Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth ac Archaeoleg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Bydd y radd Cydanrhydedd mewn Archaeoleg ac Athroniaeth yn rhoi'r cyfle i chi arbenigo mewn dau bwnc gradd Prifysgol.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Student in library

Trosolwg y cwrs

Mae'r BA mewn Archaeoleg ac Athroniaeth yn rhoi'r cyfle i chi gyfuno astudio athroniaeth ag astudio'r gorffennol, o darddiad y ddynoliaeth gynnar hyd at ddiwedd y canol oesoedd. 

Mae Archaeoleg yn mynd i'r afael â chwestiynau mawr am y gorffennol dynol, nad oes cofnod ysgrifenedig ar gael ar gyfer llawer ohono. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar Ynysoedd Prydain, Ewrop a gwledydd dwyrain Môr y Canoldir, yn cynnwys yr Aifft.

Fel myfyriwr yng Nghaerdydd, byddwch yn dysgu gyda staff sy'n gwneud gwaith ymchwil arloesol ar bob cyfnod, o darddiad y ddynoliaeth gynnar i'r gorffennol diweddar. Byddwch hefyd yn elwa ar ein labordai addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf, offer arolygu a geoffisegol pwrpasol ac amrywiaeth o offer soffistigedig ar gyfer dadansoddi arteffactau.

Mae Athroniaeth yng Nghaerdydd yn arbennig oherwydd ei phwyslais mawr ar foeseg, gwleidyddiaeth, ac estheteg, a’r sylw cyfartal y mae’n ei roi i ddulliau ‘dadansoddol’ a ‘Chyfandirol’ o ymgymryd ag athroniaeth Orllewinol.

Mae gradd gydanrhydedd yn cyffroi ac yn gwobrwyo llawer o fyfyrwyr wrth iddyn nhw weld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Ceir meysydd a safbwyntiau ategol yn aml yn ogystal â sgiliau sy'n cysylltu'r pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar.

Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i hategu gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:

  • pwyslais gref ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg
  • sylw cyfartal i arddulliau ‘dadansoddol’ a ‘Chyfandirol’ Athroniaeth Orllewinol
  • cysylltiadau agos â safleoedd hanesyddol lleol fel Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerllion a Chaer-went – gan ganiatáu cysylltiadau ychwanegol gydag archaeoleg fel disgyblaeth academaidd
  • lleoliad gwaith cloddio neu archaeolegol ar ddiwedd blwyddyn dau a blwyddyn tri, a drefnir ac a gyllidir gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yng Nghaerdydd
Côd UCASVV54
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd3 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer, mae 350 lle ar gael yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Mae 320 lle ar gael yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, fel arfer.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn derbyn tua 1450 o geisiadau. Mae’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn derbyn tua 1800 o geisiadau.
  1. Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  2. Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

Gofynion mynediad

ABB-BBB. Ni fydd angen i chi ennill y graddau hyn mewn unrhyw bynciau penodol, ond nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol a Meddwl Beirniadol. 

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM i gynnwys pynciau ynghylch y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Astudiaethau Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

TGAU Saesneg Iaith Gradd C neu 4 neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfatebol. 

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£17,700Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Efallai y bydd angen dillad dal dŵr ac esgidiau addas, ac weithiau pabell a sach gysgu, ar gyfer teithiau maes a gwaith maes.  Mae gan y Brifysgol arian ar gael os ydych chi'n cael trafferth fforddio’r offer hwn.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am dair blynedd gyda dau semester y flwyddyn, wedi eu rhannu rhwng y ddau bwnc. Ceir 120 o gredydau bob blwyddyn. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Archaeoleg a 60 credyd Athroniaeth.

Bydd y modiwlau Archaeoleg yn cyflwyno'r dystiolaeth faterol i chi ar y cymdeithasau hynafol yr Aifft, Gwlad Groeg a Rhufain yn ardal Môr y Canoldir, ac astudio Prydain o Oes yr Iâ i’r cyfnod canoloesol.

Mae'r modiwlau athroniaeth gorfodol yn canolbwyntio ar natur y meddwl a chyflwyno cysyniadau, damcaniaethau, dadleuon a dulliau canolog damcaniaeth foesol a gwleidyddol cyfoes. 

Blwyddyn dau

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Archaeoleg a 60 credyd Athroniaeth.

Byddwch yn ymgymryd â phedair wythnos ar leoliad gwaith cloddio neu waith archaeolegol arall, ac yn dewis o blith amrywiaeth fawr o fodiwlau dewisol.

Blwyddyn tri

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Archaeoleg a 60 credyd Athroniaeth.

Os dymunwch, gallwch ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o'ch dewis chi yn y naill ddisgyblaeth neu’r llall. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ganolbwyntio eich diddordebau ar faes neu gyfnod penodol.

Byddwch yn ymgymryd â phedair wythnos arall ar leoliad gwaith cloddio neu waith archaeolegol arall.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Archaeology Field and Practical Skills 2HS220420 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
The Archaeology of the Anglo-SaxonsHS220120 credydau
Geophysical SurveyingHS220220 credydau
Iron Age BritainHS230620 credydau
Post-Roman Celtic BritainHS234020 credydau
Aegean Bronze Age: Emergence to CollapseHS238720 credydau
Art and Archaeology of Classical GreeceHS238920 credydau
Pharaohs of the SunHS241020 credydau
BioarchaeologyHS243220 credydau
Archaeology DissertationHS243540 credydau
Museums' Collections ManagementHS244120 credydau
Archaeological Illustration and PhotographyHS244620 credydau
Spatial Technologies and Geographical Information SystemsHS245120 credydau
MetaethicsSE436720 credydau
Moral PsychologySE437220 credydau
The Problem of ConsciousnessSE437920 credydau
Dissertation in PhilosophySE438520 credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 credydau
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruSE439620 credydau
Cognition and TechnologySE441020 credydau
Animal MindsSE441120 credydau
The Social ImaginationSE441220 credydau
Modern German PhilosophySE441320 credydau
Athroniaeth CrefyddSE441720 credydau
Belief & IrrationalitySE441920 credydau
Desires, Emotions and HappinessSE442020 credydau
Ethics of KnowingSE442220 credydau
Beauty & EthicsSE442520 credydau
Moral ResponsibilitySE442620 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Fe fyddwch chi hefyd yn dysgu drwy sesiynau ymarferol a theithiau maes archaeolegol, ac yn cymryd rhan mewn sesiynau tiwtorial un i un.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol.

Bydd gwaith cwrs, arholiadau, gwaith ymarferol a chyflwyniadau llafar yn profi'r sgiliau gwahanol y byddwch wedi'u dysgu.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:

  • ddeall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Rhagolygon gyrfa

YSGOL SAESNEG, CYFATHREBU AC ATHRONIAETH

Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae gan raddedigion Athroniaeth sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.

YR YSGOL HANES, ARCHAEOLEG A CHREFYDD
Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio

Rydyn ni’n credu bod myfyrwyr archaeoleg mewn sefyllfa arbennig o dda i gystadlu am gyflogaeth gan fod eu gradd yn cynnwys amrywiaeth o sgiliau ymarferol ac academaidd sydd â gwerth eang y tu hwnt i archaeoleg. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy hyn wedi galluogi ein graddedigion i weithio mewn newyddiaduraeth, bancio, cyllid, addysgu ac amrywiaeth eang o feysydd eraill.

Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i adnabod eu sgiliau a'u priodoleddau. Mae llawer o'n graddedigion yn mynd i broffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd academaidd, fel gwaith mewn archifau neu amgueddfeydd. Mae'r rhan fwyaf, fodd bynnag, yn cystadlu'n llwyddiannus iawn mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill.

Gwaith maes

Fe fyddwch chi’n ymgymryd â phedair wythnos o waith cloddio archaeolegol neu leoliad gwaith archaeolegol arall ar ddiwedd eich ail flwyddyn a'r drydedd flwyddyn. Trefnir, cymeradwyir, ariennir ac asesir lleoliadau gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Gwanwyn 2020

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais