Ewch i’r prif gynnwys

Y Gymraeg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae ein BA mewn Cymraeg yn rhaglen gymdeithasol berthnasol sy’n cael ei addysgu gan yn o’r ysgolion mwyaf blaenllaw o’i fath.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Mae’r BA yn y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn radd sy’n cael ei dysgu gan ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae’n gwrs tair blynedd â dau lwybr, un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel iaith gyntaf, ac un ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith. Yn y flwyddyn gyntaf bydd y carfannau hyn yn cael eu haddysgu ar wahân gan mwyaf. Daw myfyrwyr y ddau lwybr ynghyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r modiwlau yn ystod blwyddyn dau, ac yn y flwyddyn olaf, addysgir pawb gyda'i gilydd.

Mae’r cwrs yn cynnig ystod o fodiwlau craidd a dewisol i roi seiliau ichi yn yr iaith a’i llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu alwedigaethol. Nod allweddol arall yw sicrhau eich bod yn cael ysbrydoliaeth a boddhad wrth astudio’r Gymraeg a’i diwylliant.

Yn y Gymru gyfoes, gyda thwf Llywodraeth Cymru a chyflwyno Deddf yr iaith Gymraeg, mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr. Mae astudio yng Nghaerdydd yn gyfle i elwa ar ymchwil sy’n gymdeithasol-berthnasol ac sy'n cyfrannu at ddatblygiad y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:

  • y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
  • modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
  • ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
  • y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
  • y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
  • y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
  • y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
Côd UCASQ560
Derbyniad nesafMedi 2019
Hyd3 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer mae 30 lle ar gael yn yr Ysgol.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae’r Ysgol yn derbyn tua 100 o geisiadau.

Gofynion mynediad

BBB – BBC, i gynnwys B mewn Cymraeg (mamiaith) neu Gymraeg (ail iaith). Does dim gofynion penodol ar gyfer pynciau eraill, ond mae’n rhaid i’r Lefel A gynnwys oleuaf dau bwnc academaidd traddodiadol. Nodir, ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DM mewn BTEC ym mhynciau ynghylch y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ogystal â gradd B yn Gymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith ar Safon Uwch.

Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch yn ogystal â chymhwyster Iaith Gymraeg.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol y Gymraeg.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgôr.

TOEFL iBT

O leiaf 90 gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

62 gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith arnoch ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C. 

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2019/20)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2019/20)

Ffioedd DysguBlaendal
£16,650Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2019/20. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2019

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd (cyfanswm o 120 credyd) yn y Gymraeg.

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un ar ddatblygu sgiliau allweddol (rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith er mwyn datblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.

Fel arfer, bydd myfyrwyr sydd wedi astudio Cymraeg Safon Uwch fel ail iaith yn dilyn y llwybr ail iaith, ond byddwn yn ystyried eich sgiliau ieithyddol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, cyn penderfynu pa lwybr y byddwch chi’n ei ddilyn.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf, y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf, y modiwlau dewisol yw:

  • Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol
  • Mapio’r Cymry
  • Herio’r Traddodiad Llenyddol

Ar gyfer y llwybr ail iaith, y modiwlau craidd yw:

  • Sgiliau Llafar
  • Defnyddio’r Gymraeg
  • Astudio Llenyddiaeth
  • Y Gymraeg Heddiw

Ar gyfer y llwybr ail iaith, y modiwlau dewisol yw:

  • Darllen y Gorffennol
  • Cymraeg Creadigol a Phroffesiynol

Ar y ddau lwybr, addysgir pob modiwl yn Ysgol y Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau llafarCY150020 credydau
Defnyddio'r GymraegCY150120 credydau
Y Gymraeg HeddiwCY150820 credydau
Trafod ein llênCY151020 credydau
Cymraeg Creadigol a PhroffesiynolCY151120 credydau
Astudio Testunau LlenyddolCY151220 credydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau
Herio'r Traddodiad LlenyddolCY160320 credydau
Mapio'r CymryCY175220 credydau
Ysgrifennu Creadigol a PhroffesiynolCY175320 credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf, y modiwl craidd ieithyddol gorfodol yw:

  • Yr Iaith ar Waith

Ar gyfer y llwybr ail iaith, y modiwlau craidd ieithyddol gorfodol yw:

  • Darllen a Dehongli

Yn ogystal â’r elfennau craidd hyn, mae’r BA yn y Gymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, megis cynllunio ieithyddol, sgriptio a chyfieithu.

Fel arfer mae modiwlau dewisol unigol yn cael eu cynnig bob yn ail flwyddyn, ac felly gallant fod ar gael ym mlwyddyn dau neu ym mlwyddyn tri.

Gall myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs hwn ddewis un neu ddau o fodiwlau o Ysgol Academaidd arall, wedi’u dewis o Gasgliad Modiwlau Annibynnol y Brifysgol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dafydd ap GwilymCY210520 credydau
Sgiliau Academaidd UwchCY221020 credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY241020 credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY261020 credydau
SgriptioCY270020 credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY281020 credydau
Caffael IaithCY291020 credydau

Blwyddyn tri

Mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil [20 credyd]
  • Ymchwilio Estynedig [40 credyd]

Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau (20 credyd) neu 9,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol.

Un o nodweddion deniadol ein cwrs yw ei hyblygrwydd – cewch arbenigo mewn astudiaethau llenyddol, canoloesol a/neu fodern, astudiaethau iaith, neu cewch ddewis cyfuniad o fodiwlau sy'n adlewyrchu eich diddordebau academaidd penodol a’ch anghenion galwedigaethol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dafydd ap GwilymCY310520 credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY341020 credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY361020 credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
SgriptioCY370020 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY381020 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 credydau
Caffael IaithCY391020 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd megis gweithio mewn tîm, ymchwilio yn annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Ond mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith (yn arbennig yn achos y llwybr ail-iaith).

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

28%

Astudio annibynnol dan arweiniad

72%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

17%

Astudio annibynnol dan arweiniad

82%

Lleoliadau ments

2%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

12%

Astudio annibynnol dan arweiniad

88%

Lleoliadau ments

0%

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio o dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu.

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a chanolfannau llyfrgelloedd ac adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth unigol ar arholiadau yn dilyn cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.

Mae traethawd hir y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Dulliau asesu (2017/18 data)

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

27%

Arholiadau ymarferol

18%

Gwaith cwrs

56%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

40%

Arholiadau ymarferol

10%

Gwaith cwrs

50%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

33%

Arholiadau ymarferol

7%

Gwaith cwrs

60%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig yma yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall.

Yn 2016/17, dywedodd 91% o raddedigion Ysgol y Gymraeg oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Swyddi

  • Journalist
  • Civil Servant
  • Teacher
  • Lawyer
  • Media

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 100% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Sadwrn 26 Hydref

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais