafur cwrs y flwyddyn gyntaf yn trwytho myfyrwyr yn y pynciau hanfodol, gan gynnwys modiwl Cemeg Fiolegol sy’n cyflwyno pynciau ar ryngwyneb cemeg/bioleg ac archwilio technegau dadansoddi modern. Mae elfennau Biogemegol y cwrs yn y flwyddyn gyntaf yn cynnwys pynciau fel strwythur a swyddogaeth proteinau (gan gynnwys ensymau), strwythur a dyblygu DNA, trefniant a mynegiant genynnau, technegau trin geneteg, biocemeg carbohydrad a lipidau, ac agweddau allweddol ar fetaboledd.

Cyflwynir y maes llafur modiwlaidd, modern drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial, cyflwyniadau a dosbarthiadau ymarferol a gynhelir mewn labordai mawr, gyda chyfleusterau da. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn yr holl ddisgyblaethau biolegol, gan gynnwys cemeg fiolegol, bioleg celloedd, microbioleg, geneteg, esblygiad, anatomeg a ffisioleg, bioleg anifeiliaid a phlanhigion ac ecoleg, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddatblygu medrau gwyddonol ymarferol ac academaidd. Efallai y bydd modiwlau’n gorgyffwrdd ag astudiaethau Safon Uwch ar y cychwyn, ond buan iawn y byddant yn datblygu o ran dyfnder a chwmpas.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau ar gyfer GwyddoniaethBI100120 Credydau
Strwythur a Swyddogaeth Organebau BywBI100220 Credydau
Organebau a'r AmgylcheddBI100320 Credydau
Y Cell DynamigBI100420 Credydau
Cemeg FiolegolBI101420 Credydau
Geneteg ac EsblygiadBI105120 Credydau

Blwyddyn dau

Bydd eich ail flwyddyn yn rhoi mwy o bwyslais ar sail arbrofol biocemeg a meysydd perthnasol yn y gwyddorau biomoleciwlaidd fel bioleg foleciwlaidd, bioleg celloedd a bioleg ddatblygiadol. Byddwch yn ymgymryd ag ymarferion sy’n ymdrin â thechnegau ymchwil modern fel trin a dadansoddi DNA ailgyfunol, biocemeg proteinau a lipidau a microbioleg, gyda phwyslais cryf ar ddadansoddi a dehongli data.

Byddwch hefyd yn adeiladu ar beth y gwnaethoch ei ddysgu ym mlwyddyn un i ddatblygu sylfaen gadarn ym meysydd mwy datblygedig swyddogaeth genynnau, geneteg foleciwlaidd, biocemeg proteinau, metabolaeth, bioleg celloedd, datblygiad, esblygiad a signalau celloedd.

Bydd hyn yn sicrhau fod gennych y sgiliau a’r ymwybyddiaeth hanfodol o ran technegau allweddol am ba bynnag agwedd ar fiocemeg fydd eich maes arbenigedd o ddewis, ym mlwyddyn olaf y cwrs ac yn eich gyrfa ddilynol.

Yn yr ail flwyddyn, mae gennych ddewis o dri o hyd at 12 modiwl sydd ar gael, gan roi cyfanswm o 120 Credyd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Amrywiaeth ac Addasu AnifeiliaidBI213140 Credydau
Geneteg a'i ChymwysiadauBI213240 Credydau
Ecoleg Rhan ABI213530 Credydau
Ecoleg Rhan BBI213610 Credydau
Bioleg CelloeddBI223140 Credydau
BiocemegBI223240 Credydau
Bioleg Celloedd Datblygiadol a Bôn-gelloeddBI223340 Credydau
Bioleg Foleciwlaidd y genynBI223440 Credydau
FfisiolegBI233140 Credydau
Cysyniadau o GlefydBI233240 Credydau
Anatomeg YmarferolBI233340 Credydau
Ymennydd ac YmddygiadBI243140 Credydau
Niwrowyddoniaeth SylfaenolBI243240 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Mae'r Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY) yn rhoi'r cyfle i chi dreulio 9-12 mis mewn labordy ymchwil academaidd, clinigol neu ddiwydiannol/masnachol, neu sefydliad arall wedi’i gymeradwyo, er mwyn ennill profiad ymchwil yn uniongyrchol.

Byddwch yn ymgymryd ag agweddau gwahanol ar ymchwil, gan gynnwys dylunio arbrofol, casglu data a dadansoddi ac, yn olaf, cyflwyno data gan gynhyrchu adroddiad a chyflwyniad prosiect.

Bydd ein Cydlynwyr Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn eich cefnogi i ddod o hyd i safle addas sy’n berthnasol i’ch dyheadau o ran gyrfa, a bydd tiwtor yn cadw mewn cysylltiad gyda chi ac yn ymweld â chi yn ystod eich lleoliad.

Mae nifer o’r lleoliadau yn y DU, ond rydym hefyd wedi cael nifer o leoliadau mewn mannau eraill, yn arbennig yn Ewrop drwy gynllun ‘ERASMUS’ UE y mae Caerdydd yn bartner ynddo, ond hefyd yn cynnwys De-ddwyrain Asia, De Affrica, yr Almaen, yr Eidal ac UDA.

Mae dod o hyd i leoliad yn broses gystadleuol ac ni ellir gwarantu llwyddiant. Fodd bynnag, rydym wedi llwyddo i leoli’r mwyafrif helaeth o’n myfyrwyr Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol.

Bydd yr adroddiad a luniwch am eich lleoliad yn cyfrif pan asesir eich gradd yn derfynol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Blwyddyn SandwichBI9999120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Mae cwricwlwm ein pedwaredd flwyddyn yn eich galluogi i arbenigo'n fanylach yn un o themâu ymchwil mawr yr Ysgol.  Mae’r dull hwn yn eich trwytho i ddiwylliant ymchwilio'r biowyddorau, drwy gyfrwng addysgu yn seiliedig ar ymchwil a phrosiect sy'n eich caniatáu i ymchwilio i destun yn llawer manylach.

Defnyddio gwybodaeth graidd i ddatrys problemau a gwerthuso modelau, syniadau a dadleuon cyfredol yn feirniadol sy'n cael y prif sylw yn y drydedd flwyddyn.  Er mwyn datblygu sgiliau gwaith annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn helpu i baratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol, bydd y rhan hon o'r cwrs yn cynnwys llawer iawn o astudio hunangyfeiriedig, a fydd yn helpu i’ch paratoi ar gyfer yr amgylchedd proffesiynol.

Blwyddyn pump

Mae blwyddyn olaf y cwrs Meistr yn cynnwys prosiect estynedig a gynhelir mewn labordy ymchwil gweithredol, hyfforddiant pellach mewn technegau ymchwil datblygedig yn ogystal â modiwl 'Ffiniau'r Biowyddorau'. Bydd eich prosiect ymchwil unigol yn un newydd ac mae'n bosibl y bydd y canlyniadau'n ddigon clodwiw i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddoniaeth, cyfrannu at gyhoeddiad neu sbarduno crynswth newydd o waith ymchwil o ganlyniad. Byddwch yn cael hyfforddiant a chefnogaeth â'ch prosiect gan ymchwilwyr, a bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i ymchwilio ymarferol gwyddonol. Bydd y fath arbenigedd a gwybodaeth mewn meysydd yr ydym wedi eu datblygu hyd y flwyddyn yn helpu i'ch gwneud yn hynod gyflogadwy yn y sector ymchwil a sector masnachol y biowyddorau fel ei gilydd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Prosiect Ymchwil UwchBI400180 Credydau
Dulliau Ymchwil UwchBI400220 Credydau
Ffiniau yn y BiowyddorauBI400320 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae Ysgol y Biowyddorau yn cynnig profiad addysgol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn seiliedig ar ragoriaeth academaidd. Yn anad dim, mae’r profiad addysgol yn cael ei lywio a’i arwain gan ymchwil flaenllaw, ac mae myfyrwyr a chyrff proffesiynol yn ei ganmol i'r cymylau. Rydym yn ceisio cefnogi pob dysgwr mewn diwylliant dysgu cynhwysol.

Ar y cwrs Biocemeg, byddwch yn caffael gwybodaeth graidd a dealltwriaeth drwy gyfrwng darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol, seminarau ymchwil, gweithdai a sesiynau tiwtorial. Byddwch yn caffael gwybodaeth uwch a dealltwriaeth drwy astudio annibynnol, gwaith grŵp a gwaith prosiect.

Disgwylir i fyfyrwyr gynnal astudiaeth annibynnol a disgwylir mwy o annibyniaeth o ran dysgu wrth i'r cwrs fynd rhagddo.

Gall fod elfennau dethol o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae myfyrwyr hefyd yn gallu gofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer cymorth academaidd a chymorth bugeiliol.

Sut y caf fy nghefnogi?

feysydd ac maen nhw’n angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda myfyrwyr.

Bydd rhyngweithio â staff academaidd yn digwydd yn bennaf yn ystod darlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (sesiynau tiwtorial). Bydd myfyrwyr hefyd yn cael tiwtor personol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol a chyngor academaidd drwy gydol y cwrs.

Gellir cysylltu â staff darlithio mewn perthynas â sesiynau addysgu neu drwy ebost, ac maen nhw’n gweithredu polisi ‘drws agored’ ar gyfer myfyrwyr ag ymholiadau penodol am ddeunydd cwrs, neu system ar gyfer cadw lle ar gyfer cyfarfod. Hefyd, mae gan bob cynllun gradd gydlynydd cynllun gradd sy'n gallu rhoi cyngor ar faterion academaidd. Mae gan bob blwyddyn astudio gydlynydd blwyddyn a all roi cyngor ar faterion gweinyddol sy'n ymwneud â’r cwrs astudio. Hefyd, mae Swyddfa israddedig hwylus gyda gweinyddwyr cyfeillgar a phrofiadol a all ateb y rhan fwyaf o ymholiadau gweinyddol hefyd.

Adborth
Bydd adborth ar eich astudiaeth, eich gwaith a’ch cynnydd ar sawl ffurf, o sylwadau ysgrifenedig ffurfiol ar eich gwaith a gyflwynwyd i sgyrsiau mwy anffurfiol a chyngor yn ystod dosbarthiadau a sesiynau ymarferol, neu gan eich Tiwtor Personol. Drwy gydol y cwrs, byddwn yn rhoi adborth manwl ar yr holl waith cwrs a asesir. Fel arfer, darperir hyn ar-lein drwy system 'Grademark', sy'n eich galluogi i weld eich adborth yn gyfleus trwy ddyfais tabled neu gyfrifiadur. Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich cynnydd academaidd a’ch datblygiad personol gyda'ch Tiwtor Personol, a thrafod papurau arholiad traethawd er mwyn gwella eich perfformiad. Yn ystod y prosiect ymchwil a gwaith ymarferol, cewch adborth ychwanegol yn rheolaidd gan y staff academaidd sy’n eich goruchwylio.

Sut caf fy asesu?

Fel arfer, asesir modiwlau’r flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. Mae pob modiwl yn cynnwys asesiadau gwaith cwrs, a gallai’r rhain fod ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig ymarferol, adroddiadau strwythuredig, profion dosbarth, profion ateb strwythuredig, gwaith grŵp, cyflwyniadau poster a chyflwyniadau llafar ac ymarferion datrys problemau ystadegol/cyfrifiaduro.  Gall asesiadau fod yn grynodol a gallant gyfrif tuag at farc terfynol y modiwl, neu gallant fod yn ffurfiannol, gan eich helpu i ddysgu ac ymarfer sgiliau allweddol a gwybodaeth drwy adborth.  Mae'r arholiadau terfynol ar ddiwedd pob modiwl yn cynnwys adran ateb strwythuredig sy’n cael ei farcio gan beiriant (asesu ehangder gwybodaeth) ac adran ateb ysgrifenedig (asesu dyfnder gwybodaeth mewn pynciau penodol).   

Yn ystod y Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol byddwch yn cynhyrchu adroddiad lleoliad, a fydd yn cyfrif tuag at asesiad terfynol eich gradd.

Yn y bedwaredd flwyddyn, asesir modiwlau a addysgir drwy arholiadau a gwaith cwrs dadansoddol estynedig. Caiff prosiectau ymchwil ymarferol neu academaidd eu hasesu gan werthusiad goruchwyliwr ac adroddiad ysgrifenedig.

Drwy waith cwrs yn unig yr asesir modiwlau'r flwyddyn olaf. Asesir y prosiect ymchwil drwy werthusiad goruchwylwyr, adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau gwyddonol yn ogystal â 'sgiliau cyflogadwyedd' allweddol trosglwyddadwy a fydd yn amhrisiadwy beth bynnag fo eich dewis gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dysgu annibynnol ac astudio hunangyfeiriedig;
  • casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth i greu dadleuon rhesymegol ac argyhoeddiadol;
  • meddwl yn feirniadol a datrys problemau;
  • cyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd eglur ac effeithiol (gan ddefnyddio'r holl gyfryngau);
  • gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol;
  • cymwyseddau TG, gan gynnwys pecynnau cyflwyno, graffeg ac ystadegau;
  • perfformio a dehongli dadansoddiadau ystadegol o ddata;
  • rheoli amser yn effeithiol a sgiliau trefnu.

O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dadansoddi, cyfosod a chrynhoi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau;
  • trafod y berthynas rhwng strwythur/ffurfiant a swyddogaeth/rheoliad moleciwlau, organelau, celloedd, meinweoedd, organebau a phoblogaethau;
  • cyfathrebu gwybodaeth wyddonol, a gwybodaeth arall, yn effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau;
  • trafod materion cyfredol ynghylch ymchwil, astudiaethau a/neu drafodaethau, gan ddatblygu beirniadaeth ystyrlon;
  • cyfosod dadl neu farn, yn seiliedig ar dystiolaeth a data cadarn;
  • pennu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau ystadegol;
  • integreiddio syniadau a chysyniadau i ragfynegi, ffurfio a gwerthuso damcaniaethau newydd;
  • cynnal amrywiaeth o sgiliau ymarferol labordy a sgiliau maes mewn modd cywir a chyson;
  • integreiddio arsylwadau empeiraidd â theori, gan roi gwybodaeth o'r labordy ar waith yn y maes;
  • cymhwyso technegau ymchwil cyfoes i ddatrys problemau biolegol;
  • dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu gydol oes annibynnol (er enghraifft sgiliau trosglwyddadwy gweithio'n annibynnol, rheoli amser, trefnu, menter a gwybodaeth).

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 92% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae ein gradd Meistr ar gyfer ymchwilwyr brwd a'r rheiny sy'n gobeithio cael gyrfa mewn gwyddoniaeth. Mae'r cymwyseddau a ddatblygir gydol y cwrs yn gweddu'n berffaith i yrfaoedd uchel mewn meysydd sy'n gysylltiedig ag ymchwil (e.e. astudio ar gyfer PhD neu weithio mewn diwydiant).

Mae gan ein graddedigion hefyd lefelau uchel o gymhwysedd mewn llu o sgiliau trosglwyddadwy sy’n ddeniadol i ystod eang o gyflogwyr ym meysydd mwy cyffredinol diwydiant, masnach, gwasanaethau cyhoeddus, gweinyddu a rheoli. Yn olaf, gall gradd mewn Biocemeg fod yn gam at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio, gwyddoniaeth filfeddygol neu gyfrifeg.

Lleoliadau

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY) sy'n rhoi cyfle i chi dreulio cyfnod o 9-12 mis mewn labordy ymchwil academaidd, clinigol neu ddiwydiannol, neu sefydliad arall wedi’i gymeradwy, er mwyn ennill profiad ymchwil yn uniongyrchol.

Mae llawer o leoliadau yn digwydd yn y DU, ond mae nifer o leoliadau ar gael gennym hefyd yn Ewrop, de-ddwyrain Asia, De Affrica, yr Almaen, yr Eidal ac UDA.
Mae dod o hyd i leoliad yn broses gystadleuol ac ni ellir gwarantu llwyddiant. Chi fydd yn llywio’r broses yn bennaf gan fod y rhan fwyaf o leoliadau yn dibynnu ar y broses ymgeisio a dethol gan y cwmni neu’r sefydliad sy’n bartner. Fodd bynnag, rydyn ni’n rhoi cyngor a chymorth, a hyd yn hyn rydyn ni wedi llwyddo i leoli’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (PTY).

Os na fydd lleoliad ar gael, neu eich bod yn newid eich meddwl, gallwch newid o’r radd bum mlynedd gyda PTY i gwrs gradd MBiochem Meistr integredig pedair blynedd.

Gwaith maes

Mae profiad uniongyrchol o blanhigion ac anifeiliaid yn eu cynefinoedd naturiol yn rhan bwysig o fioleg fodern. Yng Nghaerdydd, rydym yn cynnal ystod ragorol o gyrsiau maes i roi profiad ymarferol hanfodol i chi o dechnegau modern a sgiliau ymarferol mewn bioleg maes, fel canu adar, dadansoddi microbau, trapio mamaliaid bach, trapio cwymp pyllau ac arolygu ystlumod.

Gan ddibynnu ar ddewisiadau modiwl, argaeledd a chyfyngiadau amserlennu, efallai y bydd myfyrwyr Biocemeg yn cael yr opsiwn o gymryd un o’n cyrsiau maes.

Yn yr ail flwyddyn, gall myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl Ecoleg a Chadwraeth ddewis o blith sawl cwrs arbenigol yn seiliedig ar brosiect a gynhelir mewn amrywiaeth o leoliadau ym mhedwar ban byd.  Yn nodweddiadol mae ein cyrsiau maes yn cynnwys Ecoleg Drofannol (Borneo, Malaysia), Ecoleg Forol (y Caribî a Malaysia), Ecoleg Ynysoedd (Cymru), Ecoleg Afonydd (Cymru) ac Ecoleg Coetiroedd (Cymru).

Ar adegau, gall cyrsiau maes gael eu heffeithio gan gyfyngiadau teithio, argaeledd staff neu rifau.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.