Ewch i’r prif gynnwys

Ieithoedd Modern a Chyfieithu (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae cyfieithu yn hanfodol yn fyd-eang. Mae busnesau a sefydliadau rhyngwladol yn edrych am gyfieithwyr a arbenigwyr ieithyddol yn aml.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Ein nod yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yw datblygu ac addysgu ein myfyrwyr i fod yn ‘ddinasyddion byd-eang’.  Yn ogystal â datblygu sgiliau iaith lefel uchel, mae ein rhaglen BA Cyfieithu ac Ieithoedd Tramor Morder yn eich galluogi i gael dealltwriaeth ryngddiwylliannol drylwyr sy'n cwmpasu gwybodaeth benodol am ddiwylliannau'r iaith rydych chi’n ei hastudio. Byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel o ran cyfathrebu a meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.

Mae Cyfieithu yn bwysig iawn ar y llwyfan Ewropeaidd a byd-eang. Drwy astudio Cyfieithu, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan eich gwneud yn gystadleuol ac yn ddeniadol mewn gweithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd.

Rydym yn cynnig Cyfieithu ar gyfer myfyrwyr sydd â sgiliau iaith uwch a dechreuwyr. O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu a deunyddiau clyweledol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant Cyfieithu a Chyflwyniad i ddulliau Cyfieithu yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Byddwch yn parhau i ddatblygu’r sgiliau allweddol a'r cymwyseddau hyn yn yr ail flwyddyn.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd yn niwylliant yr iaith rydych chi’n ei hastudio. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i naill ai ysgrifennu traethawd hir, a fydd yn ysgogi menter a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig neu Brosiect Cyfieithu Anodedig, sydd yn ddefnyddiol i ddarpar gyflogwyr.

Mae’n bwysig cofio nad astudio’r iaith yn unig rydych chi wrth astudio ieithoedd - mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs gwirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol. 

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd yn yr iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cyfieithu.  

Nodweddion nodedig

  • Addysgu iaith o safon uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol, gyda dysgu cyfunol a thechnolegau digidol yn rhan annatod o addysgu ac asesiadau a gynlluniwyd i fwydo dysgu yn y dyfodol
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich gwaith dysgu iaith a throchi yn niwylliant yr iaith o ddewis, gan gynnwys dosbarthiadau sgwrsio dewisol yn ychwanegol gyda myfyrwyr Erasmus i wella eich sgiliau iaith, sgyrsiau a gweithdai cyfieithu, a digwyddiadau eraill.
  • Cwricwlwm â bwa dysgu clir, sy'n defnyddio’r ymchwil ddiweddaraf ac sy'n cynnig dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant yr iaith rydych chi wedi dewis ei hastudio.
  • Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau
  • Y dewis o leoliad gwaith lle gellir ennill credydau
  • Y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai yn astudio neu’n gweithio mewn gwlad sydd yn defnyddio eich dewis iaith i’w hastudio yn bennaf
  • Amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau yn hyrwyddo dysgu iaith a datblygu eich sgiliau a'ch proffil.
Côd UCAS76D3
Derbyniad nesafMedi 2019
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferThe school typically has185 places available
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferThe school typically receives 600 applicants

Gofynion mynediad

ABB - BBC. Ni fydd angen i chi ennill y graddau hyn mewn unrhyw bynciau penodol, ond bydd gan ymgeiswyr sydd wedi ennill B mewn iaith fodern fynediad at y llwybr cyfieithu uwch i Ieithoedd. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol. 

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

DDM - DMM. Social Science, Humanities, Arts, and Science subjects are acceptable.

Bagloriaeth Ryngwladol 32-30 neu 665-655 o dri phwnc Lefel Uwch.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Ieithoedd Modern.

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd arnoch angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C.  Cynnig Bagloriaeth Cymru nodweddiadol: Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol. Cynigion nodweddiadol ar gyfer cymwysterau eraill (gan gynnwys Cymwysterau Uwch yr Alban, Tystysgrif Ymadael Iwerddon, Pre-U Caergrawnt, ac ati.): Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Cynnig IELTS arferol: 6.5 yn gyffredinol, gyda 6.0 o leiaf ym mhob cydran.

Dewis

Mae proffil pob ymgeisydd yn cael ei ystyried fel darlun cyflawn, gan ystyried eich diddordeb mewn ac addasrwydd ar gyfer y radd, fel y dangosir yn eich datganiad personol ac adroddiad y canolwr, yn ogystal â graddau a ragwelwyd ac a gyflawnwyd. Asesir eich gallu i gyflwyno dadl, tystiolaeth o chwilfrydedd deallusol a’ch brwdfrydedd a’ch ymrwymiad i astudio.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2019/20)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Nodiadau:

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2019/20)

Ffioedd DysguBlaendal
£17,350Dim

Nodiadau:

Caiff y ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol eu pennu ar gyfer y mwyafrif o gyrsiau israddedig tair blynedd o hyd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu'r un pris ym mlwyddyn un ag y byddwch chi ym mlynyddoedd dau a thri. Mae rhai cyrsiau wedi'u heithrio, yn cynnwys rhaglenni pedair a phum mlynedd o hyd a chyrsiau Meddygol a Deintyddol. Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae’r BA Cyfieithu ac Iaith Dramor Fodern yn rhaglen gradd pedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau a sgiliau iaith lefel uchel dros flynyddoedd olynol i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob un o flynyddoedd y rhaglen byddwch yn astudio ar gyfer 120 o gredydau. Treulir y drydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yng ngwlad eich iaith o ddewis.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2019/20. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2019

Blwyddyn un

Byddwch yn cyfuno Cyfieithu ag iaith fodern arall, gan eich galluogi i brofi mwy nag un maes astudio.

Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â chymhwyster Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol yn yr iaith a astudir, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am yr iaith a astudir. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch. 

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith sy'n cyflwyno datblygiad y wlad rydych chi’n ei hastudio fel cenedl i chi, gan archwilio beth yw ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Mae hefyd yn archwilio ei pherthynas â'r byd, gan eich galluogi i ystyried ei rôl y tu hwnt i'r ffiniau cenedlaethol. Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddatblygu ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol, ynghyd â’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Byddwch hefyd yn astudio dau fodiwl cyfieithu, Egwyddorion Cyfieithu a Damcaniaeth Cyfieithu.

Blwyddyn dau

Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Yn ogystal ag iaith, byddwch yn astudio 30 credyd yn edrych ar ddiwylliant yr iaith rydych chi’n ei hastudio mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno ymagweddau, dulliau ac offer beirniadol hanfodol y gallwch eu defnyddio i astudio’n fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau fel diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth.

Byddwch hefyd yn astudio Egwyddorion Theori Cyfieithu a Chyflwyniad i Gyfieithu Arbenigol.

Y tu allan i'ch astudiaethau ffurfiol, byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Mentora Myfyrwyr, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae disgyblion mewn ysgolion uwchradd dethol yn cael eu mentora gan ein myfyrwyr israddedig sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig, ac sy'n mynd i'r ysgolion i fentora disgyblion mewn grwpiau bach o ddau neu dri dros gyfnod o bum wythnos.

Gallwch hefyd ddewis cymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon Iaith i Fyfyrwyr, sy'n gweithredu fel eiriolwyr ar gyfer dysgu ieithoedd. Yn dilyn hyfforddiant penodol, fel Llysgennad mae’n bosibl y cewch gyfle i siarad yn gyhoeddus mewn digwyddiadau, gan rannu eich profiad personol o ddysgu ieithoedd. Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, megis sesiynau blasu iaith, cyflwyno a hyrwyddo’r flwyddyn dramor, cefnogi diwrnodau a digwyddiadau iaith mewn ysgolion, neu hybu ieithoedd modern mewn ffeiriau gyrfaoedd neu ddiwrnodau agored.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir eich trydedd flwyddyn mewn gwlad lle siaredir yr iaith rydych chi wedi dewis ei hastudio. Bydd eich blwyddyn dramor yn eich galluogi i feithrin sgiliau iaith, yn dyfnhau eich dealltwriaeth o'r diwylliant ac yn datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.

Mae eich opsiynau ar gyfer y flwyddyn hon yn cynnwys astudio yn un o’n prifysgolion partner, gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy Gynllun y British Council, neu weithio i sefydliad neu gwmni. Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol, neu sgiliau cyfieithu a dehongli.

Os dewiswch yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd sydd wedi cynnwys Paris, ISIT, Université Catholique de Lyon, Genefa, Vigo, Bar - Pompeu Fabra, neu Trieste, ymhlith eraill.   

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y British Council fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r British Council yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae'r trydydd opsiwn yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni mewn gwlad lle siaredir yr iaith rydych chi wedi dewis ei hastudio. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi Gyfieithu ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.     

Mae astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl i Gaerdydd yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 o gredydau yn y naill iaith.

Byddwch hefyd yn astudio Cyfieithu fel Proffesiwn, sy'n ystyried rhai o'r heriau bywyd go iawn a chyfyngiadau’r proffesiwn cyfieithu (rheoli amser, rheoli adnoddau, yr angen i ddatblygu a chynnal rhwydweithiau, pwysau sefydliadol a cystadleuaeth).

Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig, neu Brosiect Cyfieithu Anodedig. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Translation as a ProfessionML237530 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Crime & Punishment in Contemporary Latin American CultureML035930 credydau
Catalan Language & SocietyML036230 credydau
Hispanic Cultures at the MarginsML036330 credydau
High-Level Proficiency in Spanish LanguageML036630 credydau
Culture, Political Protest & Dissent in the 1960sML136030 credydau
European Cinema: Thinking the Real of FictionML136230 credydau
Student Teaching ModuleML136330 credydau
Final Year Dissertation - Translation (in English/Welsh)ML237330 credydau
Translating CulturesML237430 credydau
High-Level Proficiency in Portuguese Language (BA Translation - Portfolio)ML237630 credydau
Proficiency in Spanish  Language (BA Translation - Portfolio)ML237730 credydau
High-Level Proficiency in Italian Language (BA Translation - Portfolio)ML237830 credydau
High-Level Proficiency in German Language (BA Translation - Portfolio)ML237930 credydau
High-Level Proficiency in French Language (BA Translation - Portfolio)ML238030 credydau
High-Level Proficiency in Portuguese LanguageML436630 credydau
High-Level Proficiency in Japanese Language (BA Translation – Portfolio)ML536130 credydau
Memory & Symbols in JapanML536430 credydau
High-Level Proficiency in Japanese LanguageML536630 credydau
France & The Second World War: History & MemoryML636030 credydau
Conflict, Consensus & The French Labour MovementML636430 credydau
High-Level Proficiency in French LanguageML636630 credydau
Screening the City: Berlin on FilmML736230 credydau
The German Idea of HistoryML736330 credydau
Geschichte oder Geschichten? - die Gegenwartsliteratur im historischen KontextML736430 credydau
The GDR in Literature & CultureML736530 credydau
High-Level Proficiency in German LanguageML736630 credydau
Italian Women's WritingML836430 credydau
High-Level Proficiency in Italian LanguageML836630 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae ein rhaglen BA mewn Cyfieithu ac Ieithoedd Modern Tramor yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddant ar gael i gyfarfod â chi i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall y tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd cydlynydd blwyddyn dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl yr ydych yn ei chael ar bethau.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor. 

Drwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Mae ein tîm gwasanaethau proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Yn ogystal, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer.   

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Mae adborth ac asesu yn feysydd blaenoriaeth i’r Ysgol Ieithoedd Modern, gydag arweinydd asesu ac adborth penodol yn gyfrifol am sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau.

Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol. Rydym yn defnyddio fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
  • Y gallu i gyfieithu gwahanol fathau o destunau a chyfleu eu hystyr mewn modd proffesiynol.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn Saesneg ac iaith dramor fodern, a hynny yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gychwyn ac ymgymryd â dadansoddiadau o wybodaeth.
  • Cyrraedd casgliadau ynghylch cryfderau a gwendidau safbwyntiau a dadleuon, gan gyfiawnhau’r rhain gyda rhesymu cadarn a dehongliadau manwl o ddeunydd ffynhonnell.
  • Technegau ymchwil perthnasol ac effeithiol i gynllunio ac ysgrifennu traethawd academaidd, gan ddefnyddio’r confensiynau cyfeirio priodol.
  • Gwerthusiad beirniadol o syniadau a dadleuon, drwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau yn gydlynol gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau ysgrifenedig a llafar.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Y gallu i ddadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Arddangos sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Arddangos sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.    

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl gorffen eu hastudiaethau, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd rhagorol ym meysydd diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.   

Swyddi

  • Translator
  • Teacher

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Mercher 27 Mawrth

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais