Ewch i’r prif gynnwys

Archaeoleg a Hanes (BA)

An Egyptian archaeological artefact

Pam astudio'r cwrs hwn

star

Labordai pwrpasol

Cewch ddefnyddio ein labordai a hefyd ein hystafelloedd darlunio a ffotograffiaeth ddigidol.

location

Astudiwch gydag angerdd

Dilynwch eich diddordebau gyda phynciau sy'n amrywio o gaethwasiaeth yn America i hanes Sofietaidd a Japan.

globe

Lleoliadau - cartref a thramor

Profwch weithgareddau gan gynnwys cloddio, prosiectau amgueddfa a gweithgareddau labordy.

location

Anturiaethau gwaith maes

Cewch feithrin sgiliau ymarferol a rhoi'r hyn y byddwch yn ei ddysgu ar waith; darganfod lleoliadau cyffrous a datgelu byd o'r gorffennol.

briefcase

Gweithdai gyrfaoedd rhyngweithiol

Cyfle i hogi eich sgiliau gyrfa a chael cipolwg gwerthfawr ar rolau a sectorau sy'n addas i chi.

Trwy astudio hanes yng Nghaerdydd, byddwch chi’n gwybod ac yn deall strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymdeithasau a fu. Rydyn ni’n hyddysg ynghylch amrywiaeth helaeth o gymdeithasau, cyfnodau a lleoedd ledled Ynysoedd Prydain, Ewrop (dwyrain a gorllewin), Affrica, Asia ac America. Mae ein modiwlau’n rhoi cyfle ichi astudio meysydd sydd wedi hen ennill eu plwyf megis hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol a rhywedd, neu archwilio meysydd a allai fod yn newydd ichi megis hanes amgylcheddol neu ddigidol. 

Ym maes archeoleg, gwelwch chi safleoedd Prydain a Môr y Canoldir ac fe gewch chi arbenigo yn yr ardaloedd hynny. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i feithrin amryw fedrau archeolegol, hefyd. Byddwch chi’n meithrin medrau ymarferol a phroffesiynol trwy leoliad pedair wythnos yn ystod yr ail flwyddyn.

Mae’n rhaglen yn ymwneud ag amrywiaeth helaeth o gyfnodau ac agweddau a bydd yn meithrin medrau deallusol megis y gallu i asesu gwahanol fathau o dystiolaeth yn feirniadol, cloriannu sawl dehongliad o dystiolaeth, llunio dadleuon yn ôl tystiolaeth a mynegi barn eglur ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd. Trwy ein gradd, byddwch chi’n meithrin medrau sydd o fantais yn yr oes ddigidol hon: creadigrwydd, ymdeimlo, meddwl beirniadol, darbwyllo a’r gallu i godi cwestiynau.

Trwy gyfuno archeoleg a hanes, byddwch chi’n dysgu llawer ac yn meithrin digon o fedrau trosglwyddadwy yn ogystal â rhai creadigol, beirniadol ac ymarferol sy’n bwysig iawn mewn marchnad fwyfwy cystadleuol o ran swyddi, gan agor y drysau at sawl llwybr gyrfaol. Byddwch chi’n treulio’r un faint o amser ar bob pwnc gan astudio’r gorffennol trwy dystiolaeth faterol, ysgrifenedig a gweledig.

Yn ôl eich brwdfrydedd a’ch chwilfrydedd, bydd cyfle i arbenigo mewn cyfnodau a rhanbarthau sydd o ddiddordeb ichi, rhwng Oes y Cerrig a’r 20fed ganrif.

Maes pwnc: Archaeoleg a chadwraeth

Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Yn unol â pholisi derbyn Prifysgol Caerdydd.  Mae'n bosibl y cyfwelir ymgeiswyr sy'n dychwelyd i addysg mewn modd nad yw'n arferol, megis trwy gwrs Mynediad.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Dylech chi fod yn fodlon prynu rhai testunau pwysig a thalu am argraffu a llungopïo’ch deunydd. Efallai yr hoffech chi brynu llyfrau sy’n bwysig i’ch modiwlau neu o ddiddordeb arbennig i chi, hefyd.

Bydd angen dillad addas (cotiau rhag glaw ac esgidiau cryf) a llety weithiau (pabell a bag cysgu) ar gyfer ymweliadau a gwaith maes. Mae gan y Brifysgol arian i’w gynnig i fyfyrwyr na allan nhw fforddio prynu cyfarpar o’r fath neu deithio i safleoedd yn y deyrnas hon.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd angen dillad addas (e.e. dillad ac esgidiau addas) ac weithiau llety (e.e. pabell a bag cysgu) ar gyfer teithiau maes a gwaith maes.  Mae gan y Brifysgol arian ar gael i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol o ran prynu’r offer hwn.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’n cwrs BA Archeoleg a Hanes yn un tair blynedd a fydd yn rhoi ichi fedrau, hyfforddiant a gwybodaeth er llwyddiant gyrfaol boed astudio ar gyfer cymwysterau uwch wedyn, gweithio ym maes archeoleg a threftadaeth neu weithio mewn meysydd eraill. Mae'n cyfuno medrau academaidd ac ymarferol ac yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau a'ch brwdfrydedd.  

Byddwch chi’n astudio 120 o gredydau bob blwyddyn - 60 trwy fodiwlau archeoleg a 60 trwy fodiwlau hanes. Bydd digon o hyblygrwydd ym mhob un o’r tair blynedd trwy fodiwlau dewisol archeoleg a hanes fel ei gilydd ynghylch themâu, cyfnodau a dulliau fel y gallwch chi anelu at drywydd pwrpasol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Ym maes archeoleg, byddwch chi’n astudio Prydain o oes y trigolion cyntaf hyd at yr 20fed ganrif ac yn dechrau edrych ar gymdeithasau’r hen Aifft, Groeg a Rhufain. Byddwch chi’n dechrau dysgu medrau archeolegol hanfodol hefyd, trwy ymweliadau â safleoedd treftadaeth pwysig yn y deheubarth ac yng ngorllewin Lloegr.

Diben ein modiwlau hanes yw meithrin medrau astudio uwch a chyflwyno themâu a meysydd nas gweloch chi yn ystod cwrs y Safon Uwch, o bosibl. Bydd ein 2 fodiwl craidd yn cyflwyno’r gwahanol fframweithiau sydd wrth wraidd astudio hanes a’r amryw ffyrdd o’i bortreadu, yn ogystal â’ch galluogi i ystyried y trafodaethau pwysig am sut mae deall cysylltiadau ‘byd-eang’ a newid hanesyddol i gwestiynu ein ffordd o feddwl am gyfnodau a ffiniau rhanbarthau a gwledydd. Bydd modiwlau dewisol ar hanes canoloesol, diweddar cynnar a Chymru yn eich galluogi i ddysgu rhagor am hanes a meithrin eich medrau trwy amryw gyfnodau a rhanbarthau i osod sylfaen ar gyfer astudio yn yr ail flwyddyn a’r drydedd.

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n treulio 4 wythnos mewn cloddfa archeolegol neu sefydliad treftadaeth dros yr haf rhwng eich blwyddyn gyntaf a’ch ail flwyddyn.

Mae modiwl craidd hanes yn cyflwyno'r prif ddulliau a damcaniaethau sydd wedi dylanwadu ar ysgrifennu yn y maes hwn. Bydd ein modiwlau dewisol yn eich galluogi i astudio themâu cyfnod byrrach yn ogystal â’ch annog i gymharu amryw nodweddion. Yn yr ail flwyddyn, bydd pwyslais ar amryw ffyrdd o ddefnyddio tystiolaeth ac fe gewch chi ddewis modiwlau a fydd yn eich helpu i ddeall yn well y mathau o dystiolaeth mae haneswyr yn eu defnyddio yn ogystal â ffyrdd o drin a thrafod y dystiolaeth honno a rôl haneswyr ynghylch lledaenu ymchwil y tu hwnt i’r byd academaidd ac agor neu gau cyfleoedd i fynegi safbwynt. At hynny, bydd 2 fodiwl dewisol ychwanegol ym maes archeoleg fel y gallwch chi ganolbwyntio ar gyfnodau a rhanbarthau penodol.

Blwyddyn tri

Uchafbwynt eich cwrs fydd y traethawd mawr - ymchwil annibynnol o bwys o dan adain goruchwyliwr, lle y byddwch chi’n ystyried cwestiwn o safbwyntiau hanes ac archeoleg.

Bydd ym maes archeoleg 2 fodiwl dewisol a allai ganolbwyntio ar ddulliau archeolegol neu’ch galluogi i ddeall rhagor am gyfnod neu ranbarth penodol.

Ynghylch hanes, bydd gofyn ichi ystyried natur datblygiadau yn fanylach yn ystod eich trydedd flwyddyn. Byddwch chi’n meithrin medrau dadansoddi ffynonellau a phortreadu hanes trwy astudio amryw fodiwlau arbenigol sydd ar gael.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Estyn Allan: Menter, Cymuned a ChydweithioHS030120 Credydau
Arolygu GeoffisegolHS220220 Credydau
Prydain Oes yr HaearnHS230620 Credydau
Prydain RufeinigHS236220 Credydau
Celf ac Archaeoleg Gwlad Groeg ArchentaiddHS238620 Credydau
Fforensig ac OsteoarcheolegHS242320 Credydau
Rheoli Casgliadau AmgueddfeyddHS244120 Credydau
Technolegau Gofodol a Systemau Gwybodaeth DdaearyddolHS245120 Credydau
Gemau Digidol ac Ymarfer HanesHS631020 Credydau
Ysbïwyr ac ysbiwyr yn y Byd CanoloesolHS631120 Credydau
Brenhiniaeth: Delwedd, Grym a Phortialadaeth, c.1100-1399HS631220 Credydau
Rhyw, Hunaniaeth a Phrofiad yn Ewrop GanoloesolHS631320 Credydau
Witchcraft and Witch-Hunting in Early Modern Europe, 1400-1750HS631420 Credydau
Chwyldro Gwybodaeth: Gwleidyddiaeth a Chyfathrebu ym Mhrydain Fodern GynnarHS631520 Credydau
Iechyd a Salwch ym Mhrydain Fodern GynnarHS631620 Credydau
Bywydau Symudol: Teithio, Alltudiaeth a Mudo yn y Byd Modern CynnarHS631720 Credydau
Caethwasiaeth a Bywyd Caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau, 1775-1865HS631820 Credydau
Hanes Americanaidd BrodorolHS631920 Credydau
Utopias eithafiaeth: Chwyldroadau mewn Cyd-destun CymharolHS632020 Credydau
Tsiecoslofacia: Yr Ugeinfed Ganrif mewn BychainHS632120 Credydau
Ffrainc dan FeddiannaethHS632220 Credydau
Y tu mewn i'r trydydd ReichHS632320 Credydau
Trais ac ideoleg yn yr Undeb Sofietaidd rhwng y Rhyfel Byd CyntafHS632420 Credydau
Rhyfel a Rhyddid yn y Swdanau ôl-drefedigaetholHS632620 Credydau
Rhywedd ac Imperialaeth, India c.1800- c.1900HS632720 Credydau
Newid, Gwrthdaro a Symudedd Torfol yn Tsieina Gweriniaethol, 1911-1945HS632820 Credydau
Dyffryn Ffasgaidd Japan, 1930-1945HS632920 Credydau
Argraffiadau ymylol y Chwyldro FfrengigHS633020 Credydau
Mayhem a llofruddiaeth: Ymchwilio i'r Isfyd FictoraiddHS633120 Credydau
Gwneud Sosialaeth BrydeinigHS633220 Credydau
Prydain yn Rhyfel: Diwylliant a Gwleidyddiaeth ar y Ffrynt Cartref, 1939-1945HS633320 Credydau
Cyhoeddus a Phreifat: Rhyw, Hunaniaethau a Phwer ym Mhrydain yr Ugeinfed GanrifHS633420 Credydau
Iddewon, Ewrop a'r BydHS633520 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydyn ni’n frwd dros feithrin awyrgylch cyfeillgar, personol a chefnogol lle mae pwyslais cryf ar gyfarfodydd unigol ar adegau pwysig yn ystod y cwrs. Mae gan y darlithwyr lawer o arbenigedd ynghylch themâu, cyfnodau ac ardaloedd a byddan nhw’n cyflwyno’r syniadau diweddaraf yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys eu hymchwil arloesol nhw.

Byddwch chi’n dysgu trwy sawl dull megis darlithoedd rhyngweithiol, seminarau lle mae trafodaethau bywiog, gweithdai, gwaith grŵp a thiwtorialau. Mae rhai modiwlau’n cynnwys ymweliadau, a byddwch chi’n treulio pedair wythnos mewn cloddfa archeolegol neu sefydliad treftadaeth.

Mae’r seminarau a’r gweithdai’n cynnig cyfle gwerthfawr i drin a thrafod prif syniadau a deunydd darllen amryw bynciau. Maen nhw’n gyfle da i ystyried syniadau, cydweithio’n agos â’r darlithwyr a dysgu oddi wrth y myfyrwyr eraill. Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, bydd modd cynnal prosiectau annibynnol gyda chymorth arbenigwr yn y maes a hyfforddiant unigol.

Mae’n dulliau addysgu’n meithrin medrau deallusol megis meddwl yn feirniadol, dadansoddi’n fanwl, cloriannu tystiolaeth, llunio dadleuon, rhoi damcaniaethau ar waith a defnyddio iaith yn effeithiol mewn traethodau a thrafodaethau. At hynny, byddwn ni’n eich helpu i weithio mewn tîm, cynnal ymchwil yn annibynnol a rheoli amser mewn awyrgylch cefnogol. 

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd nifer o staff yn eich helpu trwy amryw ffyrdd megis cynnydd academaidd mewn maes penodol neu ystyried dysgu a chynnydd yn fwy cyfannol.

Bydd tiwtor personol ar gyfer archeoleg a hanes fel ei gilydd a byddan nhw’n eich arwain drwy gydol yr astudio. Byddwch chi’n cwrdd â'ch tiwtoriaid personol yn fynych i drafod eich cynnydd a'ch datblygiad ym mhob rhan o’r astudio. Bydd tiwtoriaid seminarau, darlithwyr a chynullwyr modiwlau yn rhoi cymorth penodol ychwanegol; ymgynghorydd academaidd fydd yn eich helpu i lunio’r traethawd hir ac yn cwrdd â chi yn fynych. Gall y tiwtoriaid personol nodi cymorth priodol os oes anawsterau gyda chi, hefyd.

Bydd cyfleusterau dysgu rhithwir y Brifysgol ar gael ichi yn ogystal â sawl rhaglen a chyfrwng digidol arall i’ch helpu i astudio.

Mae tîm cymorth addysg i israddedigion yn cynnig cymorth ar gyfer gwaith academaidd a materion eraill gan roi gwybodaeth ac arweiniad yn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gyda chi.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amryw wasanaethau megis Student Futures i’ch helpu i gynllunio gyrfa; gwasanaethau cymorth ac achlysuron i’ch helpu i reoli iechyd y corff a’r meddwl; cymorth ar gyfer materion ariannol a chymorth i ymdopi ag anableddau.

Sut caf fy asesu?

Mae amryw ddulliau asesu megis beirniadu ffynonellau, prosiectau ymchwil, adolygiadau, darnau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a chyflwyniadau ynghyd â ffyrdd traddodiadol megis traethodau. Mae rhai asesiadau’n gadael ichi gydweithio mewn prosiect ac mae eraill yn cynnwys ysgrifennu a llunio ar gyfer amryw gynulleidfaoedd; er enghraifft, gallen ni ofyn ichi lunio arddangosfa amgueddfa neu lawlyfr defnyddio ffynonellau; a gallai fod cyfle ichi lunio podlediadau a thestunau digidol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Mae traethodau hir hanes yn eich galluogi i drin a thrafod cwestiynau sylfaenol neu ystyried rhyw fater neu ddadl yn fanylach.

Ym mhob achos, diben yr asesu yw’ch helpu i hel syniadau, meithrin medrau a datblygu galluoedd. Maen nhw’n helpu i roi ichi fedrau sy’n cysylltu’ch gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yn eich annog i fod yn arloesol ac yn greadigol, dyfeisio ffyrdd newydd o drafod problemau neu ofyn cwestiynau, cydweithio wrth ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau, a mynegi dadleuon yn ôl tystiolaeth. Bydd y medrau sydd wedi’u meithrin a’u hasesu yn ystod y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer amryw yrfaoedd.

Yn rhan o hyfforddiant meithrin medrau yn y flwyddyn gyntaf, byddwn ni’n eich helpu i ddeall yr asesu, beth mae disgwyl ichi ei wneud, sut y byddwn ni’n eich marcio a sut mae manteisio i’r eithaf ar yr adborth. Mae cynnydd yn rhan o’r asesu: bydd gorchwylion llai o dan adain yr athrawon yn y flwyddyn gyntaf, yn ogystal â gwaith ffurfiannol yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Bydd adborth am asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle ichi bwyso a mesur eich cyrhaeddiad cyfredol neu ddiweddar. Mae modd ei roi’n unigol neu fesul cylch.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud. 

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:

Gwybod a deall:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

GD1: Cloriannu rôl archeoleg yn y sector treftadaeth ehangach.

GD2: Defnyddio dulliau a damcaniaethau archeolegol i archwilio amryw gyfnodau ac ardaloedd.

GD3: Trin a thrafod tybiaethau a dulliau cyfnewidiol archeolegwyr ynghylch esbonio’r gorffennol.

GD4: Dangos ffordd drefnus o wybod a deall cymhlethdod ac amrywiaeth sefyllfaoedd, digwyddiadau ac agweddau mewn amryw gyfnodau ac ardaloedd.

Medrau deallusol:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

SD1: Hel, disgrifio a chyflwyno gwybodaeth archeolegol gymhleth nad oes modd ei darogan.

SD2: Dadansoddi, trafod a dehongli tystiolaeth gymhleth (gan gynnwys pethau, safleoedd, adeiladau a thirweddau).

SD3: Cysylltu’r hyn rydych chi’n ei wybod ac yn ei ddeall am hanes ac archeoleg â meysydd eraill yn y dyniaethau.

SD4: Defnyddio gwybodaeth, ynghyd â medrau a dulliau priodol, i nodi a chloriannu newid hanesyddol yn y ffordd o drin a thrafod cyfnodau neu ardaloedd.

SD5: Llunio a chyfiawnhau dadleuon am faterion, problemau a thrafodaethau ym maes hanes trwy syniadau a dulliau hanesyddiaethol.

SD6: Dod o hyd i ffynonellau sylfaenol priodol, pwyso a mesur eu natur a'u dadansoddi'n feirniadol i ateb cwestiynau a datrys problemau.

Medrau ymarferol proffesiynol

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

SY1: Helpu i adnabod, archwilio a chofnodi safleoedd archeolegol.

SY2: Asesu pwysigrwydd safleoedd a deunyddiau archeolegol.

SY3: Defnyddio medrau archeolegol mewn sefyllfa broffesiynol.

SY4: Gofyn cwestiynau ymchwil cryf a phenodol a mynd ar drywydd atebion i'r cwestiynau hynny trwy ymholi strwythuredig gan ddewis ac archwilio ystod briodol o dystiolaeth.

Medrau trosglwyddadwy/allweddol:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

ST1: Dangos meddwl beirniadol, rhesymu a'r gallu i gymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth trwy ddethol yn annibynnol a dadansoddi'n feirniadol ystod briodol o dystiolaeth.

ST2: Crynhoi, pwyso a mesur cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dehongliadau amgen a gwerthuso eu harwyddocâd.

ST3: Cyflwyno canfyddiadau a dadleuon cymhleth yn eglur, yn gryno ac yn ddarbwyllol ar amryw ffurfiau.

ST4: Dangos menter i ddatrys problemau a dadansoddi tystiolaeth amryfal, rannol neu amwys gan feddwl yn feirniadol, yn fentrus ac yn greadigol.

ST5: Cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth yn effeithiol, naill ai'n unigol neu’n rhan o dîm.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ar ôl graddio, bydd gyda chi amryw fedrau megis cydweithio, arwain a chyfathrebu ynghyd â’r hyder i’w defnyddio a’r gallu i weld y darlun ehangach ac, felly, byddwch chi’n werthfawr i gyflogwyr mewn nifer o yrfaoedd.

Mae graddedigion archeoleg a hanes mewn amrywiaeth helaeth o yrfaoedd gan ddefnyddio’r medrau ddysgon nhw yn y cwrs. Mae rhai wedi dewis swyddi lle y byddan nhw’n defnyddio medrau’r pwnc yn uniongyrchol (megis gweithio dros gwmnïau archeolegol masnachol neu gyrff treftadaeth cenedlaethol/lleol, amgueddfeydd ac archifau), ac mae eraill yn gweithio yn y sectorau cyhoeddus neu breifat mewn meysydd megis cyllid, cyhoeddi, y gyfraith, hysbysebu a marchnata, newyddiaduraeth a galwedigaethau proffesiynol eraill.

Mae’n cwrs yn rhoi ichi fedrau pwysig mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi megis cydweithio a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd, meddwl yn feirniadol a dyfeisio ffyrdd newydd o drin a thrafod problemau. Mae hyfforddiant ac achlysuron gyrfaoedd yn aml, gan anelu at feithrin medrau yn ystod y cwrs a’u defnyddio’n llwyddiannus wedyn.

Lleoliadau

A chithau’n fyfyriwr hanes ac archeoleg, byddwch chi’n treulio pedair wythnos mewn cloddfa archeolegol neu sefydliad treftadaeth dros yr haf rhwng eich blwyddyn gyntaf a’ch ail flwyddyn. Byddwn ni’n gofalu bod modd ymgorffori profiad o’r fath yn eich dysgu mewn ffyrdd eraill.

Bydd cyfleoedd i dreulio amser mewn amryw leoedd yn ystod yr ail flwyddyn trwy fodiwl ar gyfer rhoi ar waith fedrau rydych chi wedi’u dysgu yn ystod y cwrs. Yn eich blwyddyn olaf, bydd modd dewis modiwl meithrin medrau menter i’ch paratoi ar gyfer cyfathrebu a chydweithio â sefydliadau allanol. Mae gan ein staff gysylltiadau agos ag amryw sefydliadau lleol dros dreftadaeth a materion eraill hefyd, a bydd cyfleoedd i dreulio amser yno yn ystod semestrau ac wedyn.

Trwy ein cysylltiadau â Student Futures, gallwch chi drefnu i dreulio amser mewn sefydliadau neu fod yn intern ar y campws (er enghraifft, gweithio 35 awr yr wythnos wrth astudio neu weithio dros yr haf). At hynny, mae Go Wales yn cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer profiad gwaith.

Gwaith maes

Gwneir prosiectau gwaith maes blynyddoedd dau a tri yn ystod yr haf cyn y blynyddoedd academaidd blaenorol hynny.  Caiff y prosiectau gwaith maes eu haddysgu drwy bedair wythnos o gyfranogiad myfyrwyr ar waith archaeolegol fel cloddio, arolygon maes, prosiectau curadurol amgueddfa neu unrhyw weithgareddau mewn labordy yn dilyn cloddio.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.