Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth a Hanes yr Henfyd (BA)

  • Côd UCAS: VV51
  • Derbyniad nesaf: Medi 2020
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Clirio ac Addasu

Mae'r cwrs hwn fod ar gael yn Clirio ac Addasu ar gyfer mynediad 2020. Ffoniwch 0333 241 2800 i drafod eich opsiynau neu weld ein holl lleoedd gwag.


Blwyddyn Mynediad

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r BA mewn Hanes yr Henfyd ac Athroniaeth yn anelu at ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth feirniadol o strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol cymdeithasau yn y gorffennol a meithrin eich sgiliau deallusol a beirniadol.

Mae pob Ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i hategu gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.

Mae hwn yn gwrs gradd tair blynedd sy'n cynnwys rhai modiwlau craidd sy'n darparu sgiliau a hyfforddiant hanfodol, yn ogystal ag amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol i chi ddewis o’u plith er mwyn teilwra eich gradd i gwrdd â'ch diddordebau.

Mae'r cwrs Hanes yr Henfyd yng Nghaerdydd yn cwmpasu’r cyfnod o’r Oes Efydd Aegeaidd i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin a’i goroesiad yn y dwyrain fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Mae cydbwysedd rhwng modiwlau sy’n cwmpasu cyfnodau hanesyddol penodol a modiwlau thematig sy’n archwilio pynciau cymdeithasol a diwylliannol eang, fel rhyfela, rhywedd, crefydd, celf, meddygaeth a gwyddoniaeth.

Mae dwy agwedd gysylltiedig ar Athroniaeth yng Nghaerdydd sy'n ei gwneud yn nodedig ymysg prifysgolion Grŵp Russell. Un yw bod yna bwyslais cryf ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg ymhlith y modiwlau a gynigir. Y llall yw bod ein gwaith ymchwil ac addysgu yn cael ei ledaenu’n gyfartal ar draws arddulliau ‘dadansoddol’ a ‘Chyfandirol’ Athroniaeth Orllewinol. 

Mae’r radd yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen ar fyfyrwyr sy’n dymuno astudio Hanes yr Henfyd ac Athroniaeth ar lefel ôl-raddedig, ynghyd ag amrywiaeth werthfawr o sgiliau deallusol a throsglwyddadwy i fyfyrwyr sy’n dymuno mynd i broffesiynau eraill.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:

  • pwyslais gref ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg
  • sylw cyfartal i arddulliau ‘dadansoddol’ a ‘Chyfandirol’ Athroniaeth Orllewinol
  • cysylltiadau agos â safleoedd hanesyddol lleol, gan roi’r cyfle i gysylltu eich astudiaethau academaidd ag ymchwil weithredol yn y maes
  • cyfle i astudio Lladin a Groeg

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Rydym yn chwilfrydig am brofiadau bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd a diwylliannau, ac eisiau deall ein gorffennol yn well er mwyn goleuo ein presennol a gwella ein dyfodol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4470
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Wedi ein pweru gan ymchwil arloesol, rydym yn dathlu chwilfrydedd, yn ymgysylltu mewn trafodaethau gwybodus a dadansoddi beirniadol ac yn eich annog i feddwl yn greadigol - ar draws a thu hwnt i'n disgyblaethau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4243
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

ABB-BBB. Ni fydd angen i chi ennill y graddau hyn mewn unrhyw bynciau penodol. Sylwch na dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DMM i gynnwys pynciau ynghylch y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Gallai cymwysterau eraill o'r DU gael eu derbyn, yn aml yn lle cymwysterau Safon Uwch, ond rhaid i ofynion pwnc gael eu bodloni. Os ydych chi'n cynnig cymwysterau na chyflawnir yn y DU, dylai ein harweiniad i gymwysterau cyfatebol eich galluogi i gyfrifo pa fath o gynnig rydych chi'n debygol o'i gael.

Cofiwch mai arweiniad cyffredinol yw hwn ac efallai bydd y gofynion mynediad ar gyfer rhai rhaglenni yn fanylach neu'n fwy penodol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y cynnig a gewch.

Mwy o wybodaeth am feini prawf derbyn ein Hysgolion, y cynllun gwarantu cynnig, newidiadau i raglenni a chyfieithu eich dogfennau.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Gwybodaeth am ein ffioedd dysgu

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£17,700Dim

Gwybodaeth am ein ffioedd dysgu

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para am dair blynedd gyda dau semester y flwyddyn, wedi eu rhannu rhwng y ddau bwnc. Ceir 120 o gredydau bob blwyddyn. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Hanes yr Henfyd a 60 credyd Athroniaeth.

Mae’r modiwlau gorfodol yn Hanes yr Henfyd yn cyflwyno hanes hynafol Groegaidd a Rhufeinig i chi.

Mae'r modiwlau athroniaeth gorfodol yn canolbwyntio ar natur y meddwl a chyflwyno cysyniadau, damcaniaethau, dadleuon a dulliau canolog damcaniaeth foesol a gwleidyddol cyfoes.

Blwyddyn dau

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Hanes yr Henfyd a 60 credyd Athroniaeth.

Byddwch yn dewis o blith amrywiaeth fawr o fodiwlau dewisol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Now and Next: From Academia to Employment (20 Credits)HS000420 credydau
Aegean Bronze Age: Emergence to CollapseHS238720 credydau
Art and Archaeology of Classical GreeceHS238920 credydau
Spatial Technologies and Geographical Information SystemsHS245120 credydau
Roman Imperial History, 31BC- AD138HS333520 credydau
The Later Roman Empire, AD284-480HS333720 credydau
Tyrants, Kings and Democrats: the Rise of Classical GreeceHS337420 credydau
Greek and Roman MedicineHS337620 credydau
Assyria: Life and Thought in Ancient MesopotamiaHS337920 credydau
Drama in Context: Ancient Greek Theatre, Politics and SocietyHS338120 credydau
The World of CleopatraHS338320 credydau
Rebelling Against Rome: Local Identity and Resistance across the Roman EmpireHS338420 credydau
Religion in Rome and ItalyHS338520 credydau
Byzantium: the Golden Age, AD 842-1056HS339320 credydau
Death and Burial in the Roman WorldHS430820 credydau
Independent 2nd Year StudyHS433420 credydau
Pots, Poems and Pictures: Using Evidence for Ancient HistoryHS433620 credydau
At Home with the Romans: Domestic Space and SocietyHS433920 credydau
Life in Ancient RomeHS437020 credydau
History and Religion of Ancient IsraelRT230120 credydau
Philosophy of ScienceSE431220 credydau
MetaphysicsSE436420 credydau
French ExistentialismSE436920 credydau
Modern Moral PhilosophySE437320 credydau
Contemporary Ethical TheorySE438820 credydau
EpistemologySE439820 credydau
Credoau'r CymrySE440020 credydau
Ancient PhilosophySE440520 credydau
Philosophy of FeminismSE441820 credydau
Philosophy of PsychologySE442120 credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio’r Gymdeithas GyfalafolSE442320 credydau
AestheticsSE442420 credydau
ENCAP Employability ModuleSE625520 credydau

Blwyddyn tri

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Hanes yr Henfyd a 60 credyd Athroniaeth.

Os dymunwch, gallwch ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o'ch dewis chi yn y naill ddisgyblaeth neu’r llall. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ganolbwyntio eich diddordebau ar faes neu gyfnod penodol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Aegean Bronze Age: Emergence to CollapseHS238720 credydau
Art and Archaeology of Classical GreeceHS238920 credydau
Spatial Technologies and Geographical Information SystemsHS245120 credydau
Roman Imperial History, 31BC- AD138HS333520 credydau
The Later Roman Empire, AD284-480HS333720 credydau
Tyrants, Kings and Democrats: the Rise of Classical GreeceHS337420 credydau
Greek and Roman MedicineHS337620 credydau
Assyria: Life and Thought in Ancient MesopotamiaHS337920 credydau
Drama in Context: Ancient Greek Theatre, Politics and SocietyHS338120 credydau
The World of CleopatraHS338320 credydau
Rebelling Against Rome: Local Identity and Resistance across the Roman EmpireHS338420 credydau
Religion in Rome and ItalyHS338520 credydau
Byzantium: the Golden Age, AD 842-1056HS339320 credydau
Death and Burial in the Roman WorldHS430820 credydau
Researching the Ancient World: Final Year DissertationHS433540 credydau
Pots, Poems and Pictures: Using Evidence for Ancient HistoryHS433620 credydau
At Home with the Romans: Domestic Space and SocietyHS433920 credydau
Life in Ancient RomeHS437020 credydau
History and Religion of Ancient IsraelRT230120 credydau
MetaethicsSE436720 credydau
Moral PsychologySE437220 credydau
The Problem of ConsciousnessSE437920 credydau
Dissertation in PhilosophySE438520 credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 credydau
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruSE439620 credydau
Cognition and TechnologySE441020 credydau
Animal MindsSE441120 credydau
The Social ImaginationSE441220 credydau
Modern German PhilosophySE441320 credydau
Athroniaeth CrefyddSE441720 credydau
Belief & IrrationalitySE441920 credydau
Desires, Emotions and HappinessSE442020 credydau
Ethics of KnowingSE442220 credydau
Beauty & EthicsSE442520 credydau
Moral ResponsibilitySE442620 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydyn ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydyn ni hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Fe fyddwch chi hefyd yn dysgu drwy sesiynau ymarferol a theithiau maes, ac yn cymryd rhan mewn sesiynau tiwtorial un i un.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

19%

Astudio annibynnol dan arweiniad

81%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

24%

Astudio annibynnol dan arweiniad

76%

Lleoliadau

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

24%

Astudio annibynnol dan arweiniad

76%

Lleoliadau

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

45%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

55%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

54%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

46%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

46%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

54%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, a fydd yn eich galluogi chi i:

  • ddeall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei fewnwelediadau
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

YSGOL SAESNEG, CYFATHREBU AC ATHRONIAETH

Yn 2015/16, dywedodd 95% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae gan raddedigion Athroniaeth sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.

YR YSGOL HANES, ARCHAEOLEG A CHREFYDD
Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Rydyn ni’n credu bod ein myfyrwyr mewn sefyllfa arbennig o dda i gystadlu am gyflogaeth gan fod eu gradd yn cynnwys amrywiaeth o sgiliau ymarferol ac academaidd sydd â gwerth eang y tu hwnt i’w pwnc. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy hyn wedi galluogi ein graddedigion i weithio mewn newyddiaduraeth, bancio, cyllid, addysgu ac amrywiaeth eang o feysydd eraill.

Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i adnabod eu sgiliau a'u priodoleddau. Mae llawer o'n graddedigion yn mynd i broffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd academaidd, fel gwaith mewn archifau neu amgueddfeydd. Mae'r rhan fwyaf, fodd bynnag, yn cystadlu'n llwyddiannus iawn mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill.

Gwaith maes

Efallai y bydd Hanes yr Henfyd yn cynnwys rhywfaint o waith maes.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2020
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth