Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg a Cherddoriaeth (BA)

  • Meysydd pwnc: Mathemateg, Cerddoriaeth
  • Côd UCAS: GW13
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

certificate

Yr offeryn o’ch dewis

Cyrhaeddwch eich llawn botensial drwy hyfforddiant offerynnol sydd wedi'i ariannu'n llawn.

building

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Mae Abacws, cartref newydd Mathemateg, yn cynnwys mannau pwrpasol i fyfyrwyr wneud gwaith prosiect, mannau ar gyfer partneriaid yn y diwydiant ac Ystafell Fasnachu.

people

Interniaethau yn y diwydiant cerddoriaeth

Cysylltwch â cherddorion drwy weithdai cyfansoddi; dosbarthiadau meistr perfformio, a chyfresi o gyngherddau.

people

Cefnogaeth bersonol

Cyngor academaidd ac anacademaidd gan eich tiwtor; labordai cyfrifiadurol wedi’u goruchwylio a sesiynau galw heibio bob dydd.

structure

Lleoliad gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth

Dysgwch am yr hyn sydd gan y diwydiant cerddoriaeth i'w gynnig gyda lleoliad gwaith.

Mae’r radd Gyd-anrhydedd hon yn galluogi myfyrwyr i astudio Cerddoriaeth a Mathemateg ar y cyd.

Byddwch yn treulio mwy neu lai’r un faint o amser ar y naill bwnc, gan olygu eich bod yn gallu elwa ar ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau cerddorol ochr yn ochr ag astudio pwnc cyfareddol a heriol Mathemateg. Byddwch yn cael eich annog i fynd ar drywydd meysydd sydd o ddiddordeb i chi drwy gyrsiau modiwlaidd hynod hyblyg.

Mae dinas Caerdydd yn gartref i'r celfyddydau, ac yn lleoliad gwych ar gyfer yr astudio Cerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol (Opera Cenedlaethol Cymru) a hefyd gerddorfa symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr fynd i ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhad ar gyfer cyngherddau.

Mae disgwyl i chi fod wedi cyrraedd neu fod wedi dangos tystiolaeth o weithio tuag at Radd 8 mewn un neu ragor o offerynnau, neu lais, ar adeg gwneud eich cais. Efallai y cewch chi eich ystyried os nad ydych chi’n astudio Cerddoriaeth Safon Uwch ond bod gennych chi Radd 7/8 Theori (neu'n gweithio tuag ati) a’ch bod chi’n astudio pynciau priodol ar Safon Uwch.

Maes pwnc: Mathemateg

  • academic-schoolYr Ysgol Mathemateg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Maes pwnc: Cerddoriaeth

  • academic-schoolYr Ysgol Cerddoriaeth
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4392
  • Marker31 Heol Corbett, Cathays, Caerdydd, CF10 3EB

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid cynnwys gradd A mewn Mathemateg a gradd B mewn Cerddoriaeth.

Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).

Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Mathemateg a Cerddoriaeth HL.

Bydd ymgeiswyr heb Lefel Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).

Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
- gradd 8 Cerddoriaeth Ymarferol mewn offeryn neu lais.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

Graddau DD mewn Diploma BTEC mewn Cerddoriaeth, yn ogystal â gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Bydd ymgeiswyr heb BTEC mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).



Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Oni bai am eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2024. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2024 i ddangos y newidiadau.

Gradd dair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu’n gyfartal rhwng y ddwy Ysgol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Ar y cwrs Cerddoriaeth, mae’r flwyddyn gyntaf yn gosod y sylfeini i’ch paratoi i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch. Byddwch yn cael hyfforddiant mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol.

I ategu eich astudiaethau academaidd, rydych chi’n cael eich annog i ymuno â Chôr neu Gerddorfa’r Brifysgol ac ensembles eraill.

Ym Mathemateg, mae blwyddyn un ar hyn o bryd yn cynnwys pedwar modiwl gorfodol. Y rhain yw Sylfeini Mathemateg I, Fectorau a Matricsau, Sylfeini Mathemateg II a Hafaliadau Differol Elfennol.

Sylwer bod rhai modiwlau yn y ddau bwnc yn 'rhagofynion' sy'n rhoi paratoad hanfodol ar gyfer modiwlau mwy datblygedig os ydych chi’n dymuno eu dilyn mewn blynyddoedd diweddarach.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hafaliadau Gwahaniaethol ElfennolMA100110 Credydau
Sylfeini Mathemateg IMA100520 Credydau
Sylfeini Mathemateg IIMA100620 Credydau
Algebra llinol IMA100810 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyfansoddiad 1AMU111320 Credydau
Technegau mewn Cerddoriaeth Jazz a PhoblogaiddMU120120 Credydau
Cyfansoddiad 1BMU121320 Credydau
Elfennau o Theori TonalMU131120 Credydau
Ysgrifennu am GerddoriaethMU131220 Credydau
Cerddoriaeth fel DiwylliantMU132020 Credydau
Astudiaethau Achos mewn Hanes CerddoriaethMU132120 Credydau
Portffolio Ymarferol IMU132220 Credydau
Cerddor Ymarferol 1MU132520 Credydau

Blwyddyn dau

O ran Cerddoriaeth, mae cyrsiau yn fwy datblygedig a byddwch yn canolbwyntio ar bynciau mwy arbenigol, gan ddewis o blith pedwar grŵp: Cyfansoddi ac Astudiaethau Electroacwstig, Dawn Gerddorol Ysgrifenedig ac Ymarferol, Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol, ac Astudiaethau Hanesyddol.

Lluniwyd ein modiwlau blwyddyn dau, Busnes Cerddoriaeth I/II, i’ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o’r proffesiwn cerddoriaeth yn well ac i roi cyfle i chi gael lleoliad byr mewn maes sy’n ymwneud â cherddoriaeth neu’r celfyddydau, naill ai mewn un bloc neu ar ffurf cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

O ran Mathemateg, gweler y rhestr modiwlau i weld manylion y modiwlau unigol sydd ar gael.

Noder nad yw Ystadegau ar gael fel maes pwnc i fyfyrwyr sy'n dilyn Cerddoriaeth.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Calculus o sawl newidynMA200110 Credydau
Dadansoddiad CymhlethMA200310 Credydau
Cyfres a ThrawsnewidiadauMA200410 Credydau
Algebra llinol IIMA200820 Credydau

Blwyddyn tri

O ran Cerddoriaeth, fe fyddwch chi unwaith eto’n dewis o blith y pedwar grŵp pwnc, a chewch fynd ar drywydd un o'r tri phrosiect academaidd o bwys: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoreg, neu Brosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth.

Cewch gwblhau portffolio cyfansoddiadau byr (Cyfansoddi IV) a/neu ddatganiad 'agored' o flaen arholwyr a chynulleidfa a wahoddir yn unig (Dawn Gerddorol Ymarferol IV).

Nid oes modiwlau craidd ar gyfer Mathemateg ym mlwyddyn tri.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Swyddogaethol a FourierMA300520 Credydau
Theori CodioMA300710 Credydau
Hafaliadau Differol CyffredinMA301210 Credydau
Hafaliadau Gwahaniaethol RhannolMA301610 Credydau
Mesur TheoriMA301820 Credydau
Dulliau Mathemateg GymhwysolMA330420 Credydau
Finite ElasticityMA331210 Credydau
Modiwl Prosiect (Blwyddyn Gyfan)MA339120 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner)MA339210 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester GwanwynMA339310 Credydau
Gêm TheoriMA360410 Credydau
Mathemateg Deallusrwydd ArtiffisialMA370110 Credydau
Cyflwyniad i addysgu Mathemateg mewn ysgol uwchraddMA390020 Credydau
Cyflwyniad i Addysgu Mathemateg Ysgol UwchraddMA390120 Credydau
Modiwl DarllenMA390310 Credydau
Modiwl Darllen (Tymor yr Hydref)MA395210 Credydau
ProsiectMA397020 Credydau
Modiwl Prosiect (Hanner) Semester y GwanwynMA397210 Credydau
Traddodiad Heriol: Gwrthbwynt o Bartok i BartschMU312020 Credydau
EnsembleMU313820 Credydau
Genedigaeth ModerniaethMU316520 Credydau
Jazz, Diwylliant a GwleidyddiaethMU317120 Credydau
Technegau Stiwdio 2MU317620 Credydau
Opera Eidalaidd o'r bedwaredd ganrif ar bymthegMU321420 Credydau
Beethoven: Arddull, Ffurf a DiwylliantMU321720 Credydau
Portffolio Ymarferol 3MU330120 Credydau
Cerddor Ymarferol 3MU330220 Credydau
Traethawd hirMU335140 Credydau
Cyfansoddiad 3MU335340 Credydau
Prosiect mewn Dadansoddi CerddoriaethMU335740 Credydau
Prosiect yn EthnomusicologyMU335840 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

O ran Cerddoriaeth, cewch eich addysgu gan staff academaidd gydag arbenigedd ar draws cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoleg a cherddoriaeth boblogaidd.

Mae eich hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, os ydych chi'n astudio modiwl Sgiliau Cerddorol Ymarferol. Mae hyn yn cynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Byddwch yn cael 24 gwers hanner awr yn ystod y flwyddyn.

Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o arddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai mewn grwpiau bach, sesiynau tiwtorial unigol, hyfforddiant offerynnol ensemble, ymarferion ac astudio annibynnol.

Mae Mathemateg yn seiliedig ar ddarlithoedd wedi eu hategu gan ddosbarthiadau enghreifftiol (a dosbarthiadau labordy lle bo'n briodol). Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, ac ymwneud yn llawn a myfyrio ar yr asesiadau a gaiff eu cynnal. Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.

Sut y caf fy nghefnogi?

O ran Cerddoriaeth, ar ddechrau pob blwyddyn byddwch yn cael canllaw i nodau modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen a gwrando. Bydd y tiwtoriaid personol a ddyrennir i chi yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar ddewis modiwlau a byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw.

Ar gyfer prosiectau’r flwyddyn olaf, byddwch yn cael goruchwyliwr i fonitro cynnydd a darparu ymgynghoriadau unigol trwy drefniant.

Mewn Mathemateg mae tiwtorialau academaidd wedi eu trefnu ar gyfer pob modiwl craidd ym Mlwyddyn Un, a byddwch hefyd yn cael tiwtor personol sy'n gallu cynnig cyngor, arweiniad a chymorth bugeiliol i chi. Mae gwasanaeth galw heibio bob dydd yn yr Ysgol, hefyd, lle gallwch ofyn unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â Mathemateg.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Mae'r dulliau asesu yn amrywio o fodiwl i fodiwl a gallent gynnwys traethawd aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau estynedig, perfformiadau ac arholiadau ysgrifenedig.

Mae gan lawer o fodiwlau Mathemateg arholiadau ysgrifenedig ar ddiwedd semestrau'r hydref neu'r gwanwyn, ac mae gan rai ohonynt elfen asesu parhaus hefyd. Gall hyn gynnwys ymarferion datrys problemau, adroddiadau ysgrifenedig, rhaglenni cyfrifiadurol neu gyflwyniadau.  Gweler y disgrifiadau o’r modiwlau am ragor o fanylion.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, fel:

  • llythrennedd datblygedig
  • llythrennedd cyfrifiadurol
  • meddwl yn rhesymegol a dadansoddol am broblemau
  • sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • ymdopi ag ansicrwydd/cymhlethdod
  • creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • sgiliau fel arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli, yn rhan annatod o weithgareddau cerddorol ymarferol
  • nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
Musicians

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

​Ysgol Cerddoriaeth

Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae ein modiwlau ar gyfer yr ail flwyddyn ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall y gwahanol ganghennau yn y proffesiwn cerddoriaeth yn well. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau.

Mae ein cyfres flynyddol o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth yn gyfle gwych i chi gwrdd â phobl broffesiynol mewn amryw feysydd fel perfformio, addysg cerddoriaeth, newyddiaduraeth cerddoriaeth, rheoli’r celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.

​Ysgol Mathemateg

Bydd y rhaglenni gradd Mathemateg yn eich arfogi â sgiliau rhifiadol arbenigol ac yn datblygu eich gallu i feddwl yn rhesymegol ac yn ddadansoddol. Mae'r rhain yn nodweddion y mae galw amdanynt ar draws amrywiaeth eang o yrfaoedd ysgogol a gwerth chweil.

Yn ogystal â’r addysg ffurfiol ar y rhaglen, mae’r Ysgol Mathemateg hefyd yn ymgysylltu'n helaeth â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogwyr. Mae hyn yn cynnwys Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, nifer o gyflwyniadau gan gwmnïau yn yr Ysgol, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a noddir ar gyfer cyflawniad academaidd.

Lleoliadau

Mae modiwlau Blwyddyn dau ar Fusnes Cerddoriaeth I/II yn rhoi cyfle am leoliad gwaith byr, naill ai mewn un bloc neu fel cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 25% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.