Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau Crefyddol ac Athroniaeth (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Wedi'i deilwra i chi

Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.

building

Profiad yn y diwydiant

Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau diwylliannol.

location

Dilynwch eich llwybr eich hun

Drwy fodiwlau dewisol, cewch fynd i'r afael â phynciau o ddiddordeb i chi, yn amrywio o Islam i iaith ysgrythurol i fwdhaeth.

structure

Crefydd yn ei gyd-destun

Cewch ddeall sut mae crefydd yn dylanwadu ar y cyfryngau, cymdeithas, hanes a gwleidyddiaeth, ac yn cael ei ddylanwadu ganddynt.

star

Traethawd hir gyda gwahaniaeth

Dilynwch bwnc sy'n sbarduno eich chwilfrydedd; cewch wella sgiliau niferus gyda chyflwyniad ac elfen ysgrifenedig.

Mae crefydd ac Athroniaeth yn rhannau hanfodol o sut mae pobl wedi ceisio mynegi eu dealltwriaeth o bwrpas bywyd, a sylfaen ymddygiad personol a chymdeithasol.

Yn y radd hon sy'n ysgogi'r meddwl gan gyfuno dwy ddisgyblaeth gyflenwol, byddwch yn cael y cyfle i ymchwilio i’ch hanes a’ch diwylliant crefyddol eich hunan a rhai pobloedd eraill, ac i rai o gwestiynau sylfaenol bodolaeth.

Sut dylem fyw ein bywydau? Beth ddylem ni ei gredu? Sut y dylem geisio ateb y cwestiynau hyn, a sut allwn ni hyd yn oed meddwl amdanynt? Mae Athroniaeth yn ymchwilio i'r materion dwys hyn.

Gan mai dyma’r ddisgyblaeth academaidd hynaf, mae Athroniaeth wedi datblygu ystod o gysyniadau a thechnegau ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau cymhleth. Rydym yn eich arfogi i ddadansoddi ac adeiladu cadwyni cymhleth o resymu drosoch eich hun, gan ddatblygu a mireinio eich sgiliau meddwl i ystyried posau athronyddol byd-eang ein hoes.

Mae crefydd yn rhan o brofiad dynolryw, o’i dechreuadau hyd heddiw. Dyma’r ffordd y mae'r rhan fwyaf o ddiwylliannau wedi ceisio mynegi eu dealltwriaeth o pam rydym yn byw a sut y dylem ymddwyn.

Yn wahanol i raddau eraill y DU, rydym yn archwilio y tu hwnt i brif grefyddau'r byd, gan ymchwilio i gredoau llai adnabyddus fel Jainiaeth a chyfriniaeth. Rydyn ni'n rhoi lle i chi ganolbwyntio ar ddimensiwn moesegol pob traddodiad wrth i chi gynnal ein hastudiaethau.

Rydym yn cynnig rhaglen heriol a hyblyg o fodiwlau, ac yn ategu hynny ag awyrgylch cyfeillgar a pherthynas ragorol rhwng y staff a’r myfyrwyr. A nhwythau’n arbenigwyr yn eu meysydd, mae ein darlithwyr i gyd yn ymchwilwyr gweithgar, gan rannu’r syniadau diweddaraf yr ystafell ddosbarth.

Maes pwnc: Athroniaeth

Maes pwnc: Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Na.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2024. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2024 i ddangos y newidiadau.

Mae hon yn rhaglen radd tair blynedd sy'n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Ym mhob blwyddyn astudio, byddwch yn cymryd 60 credyd Astudiaethau Crefyddol a 60 credyd Athroniaeth ar ffurf modiwlau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Astudiaethau Crefyddol a 60 credyd Athroniaeth ar ffurf modiwlau.

Cewch astudio crefydd drwy destunau, barddoniaeth, celf, ffilm, bywgraffiadau, gwaith maes a drama. Byddwch yn cael cyflwyniad i syniadau allweddol am ddefodau, rhyw a lle sy'n rhoi sylfaen deinamig ar gyfer astudiaeth bellach ar draws amrywiaeth o fodiwlau a gynigir yn eich ail a thrydedd flwyddyn. Byddwch hefyd yn cael y dewis i astudio un o ieithoedd gwreiddiol y testunau crefyddol a gynigir.

Bydd eich modiwlau Athroniaeth yn rhoi sylfaen gynhwysfawr yn y pwnc, gan roi sylfaen gadarn i chi adeiladu arni ym mlynyddoedd dau a thri.

Blwyddyn dau

Ym Mlwyddyn Dau, byddwch chi’n astudio 60 credyd Astudiaethau Crefyddol a 60 credyd Athroniaeth ar ffurf modiwlau. 

O ran Astudiaethau Crefyddol, byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu gwybodaeth fwy datblygedig o amrywiaeth o draddodiadau crefyddol, gan adeiladu ar fodiwlau rhagarweiniol a wnaed yn y flwyddyn gyntaf a datblygu eich ymwybyddiaeth o rôl crefydd wrth lunio materion pwysig diwylliannol, deallusol, a moesegol cymdeithasau cyfoes.

Nid oes modiwlau gorfodol ar ôl Blwyddyn 1. Rydym yn rhoi dewis i chi - ond rydym hefyd yn rhoi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth i wneud dewisiadau gwybodus. Bydd ail flwyddyn eich gradd yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o ddadleuon craidd prif feysydd Athroniaeth ac Astudiaethau Crefyddol.

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Astudiaethau Crefyddol a 60 credyd Athroniaeth arall ar ffurf modiwlau.

Byddwch yn cael cyfle i wella eich dealltwriaeth o themâu crefyddol a phynciau gydag amrywiaeth o fodiwlau arbenigol. Efallai y byddwch chi hefyd yn caffael sgiliau ymchwil ansoddol a meintiol mewn crefydd(au) mewn cymdeithasau cyfoes, yn dibynnu ar y modiwlau a ddewiswch.

Mae modiwlau Athroniaeth ym mlwyddyn tri yn adlewyrchu gweithgareddau ymchwil presennol y staff sy'n eu dysgu, gan adeiladu ar y themâu a astudiwyd ym mlwyddyn dau. Byddwch yn darllen a meddwl am yr union destunau y mae arweinydd y modiwl yn meddwl amdanyn nhw ar y pryd ac yn ysgrifennu yn ei gylch, a byddwch yn cael cyfle i archwilio materion yn fwy manwl, wrth i’ch cymhwysedd, eich gwybodaeth a’ch hyder gynyddu.

Os dymunwch, gallwch ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o'ch dewis chi mewn Astudiaethau Crefyddol neu Athroniaeth.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r dulliau addysgu'n cynnwys darlithoedd, seminarau a sesiynau tiwtorial un i un. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hun. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y ddarlith, mewn grwpiau bach.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Maen nhw’n cynnig cyfle buddiol i ymgymryd yn feirniadol â’r prif syniadau a deunydd darllen sy’n gysylltiedig â phwnc, ac i ymchwilio i feysydd o ddiddordeb arbennig gydag arbenigwr yn y maes.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd eich oriau cyswllt rheolaidd yn cael eu hategu gan y cyfle i gael cyfarfodydd unigol â staff academaidd, cyfarfodydd cynnydd academaidd cefnogol gyda'ch tiwtor personol a’r cyfle i fynd i seminarau ymchwil a gweithgareddau gyrfaoedd.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Bydd modiwlau yn cael eu hasesu drwy wahanol ddulliau, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs, adroddiadau ysgrifenedig, beirniadu ffynonellau, adolygiadau beirniadol, arholiadau, profion dosbarth a chyflwyniadau llafar.

Mae gwaith cwrs ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig ar gyfer dibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol.  Bydd asesiadau, gan gynnwys gwaith cwrs, arholiadau a chyflwyniadau llafar, yn profi'r sgiliau gwahanol y byddwch wedi'u dysgu. 

Mae dilyniant yn cael ei adeiladu i mewn i’r asesu, o ran y modd y byddwch chi’n gwneud tasgau tywys llai o faint ym Mlwyddyn Un, yn ogystal â thraethodau ffurfiannol ym Mlynyddoedd Dau a Thri. Mae dilyniant hefyd yn amlwg yn y pwyslais cynyddol ar waith hirach, annibynnol, gan arwain at draethawd hir 10,000 o eiriau dewisol ym Mlwyddyn Tri.  Mae modiwlau’r Flwyddyn Derfynol hefyd yn gofyn am ymgysylltiad dyfnach â dulliau annibynnol o weithio, ynghyd â mwy o alw am drin nifer fwy o dasgau ac eitemau llyfryddiaeth yn feirniadol.

Adborth

Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar eich holl asesiadau gwaith cwrs, ac adborth llafar ar gyflwyniadau a asesir a gwaith seminar. Byddwch hefyd yn cael adborth llafar ac ysgrifenedig gan eich goruchwyliwr ar y gwaith paratoadol a drafftiau ar gyfer cyrff mawr o waith (e.e. yr Astudiaeth Annibynnol a'r Traethawd Hir). Darperir adborth ysgrifenedig unigol ar gyfer arholiadau.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • deall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
  • gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Mae gan raddedigion llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth sgiliau dadansoddol a chyfathrebu ardderchog sy'n addas ar gyfer amrediad llawn o broffesiynau a hyfforddiant pellach. Mae eu harbenigedd diwylliannol a'u galluoedd deallusol yn cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mewn cyd-destunau mor amrywiol ag ystafell ddosbarth, llysoedd y gyfraith a’r cyfryngau.

Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Credwn mewn rhoi’r cyfleoedd gorau i’n graddedigion ddod o hyd i gyflogaeth.

Mae rhai o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i broffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o’u harbenigedd academaidd, tra bo eraill yn cystadlu yn llwyddiannus mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill.

Lleoliadau

Mae gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sydd yn cefnogi myfyrwyr gyda chyfleoedd profiad gwaith a chyngor ar yrfaoedd yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 22% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.