Ewch i’r prif gynnwys

Hanes yr Henfyd ac Almaeneg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae Hanes y henfyd ac Almaeneg (BA) yn cynnig cyfle i archwilio gwareiddiad hynafol ochr yn ochr iaith gyfoes ac yn fwyfwy poblogaidd ar lefel gradd fyfyrwyr.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Ancient History

Trosolwg y cwrs

Ein hamcan yn yr Ysgol Ieithoedd Modern a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yw datblygu ac addysgu ein myfyrwyr i fod yn 'ddinasyddion byd-eang'.  Drwy gyfuno Almaeneg a Hanes yr Henfyd, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn atyniadol i weithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa

Mae'r cwrs Hanes yr Henfyd yn cwmpasu’r cyfnod o’r Oes Efydd Aegeaidd i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin a’i goroesiad yn y dwyrain fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Mae cydbwysedd rhwng modiwlau sy’n cwmpasu cyfnodau hanesyddol penodol a modiwlau sy’n archwilio pynciau cymdeithasol a diwylliannol eang, fel rhyfela, rhywedd, crefydd, celf, meddygaeth a gwyddoniaeth.

Mae'r rhaglen hon yn eich galluogi i archwilio a deall hanes Groegaidd a Rhufeinig, wrth ddatblygu eich sgiliau iaith Almaeneg. 

Yn ogystal â datblygu sgiliau iaith Almaeneg lefel uchel, cewch gyfle i ddatblygu dealltwriaeth ryngddiwylliannol drylwyr sy'n cwmpasu gwybodaeth benodol am ddiwylliannau'r Almaen. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu lefel uchel a sgiliau meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.

Mae'r Almaen yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Almaeneg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig.

Rydym yn cynnig Almaeneg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yr Almaen yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad lle siaredir Almaeneg. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, fydd yn ysgogi menter a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. 

Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol. 

Fel myfyriwr cyd-anrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau ategol sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar. Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yr Almaen. 

Nodweddion nodedig

  • Addysgu dan arweiniad ymchwil sy’n eich galluogi i ymgysylltu â syniadau newydd sy’n helpu i lunio dyfodol astudiaethau Hanes yr Henfyd ac Almaeneg.
  • Addysgu iaith o safon uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o addysgu ac asesiadau a gynlluniwyd i fwydo dysgu yn y dyfodol
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich gwaith dysgu iaith a throchi mewn diwylliant Almaenig.
  • Cwricwlwm â bwa dysgu clir, sy'n defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf ac sy'n cynnig dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant Almaenig
  • Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau
  • Y dewis o leoliad gwaith lle gellir ennill credydau
  • Y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai’n astudio neu’n gweithio yn yr Almaen neu mewn gwlad lle siaredir Almaeneg
  • Amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau yn hyrwyddo dysgu iaith a datblygu eich sgiliau a'ch proffil.
Côd UCASRV21
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
  1. Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  2. Yr Ysgol Ieithoedd Modern

    66a Plas y Parc

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3AS

Gofynion mynediad

ABB – BBB. B in German for the advanced pathway. General Studies and Critical Thinking are not accepted.  

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM - DMM in Humanities or Social Science. Any other BTEC subject if combined with an A-Level, excluding General Studies and Critical Thinking, will also be considered.

Achieve the IB Diploma 32-30 or 665-655 in 3 HL subjects.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

GCSE English Language Grade C or 4, IGCSE English First Language grade C, IGCSE English as a Second Language grade C.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£17,700Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae BA mewn Hanes yr Henfyd ac Almaeneg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau iaith a hanes ar lefel uchel i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob un o flynyddoedd y rhaglen byddwch yn astudio am 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 o gredydau mewn Hanes yr Henfyd a 60 o gredydau mewn Almaeneg. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yn yr Almaen neu wlad arall lle siaredir Almaeneg. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac yn rhoi trosolwg i chi o ddau bwnc i lywio eich dewisiadau’n ddiweddarach. Byddwch yn cymryd cyfanswm o 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 o gredydau mewn Hanes yr Henfyd a 60 o gredydau mewn Almaeneg.

Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â chymhwyster Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Almaeneg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am Almaeneg. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch. Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith, sy'n cyflwyno datblygiad yr Almaen fel cenedl i chi, gan archwilio beth oedd ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Bydd y modiwl yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.
I ddarparu sylfaen ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol, mae blwyddyn gyntaf Hanes yr Henfyd yn rhoi cyflwyniad â ffocws i chi i astudio hanes Rhufain a Groeg yn y Brifysgol, sy’n meithrin eich sgiliau beirniadol a dadansoddol drwy ymgysylltu’n agos â ffynonellau hynafol a dehongliadau modern.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau byddwch unwaith eto yn astudio 60 o gredydau trwy fodiwlau dewisol mewn Hanes yr Henfyd a 60 o gredydau mewn Almaeneg.

Bydd yr elfennau iaith yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi chi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Yn ogystal ag iaith, byddwch yn astudio 30 o gredydau yn edrych ar yr Almaen mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio mewn astudiaeth fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau megis diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth, yn ychwanegol at 60 o gredydau mewn modiwlau Hanes yr Henfyd.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cultures in Context (German)ML728230 credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir eich trydedd flwyddyn yn yr Almaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Almaeneg. Bydd y flwyddyn dramor yn eich galluogi i fireinio eich sgiliau iaith, dyfnhau eich dealltwriaeth o ddiwylliant Almaenig a datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.

Bydd eich dewisiadau’n cynnwys:

  • astudio yn un o'n prifysgolion partner;
  • gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy gynllun y Cyngor Prydeinig, neu
  • gweithio i sefydliad neu gwmni Almaenig. 

Os byddwch yn dewis yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd yn yr Almaen, er enghraifft Berlin, Hamburg, München a Köln.

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y Cyngor Prydeinig fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r Cyngor Prydeinig yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Almaeneg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Almaeneg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Waeth beth fyddwch chi’n ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol. Y mae hefyd yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.  

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 o gredydau iaith a 30 o gredydau trwy fodiwlau opsiwn Almaeneg, yn ychwanegol at 60 o gredydau o fodiwlau Hanes yr Henfyd.

Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae modiwlau traethawd hir y flwyddyn olaf yn rhoi’r dewis i chi ymgysylltu’n ddyfnach â maes y testun a ddewisir, yn ogystal â chyfoethogi eich sgiliau ymchwil a dadansoddi.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
High-Level Proficiency in German LanguageML736630 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Aegean Bronze Age: Emergence to CollapseHS238720 credydau
Art and Archaeology of Classical GreeceHS238920 credydau
Spatial Technologies and Geographical Information SystemsHS245120 credydau
Reading Latin 2HS332220 credydau
Reading Greek 2HS332420 credydau
Roman Imperial History, 31BC- AD138HS333520 credydau
The Later Roman Empire, AD284-480HS333720 credydau
Tyrants, Kings and Democrats: the Rise of Classical GreeceHS337420 credydau
Greek and Roman MedicineHS337620 credydau
Assyria: Life and Thought in Ancient MesopotamiaHS337920 credydau
Drama in Context: Ancient Greek Theatre, Politics and SocietyHS338120 credydau
The World of CleopatraHS338320 credydau
Rebelling Against Rome: Local Identity and Resistance across the Roman EmpireHS338420 credydau
Religion in Rome and ItalyHS338520 credydau
Byzantium: the Golden Age, AD 842-1056HS339320 credydau
Reading Latin 1HS342120 credydau
Reading Greek IHS342320 credydau
Death and Burial in the Roman WorldHS430820 credydau
Researching the Ancient World: Final Year DissertationHS433540 credydau
Pots, Poems and Pictures: Using Evidence for Ancient HistoryHS433620 credydau
At Home with the Romans: Domestic Space and SocietyHS433920 credydau
Life in Ancient RomeHS437020 credydau
Final Year Dissertation - German (in English/Welsh)ML735930 credydau
Final Year Dissertation - German (in German)ML736130 credydau
Screening the City: Berlin on FilmML736230 credydau
The German Idea of HistoryML736330 credydau
History and Religion of Ancient IsraelRT230120 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.
Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol. 

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

22%

Astudio annibynnol dan arweiniad

78%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

24%

Astudio annibynnol dan arweiniad

76%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

null%

Astudio annibynnol dan arweiniad

null%

Lleoliadau ments

null%

Blwyddyn 4

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

null%

Astudio annibynnol dan arweiniad

null%

Lleoliadau ments

null%

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA mewn Hanes yr Henfyd ac Almaeneg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor. 

Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.   

Mae gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sydd yn eich cefnogi chi gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau. 

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Rhoddir adborth ar eich gwaith yn aml ac mewn amrywiaeth eang o fformatau, a’i fwriad yw eich helpu chi i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysg, yn ogystal â rhoi arwyddion o sut y gallech wella eich perfformiad mewn arholiadau a gwaith cwrs.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl y cyfnod arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.  

Sut caf fy asesu?

Yn y ddwy Ysgol, mae'r asesu’n canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol.

Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau, cyflwyniadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Dulliau asesu (2017/18 data)

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

37%

Arholiadau ymarferol

7%

Gwaith cwrs

57%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

66%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

30%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

null%

Arholiadau ymarferol

null%

Gwaith cwrs

null%

Blwyddyn 4

Arholiadau ysgrifenedig

null%

Arholiadau ymarferol

null%

Gwaith cwrs

null%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Canlyniadau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall beth a ddisgwylir gennych.

Gellir gweld y Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
  • Gwerthuso amrywiaeth o fathau o dystiolaeth sydd ar gael i haneswyr yr henfyd, gan gynnwys testunau llenyddol, arysgrifiadau, deunydd archaeolegol a thystiolaeth weledol.

Gwerthuso gwahanol ffyrdd y cyflwynir hanes yr henfyd heddiw, fel ysgolheictod, gwefannau, amgueddfeydd a diwylliant poblogaidd.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes yr Almaen a gwledydd lle siaredir Almaeneg
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn Saesneg ac Almaeneg.
  • Cymhwyso confensiynau llyfryddol a chyfeirio safonol i hanes yr henfyd, drwy ganfod darnau mewn testunau hynafol, chwilio am enghreifftiau o dystiolaeth berthnasol a fformatio llyfryddiaeth yn gywir.
  • Llunio cynllun traethawd effeithiol sy'n crynhoi dadleuon pobl eraill yn gryno ac yn gywir.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwydnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Sgiliau wrth weithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Y gallu i ddadansoddi testunau cymhleth.
  • Y gallu i ddehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Y gallu i nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol Ieithoedd Modern

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.  

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl graddio, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa ragorol mewn diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.  

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Rydyn ni’n trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i fod yn ymwybodol o sgiliau a phriodoleddau. Mae graddedigion Hanes yn dod o hyd i waith mewn amrywiaeth eang o gyflogaeth broffesiynol gysylltiedig a heb fod yn gysylltiedig. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, a rhai wedi dod yn haneswyr rhyngwladol honedig.

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

Mae'r ddwy ysgol yn cynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith am gredydau.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Gwanwyn 2020

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais